Mynd i'r cynnwys
Myfyrwyr yn ymlacio yn y lolfa

Adroddiad sector: Gwasanaethau addysg llywodraeth leol 2021-2022

Mae gwasanaethau addysg llywodraeth leol yn cynnwys y rhai sy’n cael eu darparu neu eu comisiynu gan un awdurdod lleol, yn ogystal â’r rhai sy’n cael eu darparu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill. Caiff gwasanaethau gwella ysgolion eu darparu ar y cyd â’r consortia rhanbarthol ar ran awdurdodau lleol, gan fwyaf, er bod y model o ran sut mae hyn yn gweithio yn amrywio ledled Cymru.

Cyflawnodd ein harolygwyr cyswllt awdurdodau lleol eu gwaith arferol ag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, a gweithion ni ag Archwilio Cymru i roi ein safbwyntiau i awdurdodau lleol ar beth sy’n gweithio’n dda yn eu gwasanaethau addysg llywodraeth lleol a beth sydd angen ei wella.


Arolygiadau

Rhwng mis Medi 2021 a mis Gorffennaf 2022, fe wnaethom gynnal pum arolygiad o wasanaethau addysg llywodraeth leol. Barnwyd bod un awdurdod lleol, sef Torfaen, yn peri pryder sylweddol. Gofynnwyd i lawer o awdurdodau lleol lunio astudiaethau achos yn amlinellu arfer effeithiol mewn agweddau ar eu gwaith.


Gweithgarwch dilynol

Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, roedd tri awdurdod lleol yn peri pryder sylweddol. Barnwyd bod Powys wedi gwneud cynnydd da yn ystod ymweliad monitro yn nhymor yr hydref ac fe’i tynnwyd o unrhyw weithgarwch dilynol pellach. Fe wnaethom gynnal cynadleddau gwella yn awdurdodau Sir Benfro a Wrecsam i ddarganfod y cynnydd a wnaed yn erbyn yr argymhellion o’u harolygiadau craidd. Fe wnaethom nodi bod angen i’r ddau awdurdod barhau i weithio ar eu prosesau monitro a gwerthuso. Byddwn yn parhau i werthuso cynnydd gwasanaethau addysg.


Deilliannau

Yn ystod ein harolygiadau y llynedd, nid oedd modd i ni roi gwerthusiad llawn o ddeilliannau. Roedd hyn oherwydd effaith pandemig COVID-19, a oedd yn golygu y bu raid atal arolygiadau o ysgolion a’r rhan fwyaf o ddarparwyr addysg eraill er mis Mawrth 2020. Mater eilaidd oedd y diffyg data ar ddeilliannau y gellir ei gymharu dros gyfnod, gan i’r pandemig achosi newidiadau i’r ffordd y dyfarnwyd cymwysterau ac effeithio ar y rhan fwyaf o’r data arall rydym yn ei ystyried wrth werthuso, fel presenoldeb ysgol, gwaharddiadau ysgol a chyrchfannau dysgwyr ôl-16. Felly, ar gyfer blwyddyn academaidd 2021-2022, adroddom ar ddeilliannau cyn y pandemig yn unig neu’r rhai a oedd yn ymwneud â deilliannau mwy diweddar, lle mae’r sylfaen dystiolaeth yn ddilys ac yn ddibynadwy.

Mae ein harolygiadau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn y pum awdurdod lleol a arolygwyd yn dangos bod a barnau a luniwyd ar y safonau y mae disgyblion yn eu cyflawni mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ar eu cryfaf mewn ysgolion yn Abertawe ac ar eu gwanaf mewn ysgolion yn Nhorfaen.

O’r awdurdodau lleol a arolygwyd eleni, ar gyfer y tair blynedd cyn pandemig COVID-19, roedd safonau yng Nghyfnod Allweddol 4 yn uchel mewn ysgolion yn Abertawe a Chaerdydd. Roeddent yn fwy amrywiol mewn ysgolion ar Ynys Môn ac yn isel yn Nhorfaen a Merthyr Tudful. Roedd safonau disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim uwchlaw’r cyfartaleddau cenedlaethol neu’n gyfwerth â nhw ym mhob un o’r awdurdodau lleol a arolygwyd.

