Mynd i'r cynnwys

Adroddiad sector

Cynradd

2022-2023





Ffynhonnell: Rhestr gyfredol o ysgolion Llywodraeth Cymru. Cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion (CYBLD) Llywodraeth Cymru.

Darparwyr

1,219

Nifer o ddarparwyr 2023

383

Nifer o ddarparwyr cyfrwng Cymraeg 2023


Disgyblion

263,072

Cyfanswm disgyblion

267,185

Cyfanswm disgyblion 2021-22

273,063

Cyfanswm disgyblion 2020-21

23%

Canran o ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim

7%

Canran o ddisgyblion gyda Saesneg fel iaith ychwanegol (A,B,C)

12%

Canran o ddisgyblion sy’n gallu siarad Cymraeg

13%

Canran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol


Arolygiadau craidd

Nifer o arolygiadau craidd: 219

Cyfrwng Cymraeg: 52

Cyfrwng Saesneg: 167

Ymweliadau ymgysylltu: 4

Astudiaethau achos

Nifer o astudiaethau achos: 57

Gweithgarwch dilynol

Nifer o fewn y categori dilynol Medi 2022

MA: 4

GS: 1

AE: 10

Nifer a dynnwyd allan 2022-23

MA: 1

GS: 0

AE: 4

Nifer a israddwyd

Nifer a roddwyd mewn categori dilynol yn 2022-2023

MA: 12

GS: 5

AE: 29

Cyfanswm o fewn categori dilynol Awst 2023

MA: 16

GS: 6

AE: 34



Yn ystod 2022-2023, parhaodd ysgolion cynradd i roi pwyslais cryf ar gefnogi lles disgyblion a’u teuluoedd. O ganlyniad i’r pandemig COVID-19, cryfhaodd llawer o ysgolion eu systemau bugeiliol i ddarparu’r cymorth emosiynol ychwanegol yr oedd ei angen ar lawer o ddisgyblion a’u teuluoedd. Mireiniodd llawer o ysgolion eu hymagwedd at fonitro ac annog presenoldeb, hefyd. Fodd bynnag, er gwaethaf ymdrechion gorau llawer o ysgolion, roedd cyfraddau presenoldeb islaw’r lefelau cyn y pandemig o hyd. Roedd cyfraddau presenoldeb disgyblion o gyd-destunau dan anfantais economaidd-gymdeithasol yn peri pryder penodol. Dechreuodd mwyafrif o ysgolion roi Cwricwlwm i Gymru ar waith yn dda a chynlluniodd y rhan fwyaf o ysgolion yn effeithiol i ddatblygu medrau siarad, gwrando a darllen disgyblion. Roedd llawer o arweinwyr yn adnabod eu hysgolion yn dda ac roedd ganddynt systemau a phrosesau clir ar waith. Fodd bynnag, roedd gormod o arweinwyr nad oeddent yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu medrau Cymraeg disgyblion ac aelodau staff yn ddigon da. Mae cynnydd o ran datblygu medrau llafaredd Cymraeg disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn peri pryder o hyd ac mae effaith y pandemig wedi rhwystro hyn ymhellach.

Young school pupils using pencils

Addysgu a dysgu

Trwy gydol y flwyddyn, ystyriodd ysgolion y ffordd orau i roi gofynion Cwricwlwm i Gymru ar waith. Fodd bynnag, yn yr un modd â’r flwyddyn gynt, roedd ansawdd ac effaith y gwaith hwn yn amrywio o hyd, gyda mwyafrif o ysgolion yn gwneud cynnydd da. Yn aml, roedd staff yn yr ysgolion hyn yn elwa ar gydweithio rhwng athrawon yn eu lleoliad eu hun, yn ogystal â gydag ysgolion eraill. Roeddent yn canolbwyntio ar arbrofi, adolygu a mireinio prosesau ac yn sicrhau eu bod yn edrych yn ofalus ar sut roeddent yn cyflwyno’r cwricwlwm, yn hytrach na’r hyn roedd y cwricwlwm yn ei gynnwys yn unig. Fe ddechreuon nhw feddwl hefyd am sut olwg ddylai fod ar ddilyniant drwy’r cwricwlwm i ddisgyblion yn eu hysgol a sut gallai disgyblion gymhwyso’r medrau maent yn eu datblygu mewn meysydd ar draws y cwricwlwm. Yn aml, roedd hyn yn cynnwys datblygu themâu trawsbynciol a oedd yn caniatáu i ddisgyblion greu cysylltiadau â’u profiadau bywyd eu hunain. Gwnaeth ychydig o ysgolion fwy o gynnydd. Yn aml, roedd y rhain wedi bod ar eu taith ddiwygio ers tro, yn dechrau ymwreiddio eu hymagwedd ac, mewn ychydig o achosion, yn rhoi’r drydedd neu’r bedwaredd fersiwn o’u cwricwlwm ar waith. Yn aml, roedd hyn yn cynnwys disgyblion yn nylunio’r cwricwlwm mewn ffordd ystyrlon ac yn sicrhau bod rhieni’n cael cyfleoedd i gyfrannu at y newidiadau a deall eu diben. Darllenwch sut mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pendeulwyn ym Mro Morgannwg wedi datblygu taith gwricwlaidd deilwredig a chydweithredol wrth ymateb i Gwricwlwm i Gymru.

