Mynd i'r cynnwys

Adroddiad sector

Meithrinfeydd nas cynhelir

2022-2023

Cliciwch ar farcwyr unigol i gael manylion y darparwr

Nodyn – Darperir yr holl addysg gynnar a ariennir gan awdurdodau lleol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot gan ysgolion a gynhelir. Mae’r rhain wedi’u cynnwys ar fap y sector cynradd fel ysgolion sy’n darparu ar gyfer yr ystod oedran meithrin.

Darparwyr

529

Nifer o ddarparwyr 2023

529

Nifer o ddarparwyr 2022

537

Nifer o ddarparwyr 2021


Arolygiadau craidd

Nifer o arolygiadau craidd: 92

Cyfrwng Cymraeg: 42

Cyfrwng Saesneg: 50

Astudiaethau achos

Nifer o astudiaethau achos: 11

Gweithgarwch dilynol

Nifer o fewn y categori dilynol Medi 2022: 5

Nifer a dynnwyd allan 2022-23: 5

Nifer a israddwyd: 1

Nifer a roddwyd mewn categori dilynol yn 2022-2023: 2

Cyfanswm o fewn categori dilynol Awst 2023: 3



Yn ystod 2022-2023, at ei gilydd, parhaodd lleoliadau meithrin nas cynhelir i ddarparu gofal, cymorth ac arweiniad cryf a oedd yn cael effaith gadarnhaol ar les plant. Canolbwyntiodd arweinwyr ac ymarferwyr yn dda ar ddatblygu Cwricwlwm i Gymru a rhoi’r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir ar waith. Gwellodd hyn gyfleoedd i blant ddysgu ac archwilio’n annibynnol, gydag ymarferwyr yn datblygu dealltwriaeth effeithiol o ba bryd a sut i ymyrryd yn chwarae plant i’w helpu i wneud cynnydd. Roedd lleoliadau’n dechrau datblygu eu prosesau asesu ac arsylwi yn briodol, er nad oedd yr holl leoliadau’n defnyddio’r rhain yn ddigon da i gefnogi plant yn effeithiol. Yn gyffredinol, roedd arweinyddiaeth mewn lleoliadau yn parhau’n gryf ac roedd gan arweinwyr weledigaeth glir ar gyfer eu lleoliadau. Fodd bynnag, parhaodd y sector i wynebu anawsterau wrth recriwtio staff â chymwysterau addas, yn enwedig mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg. Roedd rhai anghysondebau o hyd o ran effeithiolrwydd prosesau hunanwerthuso, hefyd. O ganlyniad, nid oedd arweinwyr yn nodi’r meysydd mwyaf perthnasol i’w datblygu bob tro nac yn cynnwys yr holl ymarferwyr wrth hunanwerthuso.

Merch ifanc yn chwarae y tu allan

Addysgu a dysgu

Trwy gydol y flwyddyn, gwelom nifer gynyddol o leoliadau’n dechrau rhoi Cwricwlwm i Gymru a’r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir ar waith yn llwyddiannus. Mae’r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yn cysylltu’n agos â’r egwyddorion datblygu plant, yn ogystal â’r pedwar diben, y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a chwe maes dysgu a phrofiad Cwricwlwm i Gymru. Darparodd y lleoliadau hyn gyfleoedd mwy pwrpasol i blant ddylanwadu ac arwain dysgu eu hunain.

Lle’r oedd yr ymagwedd hon yn fwyaf effeithiol, roedd gan ymarferwyr ddealltwriaeth glir o sut roedd cynllunio wrth ymateb i ddiddordebau a cham datblygu plant yn cefnogi cynnydd mewn dysgu. Roeddent yn darparu profiadau ymarferol, difyr mewn cyd-destun dilys a oedd yn ystyrlon i’r plant. Roeddent yn cynnig cydbwysedd priodol rhwng galluogi plant i wneud eu penderfyniadau eu hunain am ble a gyda beth yr hoffent chwarae, â’u cynlluniau a’u gwybodaeth eu hunain am ba fedrau roedd angen i blant gwahanol eu datblygu. Roeddent yn mireinio eu cynllunio’n rheolaidd er mwyn ymateb i anghenion y plant.