Roedd lles disgyblion a’u hagweddau at ddysgu yn dda neu’n well mewn tri awdurdod lleol, yn unol â’r cyfartaleddau cenedlaethol yng Nghaerdydd ac yn is na’r cyfartaleddau cenedlaethol yn Nhorfaen. Roedd lefelau presenoldeb ar gyfer y tair blynedd cyn y pandemig COVID-19 yn gyfwerth â’r cyfartaleddau cenedlaethol neu’n uwch mewn pedwar awdurdod lleol, ond yn is ym Merthyr Tudful. Ledled Cymru, mae lefelau presenoldeb disgyblion yn is yn 2021-2022 nag oeddent cyn pandemig COVID-19. Mewn ysgolion cynradd sy’n cael eu cynnal, roedd presenoldeb yn 2021-2022 yn 89%, o gymharu â 94.6% yn 2018-2019. Mewn ysgolion uwchradd sy’n cael eu cynnal, roedd presenoldeb yn 2021-2022 yn 83.7%, o gymharu â 93.8% yn 2018-2019.

Mewn llawer o awdurdodau lleol, mae disgyblion yn cael cyfleoedd da i ddylanwadu ar waith gwasanaethau addysg a lleisio eu barn ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu cymunedau. Er enghraifft, ar Ynys Môn, mae disgyblion wedi cyfrannu at arolwg ‘dweud eich dweud’, gan drafod eu profiadau o fyw ar Ynys Môn a chyfeirio at agweddau fel eu gobeithion ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Ym Merthyr Tudful, arweiniodd pobl ifanc ar ddatblygu fersiwn i bobl ifanc o strategaeth ‘Codi Dyheadau, Codi Safonau’ yr awdurdodau lleol ac, yn Abertawe, cyfrannodd disgyblion at recriwtio’r Cyfarwyddwr Addysg.

Gwasanaethau addysg

Ym mhob arolygiad, rydym yn gwerthuso pa mor dda y cynorthwyodd awdurdodau lleol ysgolion i wella. Mewn llawer o’r awdurdodau lleol a arolygwyd y llynedd, fe wnaethom ddarganfod fod swyddogion wedi meithrin perthynas waith gadarnhaol â’u consortiwm rhanbarthol. Cyfrannodd hyn at sicrhau bod prosesau i gynorthwyo ysgolion i wella yn effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer rhannu gwybodaeth am ysgolion y mae angen cymorth ychwanegol arnynt a threfniadau’r ‘Tîm o amgylch yr ysgol’. Yn yr achosion hyn, cydweithiodd swyddogion o’r gwasanaethau gwella ysgolion ag arweinwyr gwasanaethau awdurdod lleol, fel lles addysg a chynhwysiant, i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth gytûn a chadarn o gryfderau a diffygion pob ysgol. Helpodd y berthynas waith agos hon i swyddogion ymyrryd a chynnig cymorth y cyn gynted ag y nodwyd risg. Mewn gwasanaethau addysg lle mae prosesau gwella ysgolion yn wannach, roedd cyflymder y gwelliant mewn ysgolion sy’n peri pryder yn rhy araf. Roedd hyn yn rhannol oherwydd na wnaeth swyddogion yr awdurdod lleol herio swyddogion o’r gwasanaeth gwella ysgolion yn ddigon da ynghylch y cymorth mae ei ysgolion yn ei gael.

Yn Abertawe, fe wnaethom ddarganfod fod swyddogion yn gweithio’n rhagweithiol ag ysgolion i adnabod a chefnogi arweinwyr ysgolion y dyfodol, gan gynnwys ar gyfer ysgolion lle mae’n anoddach recriwtio o bryd i’w gilydd, fel ysgolion Catholig. Helpodd yr ymagwedd hon i sicrhau bod arweinyddiaeth mewn ysgolion yn Abertawe yn gryf. Yn y cyfnod o dair blynedd cyn y pandemig, barnwyd bod gan y rhan fwyaf o’r ysgolion a arolygwyd yn Abertawe arweinyddiaeth a rheolaeth dda neu ragorol, sef proffil gwell nag unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru. Gallwch ddarllen am y gwaith hwn yn yr astudiaeth achos yma.

