Gwasanaethau gwaith ieuenctid – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Gwasanaethau gwaith ieuenctid

Mewnwelediadau cynnar 2025-2026



Sut mae gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial?

Mae llawer o bobl ifanc sy’n ymgysylltu â gwaith ieuenctid yn elwa’n addysgol ac yn bersonol ar y gweithgareddau sydd ar gael iddynt. Trwy addysg anffurfiol, maent yn darganfod diddordebau a medrau newydd, yn datblygu gwydnwch ac yn gwella eu hiechyd a’u lles cyffredinol. O dan arweiniad medrus gweithwyr ieuenctid, maent yn datblygu’r wybodaeth a’r gwydnwch sydd eu hangen i’w helpu i gyflawni eu potensial fel oedolion ifanc. Mewn un darparwr, cyfleoedd cyfyngedig sydd gan bobl ifanc i ddefnyddio eu medrau Cymraeg.

Beth sy’n mynd yn dda

Addysgol:

  • Mae pobl ifanc yn datblygu mwy o hyder, hunanwerth a gwydnwch trwy gymorth gwaith ieuenctid personol, sy’n eu helpu i wella eu hymddygiad, eu perthnasoedd, eu hannibyniaeth a’u gallu i ymdopi â sefyllfaoedd anodd.
  • Mae darpariaeth gwaith ieuenctid yn galluogi mwyafrif y bobl ifanc i feithrin medrau ymarferol, personol, digidol, creadigol a dinesig, gan arwain at ymgysylltiad cryfach ag addysg a hyfforddiant, gwelliant yn eu lles a mwy o gyfranogiad yn eu cymunedau.

Mynegiannol:

  • Mae pobl ifanc yn defnyddio gweithgareddau mynegiannol fel celf, ffotograffiaeth, cerddoriaeth, dawns, celf stryd, gwneud ffilmiau, gweithgareddau awyr agored a sbardunau trafod i gyfleu eu teimladau, eu safbwyntiau a’u profiadau. Mae hyn yn eu helpu i feithrin hyder, rheoli emosiynau, gwella medrau cymdeithasol a chymryd cyfrifoldeb cynyddol mewn prosiectau sy’n cael eu harwain gan bobl ifanc.

Cyfranogol:

  • Mae darpariaeth gwaith ieuenctid yn cael ei harwain yn gryf gan bobl ifanc, gan alluogi llawer ohonynt i ddefnyddio’u llais i ddylanwadu ar wasanaethau, penderfyniadau’r cyngor a gweithredu cymunedol, wrth ddatblygu hyder, medrau arwain, cyfrifoldeb cymdeithasol ac ymdeimlad clir bod eu cyfraniadau’n gwneud gwahaniaeth.

Cynhwysol:

  • Mae gwaith ieuenctid cynhwysol yn helpu pobl ifanc, gan gynnwys y rhai sy’n LHDTC+, y rhai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, neu’r rhai sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol, i deimlo’n ddiogel, eu bod yn cael eu derbyn a’u gwerthfawrogi. Mae’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn meithrin eu hyder, eu hannibyniaeth a’u dealltwriaeth o bobl eraill, ynghyd ag ymdeimlad cryfach o berthyn i’w cymuned.

Grymuso:

  • Caiff llawer o bobl ifanc eu grymuso i ddeall eu hunain, gwneud dewisiadau cadarnhaol, meithrin annibyniaeth a hyder, a defnyddio’u llais i lywio darpariaeth a dylanwadu ar benderfyniadau.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae un darparwr yn cynnig cyfleoedd cyfyngedig i bobl ifanc ddefnyddio eu medrau Cymraeg a dysgu am ddiwylliant Cymru.

