Mynd i'r cynnwys
Myfyriwr yn dal anifail

Adroddiad sector: Addysg bellach 2021-2022

Darparwyr

12

Nifer o golegau addysg bellach yn darparu cyrsiau addysg bellach yng Nghymru

Details

Mae 12 o golegau addysg bellach yn darparu cyrsiau addysg bellach yng Nghymru. Mae llawer ohonynt ar nifer o safleoedd ar draws ardal ddaearyddol eang.

Mae mwyafrif yn gweithredu o dan strwythur grŵp, gyda hunaniaethau coleg ar wahân ar gyfer safleoedd unigol neu glystyrau safleoedd rhanbarthol. Mae ychydig o golegau yn gweithredu fel is-gyrff ym mherchnogaeth lwyr sefydliadau addysg uwch.


Dysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach (SABau)

90,395

Holl ddysgwyr AB mewn SABau

Manylion

2019-2020: 94,220 -3%

47,590

Dysgwyr AB amser llawn

Manylion

2019-2020: 46,290 +3%

42,805

Dysgwyr AB rhan-amser

Manylion

2019-2020: 47,930 -11%

Dysgwyr mewn SABau gyda chefndiroedd Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol 9

9%

Dysgwyr mewn SABau gyda chefndiroedd Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol

Manylion

2019-2020: 8.5%

Dysgwyr mewn SABau a nododd fod ganddynt “anabledd a/neu anhawster dysgu” 12

12%

Dysgwyr mewn SABau a nododd fod ganddynt “anabledd a/neu anhawster dysgu”

Manylion

2019-2020: 13.6%


Arolygiadau craidd

  • Nifer yr arolygiadau: 2

Oherwydd y pandemig COVID-19, dim ond ym Mawrth 2022 yr ail-ddechreuodd arolygiadau craidd.

Coleg Penybont
Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion

Astudiaethau achos

  • Nifer yr astudiaethau achos 4

Colegau ag astudiaethau achos:
Coleg Penybont 1
Coleg Penybont 2
Coleg Sir Gâr (Coleg Ceredigion) 1
Coleg Sir Gâr (Coleg Ceredigion) 2

Ymweliadau ymgysylltu

  • Nifer yr ymweliadau 12

Cynhaliwyd yr holl ymweliadau ymgysylltu rhwng Medi a Rhagfyr 2021.

Hydref 2021 – Adroddiad Cryno AB


Gweithgarwch Dilynol:

Nid oes unrhyw golegau addysg bellach mewn dilyniant ar hyn o bryd.


Dysgu

Ym mis Medi 2021, roedd ôl-groniad o asesiadau galwedigaethol anghyflawn, yn enwedig ar gyfer cyrsiau yr oedd angen lleoliadau gwaith arnynt, fel gofal plant ac iechyd a gofal cymdeithasol, oherwydd cyfyngiadau’r pandemig. Pan wnaethom arolygu nes ymlaen yn y flwyddyn, roedd llawer o ddysgwyr yn gweithio’n llwyddiannus tuag at gyflawni’u cymwysterau. Mewn gwersi a sesiynau ymarferol, roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwneud cynnydd priodol o leiaf, ac roedd llawer yn cynhyrchu gwaith o safon uwch. Yn yr achosion gorau, roedd dysgwyr yn ymateb yn dda i adborth gan eu hathrawon, gan ailystyried eu dysgu a gwella eu gwaith.

Mewn dosbarthiadau, mae llawer o ddysgwyr yn galw dysgu diweddar i gof yn effeithiol ac mae mwyafrif yn cymhwyso’u dysgu i gyd-destunau newydd yn dda. Mae llawer o ddysgwyr yn ymgysylltu, yn cefnogi ac yn herio’i gilydd mewn trafodaethau grŵp, ac yn ymateb yn dda i gwestiynau llafar ynglŷn â’u gwaith.

