Uwchradd
Mewnwelediadau cynnar 2025-2026
Dysgu ac addysgu
Mae llawer o ysgolion yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol ac mae’r mwyafrif yn darparu gweithgareddau sy’n cynnig lefel briodol o her ac sy’n cefnogi disgyblion i wneud cynnydd cadarn a datblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu. Mae ychydig o ysgolion effeithiol yn galluogi disgyblion i wneud cynnydd cryf. Fodd bynnag, mae gormod o amrywiaeth yn ansawdd yr addysgu, cynllunio’r cwricwlwm a datblygu medrau ar draws ysgolion.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mewn llawer o ysgolion, yn gyffredinol, mae athrawon yn meithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol â disgyblion. Yn y mwyafrif o achosion, maent yn cynllunio cyfres o weithgareddau sy’n cynnig lefel briodol o her ac sy’n helpu disgyblion i wneud cynnydd cadarn. Mewn ychydig o achosion, mae athrawon yn ysbrydoli disgyblion i wneud cynnydd cryf.
- Mae llawer o ddisgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol at ddysgu. Maent yn gwrando’n ofalus ar eu hathrawon a’u cyfoedion, yn cymryd rhan mewn trafodaethau ac yn cynnal eu gallu i ganolbwyntio.
- Mewn lleiafrif o ysgolion, mae’r ddarpariaeth i ddatblygu medrau disgyblion (yn enwedig llythrennedd) wedi’i chynllunio a’i chydlynu’n dda.
- Mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, mae gan lawer o ddisgyblion agwedd gadarnhaol at ddysgu Cymraeg ac mae’r mwyafrif yn gwneud cynnydd addas ar y cyfan. Mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, mae gan ddisgyblion agwedd gadarnhaol at yr iaith.
- Yn y mwyafrif o ysgolion, mae arweinwyr wedi datblygu gweledigaeth glir ar gyfer eu cwricwlwm ac yn cynllunio amrywiaeth o brofiadau dysgu difyr.
- Yn gyffredinol, mae gan ddisgyblion y chweched dosbarth agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu, maent yn mwynhau eu cyrsiau ac yn datblygu’n ddysgwyr hyderus ac annibynnol. Mae llawer yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i fywyd ehangach yr ysgol, gan gynnwys drwy ymgymryd â rolau arwain a chefnogi disgyblion iau.
- Mae’r addysgu yn y chweched dosbarth yn aml yn gryf ac yn cynnig her briodol. Mae llawer o ysgolion yn darparu ystod eang o gyrsiau cyffredinol a galwedigaethol, er bod ehangder y ddarpariaeth yn amrywio rhwng ysgolion.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn lleiafrif o achosion, mae diffygion mewn addysgu yn cyfyngu ar gynnydd disgyblion.
- Nid yw’r ddarpariaeth i ddatblygu medrau disgyblion ar draws y cwricwlwm yn cael ei chydlynu’n strategol yn y mwyafrif o ysgolion. O ganlyniad, nid yw disgyblion yn cael cyfleoedd digon heriol i gymhwyso a datblygu eu medrau ar draws pynciau.
- Mae lleiafrif o ddisgyblion yn oddefol mewn gwersi. Mewn ychydig o ysgolion, mae ymddygiad gwael yn cael effaith negyddol ar gynnydd a lles.
- At ei gilydd, mae disgyblion yn treulio gormod o amser yn ymgymryd â gweithgareddau sylfaenol i adalw gwybodaeth ac nid ydynt yn cael digon o gyfleoedd i ddatblygu medrau darllen uwch fel dod i gasgliadau, syntheseiddio a gwerthuso.
- Mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, mae disgyblion yn dibynnu gormod ar gymorth athrawon yn rhy aml wrth ddatblygu eu medrau Cymraeg, yn enwedig eu medrau llefaredd.
- Mae gormod o amrywiaeth o ran pa mor dda y mae arweinwyr yn cynllunio cwricwlwm cydlynus sy’n cefnogi datblygiad cynyddol gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau disgyblion.
Lles, gofal, cymorth ac arweiniad
Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn blaenoriaethu lles disgyblion, ac mae llawer wedi sefydlu darpariaeth effeithiol i gefnogi’r disgyblion hynny sydd â’r angen mwyaf. Er bod lleiafrif o ysgolion yn cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb, at ei gilydd, mae presenoldeb disgyblion, yn enwedig y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, yn parhau’n destun pryder nodedig.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn rhoi pwyslais cryf ar sefydlu ethos cynhwysol ac wedi sefydlu diwylliant diogelu cryf.
- Mae cymorth bugeiliol yn gryfder cyffredinol mewn llawer o ysgolion, gyda chymorth gwerthfawr yn cael ei ddarparu i’r disgyblion hynny sydd ei angen.
- Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn canolbwyntio’n gryf ar wella presenoldeb. Mae lleiafrif yn defnyddio ymagweddau effeithiol i gefnogi disgyblion sydd â rhwystrau rhag mynychu’n rheolaidd.
- Mae gan lawer o ysgolion ddarpariaeth gadarn ar gyfer disgyblion ag ADY.
- Mae llawer o ysgolion yn darparu cyfleoedd addas i ddisgyblion ddatblygu eu medrau arwain ac arweiniad defnyddiol ynghylch eu camau nesaf mewn dysgu.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn ychydig o ysgolion, nodwyd materion diogelu penodol.
