Mynd i'r cynnwys

Themâu allweddol

Gweithgarwch dilynol arolygu

2022-2023


Plant yn chwarae ar offer yn yr ysgol

Pan fydd arolygwyr yn nodi diffygion difrifol adeg arolygiad craidd, rhoddir darparwyr mewn categori gweithgarwch dilynol. Mae trefniadau dilynol yn amrywio ar draws sectorau a gellir eu gweld yn yr arweiniad ‘Sut rydym yn arolygu’ ar ein gwefan.

Lleoliadau nas cynhelir

Mae Estyn yn arolygu lleoliadau nas cynhelir ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae timau arolygu’n ystyried a oes angen naill ai gweithgarwch dilynol gwelliant â ffocws neu weithgarwch dilynol Estyn yn unig, o’r enw adolygu gan Estyn. Gellir gweld arweiniad ar drefniadau gweithgarwch dilynol mewn lleoliadau nas cynhelir yma.

Pan roddwyd lleoliadau yn y categori gweithgarwch dilynol gwelliant â ffocws, amlygodd argymhellion fod angen i arweinwyr a rheolwyr:

  • gryfhau’r ffordd y maent yn gwerthuso darpariaeth ac yn mynd i’r afael ag agweddau y mae angen eu gwella
  • datblygu agweddau fel ansawdd yr addysgu a defnyddio arsylwadau i gryfhau’r ddarpariaeth ar gyfer plant
  • mynd i’r afael â’r meysydd diffyg cydymffurfio â rheoliadau a amlygwyd gan y tîm arolygu

Yn ystod 2022-2023, tynnwyd pum lleoliad nas cynhelir o’r categori gweithgarwch dilynol gwelliant â ffocws. Roedd y darparwyr hyn wedi derbyn argymhellion yn ymwneud ag arweinyddiaeth a rheolaeth, yn amlygu’r angen i ddatblygu eu hymagwedd at hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella.

Roedd y gwelliannau allweddol a nodwyd gan arolygwyr pan dynnwyd darparwyr o’r categori gweithgarwch dilynol yn cynnwys:

  • Sefydlodd arweinwyr rolau a chyfrifoldebau clir, fel bod ymarferwyr yn deall beth oedd yn ddisgwyliedig ohonynt.
  • Mewn rhai lleoliadau, datblygodd arweinwyr arweiniad arferion i helpu ymarferwyr i ddeall sut i gefnogi chwarae ac annog dysgu.
  • Roedd gan arweinwyr ddealltwriaeth ddyfnach o lawer o bwysigrwydd gwerthuso darpariaeth a’r effaith ar brofiadau a chynnydd plant. Ystyrion nhw farn ymarferwyr trwy sgyrsiau anffurfiol a chyfarfodydd tîm rheolaidd.
  • Roedd cynlluniau gwella cryno yn cynnwys blaenoriaethau allweddol, a oedd wedi’u rhannu’n dargedau rhesymol yn gysylltiedig ag amser ac yn cynnwys meini prawf llwyddiant clir.
  • Roedd arweinwyr yn deall gwerth dysgu proffesiynol ac yn elwa ar ddysgu proffesiynol wedi’i hwyluso gan bartneriaid fel tîm ymgynghorol y blynyddoedd cynnar yn yr awdurdod lleol, a sefydliadau ymbarél sy’n darparu cyngor a chymorth ymarferol ar gyfer lleoliadau.
  • Roedd arweinwyr yn datblygu systemau addas ar gyfer arfarnu a goruchwylio ymarferwyr, ac o ganlyniad, ymgymerodd staff â mwy o gyfrifoldeb am wella.
Plant yn cario bagiau ar y ffordd i'r ysgol

