Ysgolion arbennig a gynhelir – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Ysgolion arbennig a gynhelir

Mewnwelediadau cynnar 2025-2026



Addysgu a dysgu

Mae addysgu a dysgu ar draws y sector ysgolion arbennig a gynhelir yn parhau’n gryf ac wedi’u teilwra’n ofalus i anghenion unigol disgyblion. Mae staff yn creu amgylcheddau tawel a chefnogol ac yn defnyddio dulliau cyfathrebu effeithiol ac ymagweddau ymarferol i helpu disgyblion i wneud cynnydd ystyrlon yn eu dysgu, eu cyfathrebu a’u hannibyniaeth. Mae paratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn yn gryfder allweddol mewn llawer o ysgolion. Fodd bynnag, mae anghysondebau’n parhau o ran darparu lefel briodol o her i ddisgyblion mewn gwersi, ac mae pwysau o ran llety yn parhau i effeithio ar y ddarpariaeth mewn lleiafrif o ysgolion.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae perthnasoedd cryf yn cyfrannu at amgylcheddau tawel a meithringar lle mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel ac yn barod i ddysgu.
  • Mae staff yn defnyddio dulliau cyfathrebu effeithiol ac ymagweddau synhwyraidd a therapiwtig i gefnogi ymgysylltiad a lles.
  • Mae dysgu ymarferol ac yn y gymuned yn gryfder sylweddol, gan helpu disgyblion i baratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn trwy gymhwyso eu medrau’n bwrpasol mewn gweithgareddau menter, hyfforddiant teithio, dysgu cysylltiedig â gwaith a phrofiadau bywyd ymarferol.
  • Mae systemau asesu ac adborth a chymorth effeithiol gan gynorthwywyr addysgu yn helpu disgyblion i wneud cynnydd ystyrlon o’u mannau cychwyn unigol.
  • Caiff y cwricwlwm eu haddasu’n ofalus i anghenion unigol disgyblion ac maent yn cefnogi cynnydd cryf mewn cyfathrebu, dulliau rheoli emosiynol ac annibyniaeth.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn lleiafrif o wersi, nid yw gweithgareddau’n cyfateb yn ddigon agos i anghenion disgyblion.
  • Mewn ychydig o wersi, mae’r her a’r rhediad yn anghyson, gan gyfyngu ar gynnydd disgyblion.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn darparu amgylcheddau tawel a chynhwysol lle mae perthnasoedd cryf, partneriaethau effeithiol a chymorth wedi’i deilwra yn helpu disgyblion i deimlo’n ddiogel, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn barod i ddysgu. Mae profiadau ymarferol, cymunedol a therapiwtig yn cefnogi annibyniaeth, cyfathrebu a gwydnwch disgyblion ac yn eu paratoi ar gyfer bywyd fel oedolion, ac mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn adlewyrchu anghenion unigol disgyblion yn gyffredinol. Fodd bynnag, nid yw cyfathrebu â rhieni bob amser yn ddigon cyson, ac mae angen i leiafrif o ysgolion gryfhau agweddau ar ddiogelu, goruchwyliaeth feddygol neu lety er mwyn sicrhau bod disgyblion yn gallu manteisio’n llawn ar gymorth a phrofiadau dysgu priodol.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae ysgolion yn darparu amgylcheddau tawel a chynhwysol lle mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi.
  • Mae partneriaethau cryf â theuluoedd ac asiantaethau allanol yn cefnogi lles a datblygiad disgyblion ac yn eu helpu i fanteisio ar gymorth arbenigol.
  • Mae ymagweddau synhwyraidd a therapiwtig yn cefnogi ymgysylltiad ac yn helpu disgyblion i reoli eu hemosiynau.
  • Mae llais y disgybl a phrofiadau yn y gymuned yn helpu disgyblion i ddatblygu hyder, gwydnwch a medrau cyfathrebu.
  • Mae staff yn cefnogi annibyniaeth a medrau cymdeithasol yn effeithiol trwy brofiadau bywyd go iawn.
  • Caiff addysg cydberthynas a rhywioldeb ei chyflwyno’n ystyriol ac mae’n adlewyrchu anghenion unigol disgyblion a’u cyfnodau datblygu.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw cyfathrebu â rhieni bob amser yn ddigon manwl na chyson.
  • Mewn dwy ysgol, mae angen cryfhau trefniadau diogelu a goruchwyliaeth feddygol.
  • Mae pwysau o ran llety yn lleihau cyfleoedd ar gyfer dysgu therapiwtig ac ymarferol yn hanner yr ysgolion.