Cynigiodd pob awdurdod lleol gymorth i ysgolion i ddatblygu eu cwricwla yn unol â gofynion y Cwricwlwm i Gymru. Yn aml, darparwyd y gwaith hwn trwy gonsortia rhanbarthol, er bod ychydig o awdurdodau lleol wedi ymgysylltu â mentrau ar ben y rhaglen genedlaethol o gymorth cwricwlaidd. Er enghraifft, yng Nghaerdydd, datblygodd swyddogion gwrs ‘cyfrifiant yn y cwricwlwm’ mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe. Roedd y cwrs hwn yn cynorthwyo ymarferwyr i ystyried cynllunio’r cwricwlwm ar gyfer cyfrifiadura, yn gysylltiedig â gwyddoniaeth a thechnoleg. Ar Ynys Môn, roedd yr awdurdod yn rhan o grŵp gorchwyl a gorffen cenedlaethol a oedd yn gweithio ar ddiweddaru’r polisi addysg cydberthynas a rhywioldeb i gyd-fynd â’r gofynion newydd yn y Cwricwlwm i Gymru. Fodd bynnag, yn gyffredinol, nid oedd cymorth cwricwlaidd wedi’i deilwra’n ddigon da i anghenion ysgolion unigol neu grwpiau o ysgolion, fel ysgolion arbennig a gynhelir. Ysgrifennom yn fanwl am ansawdd y cymorth i ysgolion gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol yn ein hadroddiad yn 2022, Y Cwricwlwm i Gymru: Sut mae consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn cynorthwyo ysgolion?

Ym mhob arolygiad, rydym yn ystyried agwedd ar ba mor dda mae’r awdurdod lleol yn cynorthwyo pobl ag anghenion dysgu ychwanegol neu’r rhai sy’n fregus. Ym Merthyr Tudful, gwerthusom ddarpariaeth i ddisgyblion ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Fe wnaethom ddarganfod fod swyddogion yr awdurdod lleol wedi meithrin perthynas ag ysgolion wedi’i seilio ar gydymddiriedaeth a pharch a bod y gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod lleol i gefnogi anghenion disgyblion yn uchel eu parch ymhlith ysgolion. Yn Nhorfaen, fe wnaethom ddarganfod cryfderau yn y modd y mae’r awdurdod lleol yn cynorthwyo ei ysgolion a lleoliadau eraill i ddarparu ar gyfer disgyblion ag ADY. Roedd y rhain yn cynnwys cynnig cymorth ac arweiniad defnyddiol ar baratoi ar gyfer diwygio ADY a threfniadau sy’n cael eu deall yn dda ar gyfer atgyfeiriadau. Yng Nghaerdydd, gwerthusom y ddarpariaeth y gwnaeth yr awdurdod lleol i blant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n siarad Saesneg neu Gymraeg fel iaith ychwanegol. Fe wnaethom ddarganfod cryfderau yng nghymorth y cyngor i geiswyr lloches a ffoaduriaid, a lluniodd swyddogion astudiaeth achos am y gwaith hwn.

Cymorth Cyngor Caerdydd i ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Canfu arolygwyr fod Cyngor Caerdydd yn darparu lefel uchel o gymorth i geiswyr lloches a ffoaduriaid sy’n cyrraedd yr ardal. Mae hyn yn cynnwys darparu cymorth hynod effeithiol ar gyfer anghenion addysgol plant sy’n newydd gyrraedd trwy drefnu cyfleoedd dysgu iddynt yn gyflym. Er enghraifft, cyn pen pythefnos o gyrraedd y ddinas yn nhymor yr hydref 2021, cydlynodd swyddogion addysgu i grwpiau mawr o blant o Affganistan. Roedd hyn yn cynnwys ffoaduriaid a gafodd eu lletya yng Nghaerdydd cyn cael eu gwasgaru i rannau eraill o Gymru. Cydweithiodd yr awdurdod lleol ag ysgolion cynradd ac uwchradd lleol i ryddhau athrawon sy’n siarad ieithoedd perthnasol i gefnogi’r disgyblion hyn. Gallwch ddarllen mwy am y gwaith hwn yma.

