Ysgolion arbenigol ADY annibynnol – Adroddiad Blynyddol | Annual Report
Mynd i'r cynnwys

Ysgolion arbenigol ADY annibynnol

Mewnwelediadau cynnar 2025-2026



Addysgu a dysgu

Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn darparu profiadau dysgu wedi’u personoli’n helaeth sy’n helpu disgyblion i ailgysylltu’n llwyddiannus ag addysg a gwneud cynnydd cadarn o’u mannau cychwyn unigol. Mae perthnasoedd cryf, ymagweddau therapiwtig a dysgu ymarferol yn cefnogi llawer o ddisgyblion i ddatblygu hyder, medrau cyfathrebu ac annibyniaeth. Mae llawer o ysgolion yn darparu cyfleoedd arbennig i ddisgyblion ddatblygu annibyniaeth a medrau cyflogadwyedd trwy ddysgu dilys. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, mae anghysondebau mewn addysgu, asesu a chynllunio yn cyfyngu ar gynnydd disgyblion.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Ym mron bob ysgol, mae staff yn adnabod disgyblion yn arbennig o dda ac yn addasu’r dysgu’n effeithiol i fodloni eu hanghenion unigol.
  • Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn darparu amgylcheddau dysgu tawel a meithringar sy’n helpu disgyblion i deimlo’n ddiogel ac yn barod i ddysgu.
  • Mae llawer o ysgolion yn darparu profiadau dysgu ymarferol a galwedigaethol sy’n datblygu annibyniaeth disgyblion ac yn eu paratoi’n effeithiol ar gyfer bywyd fel oedolion.
  • Mewn llawer o ysgolion, mae ymagweddau therapiwtig, cefnogaeth weledol a threfnau strwythuredig yn helpu disgyblion i ymgysylltu’n gadarnhaol â dysgu a magu hyder.
  • Mae mwyafrif yr ysgolion yn defnyddio technolegau digidol yn effeithiol i gefnogi dysgu.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw’r addysgu’n darparu digon o gyflymdra na her.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw staff yn defnyddio gwybodaeth asesu’n ddigon cyson i gynllunio’r camau nesaf na monitro cynnydd disgyblion dros gyfnod.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, mae ehangder y cwricwlwm a chyfleoedd achredu yn rhy gyfyngedig.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau digidol yn cael eu cynllunio’n gynyddol.
  • Mewn ychydig o ysgolion, nid yw disgyblion yn cael digon o gyfleoedd i ddatblygu medrau annibyniaeth, gwneud penderfyniadau na datrys problemau.

Lles, gofal, cymorth ac arweiniad

Mae bron bob ysgol yn darparu amgylcheddau meithringar lle mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu parchu ac yn cael cymorth da. Mewn llawer o ysgolion, mae perthnasoedd cryf rhwng staff a disgyblion yn helpu disgyblion i wella eu presenoldeb, eu gallu i reoli eu hemosiynau a’u hymgysylltiad â dysgu. Fodd bynnag, mae presenoldeb disgyblion yn parhau’n rhy isel mewn ychydig o ysgolion.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Ym mron bob ysgol, mae staff yn meithrin perthnasoedd llawn ymddiriedaeth â disgyblion sy’n cefnogi eu lles emosiynol yn llwyddiannus.
  • Mae llawer o ysgolion yn darparu cymorth therapiwtig effeithiol sy’n helpu disgyblion i ddatblygu gwydnwch a hyder cymdeithasol.
  • Mae llawer o ysgolion yn cydweithio’n agos â theuluoedd, lleoliadau preswyl ac asiantaethau allanol i gefnogi lles disgyblion.
  • Mae tua hanner yr ysgolion yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion gyfrannu at fywyd yr ysgol trwy weithgareddau llais y disgybl a chyfleoedd arwain, gan eu helpu i ddatblygu hyder a chyfrifoldeb.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig o ysgolion, mae presenoldeb lleiafrif o ddisgyblion yn parhau’n rhy isel ac yn cyfyngu ar eu hymgysylltiad a’u cynnydd.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw staff yn gweithredu strategaethau rheoli ymddygiad yn ddigon cyson.
  • Mewn tua hanner yr ysgolion, nid yw cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a nodweddion gwarchodedig wedi’u hymgorffori’n ddigon cyson ar draws y cwricwlwm a bywyd ehangach yr ysgol.
  • Mewn ychydig o ysgolion, nid yw addysg gyrfaoedd a chynllunio ar gyfer pontio wedi’u datblygu’n ddigonol.

