Beth ydy hwn?
Bob blwyddyn, mae Prif Arolygydd ysgolion Cymru yn ysgrifennu adroddiad ar yr hyn mae arolygwyr wedi'i ganfod wrth i ni arolygu ysgolion a darparwyr addysg eraill.
Mae'r safle yma'n cynnwys adnoddau y gall grwpiau disgyblion neu Gynghorau Ysgol eu defnyddio i drafod pynciau penodol neu i feddwl pa mor effeithiol ydyn nhw wrth eu gwaith.
Rydym wedi gweithio gyda disgyblion mewn ysgolion uwchradd i gasglu eu syniadau ar egwyddorion Cynghorau Ysgol neu grwpiau disgyblion effeithiol. Mynnwch olwg i weld a ydych chi'n cytuno â'u syniadau. Ydy eich Cyngor/grŵp yn gwneud y pethau hyn? Oes angen addasu’r egwyddorion ar gyfer ysgolion cynradd? Dolen i'r Egwyddorion
Rydym wedi dewis ambell bwnc sydd wedi codi yn yr Adroddiad Blynyddol rydym yn meddwl y byddai disgyblion â diddordeb yn eu trafod. Cofiwch lawrlwytho'r ffurflenni i wneud nodyn o'ch syniadau a'ch gweithredoedd.
Sut i ddefnyddio
Symudwch drwy'r ysgol gan ddefnyddio naill ai'r bar sgrolio neu'r bysellau saeth chwith/dde ar eich bysellfwrdd.
Pan welwch y marc cwestiwn mawr, cliciwch arno i ddatgelu cwestiwn. Trafodwch y cwestiwn ymhlith eich gilydd.
Beth ddylen ni drafod?
Ydyn ni'n dysgu digon am hanes Cymru, gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig?
Pam ddylen ni drafod hyn?
Wrth arolygu, rydyn ni wedi gweld bod disgyblion, pan gânt y cyfle, yn mwynhau dysgu am hanes Cymru ac am hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Fodd bynnag, yn y mwyafrif o ysgolion dydy disgyblion ddim yn gwybod llawer iawn am hanes eu hardal leol na Chymru. Yn y rhan fwyaf o ysgolion, dydy disgyblion ddim yn gwybod llawer am hanes pobl a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, yn enwedig yng Nghymru. Beth sy’n digwydd yn eich ysgol chi?
Cau