Gwnaethom argymhellion i dri awdurdod lleol wella agweddau ar eu gwasanaethau i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion lles. Yng Nghaerdydd, roedd y ffocws ar wella effaith darpariaeth addysg ran-amser i ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Yng Nghyngor Torfaen, roedd angen gwelliannau yn arweinyddiaeth y gwasanaethau i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a strategaeth y cyngor ar gyfer y gwaith hwn. Gwnaeth Cyngor Sir Powys gynnydd da wrth fynd i’r afael â’r argymhelliad i wella ei ddarpariaeth i ddysgwyr ag anghenion addysgol arbennig a disgyblion eraill y mae angen cymorth ychwanegol arnynt. Gallwch ddarllen am waith y Cyngor i wella gwerthuso, cynllunio a chydlynu ei ddarpariaeth ar gyfer y dysgwyr hyn yma.

Y llynedd, adolygom waith gwasanaethau ieuenctid mewn tri awdurdod lleol fel rhan o drefniadau arolygu peilot. Fe wnaethom ddargafnod, trwy eu hymgysylltiad â gweithwyr ieuenctid a chymryd rhan mewn sesiynau addysg bersonol a chymdeithasol, fod llawer o bobl ifanc yn gwella eu medrau cymdeithasol a’u hymwybyddiaeth o faterion iechyd. Gwellodd llawer ohonynt eu medrau ymarferol hefyd, er enghraifft trwy sesiynau cyfrwng Cymraeg a Saesneg ar sut i adeiladu go-certi modurol. Gwnaeth y rhan fwyaf o bobl ifanc a oedd yn cael cymorth addysgol targedig gan weithwyr ieuenctid gynnydd gwerthfawr ac ennill cymwysterau defnyddiol.

Roedd y sector gwaith ieuenctid yn aml yn arloesol yn y modd y ceisiodd dyfu darpariaeth a chael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau addysgol pobl ifanc. Er enghraifft, datblygodd gwasanaeth ieuenctid Caerdydd arlwy digidol arloesol dan arweiniad pobl ifanc. Mae manylion am y gwaith hwn i’w weld yma. Ym Merthyr Tudful, cyflwynodd gweithwyr ieuenctid raglenni a oedd yn galluogi disgyblion a dargedwyd i ennill cymwysterau perthnasol a chynorthwyo’r rhan fwyaf ohonynt i symud ymlaen yn llwyddiannus i’r cam newydd yn eu haddysg neu gyflogaeth, sy’n cael ei nodi yn yr astudiaeth achos hon a luniwyd gan yr awdurdod lleol. Ariannodd gwasanaeth ieuenctid Torfaen seicolegydd addysg i gefnogi gweithwyr ieuenctid a llywio eu harfer, gan gynnwys hyfforddiant ar sut i ddefnyddio ymagweddau therapiwtig ymddygiadol gwybyddol i ddarparu ymyriadau i bobl ifanc.

Cameo: Gwasanaethau ieuenctid awdurdod lleol Torfaen

Mae Seicolegydd Addysg (SA) yn cynnig cymorth i Wasanaeth Ieuenctid Torfaen ar dair lefel: unigol, grŵp a systematig. At lefel unigol, mae’r SA yn cynnig ymgynghoriad un-i-un i uwchsgilio a grymuso gweithwyr ieuenctid, sy’n cynnwys eu cynorthwyo i ddarparu cymorth wedi’i deilwra i bobl ifanc. Ar lefel grŵp, mae’r SA yn cynnig sesiynau myfyrio wythnosol, gweithdai ar sail thema wedi’u hysbrydoli gan faterion cyfredol a sesiynau galw heibio i drafod pobl ifanc neu grwpiau penodol. Ar lefel systematig, mae’r SA yn cynnig hyfforddiant perthnasol ar bynciau fel ymagweddau wedi’u llywio gan drawma neu ddefnyddio gweithgareddau seicolegol penodol i gael barn pobl ifanc. Lle y bo’n briodol, mae’r SA yn cysylltu ag asiantaethau eraill i ddarparu hyfforddiant pwrpasol perthnasol.

