Mynd i'r cynnwys
Ysgolion uwchradd

Ysgolion uwchradd

Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r negeseuon allweddol o’n gwaith yn y sector yn ystod y flwyddyn academaidd 2021-22. Cliciwch ar y saethau i gael manylion ynghylch beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen ei wella, ynghyd â dolennau i adnoddau i ddarparwyr.

Beth sy’n mynd yn dda

Beth sydd angen ei wella

  • Mewn ychydig o achosion, nid oes gan ysgolion systemau digon cadarn a sicr i gofnodi pryderon diogelu, gan gynnwys rhai yn ymwneud â bwlio ac aflonyddu.
  • Er gwaethaf ymdrechion gorau llawer o staff, mae achosion o ddisgyblion yn cael profiad o fwlio ac aflonyddu oherwydd eu rhywioldeb, nodweddion hiliol neu eu rhywedd ym mhob ysgol.
  • Mae rhai disgyblion ym mhob ysgol yn cael profiad o rywfaint o aflonyddwch rhywiol.
  • Mae data heb ei ddilysu yn awgrymu bod presenoldeb llawer yn is nag oedd cyn y pandemig, yn enwedig presenoldeb disgyblion sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol.
  • Mae ychydig o ddisgyblion wedi cael trafferth ailaddasu i fywyd ar ôl y pandemig ac yn methu rheoli eu hymddygiad yn ddigon da.

 


Beth sy’n mynd yn dda

  • Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae athrawon yn meithrin perthynas waith gadarnhaol â disgyblion ac yn rheoli eu hystafelloedd dosbarth yn effeithiol.
  • Yn yr enghreifftiau gorau, mae athrawon yn adnabod eu disgyblion yn dda ac yn cynllunio’n ofalus i fodloni eu hanghenion. Mae athrawon yn modelu dulliau’n llwyddiannus ac yn defnyddio gwybodaeth o asesiadau yn fedrus i addasu eu haddysgu.
  • Mewn ychydig o ysgolion, mae dylunio’r cwricwlwm wedi’i seilio ar ymchwil, yn berthnasol i gyd-destun yr ysgol ac yn gysylltiedig â datblygu addysgu. Mae meysydd dysgu’n creu cwricwlwm i sicrhau dilyniant o’r cyfnod cynradd i’r cyfnod uwchradd.

Beth sydd angen ei wella


Beth sy’n mynd yn dda

  • Ers dychwelyd i fywyd ysgol a phrosesau mwy arferol, mae uwch arweinwyr yn ystyried yn ofalus y cydbwysedd rhwng dwyn staff i gyfrif a diogelu eu lles.
  • Mewn llawer o achosion, mae uwch arweinwyr yn ymateb yn dda i flaenoriaethau cenedlaethol a lleol, fel diwygio anghenion dysgu ychwanegol a datblygu eu cwricwlwm.
  • Mewn llawer o ysgolion, mae dysgu proffesiynol wedi’i gynllunio’n dda ac yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu.

Beth sydd angen ei wella