Mewn llawer o leoliadau, lle’r oedd addysgu’n gryf, gwnaeth ymarferwyr ddefnydd da o holi hynod effeithiol i ddatblygu dysgu a medrau meddwl plant. Roeddent yn annog plant i wneud penderfyniadau priodol am eu chwarae, er enghraifft trwy ddod o hyd i’r cynhwysydd cywir i ail-lenwi hambwrdd dŵr. Roedd ymarferwyr yn gwybod pryd i ymyrryd a phryd i gymryd cam yn ôl i roi amser i blant weithio pethau allan drostynt eu hunain.

Cynllunio effeithiol yng Nghaban Kingsland yng Nghaergybi, Ynys Môn

Mae’r lleoliad wedi arddel Cwricwlwm i Gymru ac mae ymarferwyr wedi datblygu ymagwedd hynod effeithiol at gynllunio ymatebol. Maent wedi sicrhau cydbwysedd rhagorol rhwng caniatáu i’r plant wneud eu penderfyniadau eu hunain am ble a gyda beth yr hoffent chwarae, ochr yn ochr â’u cynlluniau a’u gwybodaeth eu hunain am ba fedrau y mae angen i blant gwahanol eu datblygu. Mae hyn yn arbennig o bwysig ac effeithiol i blant a all fod yn profi heriau yn eu dysgu. Mae’r cydbwysedd hyn o chwarae rhydd â mynediad agored, wedi’i gyfuno ag ystod hyfryd o adnoddau, a medrau’r ymarferwyr o ran gwybod pa bryd i ymyrryd a pheidio ymyrryd, yn hynod effeithiol. Mae eu hymagwedd gyfan wedi’i seilio ar ddatblygu pob plentyn fel unigolyn. Mae hyn yn galluogi’r plant i ddatblygu eu hyder, gwydnwch a’u hunan-barch yn effeithiol.

Mewn ychydig o leoliadau, lle nad oedd darpariaeth yr un mor gryf, nid oedd ymarferwyr yn cynllunio’n ddigon da i ddatblygu medrau plant bob tro. Nid oeddent yn rhoi cyfleoedd buddiol i blant arbrofi â phrofiadau newydd neu herio eu hunain. Yn yr achosion hyn, roedd oedolion yn gorgyfarwyddo’r dysgu ac roedd ychydig iawn o gyfleoedd i blant ddarganfod pethau drostynt eu hunain. Mewn ychydig iawn o leoliadau, nid oedd ymarferwyr yn cynllunio cyfleoedd digon gwerthfawr i blant ddefnyddio’r ardal tu allan i ddatblygu eu medrau’n gynyddol.

Trwy gydol y flwyddyn, dechreuodd lleoliadau ddiwygio eu trefniadau arsylwi ac asesu yn addas, yn unol â’r trefniadau asesu drafft ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir. Roedd llawer o ymarferwyr yn adnabod eu plant yn dda trwy siarad â nhw a’u harsylwi’n chwarae. Roeddent yn defnyddio’r wybodaeth hon yn briodol i ddarparu cyfleoedd i blant adeiladu ar eu gwybodaeth, medrau a dealltwriaeth bresennol. Roedd mwyafrif yr ymarferwyr yn gwneud asesiadau ac arsylwadau defnyddiol o blant, gan sylwi ar beth roeddent yn gallu ei wneud yn dda a lle’r oedd angen cymorth arnynt, a nodi’r camau nesaf yn eu dysgu. Mewn lleiafrif o leoliadau, roedd y defnydd o arsylwadau ac asesiadau i gynllunio profiadau i ddyfnhau ac ymestyn dysgu yn y camau datblygu cynnar. Yn y lleoliadau hyn, nid oedd ymarferwyr yn defnyddio gwybodaeth yn ddigon da bob tro i gynllunio’r camau nesaf yn natblygiad plant. Nid oeddent yn rhoi ystyriaeth ddigonol i ba fedrau roeddent am i blant eu datblygu na chwaith os oedd gweithgareddau’n herio plant ar y lefel briodol.

