Mynd i'r cynnwys
Ysgolion cynradd

Ysgolion cynradd

Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae ysgolion wedi cyflwyno strategaethau defnyddiol i gynorthwyo lles corfforol ac emosiynol disgyblion a mynd i’r afael â materion sy’n deillio o’r pandemig.
  • Yn aml, mae gan ddisgyblion ddealltwriaeth dda o’u hawliau fel plant, hawliau pobl eraill a materion pwysig yn ymwneud â thegwch a chydraddoldeb.
  • Yn gynyddol, mae disgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu, fel gallu i ddyfalbarhau, cydweithio a dod o hyd i atebion amgen i broblemau.
  • Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn paratoi’n dda ar gyfer diwygio anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae staff yn cydweithio’n dda â rhieni, disgyblion a’r gymuned i sefydlu cydweledigaeth ar gyfer y cwricwlwm.
  • Mae ysgolion yn canolbwyntio ar wella addysgeg ac, lle mae hyn yn fwyaf effeithiol, mae ansawdd yr addysgu a dysgu yn sgwrs barhaus a gonest ymhlith staff ac arweinwyr.
  • Lle mae ysgolion wedi gwerthuso effeithiolrwydd addysgu, mae disgyblion yn cael profiadau dysgu mwy difyr.
  • At ei gilydd, mae medrau digidol disgyblion yn gryf mewn llawer o ysgolion.

Beth sydd angen ei wella

  • Yn dilyn y pandemig, mewn rhai ysgolion, mae disgyblion o bob gallu yn aml yn gwneud camgymeriadau sylfaenol o ran gramadeg, sillafu ac atalnodi ac yn cael trafferth ysgrifennu’n estynedig.
  • Mae ychydig o ysgolion wedi rhoi blaenoriaeth i ddylunio’r cwricwlwm heb ddigon o bwyslais ar wella ansawdd yr addysgu.

Beth sy’n mynd yn dda

  • Mae arweinwyr wedi ceisio cryfhau partneriaethau ag ysgolion eraill, rhieni ac asiantaethau allanol.
  • O ganlyniad i heriau’r ddwy flynedd diwethaf a’r ymateb gan arweinwyr a staff, mae ethos cryfach o dîm mewn llawer o ysgolion.
  • Mae arweinwyr wedi addasu eu dull ar gyfer dysgu proffesiynol ac, erbyn hyn, mae ysgolion yn ymgysylltu’n well ag ymchwil i gefnogi gwelliannau mewn addysgu a dysgu.
  • Mae llawer o ysgolion yn parhau â’u ffocws pwysig ar wella addysgu fel sbardun allweddol i wella safonau disgyblion a chyflwyno’r cwricwlwm.

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig o ysgolion, nid yw arweinwyr wedi ailsefydlu eu trefniadau hunanwerthuso hyd yn hyn. Mae hyn yn golygu nad yw rhai meysydd pwysig o’u gwaith, fel dysgu effeithiol yn y cyfnod sylfaen, mor llwyddiannus ag y gallent fod.
  • Dim ond megis dechrau meddwl am eu gweledigaeth ar gyfer addysgu a’u cwricwlwm y mae rhai ysgolion, i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.