Ysgolion a gynhelir ac UCDau

Yn ystod pob arolygiad, mae arolygwyr yn ystyried a yw’r ysgol neu’r UCD yn achosi pryder sy’n golygu y gallai fod angen ei rhoi mewn categori statudol. Os nad yw’r ysgol yn rhoi safon dderbyniol o addysg i’w disgyblion ac nad yw’r bobl sy’n gyfrifol am arwain, rheoli neu lywodraethu’r ysgol / UCD yn dangos y gallu i sicrhau gwelliant angenrheidiol yr ysgol, caiff ei gosod yn y categori mesurau arbennig. Os yw arolygwyr yn dod i’r casgliad nad oes angen mesurau arbennig ar yr ysgol / UCD, mae arolygwyr yn ystyried os nad yw’r ysgol / UCD yn perfformio cystal o gryn dipyn nag y gellid yn rhesymol disgwyl iddi berfformio yn yr holl amgylchiadau. Os felly, gosodir yr ysgol / UCD mewn gwelliant sylweddol. Os yw arolygwyr wedi ystyried o ddifri gosod ysgol neu UCD mewn categori statudol ond yn pryderu bod angen gweithgarwch dilynol, gallent ystyried gosod yr ysgol yn y categori adolygu gan Estyn. Gellir gweld arweiniad ar drefniadau gweithgarwch dilynol mewn ysgolion a gynhelir ac UCDau yma.

Yn yr ysgolion prin oedd angen gweithgarwch dilynol statudol, yn gyffredinol, roedd diffygion sylweddol yn ansawdd yr arweinyddiaeth a’r rheolaeth. Yn rhy aml, nid oedd arweinwyr yn rhannu gweledigaeth glir nac yn darparu cyfeiriad strategol effeithiol i’r ysgol. Yn nodweddiadol, nid oedd disgwyliadau arweinwyr o’r hyn y gallai disgyblion ei gyflawni yn ddigon uchel, ac o ganlyniad, nid oeddent yn mynd i’r afael â diffygion yng nghynnydd disgyblion ar ddigon o frys. Roedd ansawdd yr arfer ystafell ddosbarth yn yr ysgolion hyn yn wan neu’n anghyson, ac o ganlyniad, nid oedd disgyblion yn gwneud y cynnydd y dylent neu y gallent. Yn aml, roedd yr ysgol wedi profi cyfnod sylweddol o aflonyddwch mewn staffio, ac yn rhy aml, roedd morâl staff yn isel.

Pan osodir ysgolion ac UCDau mewn categori gweithgarwch dilynol statudol, mae arolygwyr yn monitro’u cynnydd wrth fynd i’r afael â’r argymhellion o’r arolygiad craidd. I ddechrau, mae arolygwyr yn gweithio gydag arweinwyr yr ysgol a’r awdurdod lleol i’w cynorthwyo i lunio cynllun gweithredu ôl-arolygiad (CGOA).

Pan fydd angen mesurau arbennig ar yr ysgol, mae arolygwyr yn parhau i ymweld bob pedwar i chwe mis, hyd nes bydd yr ysgol yn dangos bod ganddi’r capasiti i wneud gwelliannau heb gymorth. Yn ystod 2022-2023, gwnaeth arolygwyr ymweliadau monitro rheolaidd, tymhorol ag 18 o ysgolion mewn mesurau arbennig. Yn ystod y flwyddyn, tynnwyd chwe ysgol (pum ysgol uwchradd ac un ysgol gynradd) o’r categori mesurau arbennig.

Darparwr: Ysgol Uwchradd Dinbych

Lefel gweithgarwch dilynol: Mesurau Arbennig

Tynnwyd: Mehefin 2023

Arolygwyd Ysgol Uwchradd Dinbych yn Nhachwedd 2016. O ganlyniad i ddiffygion mewn arweinyddiaeth ac addysgu, nid oedd disgyblion yn gwneud digon o gynnydd ac roedd angen gwelliant sylweddol. Mewn ymweliad monitro deunaw mis yn ddiweddarach, nodwyd nad oedd yr ysgol wedi gwneud y gwelliannau hyn a rhoddwyd yr ysgol yn y categori mesurau arbennig.

Er bod gan yr ysgol gynllun gweithredu ôl-arolygiad addas a chyflwyno amrediad o strategaethau i sicrhau gwelliannau, erbyn seithfed ymweliad Estyn ym Mai 2022, nid oedd yr ysgol wedi gwneud digon o gynnydd i gael ei thynnu o gategori gweithgarwch dilynol. Un o’r ffactorau a gyfyngodd ar wella’r ysgol oedd sawl blwyddyn o ansefydlogrwydd yn uwch arweinyddiaeth yr ysgol.