Yn yr un modd ag y llynedd, datblygodd y rhan fwyaf o blant eu medrau cyfathrebu a llythrennedd yn effeithiol. Roeddent yn gwrando’n dda ar ymarferwyr a gwrandawodd llawer ohonynt ar farnau ei gilydd yn barchus, er enghraifft wrth ddewis stori ac ymdawelu i’w rhannu. Roedd llawer o blant yn sgwrsio’n hapus â’u ffrindiau ac ymarferwyr ac yn gofyn cwestiynau synhwyrol. Roeddent yn defnyddio iaith addas yn eu chwarae digymell a strwythuredig, fel trafod cynhwysion mewn llyfr ryseitiau cyn siopa yn yr ardal chwarae rôl. Roedd llawer o blant yn dewis ymweld ag ardal ddarllen eu lleoliad yn llawen. Roeddent yn mwynhau cynnwys llyfrau, gan ddangos medrau darllen cynnar da, fel archwilio a thrin llyfrau’n annibynnol, ailadrodd storïau cyfarwydd a chreu cysylltiadau rhwng llyfrau a’u profiadau eu hunain. Gofynnodd llawer o blant i ymarferwyr ddarllen iddynt mewn ardaloedd gwahanol yn yr amgylchedd dysgu.

Datblygodd medrau corfforol llawer o blant yn dda. Roeddent yn dringo ac yn cydbwyso ar rwystrau gwahanol a defnyddiodd y mwyafrif ohonynt deganau mawr, beiciau a threiciau gyda deheurwydd cynyddol. Roeddent yn defnyddio ystod o offer â rheolaeth gynyddol ac yn datblygu eu cryfder a’u cydsymud dan do ac yn yr awyr agored. Roedd mwyafrif y plant yn defnyddio offer gwneud marciau yn effeithiol i gefnogi eu chwarae, er enghraifft wrth ysgrifennu rhestr siopa yn yr ardal chwarae rôl neu ddefnyddio sialc ar y buarth. Datblygodd llawer o blant ystod dda o fedrau rhifedd yn llwyddiannus ac roeddent yn dechrau defnyddio iaith fathemategol yn hyderus mewn cyd-destunau go iawn. Er enghraifft, defnyddiodd plant a oedd yn ymweld â rhandir eu gwybodaeth am bwysau a mesur i ddisgrifio maint pwmpenni. At ei gilydd, rhoddodd ymarferwyr gyfleoedd i blant fod yn greadigol wrth chwarae, gan werthfawrogi’r broses greadigol yn hytrach na chanolbwyntio ar gynnyrch gorffenedig. Roedd hyn yn golygu y datblygodd y rhan fwyaf o blant eu medrau creadigol yn briodol trwy weithgareddau celf a chrefft, gan ddewis y deunyddiau a’r adnoddau roeddent am eu defnyddio. Roedd llawer o blant yn dangos mwynhad a phleser wrth iddynt ddatblygu eu medrau creadigol yn effeithiol, er enghraifft wrth iddynt ddawnsio’n llawn mynegiant a chwarae offerynnau taro yn llwyddiannus i ganeuon cyfarwydd. Datblygodd llawer o blant eu medrau meddwl a datrys problemau yn effeithiol, er enghraifft wrth wneud cuddfan yn yr ardal awyr agored a dyfeisio ffyrdd i atal y tarpolin rhag cael ei dynnu gan y gwynt.

Mewn mwyafrif o leoliadau cyfrwng Saesneg, roedd ymarferwyr yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i blant ymarfer a datblygu eu medrau Cymraeg. Roeddent yn defnyddio caneuon gyda’r plant ac yn darllen storïau syml iddynt. Roeddent yn defnyddio’r Gymraeg i ofyn cwestiynau syml ac annog plant i enwi lliwiau a rhifau’n briodol wrth chwarae. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o leoliadau, nid oedd ymarferwyr yn rhoi digon o gyfleoedd i blant glywed neu ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’r drefn ddyddiol. Roedd y rhan fwyaf o ymarferwyr mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg yn cynllunio’n dda i ddatblygu medrau Cymraeg plant ac yn cefnogi’r rhai a oedd yn newydd-ddyfodiaid i’r iaith yn effeithiol. Roeddent yn darparu ystod eang o weithgareddau dysgu a chwarae cyffrous a oedd yn golygu bod llawer o blant, gan gynnwys y rhai nad oeddent yn siarad Cymraeg gartref, yn gwneud cynnydd da yn eu medrau Cymraeg llafar.