At ei gilydd, roedd y gwasanaethau gwaith ieuenctid awdurdodau lleol a arolygom yn cynnig cymorth gwerthfawr i bobl ifanc trwy ddarpariaeth dargedig, allgymorth a mynediad agored. Roedd gweithwyr ieuenctid yn darparu cymorth buddiol iawn i iechyd a lles emosiynol pobl ifanc. Er enghraifft, roeddent yn cynnig cymorth effeithiol a sensitif i ofalwyr ifanc, pobl ifanc fregus a’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i’w helpu i ddatblygu’r medrau sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau llwyddiannus a boddhaus yn y gymdeithas. Maent yn cynnig cymorth da i bobl ifanc LHDTC+ yn ôl yr angen. Roedd targedu meysydd â blaenoriaeth ar sail anghenion economaidd-gymdeithasol yn effeithiol o ran bodloni anghenion y bobl ifanc hynny. Fodd bynnag, roedd y targedu hwn yn cyfyngu ar gyfleoedd i bobl ifanc o bob cefndir elwa ar ddarpariaeth gwaith ieuenctid neu’r cymorth a ddarperir gan weithwyr ieuenctid.

Yn yr holl awdurdodau lleol a arolygwyd, roedd enghreifftiau da o weithwyr ieuenctid unigol a oedd yn medru’r Gymraeg a oedd yn ymgysylltu’n dda â phobl ifanc Cymraeg eu hiaith ac yn eu hannog i ddefnyddio eu medrau iaith y tu allan i leoliadau ysgol ffurfiol. Yn yr enghreifftiau gorau, roeddent yn normaleiddio defnyddio’r iaith mewn gweithgareddau a oedd yn apelio at bobl ifanc. Fodd bynnag, at ei gilydd, roedd cynllunio strategol a phwrpasol i gynyddu’r defnydd o’r iaith trwy arlwy cynlluniedig rhagweithiol naill ai’n annatblygedig neu yn y camau cynnar o’u datblygu.

Cydweithiodd arweinwyr gwaith ieuenctid yn effeithiol ag adrannau eraill yr awdurdod lleol a sefydliadau partner, gan gynnwys y sector gwirfoddol, i sicrhau darpariaeth eang sy’n esblygu i fodloni anghenion pobl ifanc. Yn yr enghreifftiau gorau, roedd arweinwyr yn arloesol yn y modd y cawsant gyllid ychwanegol i gynnal a thyfu arlwy eu gwaith ieuenctid i bobl ifanc. Gwnaethant fonitro ansawdd darpariaeth gwaith ieuenctid yn effeithiol ac ymgynghori’n dda â phobl ifanc i asesu’r gwasanaethau maent yn manteisio arnynt a sicrhau bod eu llais yn dylanwadu ar benderfyniadau polisi.

Ym Merthyr Tudful, gwerthusom waith y gwasanaeth addysg i leihau effaith tlodi a difreintedd ar ddysgu disgyblion. Fe wnaethom ddarganfod fod swyddogion wedi meithrin partneriaethau gwerthfawr trwy rwydwaith o wasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod lleol a sefydliadau’r trydydd sector. Sefydlodd yr awdurdod lleol Grŵp Strategol Trechu Tlodi i gynnig arweinyddiaeth a llywodraethu ar gyfer y gwaith hwn. Mae’r grŵp yn cynnwys penaethiaid gwasanaeth ar draws yr awdurdod lleol ac ystyriodd sut y gellid defnyddio adnoddau mewn modd bwriadus i fynd i’r afael â difreintedd trwy waith trawsgyfarwyddiaeth a gweithio mewn partneriaeth. Ar draws gwasanaethau, roedd gan swyddogion yr awdurdod lleol drosolwg cynhwysfawr o anghenion dysgwyr bregus a’u teuluoedd.

