Ysgolion pob oed – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Ysgolion pob oed

Mewnwelediadau cynnar 2025-2026



Dysgu ac addysgu

Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol ac mae’r mwyafrif yn darparu profiadau dysgu eang a difyr sy’n cefnogi hyder disgyblion, eu hymdeimlad o berthyn a’u datblygiad ehangach. Yn yr ysgolion cryfach, mae disgyblion hefyd yn elwa ar ddarpariaeth llythrennedd effeithiol ac addysgu sy’n gyson gryf, lle mae disgwyliadau uchel, gwybodaeth bynciol a holi medrus yn eu helpu i wneud cynnydd da. Fodd bynnag, mae addysgu’n amrywio gormod mewn tua hanner yr ysgolion, gyda diffyg her, gormod o sgaffaldiau ac adborth gwan yn cyfyngu ar annibyniaeth a gwydnwch disgyblion. Mae gweithredu’r cwricwlwm hefyd yn anghyson, yn enwedig o ran datblygiad cynyddol medrau llythrennedd, rhifedd a digidol ac o ran sicrhau dilyniant cydlynol yn unol â disgwyliadau Cwricwlwm i Gymru.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae bron bob ysgol yn rhoi pwyslais cryf ar feithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol rhwng staff a disgyblion. Mewn llawer o ysgolion, mae’r ddarpariaeth ar gyfer datblygiad cymdeithasol a phersonol yn cyfrannu’n gadarnhaol at hyder disgyblion a’u hymdeimlad o berthyn.
  • Yn y mwyafrif o ysgolion, mae disgyblion yn elwa ar brofiadau dysgu eang a difyr, sydd yn aml wedi’u gwreiddio’n gadarn mewn cyd-destun lleol a chenedlaethol perthnasol. Mae cyfleoedd i gyfoethogi’r profiadau, yn enwedig yn y celfyddydau, chwaraeon, lles a phrofiadau diwylliannol, yn gryfder nodedig.
  • Mae llythrennedd yn gryfder cymharol mewn lleiafrif o ysgolion, gydag ychydig ohonynt yn meithrin diwylliannau darllen arbennig o gryf. Mae’r ysgolion hyn yn darparu cyfleoedd effeithiol i ddisgyblion ddatblygu eu medrau llafaredd.
  • Mewn tua hanner yr ysgolion, mae gan athrawon ddisgwyliadau uchel a gwybodaeth bynciol gadarn ac maent yn defnyddio dulliau holi yn fedrus i ddyfnhau dealltwriaeth disgyblion. Yn gyffredinol, mae hyn yn sicrhau bod dysgu’n adeiladu’n dda dros amser fel bod llawer o ddisgyblion yn gwneud y cynnydd disgwyliedig o leiaf.
  • Yn gyffredinol, mae gan ddisgyblion y chweched dosbarth agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu, maent yn mwynhau eu cyrsiau ac yn datblygu’n ddysgwyr hyderus ac annibynnol. Mae llawer yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i fywyd ehangach yr ysgol, gan gynnwys drwy ymgymryd â rolau arwain a chefnogi disgyblion iau.
  • Mae’r addysgu yn y chweched dosbarth yn aml yn gryf ac yn cynnig her briodol. Mae llawer o ysgolion yn darparu ystod eang o gyrsiau cyffredinol a galwedigaethol, er bod ehangder y ddarpariaeth yn amrywio rhwng ysgolion.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn tua hanner yr ysgolion, mae ansawdd yr addysgu’n amrywio gormod. Nid yw disgwyliadau’n ddigon uchel yn gyson: yn aml, nid yw disgyblion mwy abl yn cael eu herio’n addas. Ar adegau, mae tasgau wedi’u sgaffaldio’n ormodol neu mae disgyblion yn cael gormod o gymorth, gan gyfyngu ar eu cyfleoedd i feddwl yn annibynnol, cymhwyso dysgu blaenorol a datblygu gwydnwch fel dysgwyr. Nid yw adborth yn cefnogi disgyblion yn ddigon da i wella eu gwaith.
  • Yn y mwyafrif o ysgolion, nid yw datblygiad cynyddol medrau llythrennedd, rhifedd a digidol disgyblion yn cael ei gynllunio na’i gydlynu’n ddigon strategol ar draws y cwricwlwm.
  • Er bod gweledigaeth ar gyfer y cwricwlwm yn gryf ar y cyfan, mae ei weithredu’n llai cadarn mewn tua hanner yr ysgolion. Mae addysgeg sy’n briodol i oedran, dilyniant y cwricwlwm a’r graddau y mae’n cyd-fynd â disgwyliadau Cwricwlwm i Gymru hyd at Flwyddyn 9 yn amrywio.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