Yn ystod ein harolygiadau craidd, fe wnaethom nodi fod mwyafrif o ddysgwyr yn dechrau eu cyrsiau o fan cychwyn is na fyddid wedi disgwyl. Yn gyffredinol, nid oedd gwybodaeth a medrau’r dysgwyr hyn mor gryf â charfanau tebyg cyn y pandemig, gan adlewyrchu’r tarfu ar eu dysgu blaenorol. Yn benodol, nid oedd medrau rhifedd a mathemategol ehangach dysgwyr wedi datblygu gystal â charfanau blaenorol, ac nid oedd llawer o ddysgwyr yn gwneud cynnydd digonol wrth ddatblygu’u medrau rhifedd. Mae hyn er gwaetha’r ffaith bod mwy o ddysgwyr na’r arfer yn dechrau’r coleg gyda chymwysterau Saesneg a mathemateg TGAU ar radd C neu’n uwch, a bod angen i lai ailsefyll eu harholiadau. Mae’r adnodd hwn yn darparu cwestiynau hunanfyfyrio i gynorthwyo athrawon mewn addysg bellach i ddatblygu medrau rhifedd dysgwyr mewn cyd-destun galwedigaethol.

Dywedodd llawer o ddysgwyr oedd yn astudio cymwysterau a oedd yn golygu sefyll arholiadau allanol eu bod yn arbennig o bryderus ynglŷn â sefyll yr arholiadau, yn enwedig gan nad oedd llawer wedi sefyll unrhyw arholiadau allanol yn ystod Blynyddoedd 10 ac 11 oherwydd y tarfu a achoswyd gan y pandemig. Roedd dysgwyr yn gwerthfawrogi’n arbennig y cyfleoedd i ymarfer tasgau ysgrifennu estynedig ac ymgymryd ag arholiadau ffug fel rhan o’u paratoi ar gyfer asesiadau allanol. Dywedodd dysgwyr eraill eu bod yn teimlo eu bod wedi colli allan ar gyfleoedd pwysig i ymgymryd â sesiynau ymarferol yn ystod cyfyngiadau cyfnodau clo, a theimlent, er y dychwelwyd i addysgu wyneb yn wyneb eleni, nad oeddent mor hyderus ag y byddent wedi gobeithio bod ynglŷn â gwaith ymarferol a’u gallu i ymdopi ar raglenni lefel uwch.

Lles ac agweddau at ddysgu

Trwy gydol ein gweithgarwch ymgysylltu, dywedodd y rhan fwyaf o golegau wrthym fod niferoedd uwch o lawer o ddysgwyr yn wynebu heriau gyda materion iechyd meddwl nag mewn blynyddoedd blaenorol. Effeithiwyd yn niweidiol ar les dysgwyr gan y pandemig, ac wynebodd llawer ohonynt heriau yn deillio o ystod eang o faterion lles, profedigaeth a digartrefedd. Effeithiodd hyn ar eu hunan-barch a’u hyder, ac ar eu cyfranogiad ac ymgysylltiad â’u dysgu.

Yn ein harolygiadau craidd eleni, fe wnaethom ddarganfod fod nifer y dysgwyr a oedd yn ceisio cymorth ar gyfer eu lles emosiynol a’u hiechyd meddwl wedi cynyddu’n sylweddol o ganlyniad i’r pandemig COVID-19. Fe wnaeth dysgwyr elwa o gael ystod gynhwysfawr o gymorth lles i drafod y materion hyn. Teimlai’r rhan fwyaf o ddysgwyr fod y cymorth a gawsant wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w lles, gwydnwch a’u gallu i gynnal a gwneud cynnydd yn eu dysgu.

Dangosodd llawer o ddysgwyr archwaeth cryf i ddychwelyd i addysgu wyneb yn wyneb yn y coleg ac i elwa o’r agweddau cymdeithasol ar fywyd coleg. Roedd llawer yn ymgysylltu’n dda â’r ddarpariaeth ychwanegol yr oedd colegau wedi’i rhoi ar waith i ddatblygu’u gwybodaeth ehangach, medrau ymarferol, datblygiad personol, a medrau cyflogadwyedd yn sgil y pandemig.

Addysgu a phrofiadau dysgu

Roedd y rhan fwyaf o golegau yn cynnig cyrsiau addysg gyffredinol amser llawn a chyrsiau galwedigaethol yn ychwanegol at ystod helaeth o gyrsiau rhan-amser. Roeddent yn cynnig ystod eang o ddarpariaeth ar lefelau gwahanol. Darparodd hyn gyfleoedd dilyniant wedi’u cynllunio’n dda i ddysgwyr at gyrsiau lefel uwch, addysg uwch neu brentisiaethau.