Ar gyfer lleiafrif yr ysgolion, roedd cynnydd o ran datblygu Cwricwlwm i Gymru yn y camau cynnar o hyd. Yn aml, dim ond yn ddiweddar roedd yr ysgolion hyn wedi dechrau diwygio’r cwricwlwm ac nid oedd ganddynt ddealltwriaeth ddigon cadarn o’r egwyddorion sy’n sail i fframwaith Cwricwlwm i Gymru. Addasodd llawer o’r ysgolion hyn gynllunio i ganolbwyntio ar beth mae disgyblion yn ei ddysgu yn hytrach na sut maent yn dysgu. O ganlyniad, roeddent yn aml yn brin o drylwyrdeb mewn agweddau pwysig, fel medrau trawsgwricwlaidd, ac roedd eu dealltwriaeth o asesu a dilyniant yn gyfyngedig.

Yn yr achosion gorau, lle’r oedd ysgolion yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i sut roedd angen newid addysgu i gyd-fynd â Cwricwlwm i Gymru, cadwodd athrawon ffocws cryf ar yr effaith y byddai unrhyw newidiadau’n eu cael ar ansawdd profiadau dysgu i ddisgyblion a’r cynnydd y byddant yn ei wneud. Rhoddodd arweinwyr gyfle iddynt arbrofi a threialu ymagweddau newydd. Yn yr ysgolion hyn, roedd athrawon yn ymgysylltu’n bwrpasol â gwybodaeth ymchwil, yn gweithio â chydweithwyr yn eu hysgolion eu hunain ac ysgolion eraill. Yn ogystal, roedd hyn yn sicrhau eu bod yn addasu unrhyw syniadau a methodolegau newydd i weddu i anghenion a chyd-destun disgyblion a staff yn eu hysgol. Roeddent hefyd yn fodlon rhoi’r gorau i’w hymagweddau neu eu haddasu ar sail tystiolaeth gadarn o’r hyn a oedd yn gweithio ac nad oedd yn gweithio.

Yn y rhan fwyaf o ysgolion, roedd arweinwyr ac athrawon yn cydnabod manteision newidiadau pwysig i addysgeg, fel sicrhau bod disgyblion yn cymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain, ac y dylent gyflwyno addysgu a dysgu o fewn ac ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad. Fodd bynnag, lle’r oedd newidiadau i addysgu’n llai effeithiol, roedd athrawon yn cynllunio gweithgareddau i feithrin medrau dysgu annibynnol disgyblion nad oeddent yn eu herio’n ddigonol nac yn eu helpu i wneud cynnydd yn eu dysgu. Yn aml, roedd y gweithgareddau hyn yn cynnwys disgyblion yn dewis pa dasgau i ymgysylltu â nhw, ond ar lefel a oedd islaw eu gallu ac nad oedd yn eu herio i gymhwyso eu dysgu ar lefel addas a gwneud cynnydd.

