Dysgu yn y sector cyfiawnder
Mewnwelediadau cynnar 2025-2026
Dysgu ac addysgu
Mae bron bob un o’r staff yn meithrin perthnasoedd gwaith parchus â dysgwyr, sy’n arwain at ymgysylltiad cadarnhaol gan ddysgwyr. Yn y mwyafrif o sesiynau, mae’r addysgu’n bodloni anghenion dysgwyr ac mae llawer o ddysgwyr yn gwneud cynnydd cadarn. Fodd bynnag, mae amrywiaeth yn ansawdd yr addysgu mewn lleiafrif o sesiynau, ynghyd â darpariaeth gwricwlaidd nad yw’n canolbwyntio’n ddigonol ar ddysgu galwedigaethol, yn cyfyngu ar gynnydd dysgwyr a’u cyfleoedd yn y dyfodol.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae bron bob un o’r staff yn meithrin perthnasoedd gwaith parchus â dysgwyr, gan gefnogi ymgysylltiad cadarnhaol.
- Yn y mwyafrif o sesiynau, mae dysgwyr yn gwneud cynnydd cadarn wrth ddatblygu eu gwybodaeth, eu medrau a’u dealltwriaeth.
- Yn y gwersi mwyaf effeithiol, mae athrawon yn defnyddio ystod addas o weithgareddau dysgu sy’n ennyn diddordeb dysgwyr yn dda ac yn cynnal eu diddordeb.
- Mewn dau o’r tri darparwr, mae cynorthwywyr cymorth dysgu a mentoriaid dysgu yn darparu cymorth gwerthfawr i ddysgwyr ac yn eu helpu i gymryd rhan yn llwyddiannus mewn addysg.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn lleiafrif o sesiynau, mae ansawdd yr addysgu’n rhy amrywiol ac nid yw’n herio pob dysgwr yn gyson.
- Mewn un darparwr, er bod athrawon yn gyffredinol yn olrhain y gweithgareddau y mae dysgwyr yn eu cwblhau, nid ydynt yn monitro cynnydd yn y dysgu yn ddigon da.
- Mewn dau o’r tri darparwr, nid yw’r cwricwlwm na’r arlwy achredu yn bodloni anghenion pob dysgwr yn gyson, ac nid oes digon o gyfleoedd dysgu galwedigaethol.
Lles, gofal, cymorth ac arweiniad
Mae darparwyr yn creu amgylcheddau cefnogol a chynhwysol lle mae bron pob dysgwr yn mynychu’n rheolaidd ac yn elwa ar gymorth bugeiliol effeithiol. Mewn un darparwr, mae cyfyngiadau ar y drefn yn parhau i gael effaith negyddol ar bresenoldeb mewn addysg.
Beth sy’n mynd yn dda
- Ar draws y tri darparwr, mae arweinwyr wedi cyflwyno systemau gwell i fonitro presenoldeb a mynd i’r afael ag absenoldebau anawdurdodedig. O ganlyniad, mae llawer o ddysgwyr yn mynychu addysg yn rheolaidd ac yn cynnal cyfraddau presenoldeb uchel.
- Mewn dau o’r tri darparwr, mae cydweithio amlasiantaethol cryf yn sicrhau bod dysgwyr yn elwa ar gymorth lles cydlynus gan ystod o weithwyr proffesiynol.
- Mae staff yn gweithredu systemau rheoli ymddygiad clir a chyson sy’n hyrwyddo ymddygiadau dysgu cadarnhaol ac, o ganlyniad, mae bron pob dysgwr yn ymddwyn yn gadarnhaol mewn gwersi ac yn ymgysylltu’n barchus â staff a’u cymheiriaid.
- Mewn dau o’r tri darparwr, mae rhaglenni iechyd a lles yn cefnogi dysgwyr yn briodol i ddatblygu medrau personol a chymdeithasol. Maent yn datblygu gwybodaeth bwysig am wneud dewisiadau cadarnhaol a chadw’n ddiogel.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn un darparwr, mae dysgwyr yn colli amser dysgu gwerthfawr oherwydd bod ystafelloedd dosbarth yn cau, prinder staff a chyfyngiadau ar y drefn ddyddiol.