At ei gilydd, mae diwylliant cryf o ofal, cynhwysiant a pharch yn y rhan fwyaf o ysgolion. Mae amgylcheddau croesawgar a pherthnasoedd cadarnhaol rhwng staff a disgyblion yn gryfder nodedig. Mewn llawer o achosion, mae’r ethos cynhwysol hwn yn cyfrannu’n gryf at ymdeimlad disgyblion o berthyn, eu hyder a’u lles emosiynol. Nid yw arweinwyr yn defnyddio data presenoldeb yn ddigon strategol i nodi tueddiadau a chynllunio cymorth.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Yn gyffredinol, mae ysgolion yn adnabod eu disgyblion yn dda ac yn defnyddio systemau bugeiliol yn effeithiol i nodi anghenion emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol ac ymateb iddynt. Mae ymyraethau sydd wedi targedu, darpariaeth feithringar a chymorth bugeiliol wedi’i deilwra yn helpu i greu amgylchedd cadarnhaol lle mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo’n ddiogel, yn cael cymorth ac yn cael gofal da.
  • Mae’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag ADY yn gryfder cyson ar draws ysgolion pob oed.
  • Mae llawer o ysgolion yn darparu cyfleoedd gwerth chweil i ddisgyblion gyfrannu at fywyd yr ysgol trwy gyngor yr ysgol, rolau llysgenhadon a mentora cyfoedion. Lle mae’r cyfleoedd hyn yn fwyaf effeithiol, mae disgyblion yn dylanwadu ar newidiadau ystyrlon i’r ddarpariaeth ac yn datblygu hyder, medrau arwain ac ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb o fewn cymunedau eu hysgolion.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn llawer o ysgolion, mae presenoldeb, yn enwedig presenoldeb disgyblion oed uwchradd, disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai sy’n absennol yn barhaus, yn parhau’n rhy isel. Er bod ysgolion yn casglu gwybodaeth ddefnyddiol am les, presenoldeb a chynnydd disgyblion, nid yw arweinwyr bob amser yn dadansoddi’r wybodaeth hon yn ddigon manwl i nodi tueddiadau neu fesur effaith hirdymor ymyraethau a chymorth.

Arwain a gwella

Mae arweinyddiaeth ymroddedig, dysgu proffesiynol ystyriol a diwylliant o fyfyrio yn nodweddion mewn llawer o ysgolion. Fodd bynnag, mae cryfhau agweddau o hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella yn parhau’n faes i’w wella mewn bron bob ysgol. Yn nodedig, nid yw gwerthusiadau’n canolbwyntio’n ddigon craff ar effaith darpariaeth ac arweinyddiaeth ar safonau a lles disgyblion.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Yn y rhan fwyaf o achosion, mae uwch arweinwyr yn darparu cyfeiriad pwrpasol a chynyddol strategol i’w hysgolion. Mae penaethiaid yn cyfleu gwerthoedd ac uchelgeisiau clir y mae staff a disgyblion yn eu deall. Mae hyn yn helpu i feithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol, ymdeimlad cyffredin o ddiben ac ethos tîm cryf.
  • Yn gyffredinol, mae ysgolion yn gwneud defnydd addas o weithgareddau monitro fel teithiau dysgu, craffu ar waith disgyblion, gwrando ar ddysgwyr a chyfarfodydd adolygu i nodi cryfderau a blaenoriaethau ar gyfer gwella. Yn y lleiafrif o achosion, mae’r prosesau hyn yn dod yn fwy systematig ac yn dechrau llywio cynllunio ar gyfer gwella yn fwy effeithiol.
  • Mae arweinwyr ym mhob ysgol yn parhau i ymateb i effaith tlodi ac anfantais trwy ymyraethau cymorth a chyfleoedd cyfoethogi.
  • Mae’r mwyafrif o ysgolion wedi sefydlu diwylliannau dysgu proffesiynol cefnogol. Mae staff yn elwa ar gyfleoedd hyfforddi gwerth chweil sydd wedi’u cysylltu’n addas â blaenoriaethau ysgol gyfan.