Yn gyffredinol, gwnaeth llawer o ddysgwyr, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), gynnydd da o ran datblygu eu medrau, gwybodaeth a dealltwriaeth yn ystod gwersi a gweithgareddau a thros gyfnod. Roedd medrau llefaredd disgyblion yn gynyddol gryf mewn llawer o ysgolion. Roedd hyn yn aml yn adlewyrchu newidiadau mewn addysgeg a oedd yn rhoi mwy o amser i ddisgyblion gydweithio a thrafod. Roedd athrawon yn cynnwys cyfleoedd cynlluniedig i ddisgyblion ymarfer eu medrau llefaredd i wneud iawn am effaith negyddol y pandemig. Nododd llawer o ysgolion cynradd strategaethau wedi’u seilio ar dystiolaeth i wella medrau darllen disgyblion. Yn yr achosion mwyaf llwyddiannus, cymhwyswyd yr ymagweddau hyn yn gyson a chawsant eu hategu gan ddysgu proffesiynol effeithiol i staff. Mae’r adroddiad thematig Datblygu medrau darllen Saesneg disgyblion o 10-14 mlwydd oed mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog yn cynnwys cameos ac astudiaethau achos o arfer effeithiol. O ganlyniad, erbyn iddynt gyrraedd Blwyddyn 6, roedd llawer o ddisgyblion yn darllen â rhuglder priodol ac roedd y mwyafrif ohonynt yn crynhoi ac yn gwerthuso testunau a oedd yn cynnig her addas. Mewn llawer o ysgolion, roedd gan ddisgyblion ddealltwriaeth dda o nodweddion gwahanol fathau o ysgrifennu ond yn yr un modd â’r llynedd, mewn gormod o ysgolion, nid oedd disgyblion yn ysgrifennu’n estynedig yn ddigon aml ac roeddent yn gwneud gwallau sylfaenol o ran gramadeg ac atalnodi nad aethpwyd i’r afael â nhw’n ddigon da drwy adborth gan athrawon. Darllenwch sut y defnyddiodd Ysgol Gynradd Gymuned Cwm-bach ger Aberdâr ymagwedd ysgol gyfan at ddatblygu disgyblion i fod yn ysgrifenwyr effeithiol i wella medrau darllen disgyblion.

Roedd y cynnydd o ran datblygu medrau llafaredd Cymraeg disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn peri pryder o hyd ac roedd effaith y pandemig wedi rhwystro hyn ymhellach. Ni welwyd llawer o welliant yn y maes hwn dros y 10 mlynedd diwethaf. Yn wir, yn ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2012-2013 adroddodd y Prif Arolygydd ar y pryd, Ann Keane:

“Mae arolygwyr yn gwneud argymhellion i ddatblygu medrau Cymraeg ail iaith disgyblion mewn dros chwarter o ysgolion cyfrwng Saesneg. Bydd cynnydd disgyblion wrth ddysgu Cymraeg yn lleihau wrth iddynt fynd yn hŷn, ac er bod mwyafrif o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da o ran datblygu’r Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen, mae eu cynnydd yn arafu mewn cyfnodau dilynol.”

Bu’r thema hon yn un gyson dros y blynyddoedd diwethaf ac mae canfyddiadau arolygwyr yn 2022-2023 yn debyg iawn, gyda thua thraean o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yn cael argymhelliad i wella medrau Cymraeg disgyblion. Fe gafodd bron i un o bob pump (18%) o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg argymhelliad tebyg. Yn rhy aml, nid oedd disgyblion yn adeiladu eu medrau wrth iddynt symud drwy’r ysgol. Roedd disgyblion hŷn yn parhau i ddefnyddio ymadroddion sylfaenol nad oeddent wedi datblygu’n sylweddol o’r rhai a ddysgwyd pan oeddynt yn iau. Yn aml, roedd hyn yn gysylltiedig â diffyg brwdfrydedd tuag at yr iaith a medrau gwael staff yr ysgol. Fodd bynnag, mewn ychydig o ysgolion lle’r oedd cynnydd yn fwy cadarn, roedd arweinwyr wedi sicrhau’n llwyddiannus fod y Gymraeg wedi’i hintegreiddio’n dda ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol, ei bod wedi’i chynnwys mewn amrywiaeth o feysydd y cwricwlwm a bod gan staff y medrau, yr hyder a’r brwdfrydedd i addysgu a hyrwyddo’r iaith. Mae ein hadroddiad thematig ar Cefnogi’r Gymraeg yn Addysg Gychwynnol Athrawon yn cynnwys adnoddau i helpu ysgolion ystyried eu darpariaeth.

Yn y rhan fwyaf o ysgolion, roedd disgyblion yn ennill medrau a gwybodaeth gadarn mewn mathemateg. Roeddent yn datblygu dealltwriaeth dda o rif ac ystod o dechnegau i gwblhau cyfrifiadau. Yn yr achosion gorau, roedd disgyblion o bob oed yn dewis o ystod o ddulliau i ddatrys problemau mathemategol, gan ddewis yr un a oedd yn fwyaf priodol i’r cyd-destun ac esbonio eu hymagwedd.