Ar lefel weithredol, cydweithiodd arweinwyr gwasanaethau ar draws cyfarwyddiaethau â’i gilydd yn dda. Mae ganddynt ddealltwriaeth glir o sut mae eu darpariaeth yn rhan o ymateb amlwasanaeth i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar addysg. Mae’r Hwb Cymorth Cynnar yn cynnig man cyswllt canolog defnyddiol i deuluoedd fanteisio ar gymorth ac yn hwyluso gwaith amlasiantaeth effeithiol. Mae’r dull hwn yn osgoi dyblygu gwasanaethau’n ddiangen ac yn helpu plant a’u teuluoedd i gael y cymorth priodol ar gyfer eu hanghenion mewn modd amserol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae atgyfeiriadau o ysgolion i’r Hwb Cymorth Cynnar wedi dyblu. Roedd ffocws cryf ar leihau effaith tlodi ar draws holl gyfarwyddiaethau’r cyngor yn Abertawe hefyd. Adlewyrchwyd y flaenoriaeth hon yng ngwaith yr holl dimau yn y gyfarwyddiaeth addysg. Trwy gymryd rhan yn fforwm tlodi’r awdurdod, mae swyddogion y tîm addysg wedi gallu ystyried y ffordd orau i gefnogi ysgolion, er enghraifft trwy rannu gwybodaeth am ddefnyddio undebau credyd.

Arweinyddiaeth a rheolaeth

Cryfhaodd y cymorth i gymunedau addysg gan arweinwyr awdurdodau lleol ac aelodau etholedig yn ystod pandemig COVID-19 y berthynas rhwng gwasanaethau addysg ac ysgolion. Bu hyn yn fuddiol o ran meithrin ymddiriedaeth a hyder ymhlith rhanddeiliaid yng ngwaith swyddogion mewn gwasanaethau addysg wrth i ysgolion a darparwyr addysg eraill ddychwelyd i ffyrdd mwy arferol o weithio. Ar Ynys Môn, cefnogodd y perthnasoedd gwell hyn ymgysylltiad gwell i drafod a chasglu safbwyntiau ar faterion sensitif, er enghraifft ar ad-drefnu ysgolion yn ardal Llangefni, gyda thrafodaethau’n arwain at gynnig gwahanol i’r un a gyflwynwyd yn wreiddiol.

Yng Nghaerdydd, cydweithiodd cadeirydd y pwyllgor craffu plant a phobl ifanc yn effeithiol â’r pedwar cadeirydd craffu arall, gan sicrhau bod addysg wrth wraidd penderfyniadau yn ymwneud â COVID-19. Aliniodd cyfarwyddwr cynorthwyol addysg Caerdydd a’i gydweithiwr sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch eu gwaith yn effeithiol ar hyd y pandemig. O ganlyniad, roedd gwasanaethau addysg yn gallu ymateb yn gyflym i anghenion ysgolion a darparwyr addysg eraill wrth i’r sefyllfa o ran COVID-19 newid. Cafodd y gefnogaeth hon ei chroesawu’n fawr gan arweinwyr ysgolion a lleoliadau.