Arwain a gwella

Mae’r rhan fwyaf o arweinwyr yn creu diwylliant sy’n cefnogi lles a chynnydd disgyblion yn effeithiol. Mae llawer o ysgolion yn sefydlu prosesau sicrhau ansawdd a chynllunio gwelliant effeithiol. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, mae gwendidau mewn hunanwerthuso a goruchwyliaeth gan y perchennog yn cyfyngu ar allu arweinwyr i nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella yn gywir. Nid oedd ychydig o ysgolion yn bodloni Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2024 ar adeg yr arolygiad.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mewn llawer o ysgolion, mae arweinwyr yn cyfleu gweledigaeth glir sy’n canolbwyntio ar les disgyblion, cynhwysiant a dysgu wedi’i bersonoli.
  • Mae llawer o ysgolion yn meithrin cydweithio effeithiol rhwng timau addysg, gofal a therapi.
  • Mae mwyafrif yr ysgolion yn defnyddio gweithgareddau monitro’n briodol i nodi cryfderau a blaenoriaethu meysydd i’w gwella.
  • Mae hanner yr ysgolion yn darparu dysgu proffesiynol sy’n cyd-fynd ag anghenion disgyblion a blaenoriaethau’r ysgol.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw hunanwerthuso a chynllunio gwelliant yn canolbwyntio’n ddigon craff ar gynnydd disgyblion nac yn gwerthuso effaith yr addysgu ar y dysgu yn ddigonol.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, mae ansefydlogrwydd o ran arweinyddiaeth ac anawsterau wrth recriwtio staff yn arafu gwelliant.
  • Mewn lleiafrif o ysgolion, nid yw goruchwyliaeth gan y perchennog yn ddigon cadarn i sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2024.
  • Mewn tua hanner yr ysgolion, nid yw arweinwyr yn gwerthuso effaith dysgu proffesiynol yn ddigon trylwyr i benderfynu a yw’n gwella arfer yn yr ystafell ddosbarth a deilliannau disgyblion.

Trosolwg o’r argymhellion o arolygiadau

Yn 2025–2026, arolygom 16 o ysgolion arbenigol ADY annibynnol trwy 7 arolygiad craidd a 9 arolygiad monitro.

  • Cafodd lleiafrif o ysgolion (6/16) argymhellion yn ymwneud â chryfhau arweinyddiaeth, hunanwerthuso, sicrhau ansawdd a chynllunio gwelliant.
  • Cafodd lleiafrif o ysgolion (6/16) argymhellion yn ymwneud â gwella ansawdd a chysondeb yr addysgu.
  • Cafodd lleiafrif o ysgolion (6/16) argymhellion yn ymwneud ag asesu, datblygu’r cwricwlwm ac olrhain medrau a chynnydd disgyblion.
  • Cafodd lleiafrif o ysgolion (4/16) argymhellion yn ymwneud â gwella presenoldeb ac ymgysylltiad â dysgu.
  • Cafodd ychydig o ysgolion (3/16) argymhellion yn ymwneud â pharatoi ar gyfer bywyd fel oedolion, gweithio mewn partneriaeth neu ehangu cyfleoedd i ddisgyblion.
  • Cafodd ychydig o ysgolion (3/16) argymhellion yn ymwneud â sicrhau cydymffurfiaeth lawn â Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2024.

Arfer effeithiol a nodwyd yn ystod arolygiadau

Ysgol Aran Hall

Darllenwch sut mae staff yn Ysgol Aran Hall yn dathlu cyflawniadau academaidd, personol a chymdeithasol disgyblion, gan hybu cymhelliant, ymddygiad cadarnhaol, annibyniaeth a hunan-barch.

Oaklea Grange

Darllenwch sut mae Oaklea Grange yn creu rhaglen gyfoethog o brofiadau dysgu lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy’n helpu disgyblion i ddod yn ddinasyddion gwybodus, hyderus a chyfrifol.

The Branas School

Yn The Branas School, mae addysg awyr agored, gweithgareddau anturus ac ymgysylltu â’r gymuned wedi’u hymgorffori yn y cwricwlwm i ddatblygu gwydnwch disgyblion, eu medrau gweithio mewn tîm a datrys problemau, a’u parodrwydd ar gyfer bywyd fel oedolion.

Bettws Lifehouse

Darllenwch sut mae arweinwyr a staff yn Bettws Lifehouse yn paru pob disgybl ag oedolyn y maent yn ymddiried ynddo sy’n darparu eiriolaeth, cymorth emosiynol ac arweiniad cyson, gan gryfhau lles, gwydnwch, ymdeimlad o berthyn ac ymgysylltiad â dysgu.

Ysgol Talocher

Mae arweinwyr a staff yn Ysgol Talocher yn creu diwylliant myfyriol.

Bryn Tirion Hall School

Darllenwch sut mae arweinwyr yn Bryn Tirion Hall School yn meithrin gwelliant parhaus trwy arfer fyfyriol, tra bod mentora gan gymheiriaid yn datblygu medrau arwain a lles, ac mae rhaglen ddarllen strwythuredig yn galluogi disgyblion i wneud cynnydd cryf mewn llythrennedd a hyder.