Roedd gallu disgyblion i gymhwyso eu medrau rhifedd a llythrennedd mewn meysydd dysgu eraill ar draws y cwricwlwm yn amrywio. Yn rhy aml, roedd athrawon yn cynllunio gweithgareddau annibynnol i ddisgyblion nad oeddent yn eu herio’n ddigon nac yn eu helpu i wneud cynnydd yn eu dysgu. O ganlyniad, yn enwedig o ran rhifedd, nid oedd disgyblion yn cymhwyso eu medrau mewn gwaith ar draws y cwricwlwm ar lefel ddigon uchel nac mewn cyd-destunau digon dilys. I’r gwrthwyneb, parhaodd llawer o ysgolion i wneud cynnydd da yn eu gallu i gymhwyso eu medrau digidol mewn amrywiaeth o feysydd dysgu. Yn aml, roedd athrawon yn dod o hyd i ffyrdd arloesol i ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) i gefnogi dysgu disgyblion a sicrhau bod profiadau dysgu yn ddifyr ac yn hwyliog. Yn benodol, roedd defnyddio’r cyfryngau i gefnogi medrau llythrennedd disgyblion yn gryfder a oedd yn datblygu.

A young schoolgirl playing in a sand pit

Gofal, cymorth a lles

Parhaodd ymdeimlad disgyblion o les, eu hagweddau at ddysgu ac ansawdd y gofal, cymorth ac arweiniad y mae ysgolion yn eu darparu i fod yn gryfder mewn ysgolion cynradd. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd disgyblion yn mwynhau’r ysgol, roeddent yn frwdfrydig am eu dysgu ac yn ymddwyn yn dda. Wrth weithio tuag at roi Cwricwlwm i Gymru ar waith, ystyriodd llawer o ysgolion ffyrdd i wella medrau disgyblion fel dysgwyr, er enghraifft eu gallu i gydweithio, datrys problemau ac arwain eu dysgu eu hunain. Fodd bynnag, fel y nodwyd uchod, yn aml, roedd gweithgareddau annibynnol cynlluniedig o ansawdd gwael. O ganlyniad, cafodd tua thraean (29%) o’r ysgolion a arolygwyd argymhelliad yn ymwneud â gwella gallu disgyblion i weithio a meddwl yn annibynnol.

Roedd llawer o ysgolion yn darparu cyfleoedd mwyfwy ystyrlon i ddisgyblion gyfrannu at fywyd a gwaith yr ysgol trwy grwpiau llais y disgybl. Mae arolygwyr wedi gweld amrywiaeth a ffocws y grwpiau hyn yn ehangu’n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i gwmpasu llawer o feysydd y tu hwnt i waith cyngor ysgol traddodiadol. Mae enghreifftiau yn cynnwys gwaith i gefnogi dealltwriaeth disgyblion o amrywiaeth a chydraddoldeb, gwaith i wella gwybodaeth disgyblion am eu hawliau fel plentyn, a gwaith ar y cyd gydag arweinwyr i gefnogi teuluoedd ag incwm isel. Yn yr achosion gorau, roedd arweinwyr yn cynnwys disgyblion yn bwrpasol wrthwerthuso ansawdd addysgu a dysgu, ac yn defnyddio eu hadborth yn ystyrlon i ystyried ansawdd eu darpariaeth a gwneud gwelliannau.

Wrth iddynt symud y tu hwnt i’r tarfu a achoswyd gan y pandemig, parhaodd ysgolion i roi pwyslais cryf ar gefnogi lles disgyblion a’u teuluoedd. Rhoddodd llawer ohonynt fesurau ychwanegol ar waith i fynd i’r afael â gorbryder a sicrhau bod gan ddisgyblion ffyrdd i rannu unrhyw bryderon neu ofidiau. Er enghraifft, mewn rhai ysgolion, fe wnaethant sicrhau bod oedolion penodol ar gael ar adegau ac mewn lleoliadau neilltuedig i siarad â disgyblion a oedd yn anhapus neu’n teimlo’n orbryderus. Crybwyllodd llawer o ysgolion fod mwy o ddisgyblion yn cael trafferth rheoli eu hemosiynau a bod angen rhoi darpariaeth i’w cefnogi, fel ardaloedd tawel dynodedig mewn dosbarthiadau lle gallai disgyblion gymryd amser iddyn nhw’u hunain nes iddynt deimlo’n barod i ddychwelyd at eu dysgu.