Erbyn dechrau 2021-2022, dychwelodd yr holl golegau i gyflwyno darpariaeth wyneb yn wyneb ar y safle yn bennaf. Roedd hyn yn adlewyrchu dewis clir y rhan fwyaf o’r dysgwyr a’r staff. Fe wnaeth bron yr holl golegau gadw ychydig o agweddau ar ddarpariaeth ar-lein neu ddarpariaeth gyfunol. Soniodd ychydig o golegau am enghreifftiau lle bu parhau â dull cyfunol yn fuddiol i ddysgwyr. Er enghraifft, mewn un coleg, mae athrawon yn datblygu medrau llythrennedd digidol dysgwyr yn fedrus yn eu pynciau galwedigaethol neu academaidd. O ganlyniad, mae dysgwyr yn dangos lefelau uchel o gymhwysedd wrth ddefnyddio llwyfannau digidol i storio, cofnodi, trefnu ac olrhain eu dysgu eu hunain. Roedd sail resymegol glir ar gyfer y dull hybrid gan bron yr holl golegau, er nad oedd hyn yn cael ei gyfleu’n ddigon clir i ddysgwyr mewn ychydig o achosion.

Roedd bron yr holl athrawon yn adnabod eu dysgwyr yn dda ac yn adeiladu perthnasoedd cadarnhaol a oedd yn meithrin dysgu. Roeddent yn cynorthwyo dysgwyr i wneud cynnydd priodol o leiaf tuag at gyflawni’u cymwysterau neu nodau dysgu. Fe wnaeth llawer o athrawon golli cyfleoedd i adeiladu datblygu medrau llythrennedd a rhifedd i’w dosbarthiadau ac eithrio drwy wersi medrau wedi’u trefnu’n benodol.

Cynyddodd y rhan fwyaf o golegau y cyfleoedd cyfoethogi wyneb yn wyneb a oedd ar gael ar gyfer dysgwyr wrth i gyfyngiadau’r pandemig lacio. Roedd y rhain yn cynnwys gweithgareddau fel rhaglenni academi yn gysylltiedig â chwaraeon a diddordebau eraill, cystadlaethau medrau, siaradwyr gwadd, ymweliadau addysgol a rhaglenni cyfnewid dysgwyr.

Cameo: Mae dysgwyr medrau byw yn annibynnol yng Ngholeg Penybont yn elwa o lwybrau dysgu clir

Mae ehangder y cwricwlwm ar gyfer dysgwyr medrau byw yn annibynnol ac ystod y rhaglenni dysgu yng Ngholeg Penybont yn darparu llwybrau addas a realistig i waith ar gyfer dysgwyr medrau byw yn annibynnol, cael mynediad i’r gymuned a datblygu annibyniaeth. Mae’r cwricwlwm wedi’i seilio ar bedwar llwybr ac un llwybr interniaeth a gefnogir. Dyrennir llwybrau i ddysgwyr wedi’u seilio ar eu dyheadau a’u hanghenion dysgu, a nod y dysgu yw cefnogi proses asesu bersonoledig, heb ei hachredu. Rhoddir cyfle i ddysgwyr ag anawsterau dysgu cymedrol ymgymryd â phrofiad gwaith ystyrlon sy’n cefnogi cynnydd tuag at ddyheadau gwaith tymor hwy. Yn 2020-2021, o ganlyniad i’r cyfleoedd hyn, llwyddodd pob un o’r dysgwyr ar interniaethau a gefnogir i sicrhau swydd gyflogedig amser llawn.

Roedd colegau’n cynllunio’u hasesiadau a’u cwricwlwm yn ofalus gan ddisgwyl i arholiadau allanol ddychwelyd, tra’n cynnal trefniadau wrth gefn rhag ofn y byddai tarfu pellach. Fe wnaeth llawer gynorthwyo a pharatoi dysgwyr ar gyfer asesiadau allanol drwy gynyddu mynychder asesiadau mewnol ffurfiol a sicrhau bod cynnydd dysgwyr yn cael ei fonitro’n rheolaidd. Teimlai arweinwyr coleg nad oeddent yn cael arweiniad amserol a chlir gan sefydliadau dyfarnu, ac fe wnaethant fynegi pryder arbennig ynglŷn â gwahaniaethau rhwng addasiadau i drefniadau asesu ar gyfer rhaglenni academaidd a galwedigaethol.