Pan apwyntiwyd y pennaeth presennol ym Medi 2022, rhoddodd flaenoriaeth i sefydlu diwylliant o ymddiriedaeth a chydweithio. Un o agweddau pwysicaf ei weledigaeth oedd dylai staff gydweithio ar strategaethau gwella oedd yn canolbwyntio ar wella deilliannau disgyblion yn hytrach na ffocysu ar ymweliadau monitro Estyn. Bu i’r pennaeth adnabod nad oedd arolygwyr yn edrych am strategaeth neu ddull penodol, ond yn hytrach eu bod yn canolbwyntio ar effaith gwaith yr ysgol ar gynnydd a lles disgyblion.

Un o ymagweddau allweddol ei ddull gweithredu oedd cyflwyno’r broses ‘Gwella Ansawdd’. Roedd y dull hwn o hunanwerthuso a chynllunio gwella yn defnyddio cydweithio rhwng uwch arweinwyr, arweinwyr canol a staff eraill – er enghraifft gyda chraffu llyfrau ac arsylwadau gwersi – fel man cychwyn. Roedd hyn yn helpu athrawon ac arweinwyr ar bob lefel i ddod i gyd-ddealltwriaeth o’r cryfderau a’r meysydd penodol ar gyfer datblygu ar gyfer pob maes pwnc ac athro unigol. Nid yn unig y gwnaeth hyn alluogi arweinwyr i gynllunio ar gyfer gwelliant yn fwy manwl, roedd y ffocws ar ‘sgyrsiau dysgu’ yn hytrach nag atebolrwydd ‘o’r brig i lawr’ wedi helpu i gryfhau’r diwylliant datblygol o ymddiriedaeth a chydweithio.

Cafodd uwch-rolau arweinyddiaeth eu mireinio a’u hail-alinio er mwyn cyd-fynd yn agosach â blaenoriaethau gwella’r ysgol a hefyd i wneud y defnydd gorau o sgiliau a phrofiad arweinwyr unigol. Ad-drefnwyd arweinyddiaeth fugeiliol i helpu’r arweinwyr hyn i fabwysiadu dull mwy cydlynol a chydweithredol o gefnogi a gwella lles disgyblion. Er mwyn mynd i’r afael â’r argymhelliad ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer datblygu sgiliau disgyblion, dechreuodd arweinwyr fabwysiadu dull mwy strategol â ffocws. Roedd hyn yn golygu bod meysydd pwnc unigol yn canolbwyntio ar feysydd sgiliau penodol, dynodedig, er enghraifft datblygu gallu disgyblion i grynhoi gwybodaeth o ystod o destunau. Helpodd hyn i gynyddu effaith yr agwedd hon ar waith yr ysgol.

Cynyddodd y dulliau cryfach hyn gyflymder y gwelliant. Yn yr ymweliadau monitro a gynhaliwyd yn 2022-2023, nododd arolygwyr fod addysgu yn gynyddol heriol a diddorol a’i fod yn helpu disgyblion i wneud cynnydd gwell. O ganlyniad, cafodd yr ysgol ei thynnu o fesurau arbennig ym mis Mehefin 2023.

Mae’r rhan fwyaf o’r ysgolion sydd angen gwelliant sylweddol yn gwneud y gwelliannau angenrheidiol ymhen rhyw ddeunaw mis i ddwy flynedd. Fodd bynnag, mae ysgolion ac UCDau sydd angen mesurau arbennig fel arfer yn cymryd rhwng dwy a phum mlynedd i ddatblygu’r gallu i wella a chael eu tynnu o weithgarwch monitro pellach. Mae maint yr amser yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys maint yr ysgol a maint y staffio a’r aflonyddwch o ran arweinyddiaeth. Yn gyffredinol, pan fydd timau arweinwyr a staff sefydlog ar waith, mae arweinwyr yn symbylu staff i ysgogi gwelliannau sefydlog, a chyflym o bryd i’w gilydd, sy’n arwain at welliannau i ddeilliannau disgyblion a thynnu o gategori monitro.

Darparwr: Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Malpas

Lefel gweithgarwch dilynol: Mesurau arbennig

Tynnwyd: Tachwedd 2022

Arolygwyd Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Malpas ym mis Tachwedd 2019 a’i gosod mewn mesurau arbennig. Nododd arolygwyr fod perthnasoedd toredig rhwng staff ac arweinwyr, gan arwain at ddiffyg cyfeiriad clir a strategol. Nid oedd systemau olrhain yr ysgol yn cynorthwyo arweinwyr i nodi p’un a oedd pob un o’r disgyblion yn gwneud y cynnydd y dylent. Nid oedd monitro gan arweinwyr yn nodi nac yn mynd i’r afael ag arfer wan yn yr ystafell ddosbarth.