Arwain a gwella

Mae arweinyddiaeth yn gyffredinol, yn parhau’n gryf, yn gynhwysol ac wedi’i harwain gan werthoedd. Mae arweinwyr yn blaenoriaethu lles disgyblion, cymorth i staff a diwylliannau ysgol feithringar yn effeithiol. Mae arweinyddiaeth ddosranedig, dysgu proffesiynol a gweithio mewn partneriaeth yn cefnogi gwelliant ar draws y sector. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, mae angen cryfhau dulliau hunanwerthuso, trefniadau atebolrwydd a’r ymateb i bwysau o ran llety ymhellach er mwyn cefnogi gwelliant cynaledig.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae arweinwyr yn hyrwyddo diwylliannau cryf o les, diogelu a chymorth.
  • Mae dysgu proffesiynol yn cefnogi arfer arbenigol a datblygiad arweinyddiaeth yn effeithiol.
  • Mewn llawer o ysgolion, mae llywodraethwyr yn cynnig her gefnogol ac yn dangos ymrwymiad i wella.
  • Mae systemau monitro ac olrhain yn helpu ysgolion i nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu ac yn cefnogi cynllunio gwelliant.
  • Mae arweinwyr yn gweithio’n effeithiol ag awdurdodau lleol a phartneriaid allanol i gryfhau’r ddarpariaeth.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw dulliau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant bob amser yn canolbwyntio’n ddigon craff ar yr effaith ar ddeilliannau disgyblion.
  • Mewn ychydig o ysgolion, nid yw rolau a chyfrifoldebau arwain yn ddigon clir.
  • O bryd i’w gilydd, nid yw her werthusol llywodraethwyr wedi’i datblygu’n ddigonol.
  • Mae niferoedd cynyddol o ddisgyblion â llety anaddas yn parhau i roi pwysau ar y ddarpariaeth.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Yn ystod blwyddyn academaidd 2025-2026, cynhaliodd Estyn chwe arolygiad craidd o ysgolion arbennig a gynhelir.

At ei gilydd, arolygwyd chwe ysgol arbennig a gynhelir. Rhoddwyd cyfanswm o 11 argymhelliad.

  • Cafodd tair ysgol (50%) argymhellion yn ymwneud â gwella cysondeb addysgu a dysgu, gan gynnwys rhediad y sesiynau, lefel her a rhannu arfer effeithiol.
  • Cafodd dwy ysgol (33%) argymhellion yn ymwneud â lles, gofal, cymorth ac arweiniad, gan gynnwys cryfhau systemau diogelu a mynd i’r afael â phryderon ynghylch darpariaeth feddygol a diogelwch y safle. Roedd presenoldeb yn destun argymhelliad mewn un ysgol.
  • Cafodd pedair ysgol (67%) argymhellion i gryfhau arweinyddiaeth ac ymagweddau at wella ymhellach.

Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau

Addysgu a dysgu

Ysgol Arbennig The Hollies

Darllenwch sut mae Ysgol Arbennig The Hollies yng Nghaerdydd yn datblygu disgyblion hyderus a brwdfrydig trwy addysgu a chymorth cryf, a sut mae cymorth unigol cynnar yn sicrhau bod disgyblion yn goresgyn rhwystrau i newid.

Ysgol Heol Goffa

Darllenwch sut mae Ysgol Heol Goffa yn Sir Gaerfyrddin yn datblygu disgyblion sy’n arwain, yn meithrin cysylltiadau ac yn cyfrannu y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, a sut mae profiadau cyfoethog, ymarferol a go iawn yn meithrin annibyniaeth, hyder a gwydnwch.

Ysgol Tir Morfa

Darllenwch am sut mae Ysgol Tir Morfa  yn meithrin annibyniaeth ac yn paratoi disgyblion yn hyderus ar gyfer bywyd y tu hwnt i’r ysgol, a sut mae medrau darllen disgyblion yn cael eu datblygu trwy ymagwedd cyfathrebu gyflawn.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Ysgol Arbennig Maes Hyfryd

Darllenwch sut mae rhaglen hyfforddiant teithio Ysgol Arbennig Maes Hyfryd   yn datblygu medrau ymarferol trwy brofiadau go iawn sy’n meithrin hyder, gwydnwch a medrau gwneud penderfyniadau disgyblion.

Arwain a gwella

Ysgol Bryn Castell

Darllenwch sut mae Ysgol Bryn Castell yn datblygu tîm staff ymroddedig.

Ysgol Hafod Lon

Darllenwch am weithio mewn partneriaeth gref a hyrwyddo datblygiad proffesiynol staff addysgu yn adroddiad arolygu Ysgol Hafod Lon