Yn ystod y flwyddyn, edrychom hefyd ar y cyfleoedd cwricwlwm cyffredinol ar draws ysgolion, colegau a dysgu yn y gwaith i ddysgwyr 16 i 19 ledled Cymru. Fe wnaethom ddarganfod fod gormod o amrywiaeth yn y cyfleoedd i bobl ifanc, gan ddibynnu ar ble roeddent yn byw. Gallwch ddarllen mwy am ein canfyddiadau yma.

Gofal, cymorth ac arweiniad

Yn ein dau arolygiad craidd fel ei gilydd, fe wnaethom ddarganfod fod y colegau’n cynorthwyo’u dysgwyr yn dda yn gyffredinol trwy gydol eu cyfnod yn y coleg. Roedd hyn yn cynnwys darparu cymorth yn ystod cyfnod pontio dysgwyr i’r coleg a thrwy gydol eu rhaglen ddysgu, yn ogystal â chynorthwyo dilyniant i mewn i addysg bellach neu gyflogaeth. Yn gyffredinol, roedd trefniadau pontio a chymorth ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn effeithiol ac yn cael eu rheoli’n dda.

Roedd llawer o golegau’n darparu cyfleoedd defnyddiol i ddysgwyr ymweld â’r coleg fel rhan o weithgareddau ymgyfarwyddo a pharatoi cyn rhaglenni ymsefydlu ffurfiol. Mabwysiadodd y rhan fwyaf o golegau ymagwedd systematig at asesiadau cychwynnol a diagnostig o anghenion medrau llythrennedd a rhifedd ar gyfer yr holl ddysgwyr.

Nododd y rhan fwyaf o golegau gynnydd sylweddol yn yr angen am gymorth lles ar gyfer dysgwyr yn ystod y pandemig. Defnyddiwyd cyllid dros dro gan lawer i gyflogi staff lles ychwanegol. Gweithiai’r staff hyn ochr yn ochr ag athrawon a thiwtoriaid i nodi a darparu cymorth gyda materion a allai fod yn effeithio ar les, presenoldeb a chynnydd dysgwyr. Darparwyd amrywiaeth o gymorth lles buddiol i ddysgwyr, gan gynnwys cwnsela, mentora a gweithdai.

Cameo: Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn gwneud defnydd effeithiol o system integredig ar gyfer gosod targedau ac olrhain cynnydd dysgwyr

Mae’r adran anghenion dysgu ychwanegol yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi datblygu proses sgrinio ac asesu ddefnyddiol i helpu nodi anghenion dysgwyr unigol a llywio penderfyniadau ar opsiynau cymorth sydd ar gael. Mae’r holl ddysgwyr yn cael cyfnod ymsefydlu dysgu a chymorth yn ystod pythefnos cyntaf eu cwrs, ac maent wedyn yn ymgymryd â phroses sgrinio ar-lein. Mae’r broses asesiad sgrinio a diagnostig yn cwmpasu rheoli amser, darllen, gwaith ysgrifenedig, cof, canolbwyntio a threfnu, medrau cymdeithasol a chyfathrebu, prosesu synhwyraidd, anawsterau dysgu, cyflyrau meddygol a chyflyrau iechyd a threfniadau arholiadau blaenorol. Defnyddir deilliannau’r broses hon i greu proffiliau dosbarth defnyddiol ar gyfer yr holl athrawon a helpu llywio arfer athrawon yn yr ystafell ddosbarth.

https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol/y-broses-sgrinio-cymorth-dysgu

Roedd cael cyngor ac arweiniad diduedd yn parhau yn her i lawer o ddysgwyr wrth iddynt adael yr ysgol a symud ymlaen at addysg ôl-16. Amlygodd ein hadroddiad ymgysylltu Gwaith ymgysylltu – diweddariad am y sectorau addysg bellach a dysgu oedolion yn y gymuned – hydref 2021 fod dysgwyr wedi adrodd nad oedden nhw’n ddigon ymwybodol o ystod yr opsiynau dilyniant trwy wybodaeth neu arweiniad cyn gwneud cais i goleg. Teimlai ychydig o ddysgwyr fod y cyngor a roddwyd gan eu hysgolion wedi canolbwyntio’n bennaf ar eu hannog i symud ymlaen i chweched dosbarth yr ysgolion eu hunain. Nid yw trefniadau rhannu gwybodaeth rhwng darparwyr wedi’u ffurfioli bob amser. Mae hyn yn golygu y gofynnir i ddysgwyr a rhieni/gofalwyr yn aml ddatgelu’r un wybodaeth ar amryfal achlysuron pan fyddant yn symud ymlaen at ddarpariaeth newydd.