Yn ystod tymor y gwanwyn 2020, cyn y pandemig, bu pennaeth dros dro o ysgol gyfagos yn gweithio gyda’r dirprwy bennaeth am dymor i greu cynllun gweithredu ôl-arolygiad addas. Yn hydref 2020, penodwyd pennaeth gweithredol dros dro i arwain yr ysgol am flwyddyn, a chafodd pennaeth parhaol ei recriwtio gan y corff llywodraethol.

Dechreuodd y pennaeth newydd yn ei swydd ym mis Medi 2021. Galluogodd y sefydlogrwydd hwn mewn arweinyddiaeth yr ysgol i ailddiffinio rolau a chyfrifoldebau pawb, a sefydlu disgwyliadau gofynnol clir a chytunedig ar gyfer arfer ystafell ddosbarth. Yn ystod y flwyddyn, parhaodd cyflymdra’r gwelliant, a bu staff ac arweinwyr ar bob lefel yn cydweithio â’i gilydd. Sicrhaodd sianelau cyfathrebu cryf fod pawb yn wybodus ac yn dilyn hynt a helynt digwyddiadau. O ganlyniad, sefydlodd yr ysgol synnwyr clir o gymuned a hunaniaeth yn gyflym, gan ganolbwyntio ar wella’r ddarpariaeth a’r deilliannau ar gyfer disgyblion.

Yn ychwanegol, sefydlodd arweinwyr ddigwyddiadau proffesiynol rheolaidd, ochr yn ochr â chyfarfodydd wythnosol i staff ac arweinwyr. Dyfeision nhw gyfres o ganllawiau hanfodol a oedd yn esbonio’n fanwl y disgwyliadau cadarn a gytunwyd gan bob un o’r staff, yn cwmpasu agweddau penodol ar ddarpariaeth yr ysgol. O ganlyniad, dechreuodd ansawdd arfer ystafell ddosbarth wella. Cododd athrawon eu disgwyliadau o beth y gallai ac y dylai disgyblion ei gyflawni. Buont yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu gofod awyr agored eang yn amgylchedd dysgu pwrpasol, a ddefnyddir yn dda, a daeth ystafelloedd dosbarth yn lleoedd cynhyrchiol ac ysgogol i ddysgu. Bu’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol yn monitro’r cymorth ychwanegol yr oedd oedolion yn ei ddarparu ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, ac yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn gweddu i’w hanghenion unigol.

Erbyn hydref 2022, ar ôl monitro tymhorol, nododd arolygwyr fod arweinwyr a staff yn gweithio gyda’i gilydd yn adeiladol ac yn gynhyrchiol i greu synnwyr ar y cyd o ddiben a pherchnogaeth. Nodon nhw falchder datblygol yn ansawdd yr addysg y mae staff yn ei chyflwyno, yn dilyn gwelliannau i’r ddarpariaeth ystafell ddosbarth. O ganlyniad, tynnwyd yr ysgol o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2022.

Plant ysgol uwchradd yn defnyddio cyfrifiaduron

Trosolwg o argymhellion o ysgolion a osodwyd mewn categori gweithgarwch dilynol statudol o ganlyniad i’w harolygiad craidd:

Fel y gellir ei ddisgwyl, yn aml, gadawodd arolygwyr argymhellion i arweinwyr wella agweddau ar eu gwaith mewn ysgolion ac UCDau a osodwyd yn y categori gweithgarwch dilynol statudol.

Arweinyddiaeth

  • Ym mhob un o’r ysgolion hyn, gadawodd arolygwyr o leiaf un argymhelliad yn gysylltiedig â gwella ansawdd arweinyddiaeth a rheolaeth. Hefyd, cafodd tua hanner yr ysgolion hyn ddau o argymhellion neu fwy yn y maes hwn. Yn gyffredinol, nododd y rhain fod angen cryfhau neu sefydlogi arweinyddiaeth, diffinio rolau a chyfrifoldebau yn glir a dwyn staff ac arweinwyr i gyfrif.
  • Roedd negeseuon ynglŷn â chryfhau effaith arweinwyr ar wella safonau neu elfennau’r ddarpariaeth, er enghraifft ansawdd yr addysgu, hefyd yn ffocws ar gyfer argymhellion mewn llawer o’r ysgolion hyn.
  • Thema amlwg bellach oedd yr angen i gryfhau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant i sicrhau ei effaith ar nodi’r hyn yr oedd angen ei wella a sut i gyflawni’r gwelliant hwnnw. Gadawodd arolygwyr yr argymhelliad hwn mewn tua hanner y darparwyr a osodwyd yn y categori mesurau arbennig, a’r rhan fwyaf o’r rhai a osodwyd yn y categori gwelliant sylweddol.

