Mynd i'r cynnwys
Unedau cyfeirio disgyblion

Unedau cyfeirio disgyblion

Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae lles disgyblion yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel ar draws UCDau. Mae arweinwyr yn ehangu ystod yr ymyriadau sydd ar gael yn gynyddol i fynd i’r afael ag anghenion cymdeithasol, emosiynol, ymddygiadol ac iechyd meddwl disgyblion. Er enghraifft, mae arferion sy’n ystyriol o drawma yn cael eu defnyddio’n gynyddol.
  • Mae gan staff ddealltwriaeth gadarn o anghenion eu disgyblion a’u rhwystrau rhag dysgu.
  • Cryfhawyd cyfathrebu â rhieni a gofalwyr yn ystod y pandemig yn y rhan fwyaf o UCDau ac arhosodd pob UCD ar agor. Mae’r arferion hyn yn parhau ar draws UCDau.
  • Yn gyffredinol, mae gan UCDau berthynas waith gadarnhaol ag ystod o asiantaethau allanol i gefnogi anghenion eu disgyblion.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae data heb ei ddilysu yn awgrymu bod presenoldeb yn parhau i fod yn her mewn UCDau ac yn parhau i fod islaw’r lefelau cyn y pandemig.
  • Mae absenoldebau parhaus ychydig o ddisgyblion yn parhau i fod yn fater heriol.
  • Yn aml, nid yw’n hawdd cael cymorth gan asiantaethau allanol i fynd i’r afael â materion yn ymwneud â phresenoldeb ac nid yw’n amserol.
  • Mae’r gallu i fanteisio ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) yn rhy amrywiol ar draws ardaloedd gwahanol.
  • Mae anghysondeb o hyd yn y trefniadau ar draws awdurdodau lleol o ran ‘perchenogaeth’ CDUau disgyblion mewn UCDau.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae llawer o ddisgyblion yn ailymgysylltu’n dda â’u dysgu, sy’n cael ei gynorthwyo gan yr hyblygrwydd yn y cwricwlwm. Er enghraifft, bu UCDau yn hyblyg o ran addasu arlwy’r cwricwlwm i ganiatáu i ddisgyblion ennill ystod o gymwysterau ac achrediadau gwerthfawr ym Mlwyddyn 11.
  • Wrth fynd i’r afael ag anghenion lles disgyblion, mae eu hymgysylltiad â phrofiadau dysgu mwy ffurfiol yn well.
  • Mae staff yn defnyddio pecynnau asesu mwy cynhwysfawr i ddeall bylchau yn nysgu disgyblion yn glir a chynnig ymyriadau priodol i fynd i’r afael â’r rhain.
  • Yn gyffredinol, mae UCDau yn cefnogi anghenion dysgu ychwanegol disgyblion yn briodol.
  • Mae pontio disgyblion i UCDau yn cael ei gefnogi’n dda gan asesiadau mynediad cadarn i helpu disgyblion i ymgartrefu’n gyflym.
  • Ailsefydlodd staff gynlluniau pontio effeithiol ar gyfer lleoliadau ôl-UCD disgyblion yn gyflym.
  • Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n gadael UCDau heb fod mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant (NEET).

Beth sydd angen ei wella


Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae ymrwymiad cryf gan arweinwyr i gynnig darpariaeth o ansawdd uchel i ddisgyblion.
  • Mae systemau sicrhau ansawdd yn gwella, sy’n rhoi dealltwriaeth gynyddol gywir i arweinwyr o gryfderau UCDau a’u meysydd i’w gwella.
  • Yn gyffredinol, mae cyfleoedd dysgu proffesiynol ar gyfer staff yn alinio’n effeithiol â blaenoriaethau UCDau. Mae hyn yn darparu’r medrau sydd eu hangen ar staff i gefnogi anghenion cymhleth disgyblion yn fwy llwyddiannus.
  • Mae pwyllgorau rheoli wedi gwella’r modd maent yn cynorthwyo ac yn herio staff.

Beth sydd angen ei wella

  • Mae absenoldebau parhaus staff a swyddi gwag, a gallu parhaus arweinwyr i fynd i’r afael â’r materion hyn, yn her o hyd.
  • Ar draws awdurdodau lleol, mae gormod o amrywiad o ran sut caiff UCDau eu trefnu. Mae hyn yn cynnwys anghysondebau o ran trefniadau cyllidebol a lefelau gwahanol o gyfrifoldeb o ran rheoli gwasanaethau ychwanegol, fel tiwtora gartref.