Roedd y rhan fwyaf o leoliadau’n dathlu ac yn rhoi ychydig o gyfleoedd addas i blant gael profiad o ddiwylliant Cymru. Er enghraifft, yn ogystal â dathlu diwrnodau pwysig yn y calendr Cymreig, roedd llawer o leoliadau hefyd yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i blant ddysgu am eu hardal leol trwy ymweliadau rheolaidd ag atyniadau lleol ac adeiladau hanesyddol. Darparodd y rhan fwyaf o leoliadau ychydig o gyfleoedd addas i blant ddysgu am ddiwylliannau a chredoau eraill, fel trwy ddysgu am Diwali a’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd. Fodd bynnag, yn rhy aml, roedd adnoddau a phrofiadau i ddatblygu dealltwriaeth plant o gydraddoldeb a gwahaniaethau diwylliannol ehangach yn gyfyngedig. O ganlyniad, nid oedd plant bob amser yn dysgu am eu cymdeithas ehangach ac amrywiaeth Cymru.

Plentyn yn chwarae ar faes yr ysgol gydag athro

Gofal, cymorth a lles

Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, parhaodd y rhan fwyaf o leoliadau i ddarparu gofal, cymorth ac arweiniad cryf i blant, a gafodd effaith gadarnhaol ar les plant. Wrth gyrraedd eu lleoliadau, roedd y rhan fwyaf o blant yn teimlo’n hapus, yn hyderus ac yn awyddus i ddechrau’r diwrnod. Roedd llawer ohonynt yn cyfarch ei gilydd yn hapus ac yn siarad ag ymarferwyr yn llawn cyffro am eu newyddion.

Roedd bron pob un o’r ymarferwyr yn rhyngweithio’n dda â’r plant ac yn meithrin perthynas gadarnhaol â nhw. Roeddent yn rhyngweithio mewn modd cynnes, cyfeillgar ac yn helpu i greu amgylcheddau tawel a hamddenol i blant. Yn yr enghreifftiau gorau, roedd ymarferwyr yn sylwgar iawn ac yn cefnogi plant i fod yn fwy ymgysylltiedig ac annibynnol wrth chwarae a dysgu, gan gymryd diddordeb ym mywyd pob plentyn.

Lle’r oedd arfer ar ei chryfaf, roedd plant yn cael cyfleoedd gwerthfawr i fynegi eu hunain yn glir. Roedd ganddynt lais cryf ac roeddent yn cyfrannu’n gadarnhaol at y ffordd roedd ymarferwyr yn datblygu’r ddarpariaeth. Lle’r oedd hyn yn fwyaf effeithiol, roedd ymarferwyr yn ystyried eu diddordebau a’u safbwyntiau ac yn eu cynnwys yn y gweithgareddau cynlluniedig, er enghraifft trwy roi camerâu i’r plant dynnu lluniau o ddail yr hydref er mwyn ymateb i’w cwestiynau am y lliwiau gwahanol. O ganlyniad, roedd llawer o blant yn archwilio ardaloedd yn rhydd ac yn hyderus ac yn penderfynu beth i chwarae ag ef a ble i archwilio. Roeddent yn mynegi eu teimladau ac yn gwneud penderfyniadau effeithiol am sut roeddent yn treulio eu hamser a gyda phwy roeddent yn chwarae. Roedd llawer o blant yn mynd at ymarferwyr yn gyson â cheisiadau ac yn sgwrsio â nhw’n naturiol.

Parhaodd ymarferwyr i roi pwyslais cryf ar annog plant i fod yn iach ac yn heini. Roeddent yn defnyddio arferion a gweithgareddau cadarnhaol i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw. Er enghraifft, roeddent yn cynnig amrywiaeth addas o ddewisiadau bwyd a diod iach i’r plant ar gyfer eu byrbrydau. Rhoddodd bron pob arweinydd systemau addas ar waith i reoli alergeddau ac, yn ôl yr angen, anghenion iechyd penodol plant unigol.

Lle’r oedd ymarferwyr yn sicrhau cydbwysedd da o weithgareddau dan arweiniad oedolion a phlant, a oedd yn briodol i’w hoedran, datblygodd plant eu medrau annibyniaeth yn dda. Er enghraifft, roedd plant hŷn yn dewis ac yn paratoi eu ffrwythau eu hunain yn ystod amser byrbryd. Roeddent yn casglu eu powlenni eu hunain, yn cael gwared ar fwyd oedd dros ben ac yn rhoi eu llestri yn y sinc. Roedd y rhan fwyaf o’r plant yn rhoi sylw priodol i’w medrau gofal personol, fel golchi eu dwylo ar adegau priodol ac estyn hances i sychu eu trwyn. Mewn ychydig o leoliadau, roedd plant yn dysgu i helpu pobl eraill trwy osod enwau, platiau a chwpanau, gweini eu hunain â gefeiliau a thywallt llaeth yn ystod amser byrbryd.

