Mynd i'r cynnwys
Tenis bwrdd yn y coleg

Adroddiad sector: Colegau arbenigol annibynnol 2021-2022

7

Nifer y colegau arbenigol annibynnol ym mis Ionawr 2022

7

Nifer y colegau arbenigol annibynnol ym mis Ionawr 2021

Mae colegau arbenigol annibynnol yn addysgu tua 200 o ddysgwyr ledled Cymru sy’n 16 oed neu’n hŷn. Mae’r colegau’n darparu ar gyfer ystod amrywiol o anghenion dysgwyr, gan gynnwys anhwylderau sydd â’r cyflyrau awtistiaeth, anawsterau emosiynol ac ymddygiadol, ac anawsterau dwys a lluosog. Mewn pedwar o’r colegau, mae llawer o ddysgwyr yn byw mewn cartrefi preswylwyr sy’n gysylltiedig â’r coleg.

Ariennir bron pob un o’r lleoliadau mewn colegau arbenigol annibynnol gan Lywodraeth Cymru yng Nghymru neu gan awdurdodau lleol i ddysgwyr o Loegr.


Arolygiadau craidd ac ymweliadau monitro

Yn ogystal ag arolygiadau llawn, rydym yn cynnal ymweliadau monitro rheolaidd â cholegau arbenigol annibynnol. Mae’r ymweliadau hyn yn ystyried y cynnydd a wnaed gan y colegau yn erbyn argymhellion penodol o arolygiadau craidd ac ymweliadau monitro blaenorol.

Eleni, fe wnaethom gynnal pump ymweliad monitro a dim un arolwg craidd. Mae canfyddiadau’r holl ymweliadau hyn wedi llywio’r adroddiad hwn.


Dysgu

Dros gyfnod, gwnaeth llawer o ddysgwyr gynnydd cryf mewn perthynas â’u mannau cychwyn unigol. Fe wnaethant ddatblygu medrau cyfathrebu a’u medrau ymarferol yn arbennig o dda. Er enghraifft, fe wnaethant ddilyn rysáit gweledol i goginio pryd i swper neu ddefnyddio arwyddion i wneud mainc dderw yn yr ardal gwaith coed.

Mewn tri choleg, datblygodd llawer o ddysgwyr eu medrau ymarferol trwy dasgau pwrpasol a oedd wedi’u cynllunio’n dda mewn ystod o gyd-destunau realistig. Er enghraifft, mewn un coleg, gwnaeth dysgwyr fachau cotiau a dolenni drysau mewn gefail, casglu wyau ar y fferm a thyfu bwyd i’w ddefnyddio yng nghegin y coleg a chartrefi preswyl. Fe wnaethant ddilyn arferion sefydledig i gwblhau tasgau’n fwyfwy annibynnol, fel creu rhestrau siopa, prynu cynhwysion a gwneud teisennau fel rhan o’u cwricwlwm medrau bywyd.

Ym mhob un o’r colegau, cwblhaodd y rhan fwyaf o ddysgwyr gymwysterau neu achrediad perthnasol yn llwyddiannus. Fodd bynnag, parhaodd y cyfyngiadau a osodwyd gan bandemig COVID-19 i effeithio ar gynnydd dysgwyr, yn enwedig o ran parodrwydd dysgwyr ym mlwyddyn olaf eu cwrs i symud ymlaen yn llwyddiannus i’r cam nesaf yn eu bywyd a’u dysgu.

Lles ac agweddau at ddysgu

Gwnaeth llawer o ddysgwyr gynnydd gwerthfawr yn datblygu eu hyder a’u gwydnwch ar draws ystod werthfawr o brofiadau dysgu a oedd yn cynorthwyo i ddatblygu eu lles yn effeithiol.

Cyfranogodd llawer o ddysgwyr yn dda mewn gwersi. Roeddent yn deall ac yn dilyn arferion yn briodol ac yn gweithio’n gadarnhaol â’u cyfoedion i gwblhau tasgau’n annibynnol neu fel rhan o grŵp. Er enghraifft, fe wnaethant gydweithio’n frwdfrydig mewn sesiynau cerddoriaeth a chynorthwyo ei gilydd yn dda wrth wirio iechyd moch cwta yn eu sesiwn gofal anifeiliaid.

