Mynd i'r cynnwys
Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Yn gyffredinol, mae partneriaethau’n cynnig cyrsiau sydd wedi’u teilwra’n dda i ddysgwyr ag ystod o anghenion dysgu neu sydd wedi cael profiadau blaenorol bylchog, amharedig neu anhapus o addysg ffurfiol.
  • Mae tiwtoriaid yn darparu cymorth dysgu unigol defnyddiol i fodloni anghenion eu dysgwyr.
  • Wrth gynllunio darpariaeth, mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn ystyried yr angen i ailymgysylltu â dysgwyr ar ôl y pandemig ac yn cydnabod y gallai dysgwyr, a’r rhai sy’n ystyried ymrestru ar gyfer dosbarthiadau, fod wedi colli hyder yn ystod y pandemig.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid oes gan bob partneriaeth wefan sydd wedi’i datblygu’n dda ac mae dysgwyr yn dweud nad yw’n hawdd dod o hyd i wybodaeth am gyrsiau bob tro.

Beth sy’n mynd yn dda

  •  Mae ansawdd yr addysgu yn gyffredinol gadarn.
  • Mae tiwtoriaid yn cynllunio ac yn cyflwyno eu sesiynau’n dda ac yn meithrin perthynas broffesiynol gref â’u dysgwyr.
  • Yn gyffredinol, mae partneriaethau’n cynnig ystod o ddarpariaeth sy’n alinio’n briodol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Beth sydd angen ei wella

  • Nid yw partneriaethau’n cynllunio eu darpariaeth â phartneriaid yn ddigon da bob tro i sicrhau bod gan ddysgwyr lwybrau dilyniant clir yn y ddarpariaeth neu i astudiaethau neu hyfforddiant pellach neu lefel uwch.
  • Nid yw pob partneriaeth yn cynnig cyfleoedd digonol i ddysgwyr Cymraeg eu hiaith gymryd rhan mewn dysgu oedolion yn y gymuned drwy sesiynau dwyieithog neu gyfrwng Cymraeg.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae ychydig o bartneriaethau’n gwneud cynnydd cryf tuag at ddatblygu partneriaethau rhanbarthol mwy.

Beth sydd angen ei wella