Ym mron pob lleoliad, datblygodd arweinwyr ystod gynhwysfawr o bolisïau a gweithdrefnau perthnasol i gynorthwyo ymarferwyr i gadw plant yn ddiogel. Roedd gan bron pob un o’r arweinwyr a’r ymarferwyr wybodaeth gadarn am sut i amddiffyn plant ac yn gwybod beth i’w wneud os oedd ganddynt unrhyw bryderon. Yn yr ychydig iawn o achosion lle y nodom broblemau o ran diogelu, nid oedd gan ymarferwyr ddealltwriaeth ddigonol o bolisi a gweithdrefnau diogelu’r lleoliad ac nid oeddent yn eu rhoi ar waith yn ddigon da. Mewn ychydig iawn o leoliadau, nid oedd gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn ddigon cadarn, fel gweithdrefnau i lofnodi oedolion i mewn ac allan o leoliadau neu gofnodi ymarferion tân yn briodol.

Roedd y rhan fwyaf o ymarferwyr yn fodelau rôl cadarnhaol i blant, gan ddangos iddynt sut i drin ei gilydd â pharch a chwrteisi. Roeddent yn rheoli ymddygiad plant yn fedrus, gan ddefnyddio strategaethau cadarnhaol ac esboniadau clir, yn unol â’u polisïau rheoli ymddygiad. Roedd llawer o ymarferwyr yn cefnogi ac yn rhagweld anghenion emosiynol plant yn dda. Er enghraifft, roeddent yn paratoi’r plant ac yn eu cyflwyno i oedolion anghyfarwydd a oedd yn ymweld â’r lleoliad.

Roedd y rhan fwyaf o ymarferwyr yn defnyddio eu gwybodaeth am y plant yn dda i ddarparu gofal addas a oedd yn briodol i’w hanghenion. Yn yr enghreifftiau gorau, roeddent yn defnyddio’r holl wybodaeth a ddarparwyd gan rieni a gofalwyr, gan gynnwys proffiliau un-dudalen i addasu eu darpariaeth yn unol ag anghenion unigol. Roeddent yn nodi plant a all fod ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn gywir ac roedd ganddynt systemau effeithiol i’w cefnogi nhw a’u teuluoedd. Roedd y rhan fwyaf o ymarferwyr yn gwneud defnydd effeithiol o gymorth gan yr awdurdod lleol.

Deall anghenion unigol plant ym Meithrinfa Ddydd Meadowbank, Y Fenni, Sir Fynwy

Mae gan ymarferwyr wybodaeth helaeth am anghenion unigol plant. Maent yn cynnal arsylwadau fel rhan o’r sesiwn ddyddiol ac yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir i lywio eu cynllunio a’r camau nesaf yn nysgu unigol plant. Mae gan ymarferwyr ddealltwriaeth ragorol o anghenion pob plentyn, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion sy’n dod i’r amlwg. Mae’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn cynnig cyngor ac arweinyddiaeth effeithiol ar bob mater sy’n ymwneud ag ADY. Gwna ymarferwyr ddefnydd da o’r cysylltiadau a ffurfiwyd â gwasanaethau arbenigol, fel Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar yr awdurdod lleol a gweithwyr proffesiynol iaith a lleferydd. Mae ymarferwyr yn ymgysylltu’n dda â rhieni wrth nodi targedau unigol y plant ac adolygu eu cynnydd.

Plentyn ifanc yn chwarae tu allan

Arwain a gwella

Roedd arweinyddiaeth yn gryf yn y rhan fwyaf o leoliadau. Roedd bron pob arweinydd yn cynnig gweledigaeth glir ar gyfer eu lleoliadau. Yn yr enghreifftiau cryfaf, roeddent yn rhannu eu gweledigaeth â’r holl staff a rhieni ac yn adolygu eu polisïau a gweithdrefnau i sicrhau bod y rhain yn adlewyrchu eu gweledigaeth.

