Question 1Do teachers ask you what you would like to learn about? Can you give examples?

Beth ydy hwn?

Bob blwyddyn, mae Prif Arolygydd ysgolion Cymru yn ysgrifennu adroddiad ar yr hyn mae arolygwyr wedi'i ganfod wrth i ni arolygu ysgolion a darparwyr addysg eraill.

Mae'r safle yma'n cynnwys adnoddau y gall grwpiau disgyblion neu Gynghorau Ysgol eu defnyddio i drafod pynciau penodol neu i feddwl pa mor effeithiol ydyn nhw wrth eu gwaith.

Rydym wedi gweithio gyda disgyblion mewn ysgolion uwchradd i gasglu eu syniadau ar egwyddorion Cynghorau Ysgol neu grwpiau disgyblion effeithiol. Mynnwch olwg i weld a ydych chi'n cytuno â'u syniadau. Ydy eich Cyngor/grŵp yn gwneud y pethau hyn? Oes angen addasu’r egwyddorion ar gyfer ysgolion cynradd? Dolen i'r Egwyddorion

Rydym wedi dewis ambell bwnc sydd wedi codi yn yr Adroddiad Blynyddol rydym yn meddwl y byddai disgyblion â diddordeb yn eu trafod. Cofiwch lawrlwytho'r ffurflenni i wneud nodyn o'ch syniadau a'ch gweithredoedd.

Sut i ddefnyddio

Symudwch drwy'r ysgol gan ddefnyddio naill ai'r bar sgrolio neu'r bysellau saeth chwith/dde ar eich bysellfwrdd.

Pan welwch y marc cwestiwn mawr, cliciwch arno i ddatgelu cwestiwn. Trafodwch y cwestiwn ymhlith eich gilydd.

Beth ddylen ni drafod?

Ydyn ni'n dysgu digon am hanes Cymru, gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig?

Pam ddylen ni drafod hyn?

Wrth arolygu, rydyn ni wedi gweld bod disgyblion, pan gânt y cyfle, yn mwynhau dysgu am hanes Cymru ac am hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Fodd bynnag, yn y mwyafrif o ysgolion dydy disgyblion ddim yn gwybod llawer iawn am hanes eu hardal leol na Chymru. Yn y rhan fwyaf o ysgolion, dydy disgyblion ddim yn gwybod llawer am hanes pobl a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, yn enwedig yng Nghymru. Beth sy’n digwydd yn eich ysgol chi?

Cau

Mae ffurflen i chi wneud nodiadau. Cliciwch ar ‘Lawrlwytho Dogfennau’ i weld hon.

Cau

Cwestiwn 1

Beth ydych chi'n ei wybod am hanes eich ardal leol? Ydy hyn yn ddigon? Am beth hoffech chi ddysgu mwy?

Cau

Cwestiwn 2

Beth ydych chi'n ei wybod am hanes pobloedd a chymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig? Ydy hyn yn ddigon? Am beth hoffech chi ddysgu mwy?

Cau

Cwestiwn 3

Beth ydych chi'n ei wybod am gyfraniad pobol a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i Gymru? Ydy hyn yn ddigon?

Cau

Cwestiwn 4

WBeth gallech chi ei wneud fel Cyngor Ysgol i wella gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o bobol a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a'u cyfraniad i Gymru?

Cau

Cwestiwn 5

Beth ydych chi'n ei wybod am hanes Cymru? Ydych chi'n dysgu digon am Gymru? Am beth hoffech chi ddysgu mwy?

Cau

Cwestiwn 6

Beth allech chi ei wneud fel Cyngor Ysgol i wella gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o hanes eich ardal leol a Chymru?

Cau

Cwestiwn 7

Sut ydych chi’n datblygu eich dealltwriaeth o wrth-hiliaeth ac amrywiaeth yn yr ysgol? Fel Cyngor Ysgol, beth allech chi ei wneud i hyrwyddo'r agweddau hyn?

Cau

Cwestiwn 8

Beth ydych chi'n ei wneud yn yr ysgol sy'n eich helpu i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus yng Nghymru a'r byd? Meddyliwch am bopeth rydych chi’n ei wneud yn yr ysgol, nid dim ond mewn gwersi.

Cau

Beth allwch chi wneud nesaf?

  • Crewch arolwg i weld beth yw barn disgyblion ar y pwnc yma.
  • Siaradwch â'ch athrawon am y testunau rydych chi'n eu hastudio. Ydy'r rhain yn cynrychioli pobl a chymunedau Pobl a Chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig?
  • Ystyriwch beth allech chi ei wneud i ddysgu mwy am eich cymuned leol - e.e. ewch i'r llyfrgell, siarad â phobl sydd wedi byw yn yr ardal ers amser maith, ewch i weld tirnodau lleol.
Cau