Roedd argymhellion ynghylch gwella agweddau ar addysgu a phrofiadau dysgu yn amlwg ym mhob un o’r ysgolion a osodwyd mewn categori gweithgarwch dilynol statudol. Derbyniodd y rhan fwyaf ohonynt o leiaf ddau argymhelliad yn gysylltiedig â’r maes arolygu hwn.

  • Y brif thema o’r argymhellion hyn oedd yr angen i ddarparu her briodol i ddisgyblion a sicrhau bod athrawon yn cynllunio i ddatblygu medrau disgyblion yn systematig ac yn gydlynol (yn aml yn gysylltiedig â’r argymhellion a gafodd yr ysgol ar gyfer dysgu).
  • Roedd argymhellion eraill o’r maes hwn yn amrywio, gan gynnwys, er enghraifft yr angen i wella ansawdd addysgu ac asesu (er enghraifft trwy sefydlu cysondeb ar draws yr ysgol) a gwella elfennau o’r cwricwlwm.
  • Yn ychwanegol, derbyniodd bron pob un o’r ysgolion o leiaf un argymhelliad yn gysylltiedig â dysgu a chynnydd. Roedd y rhain bob tro yn gysylltiedig â gwella un neu fwy o fedrau craidd disgyblion, fel rhifedd, ysgrifennu, darllen neu’r Gymraeg (neu ryw fath o gyfuniad o’r rhain).

Roedd llai o argymhellion yn gysylltiedig â gwella lles disgyblion neu systemau’r ysgol ar gyfer gofal, cymorth ac arweiniad.

  • Cafodd ryw hanner yr ysgolion a osodwyd mewn categori gweithgarwch dilynol statudol argymhelliad yn ymwneud â materion diogelu a diogelwch a nodwyd yn ystod yr arolygiad. Cafodd gweddill yr ysgolion argymhellion yn gysylltiedig â chryfhau’r ddarpariaeth i gynorthwyo disgyblion ag ADY, neu’r ddarpariaeth i wella presenoldeb neu ymddygiad disgyblion.
  • Roedd ychydig iawn o argymhellion i wella lles disgyblion. Fodd bynnag, cafodd ychydig o ysgolion a osodwyd mewn categori gweithgarwch dilynol statudol argymhelliad i wella presenoldeb a phrydlondeb.

Trosolwg o argymhellion o ysgolion y mae angen iddynt gael eu hadolygu gan Estyn o ganlyniad i’w harolygiad craidd:

Cafodd bron pob un o’r ysgolion a’r UCDau y mae angen iddynt gael eu hadolygu gan Estyn argymhelliad i wella ansawdd arweinyddiaeth a rheolaeth. Yn gyffredinol, roedd y rhan fwyaf o’r argymhellion hyn yn canolbwyntio ar gryfhau neu fireinio effaith gwaith arweinwyr i ysgogi gwelliannau. Yn ychwanegol, nododd tua hanner yr argymhellion arweinyddiaeth ar gyfer yr ysgolion a’r UCDau hyn ofyniad i gryfhau’r cylch hunanwerthuso a chynllunio a gweithgarwch. Cafodd y rhan fwyaf o ysgolion ac UCDau argymhelliad i wella safonau disgyblion, a chafodd llawer ohonynt argymhelliad i wella addysgu a darpariaeth. Cafodd tua hanner y darparwyr y mae angen iddynt gael eu hadolygu gan Estyn argymhelliad i gryfhau eu systemau ar gyfer gofal, cymorth ac arweiniad, neu wella lles disgyblion a’u hagweddau at ddysgu.