Aeth y rhan fwyaf o ysgolion i’r afael â diwygio ADY mewn modd cadarnhaol a gwnaethant gynnydd da tuag at roi gofynion y Ddeddf ADY ar waith. Yn gyffredinol, dangosodd cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol (CADYau) arweinyddiaeth effeithiol o ran sicrhau y diweddarwyd systemau a phrosesau i fodloni anghenion y ddeddf, er enghraifft trwy sicrhau bod gan ddisgyblion a dargedwyd broffiliau un-dudalen yn amlinellu eu diddordebau a sut hoffent gael eu cynorthwyo. Roeddent yn cysylltu’n dda ag arweinwyr eraill ac asiantaethau allanol i sicrhau bod staff yn cael y dysgu proffesiynol roedd ei angen arnynt i gefnogi disgyblion ag anghenion ychwanegol.

O ganlyniad i’r pandemig, adolygodd a mireiniodd llawer o ysgolion eu hymagwedd at fonitro ac annog presenoldeb. Fodd bynnag, er gwaethaf ymdrechion gorau llawer o ysgolion, parhaodd cyfraddau presenoldeb islaw’r lefelau cyn y pandemig ac roedd presenoldeb disgyblion o gyd-destunau dan anfantais economaidd-gymdeithasol yn peri pryder penodol (Llywodraeth Cymru, 2023).

Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn darparu cyfleoedd da i ddisgyblion ddatblygu eu dealltwriaeth o’u hunaniaeth, treftadaeth a diwylliant fel rhan o’u cymuned leol a Chymru. Yn yr achosion gorau, roeddent yn meithrin cysylltiadau â grwpiau cymunedol lleol ac yn ymweld â’r ardal leol yn rheolaidd i sicrhau bod dysgu disgyblion yn fwy dilys, er enghraifft trwy weithio â siop goffi leol i ddylunio brand ac archwilio materion yn ymwneud â chynaliadwyedd. Fodd bynnag, nid oedd ysgolion yn rhoi cyfleoedd digonol i ddisgyblion ddysgu am natur amrywiol eu cymunedau, Cymru a’r byd ehangach bob tro. Datblygodd Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî yng Nghasnewydd ymagwedd ysgol gyfan effeithiol i fynd i’r afael â hiliaeth, sy’n ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynefin.

Dau plentyn yn mwytho mochyn cwta

Arwain a gwella

Mewn llawer o ysgolion, roedd arweinyddiaeth yn gryf. Gweithiodd arweinwyr â llywodraethwyr i sefydlu systemau a phrosesau clir lle’r oedd yr holl aelodau staff yn sicr ynghylch eu rolau a’u cyfrifoldebau. Modelodd arweinwyr werthoedd proffesiynol cryf, gan gynnwys y gallu i fyfyrio’n onest ar eu perfformiad eu hunain a pherfformiad yr ysgol, ac anogodd hyn ethos o hunanfyfyrio ymhlith y staff. Rhoesant bwyslais sylweddol ar gefnogi lles staff. Mewn ychydig o ysgolion, ffurfioliwyd y gefnogaeth hon trwy fesurau penodol i gefnogi lles staff, fel gallu manteisio ar wasanaethau cwnsela. Roedd hyn yn aml yn arwain at staff â lefelau uchel o hyder mewn arweinwyr a rhannu eu gweledigaeth ar gyfer gwella.

Mewn ychydig o ysgolion lle’r oedd arweinyddiaeth ar ei chryfaf, roedd gan arweinwyr weledigaeth glir ar gyfer eu hysgol wedi’i seilio’n agos ar ei chyd-destun ac anghenion ei disgyblion a’u teuluoedd. Oherwydd eu bod yn glir ynghylch yr hyn oedd orau i’w hysgol, roeddent yn gwneud dewisiadau gofalus ynghylch y polisïau a’r gweithdrefnau roeddent yn eu mabwysiadu, gan gydnabod efallai nad arfer effeithiol mewn ysgol arall fyddai’r ymagwedd orau ar gyfer eu hysgol eu hunain. I’r gwrthwyneb, yn yr ychydig o ysgolion lle’r oedd arweinyddiaeth yn wan, roedd hyn yn aml oherwydd diffyg eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau, gormod o ffocws ar faterion rheoli yn hytrach na datblygiad strategol hirdymor yr ysgol a pherthynas wael rhwng arweinwyr a staff.