Datblygodd y rhan fwyaf o ddysgwyr berthynas waith gref â’r staff addysgu a’u cyfoedion. Oherwydd y cymorth medrus a gawsant, roeddent yn teimlo’n ddiogel yn ystod sesiynau, a oedd yn eu helpu i ymgysylltu’n dda, rheoli eu hymddygiad eu hunain a gwella ansawdd eu gwaith. Gyda’u cyfoedion, dangosodd y rhan fwyaf o ddysgwyr barch tuag at ei gilydd a dathlu cyflawniadau gyda’i gilydd yn gadarnhaol.

Addysgu a phrofiadau dysgu

Ym mhob coleg, darparodd tiwtoriaid a staff cymorth gefnogaeth sylwgar a gofalus. Roeddent yn adnabod anghenion eu dysgwyr yn dda ac yn meithrin perthynas waith gadarnhaol â nhw.

Cynlluniodd tiwtoriaid yn ofalus i gynnig ystod berthnasol ac ystyrlon o brofiadau dysgu, y gwnaethant eu haddasu’n ofalus i fodloni anghenion amrywiol ar draws y coleg. Mewn llawer o achosion, parhaodd cynllunio i ganolbwyntio’n gryf ar weithgareddau a oedd yn hyrwyddo lles dysgwyr yn benodol. Rheolodd tiwtoriaid beryglon yn gysylltiedig â’r gweithle yn ofalus a datblygodd dysgwyr ddealltwriaeth gref o ystyriaethau iechyd a diogelwch perthnasol.

Helpodd yr ymagwedd hon i gynorthwyo i ddatblygu gwydnwch dysgwyr, ynghyd â medrau annibyniaeth a medrau bywyd gwerthfawr, gan gynnwys hyfforddiant teithio, rheoli arian a medrau cyfweld.

Cameo: Aspris College South

Yn 2021, symudodd y coleg i adeilad newydd, sy’n cynnwys ystafelloedd dysgu a lles, ystafell TGCh, cegin addysgu, ystafell dawel a swyddfeydd clinigol. Mae’r adeilad hwn yn cynnig amgylchedd dysgu dymunol a chroesawgar sy’n bodloni anghenion dysgwyr yn arbennig o dda. Mae’r coleg hefyd wedi buddsoddi mewn rhandir lleol, sydd yn ei ddyddiau cynnar o ran cael ei ddatblygu.

Un o nodweddion hynod adeilad newydd y coleg yw ‘caffi gwaith’. Mae’r adnodd hynod fuddiol hwn yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddysgwyr gwblhau profiad gwaith mewn amgylchedd adnabyddus sydd ar agor i’r cyhoedd. Mae dysgwyr yn defnyddio’r adnodd hwn yn effeithiol i ddatblygu eu medrau cymdeithasol, technoleg bwyd a rheolaeth ariannol a’u dealltwriaeth ohonynt. Maent hefyd yn elwa ar gwblhau cymwysterau hylendid bwyd.

Lle’r oedd diffygion mewn addysgu, roedd hyn oherwydd nad oedd addysgu’n bodloni anghenion cymhleth dysgwyr yn ddigon da. Mewn dau goleg, roedd gormod o amrywioldeb yn nealltwriaeth staff addysgu a’r modd roeddent yn cymhwyso strategaeth cyfathrebu i gefnogi anghenion cyfathrebu dysgwyr. Mewn un coleg, nid oedd tiwtoriaid yn cynllunio’n ddigon da i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a TGCh yn raddol ac nid oedd adborth tiwtoriaid yn nodi’n ddigon clir beth roedd angen i ddysgwyr ei wneud i wella eu gwaith.

Gofal, cymorth ac arweiniad

Roedd y pedwar coleg yr ymwelwyd â nhw eleni yn cynnig amgylchedd tawel, cefnogol a meithringar sy’n hyrwyddo lles dysgwyr yn effeithiol. Er gwaetha’r heriau sylweddol a achoswyd gan y pandemig, parhaodd staff i addasu ymagweddau’n hyblyg i fodloni anghenion dysgwyr a hyrwyddo eu diogelwch a’u lles corfforol. O ganlyniad, roedd gan y rhan fwyaf o ddysgwyr lefelau uchel o les a oedd, yn ei dro, yn sicrhau bod llawer ohonynt yn gwneud cynnydd cadarn o leiaf yn eu dysgu.