Cynlluniau gweithredu ôl arolygiad a datganiad gweithredu’r awdurdod lleol

O dan ofynion Deddf Addysg 2005, lle mae ysgol neu uned cyfeirio disgyblion wedi cael ei gosod yn y categori angen gwelliant statudol neu fesurau arbennig, mae’n ofynnol i gorff llywodraethol yr ysgol neu bwyllgor rheoli’r UCD lunio cynllun gweithredu ôl-arolygiad (CGOA). Yn ychwanegol, mae gofyn i awdurdodau lleol baratoi datganiad gweithredu ysgrifenedig i gefnogi’r ysgol.

Dylai’r cynllun gweithredu amlinellu’r gwaith a gynigir i alluogi’r ysgol i wneud gwelliant digonol er mwyn mynd i’r afael â’r diffygion a nodwyd gan Estyn cyn gynted ag y bo modd. Dylai ysgolion anelu at wneud y gwelliannau angenrheidiol o fewn rhyw flwyddyn o ganfod bod angen gwelliant sylweddol arnynt, neu o fewn rhyw ddwy flynedd ar gyfer y rhai y mae angen mesurau arbennig arnynt. Fodd bynnag, yn ymarferol, gall hyn yn aml gymryd yn hirach, yn dibynnu ar amgylchiadau unigol pob ysgol.

Mater i ysgolion yw fformat y cynllun gweithredu. Fel isafswm, fodd bynnag, ar gyfer pob maes i’w wella (argymhelliad) a nodwyd yn yr adroddiad arolygu, dylai’r cynllun gweithredu nodi’r canlynol:

  • y camau y mae’r ysgol yn bwriadu eu cymryd
  • cyfrifoldeb arweiniol am y camau a gynigir
  • y cymorth y bydd yr ysgol yn ei gael i fynd i’r afael â’r maes i’w wella
  • y raddfa amser ar gyfer y gwaith i’w gwblhau gyda cherrig milltir allweddol
  • adnoddau i’w cymhwyso i’r gwaith
  • meini prawf llwyddiant (gan gynnwys targedau meintiol ar gyfer gwelliannau mewn deilliannau dysgwyr), y bydd cynnydd yn cael ei farnu yn eu herbyn
  • sut bydd cynnydd yn cael ei fonitro, e.e. pwy, pryd a sut
  • sut bydd yn rhoi gwybod i rieni am y camau a fwriedir ar gyfer yr ysgol, cael gwybod barn rhieni ar y camau hyn a sut bydd yn ystyried y farn honno

Rhaid i ddatganiad gweithredu’r awdurdod lleol hefyd fynd i’r afael â’r holl argymhellion yn yr adroddiad arolygu, gan gynnwys y meini prawf a nodir uchod. Yn ychwanegol, dylai datganiad yr awdurdod lleol nodi p’un a yw’r awdurdod yn bwriadu defnyddio’i bwerau ymyrraeth i ofyn i’r corff llywodraethol sicrhau cyngor neu gydweithio, rhoi cyfarwyddiadau i’r corff llywodraethol neu’r pennaeth a chymryd unrhyw gamau eraill, penodi llywodraethwyr ychwanegol, tynnu cyllideb ddirprwyedig yr ysgol yn ôl, neu ddisodli’r corff llywodraethol â bwrdd gweithredol dros dro.

Dylai fod yn glir fod yr awdurdod lleol a’r ysgol / UCD wedi gweithio gyda’i gilydd i greu eu cynlluniau.

Cwestiynau myfyriol

Mae’r cwestiynau hyn wedi’u cynllunio i helpu darparwyr ac awdurdodau lleol i ystyried eu cynlluniau gweithredu ôl-arolygiad a sut maent yn ysgogi gwelliannau cynaledig:

  • At ei gilydd, a yw’r cynllun gweithredu yn mynd i’r afael â’r materion allweddol sydd angen eu gwella?
  • A yw’r cyfnod ar gyfer y gweithgarwch gwella arfaethedig yn realistig ac ystyriol? Er enghraifft, a yw’r cerrig milltir yn gydlynus ac â chyflymdra addas? A yw’r blaenoriaethau wedi’u gwasgaru’n briodol dros y cyfnod arfaethedig?
  • A yw’r nodau sydd wedi’u nodi yn y cynlluniau yn briodol ddyheadol, o ystyried y sefyllfa bresennol? A ydynt yn debygol o arwain at y gwelliannau a gynigir gan y meini prawf llwyddiant?
  • A yw cynllun yr ysgol / UCD a chamau gweithredu arfaethedig yr awdurdod lleol yn glir i’w darllen, ac a oes cydlyniad rhyngddynt?
  • A yw rolau a chyfrifoldebau staff a llywodraethwyr yn briodol o glir? Er enghraifft, pwy sy’n monitro beth, pryd, sut, ac ar ba ffurf ddylai eu hadroddiad neu adborth fod?
  • A yw’r dysgu proffesiynol arfaethedig yn cyd-fynd yn dynn â’r gwelliannau arfaethedig? Sut bydd arweinwyr yn gwerthuso effeithiolrwydd dysgu proffesiynol?
  • A yw’r cynllun yn nodi’n glir y ffynonellau cyllid, y cymorth, yr amser a’r adnoddau eraill sydd eu hangen i wireddu’r cynllun yn llwyddiannus? A yw datblygiadau cynlluniedig, er enghraifft newidiadau staffio neu gyfleoedd dysgu proffesiynol, yn gost effeithiol?
  • Pa mor hylaw a realistig yw ymglymiad arfaethedig y corff llywodraethol yn y broses wella? A oes gan aelodau o’r corff llywodraethol y medrau sydd eu hangen arnynt, er enghraifft i fonitro a gwerthuso llwyddiant y cynllun?
  • Sut mae’r ysgol a’r awdurdod lleol yn bwriadu cynnwys rhieni / gofalwyr mewn cyfrannu eu barn? A oes cyfleoedd priodol ac ystyrlon i ddisgyblion gyfrannu eu syniadau a’u barnau?

Gwasanaethau addysg llywodraeth leol

Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, roedd tri awdurdod lleol mewn categori gweithgarwch dilynol. Barnwyd bod dau ohonynt wedi gwneud cynnydd digonol yn ystod ymweliadau monitro a chawsant eu tynnu o unrhyw weithgarwch dilynol pellach. Llwyddodd y ddau awdurdod lleol i wella’u gallu arwain a’u hymagweddau at werthuso a chynllunio ar gyfer gwella, a oedd yn agweddau pwysig i alluogi arweinwyr i sicrhau gwelliant ar draws yr argymhellion o’u harolygiadau. Mae cwestiynau i helpu gwasanaethau addysg llywodraeth leol i fyfyrio ar hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella wedi’u cynnwys o fewn ein crynodeb o’r sector. Gellir eu gweld yma.

Parhaom ni i weithio gydag un awdurdod lleol i fonitro a chefnogi ei broses wella. Fe wnaethom beilota ymagwedd newydd at gefnogi a monitro cynnydd trwy ymweliadau ac ymgysylltu mwy rheolaidd. Nod yr ymagwedd hon yw rhoi adborth mwy uniongyrchol ac amserol i’r awdurdod lleol ar ei gynnydd.

Ysgolion annibynnol

Methodd un o’r tair ysgol annibynnol a arolygwyd, a chwech o’r 25 ysgol yr ymwelwyd â nhw fel rhan o ymweliadau monitro yn 2022-2023, fodloni un neu fwy o’r rheoliadau. Mae hyn yn cynrychioli cyfran fwy o ysgolion sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau o gymharu â’r flwyddyn academaidd flaenorol. Yn ystod 2022-2023, ymwelodd arolygwyr â dwy o’r pum ysgol nad oeddent yn bodloni’r safonau ar gyfer cofrestru yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol. Gwerthusodd arolygwyr gydymffurfiad yr ysgolion â’r safonau yn dilyn cyfres o ymweliadau dilynol cefnogol. Gwelwyd bod y ddwy ysgol yn bodloni Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003. Felly, cawsant eu tynnu o’r categori gweithgarwch dilynol.

Trosolwg o ddarparwyr y mae angen gweithgarwch dilynol arnynt

Yn ystod y flwyddyn, roedd cyfran y darparwyr sydd angen gweithgarwch dilynol yn gyffredinol yn debyg i lefelau cyn y pandemig, sef tua 23%. Mae’r tablau isod yn cynnwys gwybodaeth am niferoedd y darparwyr a aeth i ryw fath o gategori gweithgarwch dilynol.