Roedd llawer o arweinwyr yn ymgysylltu’n effeithiol ag ymarferwyr wrth adolygu eu harfer a’u darpariaeth eu hunain a chynnydd plant. Yn yr enghreifftiau gorau, roedd arweinwyr yn ystyried safbwyntiau rhieni ac athrawon ymgynghorol yn dda i’w helpu i greu darlun cywir o’u darpariaeth. Roedd y lleoliadau mwyaf effeithiol yn defnyddio’r wybodaeth gynhwysfawr hon yn dda i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella. Roedd gan y lleoliadau hyn gysylltiad da rhwng y blaenoriaethau a nodwyd ganddynt a chynlluniau ar gyfer datblygu. Fe wnaethant nodi camau gweithredu clir i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau. Arweiniodd y rhain at welliannau clir yng nghynnydd plant, ansawdd darpariaeth a dealltwriaeth ymarferwyr o’r cwricwlwm. Fodd bynnag, mewn ychydig o leoliadau, er bod arweinwyr yn aml yn deall yr angen am y prosesau hyn, roedd monitro a gwerthuso i gefnogi gwelliant parhaus yn gyfyngedig.

Roedd llawer o arweinwyr yn cynnal goruchwyliaeth a gwerthusiadau rheolaidd gydag ymarferwyr. Roeddent yn sicrhau bod ymarferwyr yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau’n dda ac yn crynhoi rhain mewn swydd ddisgrifiadau manwl. Lle’r oedd hyn yn fwyaf effeithiol, roedd arweinwyr yn nodi anghenion hyfforddiant ymarferwyr a chyfleoedd am ddatblygiad proffesiynol parhaus yn effeithiol. Yn yr arfer fwyaf effeithiol, arweiniodd hyn at ddarpariaeth o ansawdd da a oedd yn cael ei gwerthuso a’i mireinio’n rheolaidd. Yn yr ychydig achosion lle nad oedd arfer yr un mor effeithiol, roedd gwerthusiadau staff yn rhy anffurfiol ac nid oeddent yn canolbwyntio’n ddigon da ar nodi cryfderau, targedau ar gyfer gwella ac anghenion hyfforddiant.

Roedd bron pob arweinydd yn sicrhau bod plant yn cael gofal mewn amgylchedd diogel a sicr a oedd wedi’i gynnal a chadw’n dda, yn lân ac yn lle addas i blant ddysgu a chwarae. Roedd llawer o arweinwyr ac ymarferwyr yn darparu amgylcheddau cyfoethog a symbylol i blant a oedd yn cefnogi pob un o’u meysydd dysgu a datblygiad yn dda. Cafodd y rhain effaith gadarnhaol ar ddysgu plant, fel helpu i ddatblygu eu medrau corfforol, cymdeithasol a chyfathrebu.

Darparu amgylchedd dysgu cyfoethog a symbylol yn Mini Miners Club, Ystrad Mynach, Caerffili

Mae arweinwyr yn gweithio’n dda i ddarparu amgylchedd dan do croesawgar, symbylol sy’n addas i blant, sy’n tanio chwilfrydedd plant. Maent yn defnyddio cydbwysedd effeithiol o adnoddau naturiol ac adnoddau gwneud. Mae pob un o’r ystafelloedd chwarae yn olau ac yn drefnus ac mae ganddynt ardaloedd sydd wedi’u nodi’n glir. Mae arweinwyr yn sicrhau lefel o gysondeb o fewn yr ystafelloedd chwarae amrywiol i gynorthwyo â phontio a datblygu ymdeimlad o berthyn wrth i blant symud o amgylch y lleoliad. Mae ymarferwyr yn darparu ystod fuddiol o adnoddau i ennyn diddordeb plant wrth iddynt aros i fynd i’r ystafelloedd chwarae, er enghraifft ardal lyfrau glyd lle gall plant eistedd a rhannu llyfrau â’u rhieni a gofalwyr. Gwna arweinwyr ddefnydd da o ddodrefn ac adnoddau go iawn ac maent yn ystyried hyn yn rhan greiddiol o’u gweledigaeth ar gyfer y lleoliad. Mae pob ystafell yn cynnwys dodrefn deniadol sydd o faint addas i’r plant, addurniadau, dillad go iawn ac offer cegin. Mae’r adnoddau hyn yn cefnogi dychymyg a chwilfrydedd plant yn effeithiol ac yn cynnig ysbrydoliaeth werthfawr ar gyfer chwarae rôl.