Roedd dealltwriaeth dysgwyr o faterion yn gysylltiedig â radicaleiddio ac eithafiaeth yn rhy amrywiol ar draws colegau ac o fewn colegau. Yn y ddau arolygiad coleg, fe wnaethom ddarganfod nad oedd llawer o ddysgwyr yn gallu cofio neu ddangos dealltwriaeth o faterion yn gysylltiedig â radicaleiddio ac eithafiaeth. Nid oedd deunyddiau tiwtorial yn ymwneud â’r materion hyn wedi’u haddasu bob amser i ddiwallu anghenion yr holl ddysgwyr.

Arweinyddiaeth a rheolaeth

Parhaodd arweinwyr a rheolwyr i ymateb yn gadarnhaol i’r heriau parhaus yn sgil y pandemig COVID-19 a llacio cyfyngiadau cysylltiedig yn raddol. Parhaont i roi pwys mawr ar gefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr a staff. Defnyddiwyd cyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru gan y rhan fwyaf o golegau i fuddsoddi mewn adnoddau defnyddiol i wella lles dysgwyr ac i ddarparu gallu ychwanegol i olrhain a chefnogi lles dysgwyr.

Defnyddiodd colegau gyllid Llywodraeth Cymru o dan y Cynllun Adfer COVID-19, Adnewyddu a Diwygio i gynorthwyo dysgwyr i bontio i’r coleg. Hefyd, parhaodd y rhan fwyaf o golegau i fuddsoddi i gryfhau eu gallu digidol ac uwchsgilio staff i ddefnyddio technoleg yn effeithiol i gefnogi addysgu, dysgu ac asesu.

Cameo: Mae staff yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn elwa o ystod ddefnyddiol o gyfleoedd dysgu proffesiynol i helpu gwella’u medrau digidol

Yn ystod y pandemig COVID-19, ymatebodd arweinwyr colegau’n gyflym i’r angen i ddatblygu medrau digidol staff er mwyn parhau i gyflwyno dysgu mewn amgylchedd dysgu digidol. Mae’r coleg wedi cryfhau ei ddarpariaeth dysgu proffesiynol. Mae arweinwyr wedi datblygu ystod gynhwysfawr o lwybrau dysgu ar gyfer staff sy’n cyflwyno hyfforddiant teilwredig, wedi’i fentora, ac mae’r coleg yn annog yr holl staff i gymryd rhan ynddo. Mae hyn yn cynnwys rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr ar gyfer llywodraethwyr newydd, a rhaglen ar gyfer staff addysgu i ddatblygu eu medrau rheoli.

https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol/llwybrau-chwilfrydedd

Fe wnaeth y rhan fwyaf o golegau ddiwygio’u trefniadau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant yng ngoleuni’r heriau yn deillio o’r pandemig. Hefyd, dechreuodd llawer o golegau wneud mwy o ddefnydd o asesu cymheiriaid a chymorth mentora fel rhan o’u strategaethau i wella ansawdd addysgu.

Mae effeithiau’r pandemig wedi cyflymu’r heriau recriwtio yr oedd llawer o golegau eisoes yn eu hwynebu. Gwelodd llawer o golegau gynnydd mewn trosiant staff, ac adroddont am anawsterau o ran recriwtio staff i ychydig o rolau addysgu a chymorth arbenigol. Mynegodd bron yr holl arweinwyr anawsterau wrth recriwtio staff sy’n siarad Cymraeg. Hefyd, dywedwyd bod recriwtio staff i rolau sy’n talu cyflogau is, fel cynorthwywyr cymorth dysgu a staff ategol, yn arbennig o heriol.