Beth sydd angen ei wella

  • Yn y mwyafrif o ysgolion, nid yw arweinwyr yn gwerthuso’r ddarpariaeth yn ddigon manwl o ran ei heffaith ar gynnydd, dysgu a lles disgyblion. Yn rhy aml, mae gwerthuso’n canolbwyntio ar yr hyn sydd ar waith yn hytrach na pha mor dda y mae’n gwella deilliannau i ddysgwyr.
  • Er bod ysgolion yn nodi blaenoriaethau addas ar gyfer gwella, nid yw effaith mentrau bob amser yn gadarn. Mewn ychydig o achosion, mae datblygiadau’n parhau ar gam cynnar ac nid ydynt wedi arwain at welliannau cyson mewn presenoldeb, addysgu nac ar safonau a chynnydd disgyblion dros amser.
  • Yn gyffredinol, nid yw prosesau i werthuso effaith dysgu proffesiynol ar ansawdd y ddarpariaeth a chynnydd disgyblion wedi’u datblygu’n ddigonol mewn lleiafrif o ysgolion.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Yn ystod blwyddyn academaidd 2025-26, arolygom 6 darparwr yn y sector ysgolion pob oed. Cafodd pob darparwr o leiaf 2 argymhelliad, ac fel cyfanswm, rhoddwyd 20 o argymhellion i ddarparwyr.

Cafodd 4 darparwr (66%) argymhelliad yn ymwneud ag addysgu a dysgu. O’r rhain, gosodwyd un darparwr mewn categori gweithgarwch dilynol.

  • Cafodd 3 darparwr (50%) o leiaf un argymhelliad ynghylch ansawdd yr addysgu neu sicrhau bod addysgeg a phrofiadau dysgu yn briodol i gyfnod datblygu disgyblion.
  • Cafodd 2 ddarparwr (33%) argymhelliad ynghylch sicrhau bod disgyblion yn cael mynediad at yr ystod lawn o brofiadau dysgu hyd at ddiwedd Blwyddyn 9 a bod y rhain yn adeiladu ar wybodaeth a medrau disgyblion.
  • Cafodd 4 darparwr (66%) argymhelliad yn ymwneud â datblygiad cynyddol medrau disgyblion.

Cafodd 5 darparwr (83%) argymhelliad yn ymwneud â lles, gofal, cymorth ac arweiniad, a gosodwyd un ohonynt mewn categori gweithgarwch dilynol.

  • Cafodd 5 darparwr (83%) argymhelliad ynghylch gwella presenoldeb.

Cafodd pob darparwr (100%) argymhelliad yn ymwneud ag arwain a gwella, a gosodwyd un ohonynt mewn categori gweithgarwch dilynol:

  • Cafodd 4 darparwr (66%) argymhelliad yn ymwneud â datblygu neu gryfhau hunanwerthuso a gwella.
  • Cafodd 2 ddarparwr (33%) argymhelliad ynghylch cryfhau arweinyddiaeth neu agweddau ar arweinyddiaeth.
  • Cafodd 2 ddarparwr (33%) argymhelliad ynghylch gwella agweddau ar eu gwaith fel ysgol pob oed.

Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau

Ysgol Bro Preseli

Darllenwch sut mae Ysgol Bro Preseli yn darparu darpariaeth ystyrlon i ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion ac wedi datblygu ethos cryf fel ysgol pob oed.

Ysgol Llanhari

Darllenwch sut mae Ysgol Llanhari yn hyrwyddo statws ieithoedd rhyngwladol yn y cwricwlwm.

Cowbridge School

Darllenwch sut mae Cowbridge School yn cofleidio diwylliant cydweithredol o ddysgu proffesiynol.

Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg

Darllenwch sut mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn defnyddio ei strategaeth wrth-hiliaeth i gyfoethogi’r cwricwlwm.