Mewn pedwar o’r colegau, addasodd a diwygiodd arweinwyr eu darpariaeth yn briodol i alluogi dysgwyr i barhau ar eu rhaglenni a chadw cofnodion manwl o gynnydd dysgwyr yn ystod y cyfnod hwn. Helpodd y monitro gofalus hwn i golegau asesu effaith y pandemig ar gynnydd dysgwyr a nodi ymatebion addas i fynd i’r afael â hyn. Er enghraifft, rhoddodd un coleg gynlluniau presenoldeb cadarn ar waith i gynorthwyo dysgwyr pryderus i ddychwelyd i addysg wyneb yn wyneb amser llawn.

Mewn un coleg yr ymwelwyd ag ef eleni, nid oedd y ddarpariaeth arbenigol a wnaed gan y coleg ei hun i gefnogi anghenion cymhleth dysgwyr wedi’i ddatblygu’n ddigonol. O ganlyniad, parhaodd llawer o ddysgwyr i ddibynnu ar gymorth a ddarparwyd gan dimau clinigol yn eu hawdurdod lleoli a’r bwrdd iechyd lleol i ddarparu arweiniad parhaus i fodloni eu hanghenion arbenigol, hyd yn oed ar ôl iddynt ymuno â’r coleg.

Arweinyddiaeth

Mewn tri o’r colegau, ymatebodd arweinwyr yn gadarnhaol i’r adborth o ymweliadau monitro blaenorol. Roedd ganddynt ddealltwriaeth gywir o gryfderau’r coleg a’i flaenoriaethau ar gyfer gwella, a rhoddwyd systemau priodol ar waith i sicrhau ansawdd a monitro cynnydd yn erbyn agweddau allweddol ar eu gwaith.

Mewn dau goleg, helpodd yr ymagwedd hon i sicrhau, er gwaetha’r heriau a achoswyd gan y pandemig, bod arweinwyr yn gallu gwneud gwelliannau sylweddol i adeilad a chyfleusterau’r coleg i gynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr. Fodd bynnag, mewn dau goleg, cafodd newidiadau diweddar i arweinyddiaeth y coleg, ynghyd â’r her o reoli’r coleg yn ystod y pandemig, effaith negyddol ar arweinyddiaeth strategol y coleg. Yn y colegau hyn, nid oedd prosesau gwerthuso a sicrhau ansawdd yn drylwyr ac nid oeddent yn llywio blaenoriaethau’r coleg ar gyfer gwella yn ddigon da.

Mewn dau goleg, nid oedd dysgu proffesiynol yn canolbwyntio’n ddigon da ar yr ystod lawn o anghenion dysgwyr sy’n mynychu’r coleg nac ymateb yn ddigon da iddynt. Mae’r adnodd hwn yn cynnig sbardunau hunanfyfyrio i gefnogi dysgu proffesiynol mewn colegau arbenigol annibynnol.

Yn gyffredinol, cadarnhaodd arweinwyr eu bod yn parhau i wynebu heriau sylweddol o ran recriwtio a chadw staff â chymwysterau a phrofiad addas, gan gynnwys recriwtio staff therapiwtig, yn ogystal â’r pwysau a achoswyd gan y cynnydd diweddar mewn costau i gynnig darpariaeth arbenigol oherwydd chwyddiant. Mynegodd arweinwyr bryderon parhaus am faterion yn deillio o roi diwygiadau ADY ar waith hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys trosglwyddo cyllid ar gyfer lleoliadau mewn colegau arbenigol o Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol, ynghyd â phryderon a nodwyd yn adroddiad thematig diweddar Estyn, Cyngor ac arweiniad diduedd ar yrfaoedd i bobl ifanc 14-16 oed a ddarperir gan gynghorwyr Gyrfa Cymru (Estyn, 2022), ynghylch didueddrwydd cyngor ac arweiniad i ddysgwyr mewn ysgolion arbennig yn y dyfodol wrth ystyried eu hopsiynau ôl-16.