Yr hyn y gall pobl ifanc ei ddisgwyl o ddarpariaeth gwaith ieuenctid

Ar draws canfyddiadau arolygiadau gwaith ieuenctid diweddar, mae’r ddarpariaeth yn gyson gryf, yn seiliedig ar berthnasoedd, yn ymatebol, ac yn cael ei chyflwyno gan ymarferwyr medrus ac angerddol sy’n adnabod eu pobl ifanc a’u cymunedau’n dda. Mae gweithwyr ieuenctid yn cynllunio darpariaeth gyffredinol a darpariaeth wedi’i thargedu sy’n bwrpasol, yn eang, yn gynhwysol ac yn addasu i anghenion. Mae gweithio mewn partneriaeth yn gryf ac mae arferion fyfyriol yn helpu gwasanaethau ieuenctid i ymestyn eu cyrhaeddiad a dangos effaith gadarnhaol ar les, dysgu, ymddygiad, datblygiad personol a chyfleoedd pobl ifanc yn y dyfodol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae darpariaeth gwaith ieuenctid yn gyson gryf, yn seiliedig ar berthnasoedd ac yn ymatebol, ac yn cael ei chyflwyno gan ymarferwyr medrus sy’n adnabod eu cymunedau’n dda ac yn darparu cymorth eang a chynhwysol sy’n gwella lles, hyder, dysgu a chyfleoedd pobl ifanc yn y dyfodol.
  • Mae gweithwyr ieuenctid yn fedrus, yn fyfyriol ac yn ymroddedig iawn. Maent yn meithrin perthnasoedd llawn ymddiriedaeth â phobl ifanc, yn creu mannau diogel ac yn defnyddio ymagweddau sy’n ystyriol o drawma, yn hyblyg ac yn seiliedig ar bartneriaeth i ymateb yn effeithiol i anghenion.
  • Mae’r cynnig cyffredinol yn eang, wedi’i gynllunio’n dda ac yn cael ei lywio gan bobl ifanc, gan ddarparu darpariaeth mynediad agored sy’n ennyn diddordeb pobl ifanc trwy weithgareddau pwrpasol, dysgu trwy brofiad a chyfleoedd i ddatblygu medrau ymarferol, cymdeithasol a phersonol.
  • Mae cymorth i bobl ifanc sy’n agored i niwed wedi’i dargedu’n dda ac yn ymatebol, ac mae rhannu gwybodaeth yn effeithiol, darpariaeth arbenigol a gweithio amlasiantaethol yn helpu pobl ifanc i gael cymorth amserol a gwneud cynnydd cadarnhaol.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw ansawdd darpariaeth gwaith ieuenctid mynediad agored, gan gynnwys datblygu’r gweithlu, cymorth a phrosesau sicrhau ansawdd, yn ddigon cyson mewn un darparwr a arolygwyd.

Arwain a gwella

Caiff gwasanaethau ieuenctid eu harwain yn dda a’u cefnogi gan bartneriaethau cryf, trefniadau diogelu a datblygu’r gweithlu. Mae arweinwyr yn defnyddio data a safbwyntiau pobl ifanc i lywio darpariaeth ymatebol, er bod craffu, hunanwerthuso a goruchwyliaeth graffu yn dal i ddatblygu mewn rhai mannau.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Caiff gwasanaethau ieuenctid eu harwain â gweledigaeth glir ac ymrwymiad cryf i wella deilliannau i bobl ifanc, gydag uwch arweinwyr yn cydnabod eu gwerth strategol ac yn cysoni’r ddarpariaeth â blaenoriaethau ehangach yr awdurdod lleol.
  • Mae’r rhan fwyaf o arweinwyr yn cydweithio’n effeithiol â thimau mewnol, asiantaethau allanol a phartneriaid yn y trydydd sector i gydlynu darpariaeth, lleihau dyblygu, rhannu gwybodaeth ac ymestyn cymorth i bobl ifanc.
  • Mae’r rhan fwyaf o arweinwyr yn defnyddio safbwyntiau pobl ifanc, gweithgarwch ymgynghori, gwybodaeth am berfformiad a data rheoli i lywio darpariaeth, llywio cynllunio ac ymateb i anghenion sy’n dod i’r amlwg.
  • Mae’r rhan fwyaf o staff yn elwa ar oruchwyliaeth reolaidd, dysgu proffesiynol a phwyslais cryf ar les. Mae arweinwyr yn darparu cymorth sy’n helpu staff i ymdopi â gofynion emosiynol gwaith ieuenctid a pharhau i ddatblygu eu harfer.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn un darparwr, nid oedd trefniadau craffu ar lefel aelodau ffurfiol yn cynnwys gwasanaethau gwaith ieuenctid er mwyn gallu darparu goruchwyliaeth a her briodol.
  • Nid yw arweinwyr mewn un darparwr yn hunanwerthuso’n ddigon miniog i ganolbwyntio ar yr effaith y mae gwasanaethau’n ei chael ar bobl ifanc er mwyn helpu i ysgogi gwelliannau.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Cafwyd tri arolygiad craidd yn y sector gwaith ieuenctid. Yn ystod arolygiadau craidd:

Cafodd un darparwr argymhelliad ynghylch sut mae gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial:

  • Cynyddu amlygrwydd y Gymraeg a diwylliant Cymru ac ymgorffori cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio eu medrau Cymraeg.

Cafodd un darparwr argymhelliad yn ymwneud â’r hyn y gall pobl ifanc ei ddisgwyl o ddarpariaeth gwaith ieuenctid:

  • Gwella cysondeb ac ansawdd darpariaeth gwaith ieuenctid mynediad agored, gan gynnwys trwy gryfhau datblygu’r gweithlu, cymorth a phrosesau sicrhau ansawdd.

Cafodd y tri darparwr argymhelliad yn ymwneud ag arwain a gwella:

  • Sicrhau bod pob aelod o staff yn cwblhau hyfforddiant Prevent a bod hyfforddiant diogelu gorfodol yn cael ei gofnodi’n gywir, ei gadw’n gyfredol a’i fonitro’n ofalus.
  • Cryfhau’r gwaith o hyrwyddo a marchnata cynnig y gwasanaeth ieuenctid er mwyn gwella ymwybyddiaeth ac ymestyn ymgysylltiad â phobl ifanc a phartneriaid.
  • Miniogi prosesau hunanwerthuso’r gwasanaeth i ganolbwyntio’n gliriach ar effaith a meysydd i’w datblygu.
  • Sicrhau bod y gwasanaeth ieuenctid yn cael ei gynnwys mewn trefniadau craffu ffurfiol ar lefel aelodau fel y gall aelodau etholedig ddarparu goruchwyliaeth a her briodol.

Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau


Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr

Darllenwch am sut mae rhaglen ddargyfeirio  Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn targedu ymyrraeth gynnar ar gyfer pobl ifanc sy’n agored i niwed trwy weithgareddau cymunedol hygyrch a chymorth gan oedolion y maent yn ymddiried ynddynt, a sut mae hwb ieuenctid yn dod â phartneriaid allweddol ynghyd mewn un lleoliad er mwyn i bobl ifanc gael cymorth cydlynus.

Sir Fynwy

Darllenwch am sut mae prosiect ‘Shift’ Sir Fynwy yn darparu cymorth iechyd meddwl a lles wedi’i deilwra trwy ymagwedd amlasiantaethol gydlynus, gan sicrhau bod pobl ifanc yn cael ymyriadau amserol, a sut mae menter ‘Make Your Mark’ yn galluogi pobl ifanc i ddylanwadu ar benderfyniadau. Yn ogystal, darllenwch sut mae arweinwyr yn ymateb i flaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg, yn monitro cynnydd ac yn gwerthuso effaith gwasanaethau.

Sir y Fflint

Darllenwch sut mae  Sir y Fflint yn cyflwyno rhaglenni wedi’u targedu sy’n helpu pobl ifanc i archwilio perthnasoedd, hunaniaeth a lles mewn amgylcheddau diogel a chefnogol, a sut mae amgylcheddau dysgu awyr agored yn datblygu medrau ymarferol, personol ac arwain pobl ifanc.