Fodd bynnag, nid oedd gan ychydig o leoliadau asesiadau risg digon cadarn bob tro i nodi a lliniaru peryglon rhagweladwy. Yn aml, roedd angen i’r rhain gael eu diweddaru neu eu teilwra ar gyfer nodweddion penodol y lleoliad unigol.

Yn y rhan fwyaf o leoliadau, roedd arweinwyr yn defnyddio cyllid yn effeithiol i wella darpariaeth ar gyfer dysgu a datblygiad plant. Roeddent yn defnyddio Grant Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar a grantiau eraill yn effeithlon. Cafodd y rhain effaith gadarnhaol ar fedrau corfforol, cymdeithasol a chyfathrebu plant. Roedd ychydig o leoliadau hefyd yn cefnogi’r disgyblion hynny ag anghenion ychwanegol yn ddefnyddiol, er enghraifft trwy ddarparu byrddau gwyn synhwyraidd i helpu plant i ddatblygu medrau gwneud marciau cynnar.

Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, roedd gan y rhan fwyaf o leoliadau gysylltiadau cryf â rhieni a gofalwyr Roeddent yn rhoi gwybodaeth werthfawr iddynt i gefnogi dysgu eu plant gartref a deall y cynnydd roedd eu plentyn yn ei wneud yn y lleoliad. Cynhaliodd llawer o leoliadau sesiynau aros a chwarae i gynyddu gwybodaeth rhieni a gofalwyr am beth roedd eu plant yn ei wneud yn ystod y dydd a sut roeddent yn hoffi dysgu. Roedd y sesiynau hyn yn creu cysylltiad cryf ac ymdeimlad o berthynas rhwng y lleoliadau a theuluoedd.

Roedd llawer o leoliadau’n cydweithio’n agos â’u Hathrawon Ymgynghorol y Blynyddoedd Cynnar. Roeddent yn cymryd rhan mewn deialog broffesiynol reolaidd ac yn gweithredu ar gyngor i wella darpariaeth i’w plant. Roeddent hefyd yn manteisio ar hyfforddiant buddiol a oedd yn eu cynorthwyo’n dda i roi’r cwricwlwm ar waith. Roedd hyn yn eu galluogi i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cwricwlwm a rhoi system ar waith i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Manteisiodd ychydig iawn o leoliadau cyfrwng Cymraeg ar gyfleoedd hyfforddiant gwerthfawr ar ddulliau trochi iaith, sydd wedi cael effaith fuddiol ar wella medrau Cymraeg plant. Fodd bynnag, methodd ychydig iawn o leoliadau i greu cysylltiadau buddiol â’r awdurdod lleol neu grwpiau cymunedau ehangach a busnesau. O ganlyniad, nid oedd ychydig iawn o leoliadau’n gwneud defnydd addas o’r ystod o gyfleoedd a oedd ar gael i ddatblygu dysgu plant a’u dealltwriaeth o’r byd o’u cwmpas bob tro.

Roedd trefniadau ar gyfer pontio rhwng lleoliadau ac ysgolion yn amrywio. Mewn mwyafrif o leoliadau, roedd arweinwyr wedi sicrhau partneriaethau effeithiol ag ysgolion i sicrhau pontio rhwydd i blant. Lle’r oedd trefniadau pontio wedi’u hen sefydlu, roedd cyfathrebu rhwng lleoliadau ac ysgolion yn rheolaidd ac yn ddefnyddiol. Roedd lleoliadau’n trefnu i blant ymweld ag ysgolion cyn iddynt ddechrau eu cyfnod yno. Er enghraifft, roedd ychydig ohonynt yn gallu cael cinio yn yr ysgol, a mynychodd llawer o blant achlysuron fel cyngherddau, gwasanaethau neu ddiwrnod mabolgampau. Roedd llawer o arweinwyr yn trefnu i athrawon o’r ysgolion ymweld â’r lleoliad i gyfarfod â’r plant mewn amgylchedd cyfarwydd a dysgu mwy amdanynt.


Cyfeiriadau

Llywodraeth Cymru (2022) Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas gynhelir. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://hwb.gov.wales/api/storage/2292053c-a4fe-41fe-8e8d-c6ad34b66309/230626-cwricwlwm-ar-gyfer-lleoliadau-meithrin-a-ariennir-nas-cynhelir.pdf [Cyrchwyd 16 Tachwedd 2023]