- Mewn un darparwr, nid yw cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi’u datblygu’n ddigonol.
Arwain a gwella
Ar draws y tri darparwr, dangosodd arweinwyr weledigaeth strategol glir, cydweithio effeithiol â phartneriaid a hunanwerthuso cynyddol gadarn. Fodd bynnag, mewn un darparwr, roedd trefniadau hunanwerthuso yn dal i ddatblygu ac nid oeddent yn asesu cynnydd dysgwyr yn gyson.
Beth sy’n mynd yn dda
- Yn y tri darparwr, mae trefniadau cryfach arweinwyr ar gyfer cydweithio â phartneriaid yn cyfrannu at welliannau ym mhrofiadau dysgwyr.
- Mae prosesau hunanwerthuso wedi gwella ac yn dechrau cefnogi’r gwaith o nodi cryfderau a meysydd i’w gwella yn fwy effeithiol.
- Mae arweinwyr a staff yn elwa ar gymorth gwerthfawr gan y coleg neu’r ysgol bartner.
- Mae arweinwyr yn casglu ac yn defnyddio adborth gan ddysgwyr a staff yn briodol i lywio cynllunio gwelliant.
Beth sydd angen ei wella
- Nid yw arsylwadau gwersi bob amser yn gwerthuso effaith addysgu ar gynnydd dysgwyr yn ddigon da.
- Mewn un darparwr, mae trefniadau llais y dysgwr yn dal i ddatblygu.
Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau
Gwnaethom adael argymhellion yn y ddau arolygiad craidd a gwblhawyd gennym. Yn ein hunig adolygiad annibynnol o gynnydd, canfuom fod arweinwyr wedi gwneud cynnydd rhesymol tuag at fynd i’r afael â dau bryder, a chynnydd annigonol o ran dau bryder.
Roedd yr argymhellion a adawyd yn ymwneud â meysydd arolygu un a thri, gan gynnwys:
- cryfhau asesu i lywio addysgu.
- cryfhau’r cwricwlwm galwedigaethol.
- cryfhau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant.
- cryfhau’r arlwy dysgu proffesiynol i ystyried anghenion dysgu penodol dysgwyr.
Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau
Hillside Secure Children’s Home
Yn Hillside Secure Children’s Home, mae athrawon yn defnyddio profiadau dysgu ymarferol yn effeithiol i ennyn diddordeb dysgwyr a datblygu eu medrau. Mae dysgwyr yn elwa ar ystod eang o gyfleusterau arbenigol, mae ganddynt ddisgwyliadau uchel ohonynt eu hunain ac maent yn gallu esbonio sut y gallent wella. Mae ansawdd cynyddol yr hyn y maent yn ei gynhyrchu yn dangos cynnydd clir yn eu medrau ymarferol.
Hillside Secure Children’s Home
Yn Hillside Secure Children’s Home, mae cydweithio cryf rhwng staff addysg, preswyl, clinigol a’r ysgol bartner yn cefnogi gwelliannau yn y ddarpariaeth a deilliannau dysgwyr. Mae cyfathrebu dyddiol effeithiol yn helpu staff i ddarparu cymorth cyson, addasu’r dysgu a sicrhau bod dysgwyr yn ddiogel ac yn parhau i ymgysylltu.
HMYOI Parc
Darllenwch sut mae arweinwyr yn HMYOI Parc wedi gweithio’n effeithiol gyda staff gweithredol i ddatblygu strategaeth ddarllen sy’n helpu dysgwyr i wella eu medrau a meithrin eu diddordeb mewn darllen.
HMYOI Parc
Yn HMYOI Parc, mae cynlluniau gwobrwyo am ymgysylltu’n gadarnhaol ac ymddwyn yn dda yn yr unedau preswyl ac mewn addysg, yn effeithiol o ran annog plant i ymgysylltu’n gadarnhaol.