Roedd gan arweinwyr a gyflwynodd mesurau’n llwyddiannus i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, weledigaeth strategol glir a oedd yn cwmpasu hyn fel nodwedd allweddol. Roeddent yn defnyddio eu gwybodaeth am eu cymuned yn dda i dargedu cyllid grant yn effeithiol, er enghraifft trwy gyflogi swyddog ymgysylltu â theuluoedd i gefnogi a chysylltu â theuluoedd targedig. Mewn llawer o ysgolion, ystyriodd arweinwyr gost y diwrnod ysgol yn ofalus a’r effaith y gallai hyn ei chael ar deuluoedd. Roeddent yn lliniaru unrhyw effaith trwy fesurau fel sicrhau bod ymweliadau addysgol yn fforddiadwy i bawb a lleihau cost gwisg ysgol trwy gael gwared ar y gofyniad i ddisgyblion wisgo dillad â logo’r ysgol arnynt. Mabwysiadodd Ysgol Gynradd Llwydcoed, ger Aberdâr, ymagwedd ‘cost y diwrnod ysgol’ werthfawr, trwy gydweithio â’r gymuned ysgol gyfan i nodi a lleihau’r rhwystrau ariannol y mae disgyblion o deuluoedd ag incwm isel yn eu hwynebu.

Roedd dysgu proffesiynol mewn ysgolion effeithiol wedi’i dargedu’n dda i gefnogi amcanion gwella’r ysgol gyda ffocws clir ar eu heffaith ar ddeilliannau i ddisgyblion. Roedd llawer o ysgolion yn cydweithio’n dda ag ysgolion eraill yn eu clwstwr lleol a’r tu hwnt i rannu arfer effeithiol mewn addysgu a dysgu a mynd i’r afael â gofynion y cwricwlwm a diwygio ADY. Mewn lleiafrif o ysgolion, nid oedd arweinwyr yn sicrhau bod dysgu proffesiynol i ddatblygu medrau Cymraeg staff yn arwain at effaith gadarnhaol ar safonau a chynnydd disgyblion.

Mewn llawer o achosion, yn enwedig lle’r oeddent wedi gwneud cynnydd da o ran rhoi Cwricwlwm i Gymru ar waith, cryfhaodd ysgolion eu perthnasoedd â rhieni a’r gymuned ehangach. Mewn mwyafrif o ysgolion, roedd rhieni’n teimlo bod yr ysgol yn cyfathrebu’n glir â nhw. Lle nad oedd hyn yn wir, roedd yn aml oherwydd bod yr ysgol yn defnyddio gormod o ddulliau cyfathrebu ac nad oedd rhieni’n glir ynghylch pa un y dylent ei ddefnyddio.

Dechreuodd y rhan fwyaf o ysgolion ddychwelyd i amserlen lawn o fonitro, gwerthuso ac adolygu wrth iddynt ddod allan o’r pandemig. Er gwaethaf cyfyngiadau a heriau COVID-19 yn ystod y blynyddoedd blaenorol, llwyddodd ychydig o ysgolion i barhau â llawer o agweddau ar hunanwerthuso a dychwelyd i’w trefn arferol yn gyflym yn ystod blwyddyn academaidd 2022-2023. Fodd bynnag, at ei gilydd, roedd angen gwella prosesau hunanwerthuso a gwella mewn tua thraean o ysgolion. Yn aml, roedd hyn oherwydd nad oeddent yn drylwyr ac nad oeddent yn canolbwyntio’n ddigonol ar ddeilliannau i ddisgyblion nac yn nodi meysydd allweddol i’w gwella o ran ansawdd yr addysgu, yn enwedig yn nosbarthiadau y disgyblion ieuengaf.

Mewn llawer o achosion, ar ôl y pandemig, nid oedd llywodraethwyr wedi dychwelyd i’w trefn arferol o gasglu tystiolaeth uniongyrchol o ansawdd gwaith yr ysgol. Rhwystrodd hyn eu gallu i herio a chefnogi’r ysgol, gan eu bod yn dibynnu’n ormodol ar y wybodaeth a roddwyd iddynt gan uwch arweinwyr ac nid oedd ganddynt ddigon o wybodaeth uniongyrchol i ofyn cwestiynau heriol i arweinwyr.


Cyfeiriadau

Llywodraeth Cymru (2023) Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir : 5 September 2022 to 24 July 2023. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/presenoldeb-disgyblion-mewn-ysgolion-gynhelir-5-medi-2022-i-24-gorffennaf-2023 [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]