- Yn y mwyafrif o achosion, nid yw’r ddarpariaeth i wella presenoldeb yn ddigon effeithiol i sicrhau gwelliannau cynaledig, yn enwedig ar gyfer disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
- Yn rhy aml, nid yw athrawon yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir gan y tîm ADY yn ddigon da wrth gynllunio eu gwersi.
- Mewn ychydig o ysgolion, prin yw’r cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau arwain.
Arwain a gwella
Yn yr ysgolion mwyaf effeithiol, mae arweinwyr yn gwerthuso’r ddarpariaeth yn ofalus ac yn cynllunio ar gyfer gwelliant yn llwyddiannus. Fodd bynnag, at ei gilydd, mae effaith arweinyddiaeth ar safonau a lles disgyblion yn amrywio gormod. Mae diffygion mewn hunanwerthuso a chynllunio gwelliant, yn benodol, yn lleihau effaith arweinyddiaeth.
Beth sy’n mynd yn dda
- Mewn llawer o ysgolion, mae’r pennaeth yn amlinellu gweledigaeth glir ar gyfer gwella’r ysgol y mae staff yn ei deall yn dda.
- Mewn tua hanner yr ysgolion, mae trefniadau rheoli llinell drylwyr yn canolbwyntio’n glir ar gynnydd a lles disgyblion.
- Mewn llawer o ysgolion, mae arweinwyr yn cynnal ystod briodol o weithgareddau hunanwerthuso, ond dim ond ychydig sydd â dealltwriaeth fanwl o gryfderau a gwendidau penodol yr ysgol.
- Mewn tua hanner yr ysgolion, mae arweinwyr canol yn darparu arweinyddiaeth gref.
- Yn yr ysgolion gorau, mae dysgu proffesiynol yn canolbwyntio’n fanwl ar y meysydd i’w datblygu a nodwyd trwy hunanwerthuso.
- Mae gan tua hanner yr ysgolion hanes cryf o fynd i’r afael â llawer o flaenoriaethau cenedlaethol, er enghraifft lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad disgyblion.
- Mewn llawer o achosion, mae llywodraethwyr yn gefnogwyr brwdfrydig o’r ysgol ac yn cynnig her ddefnyddiol i uwch arweinwyr.
Beth sydd angen ei wella
- Yn rhy aml, nid yw trefniadau rheoli llinell yn ddigon trylwyr, gan arwain at anghysondebau o ran pa mor effeithiol y caiff staff eu dwyn i gyfrif am gyflawni eu rolau. Mewn ychydig o achosion, nid yw cyfrifoldebau uwch arweinwyr yn cael eu dosbarthu’n deg, sy’n cyfyngu ar allu arweinwyr i gyflawni eu rolau’n effeithiol.
- Yn gyffredinol, mae hunanwerthuso yn canolbwyntio ar p’un a oes polisïau a gweithdrefnau ar waith yn hytrach na gwerthuso eu heffaith ar ddysgu a lles disgyblion. O ganlyniad, nid yw cynllunio gwelliant yn ddigon manwl.
- Yn rhy aml, mae amrywiaeth mewn arweinyddiaeth ganol yn arafu gwelliant.
- Mewn lleiafrif o achosion, prin yw effaith dysgu proffesiynol ar addysgu a dysgu.
- Nid yw tua hanner yr ysgolion yn cael effaith ddigon cyson wrth fynd i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol.
- Mewn ychydig o achosion, nid yw llywodraethwyr yn cynnig digon o her i uwch arweinwyr.
- Mae gan leiafrif o ysgolion gyllideb â diffyg.
Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau
At ei gilydd, arolygwyd tri deg tri o ysgolion uwchradd ym mlwyddyn academaidd 2025-2026, a gosodwyd tri ar ddeg ohonynt (39%) mewn gweithgarwch dilynol statudol.
- Cafodd pob un o’r tri deg tri o ysgolion o leiaf un argymhelliad yn ymwneud ag addysgu a dysgu. Cafodd chwech ar hugain o ysgolion (79%) argymhelliad yn ymwneud â darpariaeth medrau, a chafodd pedair ysgol ar hugain (73%) argymhelliad i wella addysgu.
- Cafodd ugain o ysgolion (61%) o leiaf un argymhelliad yn ymwneud â lles, gofal, cymorth ac arweiniad, gydag ugain (61%) yn ymwneud â phresenoldeb a chwech (18%) yn ymwneud â phryderon ynghylch diogelu.
- Cafodd tri deg o ysgolion (91%) argymhelliad yn ymwneud ag arwain a gwella. Gan amlaf, roedd hyn yn ymwneud â threfniadau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant.
Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau
Heolddu Comprehensive School
Darllenwch sut mae Heolddu Comprehensive School yn gwella presenoldeb trwy ymateb strwythuredig ysgol gyfan.
Croesyceiliog School
Yn Croesyceiliog School, mae staff yn meithrin perthnasoedd parchus er mwyn creu diwylliant dysgu effeithiol.
The Maelor School
Mae staff yn The Maelor School yn cynllunio’n llwyddiannus ar gyfer datblygu medrau digidol disgyblion yn raddol.
Ysgol Olchfa
Darllenwch sut mae arweinwyr a staff yn Olchfa yn datblygu ymdeimlad o berthyn yn yr ysgol ac yn ei chymuned.
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn darparu ystod o gyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion fynegi eu barn yn agored ac yn onest ar faterion sy’n ymwneud â lles.
Ysgol Y Strade
Yn Ysgol Gyfun Y Strade, mae cynllunio a chydlynu’r ddarpariaeth ar gyfer medrau yn bwrpasol yn cyfoethogi pynciau ar draws y cwricwlwm yn effeithiol.