Y llynedd, fe wnaethom ddarganfod fod craffu ar wasanaethau addysg yn gadarn mewn llawer o awdurdodau lleol. Yn Abertawe, mae’r panel craffu ar addysg yn ymgysylltu’n dda ag ysgolion ac yn cynnwys safbwyntiau disgyblion ac arweinwyr ysgolion wrth werthuso eitemau agenda sy’n dod ger eu bron, lle bo hynny’n briodol. Yng Nghaerdydd, mae’r pwyllgor craffu plant a phobl ifanc yn cynnig craffu cryf ac amserol ar nifer o faterion perthnasol y mae addysg yn yr awdurdod lleol yn eu hwynebu, gan gynnwys cynigion sensitif yn ymwneud ag ad-drefnu ysgolion. Mae aelodau’r pwyllgor yn mynd ar drywydd meysydd â ffocws ac yn ysgrifennu at yr aelod cabinet i fynegi eu harsylwadau ynghyd ag argymhellion sy’n cynnig her addas. Fodd bynnag, ym Merthyr Tudful, nid yw aelodau’r pwyllgor craffu ar wasanaethau addysg llywodraeth leol yn cynnig her ddigon cadarn i’r aelod cabinet na swyddogion i sicrhau atebolrwydd digonol na hyrwyddo gwelliant.

Y llynedd, paratôdd awdurdodau lleol eu Cynlluniau Strategaeth Cymraeg mewn Addysg (CSGA) ar gyfer y cyfnod o 10 mlynedd rhwng 2022 a 2032. Mae ansawdd ac uchelgais y cynlluniau hyn yn amrywio’n fawr. Mae’r cynlluniau gorau yn finiog ac yn glir ynghylch eu nodau, ac maent yn cynnig sicrwydd ynghylch gweithredu. Mae cynlluniau llai llwyddiannus yn brin o uchelgais a manylion gweithredu.

Mae’r amrywiad ledled Cymru o ganlyniad i’r cyd-destun ieithyddol a phatrwm strwythurol darpariaeth ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg, i ryw raddau. Er enghraifft, yn y de-ddwyrain a’r gogledd-ddwyrain, yr arfer yw bod ag ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg dynodedig ac nid oes llawer o amrywiad i’r trefniant hwn. Yn y gogledd-orllewin a’r de-orllewin, mae patrymau cymhleth o ysgolion cyfrwng Cymraeg ynghyd â chontinwwm o drefniadau amrywiol o ran darpariaeth.

Yn y de-ddwyrain, mae cyfeiriadau at gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn bennaf yn gyfyngedig. Mae cynlluniau’n amlygu nodau naill ai i lenwi’r lleoedd gwag sy’n bodoli eisoes yn y sector addysg cyfrwng Cymraeg neu agor ysgolion newydd mewn ardaloedd sy’n llai hygyrch i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd.

Mewn awdurdodau lleol yn y de-orllewin a’r gogledd-orllewin, mae’r darlun yn fwy cymysg. Mae pum awdurdod lleol yn datgan yn glir eu dyhead i gynyddu darpariaeth Gymraeg mewn ysgolion sy’n rhai cyfrwng Saesneg yn bennaf neu sydd â ffrwd Gymraeg. Er enghraifft, yn ei gynllun, mae Ceredigion yn nodi’r camau tuag at sicrhau bod chwech o’r saith ysgol uwchradd yn cynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn sylweddol yn ystod cyfnod deng mlynedd y CSCA. Mae’n nodi’r camau tuag at wireddu’r nodau hyn, er enghraifft trwy ymgysylltu â chyrff llywodraethol yr ysgolion hynny fel rhan o’r ymgynghoriad cychwynnol.

Yn yr awdurdodau lleol a arolygom, gwerthusom gynnydd yr awdurdodau lleol o ran cyflawni eu cynlluniau blaenorol ar gyfer datblygu’r Gymraeg mewn addysg. Ym Merthyr Tudful, datblygodd swyddogion gynllun gweithredu o’u strategaeth Cymraeg i hyrwyddo manteision addysg cyfrwng Cymraeg a gwella safonau Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg. Nod y strategaeth yw creu amgylchedd lle mae’r Gymraeg yn rhan fwy o fywyd pob dydd pobl ym Merthyr Tudful – sef ‘shwmaeronment’. Yng Nghaerdydd, mae swyddogion ac aelodau etholedig wedi buddsoddi mewn ystod addas o brosiectau cyfalaf i gynyddu nifer y lleoedd mewn addysg cyfrwng Cymraeg a chydnabod yr angen i fod yn rhagweithiol wrth gynllunio lleoedd ysgol i sbarduno galw am addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y ddinas.

