Mynd i'r cynnwys
Disgybl ysgol gynradd yn gweithio'n galed

Diwygio anghenion dysgu ychwanegol

Cafodd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (‘y Ddeddf’) Gydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2018. Roedd yn darparu fframwaith statudol newydd ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc (hyd at 25 oed) sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae’r Ddeddf, y Cod a’r rheoliadau a wnaed o dano yn disodli deddfwriaeth bresennol ynghylch anghenion addysgol arbennig (AAA) ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu a/neu anableddau (ADA). Mae gweithredu’r system ADY a amlinellwyd yn y Ddeddf ADY ar gyfer plant yn cael ei gyflwyno’n raddol dros y blynyddoedd ysgol 2021-2022, 2022-2023 a 2023-2024.

O 1 Medi 2021, dechreuodd y system ADY ar gyfer pob plentyn hyd at, ac yn cynnwys, Blwyddyn 10 y credwyd yn ddiweddar bod ADY ganddynt, neu a oedd newydd eu dynodi ag ADY ar neu ar ôl 1 Medi 2021. O 1 Ionawr 2022, dechreuodd y system ADY ar gyfer plant hyd at, ac yn cynnwys, Blwyddyn 10 a oedd eisoes wedi’u dynodi ag AAA, yn derbyn darpariaeth addysg arbennig (DAA) drwy Weithredu Blynyddoedd Cynnar/a Mwy neu Weithredu Ysgol/a Mwy, ac yn mynychu meithrinfa awdurdod lleol, ysgol awdurdod lleol neu UCD ar 1 Ionawr 2022. Gweithredwyd hyn fesul cam ar draws grwpiau blwyddyn penodedig.

Ar ôl gwneud Gorchymyn Diwygio, ehangwyd yr amser a oedd ar gael i symud plant a oedd i fod i symud i’r system ADY rhwng Ionawr 2022 ac Awst 2022, er mwyn gallu eu symud yn ystod blwyddyn ysgol 2022 i 2023. Mae’n ofynnol i’r holl blant a phobl ifanc y dynodwyd bod ADY ganddynt fod â chynllun datblygu unigol (CDU) ar waith.

Er gwaetha’r tarfu a achoswyd gan y pandemig a’r heriau a greodd i ddarparwyr, parhaodd bron pawb i wneud cynnydd graddol wrth ddiwygio’u darpariaeth i fodloni gofynion y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol. Ym mhob achos bron, yr aelodau staff a oedd yn fwyaf cysylltiedig â chyflawni’r newidiadau, er enghraifft, roedd gan gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol (CydADY) mewn ysgolion ddealltwriaeth dda o’r gofynion newydd ac roeddent yn gadarnhaol ynglŷn â’r newidiadau. Yn benodol, ystyriwyd bod y symudiad tuag at arfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac ymglymiad cynyddol dysgwyr a rhieni wrth gynllunio ac adolygu darpariaeth, yn ddatblygiad cadarnhaol.

Fodd bynnag, roedd ymgorffori dealltwriaeth o ddiwygio anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ar draws yr holl staff mewn darparwyr yn fwy amrywiol. Mewn ysgolion cynradd, roedd CydADY yn llwyddiannus i raddau helaeth wrth ledaenu canllawiau a hyfforddiant i aelodau staff eraill. Roedd hyn yn fwy problemus mewn llawer o ysgolion uwchradd, gan ei bod yn heriol sicrhau bod yr holl staff addysgu yn sylweddoli bod darparu ar gyfer ADY yn gyfrifoldeb pawb, yn enwedig ble mae athrawon yn ystyried eu hunain yn arbenigwyr pwnc ac nad ydynt yn ystyried anghenion disgyblion ag ADY fel mater o drefn arferol wrth iddynt gynllunio a chyflwyno gwersi. Parhaodd darparwyr cyfrwng Cymraeg i fynegi pryderon ynglŷn ag argaeledd adnoddau Cymraeg i gefnogi gwaith ADY.

Roedd cymorth gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i gynorthwyo darparwyr i weithredu’r newidiadau yn ddefnyddiol, ar y cyfan. Er enghraifft, darparodd awdurdodau lleol gyfleoedd dysgu proffesiynol effeithiol, gan gynnwys gweithdai, modiwlau ar-lein, cyfleoedd i gael trafodaeth broffesiynol ac adnoddau o ansawdd da i staff eu defnyddio. Fe wnaeth y rhan fwyaf o leoliadau nas cynhelir elwa o hyfforddiant a chymorth awdurdod lleol drwy rôl statudol newydd Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar (SAADYBC).

Erbyn mis Gorffennaf, roedd bron yr holl ddarparwyr wedi llwyddo i ddechrau nodi’r dysgwyr hynny y mae angen ymyrraeth ADY arbenigol arnynt, a mapio’r anghenion darpariaeth gyffredinol ar gyfer dysgwyr eraill heb ADY. Yn y rhan fwyaf o ddarparwyr, sicrhaodd arweinwyr ystod o ymyriadau addas, pecynnau cymorth a darpariaeth cwricwlwm i fynd i’r afael ag anghenion disgyblion ag ADY ar bobl lefel. Mewn llawer o leoliadau nas cynhelir, dechreuodd arweinwyr ddatblygu proffiliau un dudalen ar gyfer plant a’u galluogodd i ddynodi dewisiadau, diddordebau ac anghenion datblygol plant yn glir wrth iddynt ddod i mewn i’r lleoliad. Mewn ychydig o sectorau, roedd darparwyr yn cydweithio i ddatblygu eu darpariaeth a sicrhau cysondeb. Er enghraifft, roedd llawer o CydADY mewn ysgolion cynradd yn gweithio mewn partneriaeth â’u clwstwr ysgolion i greu pamffledi a llythyrau i roi gwybod i rieni am ddiwygio ADY. Mewn ysgolion arbennig, mae arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wedi bod yn elfen sefydledig o’u darpariaeth am gyfnod sylweddol. Fe wnaeth hyn eu rhoi mewn sefyllfa dda i weithredu diwygiadau ADY a’u galluogi i ddarparu cymorth i gydweithwyr mewn ysgolion prif ffrwd i ddatblygu arferion effeithiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac i ddylanwadu ar ddylunio a defnyddio CDUau.

Nid yw dysgwyr yn y sector ôl-16 wedi’u heffeithio eto gan ddiwygio ADY. Fel rhan o’n hadroddiad thematig ar waith cynghorwyr Gyrfa Cymru, fe wnaethon ddarganfod fod dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, a’u rhieni, yn gwerthfawrogi’r cymorth arbenigol a gânt gan gynghorwyr Gyrfa Cymru i gynllunio ar gyfer pontio i ddarpariaeth addysg arbenigol ôl-16. Ceir ansicrwydd yn y system o hyd ynghylch sut bydd y cyngor annibynnol a diduedd hwn yn cael ei ddarparu o dan drefniadau yn y dyfodol lle bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am ariannu lleoliadau ôl-16 arbenigol, a sut gallai hynny effeithio ar bontio dysgwyr i addysg bellach mewn colegau arbenigol annibynnol neu ddarpariaeth medrau byw’n annibynnol mewn colegau addysg bellach.