Yn Nhorfaen, fe wnaethom ddarganfod fod yr awdurdod lleol wedi rhoi mwy o ffocws ar ddatblygu ei ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae digon o leoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg i fodloni’r galw uniongyrchol a thwf yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid yw dysgwyr sy’n dymuno manteisio ar ddarpariaeth ôl-16 trwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu manteisio ar yr un amrediad o gyrsiau â’r rhai sy’n astudio trwy gyfrwng y Saesneg. Mewn tri o’r awdurdodau lleol, gwnaethom argymhellion yn ymwneud â sicrhau bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol yn bodloni anghenion dysgwyr yn eu hawdurdodau. Ysgrifennom yn fanwl am effeithiolrwydd defnydd awdurdodau lleol o addysg drochi Cymraeg fel modd o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn ein hadroddiad, Addysg Drochi Cymraeg – Strategaethau a dulliau i gefnogi dysgwyr 3-11 mlwydd oed.

Y llynedd, yn unol â blynyddoedd blaenorol, fe wnaethom ddarganfod wendidau ym mhrosesau hunanwerthuso awdurdodau lleol, yn enwedig ar lefel meysydd gwasanaeth. Nid yw swyddogion yn defnyddio’r wybodaeth sydd ar gael iddynt i gefnogi eu prosesau gwerthuso yn ddigon da nac yn pennu meini prawf llwyddiant digon manwl i fesur llwyddiant yn eu herbyn. Mae hyn yn golygu nad yw prosesau gwerthuso yn ddefnyddiol i awdurdodau lleol o ran nodi meysydd i’w gwella â blaenoriaeth. Gwnaethom argymhellion yn ymwneud â gwella prosesau hunanwerthuso mewn pedwar o’r gwasanaethau addysg llywodraeth leol y gwnaethom eu harolygu y llynedd. Mae’r adnodd hwn yn darparu sbardunau hunanfyfyrio i gynorthwyo swyddogion mewn gwasanaethau addysg llywodraeth leol i werthuso eu gwaith.

Ym mhob awdurdod lleol a arolygwyd y llynedd, fe wnaethom ddarganfod fod cynghorau wedi blaenoriaethu cyllid ar gyfer addysg. Er enghraifft, ym Merthyr Tudful, cynyddodd a diogelodd yr awdurdod lleol ei gyllideb addysg ar adeg o bwysau cyllidebol ar draws yr awdurdod ac, ar gyfer 2021-2022, cynyddodd ei gyllideb addysg uwchlaw’r cyfartaledd yng Nghymru. Yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, cynyddodd cronfeydd wrth gefn cyffredinol ysgolion yn sylweddol yn ystod blwyddyn ariannol 2020-2021, yn bennaf oherwydd y cyllid ychwanegol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru. Serch hynny, mae ychydig o ysgolion yn yr awdurdodau lleol a arolygwyd gennym yn rhagweld diffygion ariannol yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf. Cydweithiodd timau cyllid awdurdodau lleol yn effeithiol i fonitro cyllidebau ysgolion a chynorthwyo ysgolion i reoli gwargedion neu ddiffyg yn y gyllideb.

Yn ystod y cylch arolygiadau cyfredol, rydym wedi canolbwyntio’n agosach ar y diwylliant diogelu mewn gwasanaethau addysg awdurdodau lleol. Mewn llawer o awdurdodau lleol, fe wnaethom ddarganfod fod dealltwriaeth gorfforaethol gref fod diogelu o bwys i bawb. Yn yr awdurdodau hyn, mae uwch aelodau staff yn ymgymryd â rôl swyddogion diogelu dynodedig ac yn rhoi arweiniad clir i ysgolion a lleoliadau ar bolisïau ac arferion i gadw dysgwyr yn ddiogel. Fodd bynnag, yn awdurdod lleol Torfaen, fe wnaethom ddarganfod nad oedd gan aelodau etholedig drosolwg ddigon cryf o ddiogelu mewn addysg.