Sectorau ysgolion a gynhelir ac UCDau Cyfanswm nifer y darparwyr a arolygwyd 2022-2023 Mesurau arbennig Gwelliant sylweddol Adolygu gan Estyn
Cynradd 219 12 5 29
Uwchradd 28 1 4 6
Pob oed 6 1
UCD 4 1 1 1
Arbennig 7 1
Cyfran y darparwyr sydd angen gweithgarwch dilynol 5.3% 3.8% 14.4%
Sector Gweithgarwch dilynol Nifer a arolygwyd Nifer a osodwyd mewn categori gweithgarwch dilynol 2022-2023
Lleoliadau nas cynhelir Gwelliant â ffocws ar y cyd neu adolygu gan Estyn 92 2 (Gwelliant â ffocws ar y cyd)
Dysgu oedolion yn y gymuned Gweithgarwch dilynol 3 1
Ysgolion arbennig annibynnol Nid yw’n bodloni Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003 Ysgolion arbennig annibynnol 28 (3 arolygiad, 25 ymweliad) 7
Addysg Gychwynnol Athrawon Yn achosi pryder sylweddol ac angen ail-arolygiad neu Ymgysylltu Manylach gan Estyn 2 2 (1 yn achosi pryder sylweddol ac un angen ymgysylltu manylach)

Darparwyr a wnaeth ddigon o gynnydd i’w tynnu o’r categori gweithgarwch dilynol statudol (ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol), gwelliant â ffocws ar y cyd (lleoliadau nas cynhelir) a gweithgarwch dilynol (dysgu oedolion yn y gymuned ac ysgolion annibynnol) yn ystod blwyddyn academaidd 2022-2023.

Mae’n anodd nodi tueddiadau yn niferoedd y darparwyr sydd wedi cael eu tynnu o’r categori gweithgarwch dilynol yn ddiweddar. Mae hyn oherwydd amgylchiadau unigol darparwyr sydd angen gweithgarwch dilynol, ochr yn ochr ag effaith y pandemig ar weithgarwch arolygu. Yn nodweddiadol, darparwyr a osodir mewn mesurau arbennig sydd angen y cyfnod hiraf i wneud y gwelliannau angenrheidiol. Nid oes tystiolaeth i awgrymu bod darparwyr yn y categori gweithgarwch dilynol, dros gyfnod, yn gwneud cynnydd yn gyflymach neu’n arafach na’r rhai a oedd yn y categori gweithgarwch dilynol cyn y pandemig.

Darparwr Sector Awdurdod lleol Lefel y gweithgarwch dilynol Dyddiad tynnu o’r categori gweithgarwch dilynol Dyddiad dechrau’r arolygiad craidd
Cylch Chwarae Sŵn y Don Nas cynhelir Conwy GFf-C 17/11/2022 24/05/2022
Cylch Chwarae Greenfield Nas cynhelir Sir y Fflint GFf-C 11/10/2022 29/03/2022
Presteigne Little People Nas cynhelir Powys GFf-C 01/03/2023 14/06/2022
Pips Bach - Cefnllys Nas cynhelir Powys GFf-C 18/04/2023 11/10/2022
Cylch Meithrin Llangadog Nas cynhelir Sir Gaerfyrddin GFf-C 11/07/2023 25/01/2022
Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Malpas Cynradd Casnewydd MA 15/11/2022 04/11/2019
Ysgol Uwchradd Dinbych Uwchradd Sir Ddinbych MA 20/06/2023 15/11/2016
Ysgol Rhosnesni Uwchradd Wrecsam MA 27/03/2023 26/11/2018
Ysgol Greenhill Uwchradd Sir Benfro MA 12/12/2022 13/05/2014
Ysgol Uwchradd Casnewydd Uwchradd Casnewydd MA 27/03/2023 20/11/2017
Ysgol Gyfun Gwynllyw Uwchradd Torfaen MA 01/02/2023 08/04/2019
Cyngor Sir Penfro GALlL Sir Benfro AAPS 04/11/2022 02/12/2019
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam GALlL Wrecsam AAPS 28/07/2023 14/10/2019
Dysgu oedolion yn y gymuned Sir Benfro Dysgu oedolion yn y gymuned Sir Benfro GD 14/03/2022 01/08/2023
Mynydd Haf Annibynnol Dd/b GD 23/05/2022 21/07/2023
Summergil House Annibynnol Dd/b GD 14/03/2022 21/07/2023

MA – Mesurau arbennig
GS – Gwelliant sylweddol
GFf-C – Gwelliant â ffocws ar y cyd
AAPS – Awdurdod sy’n achosi pryder sylweddol
GD – Gweithgarwch dilynol

Fe wnaethom dynnu saith ysgol o’r categori adolygu gan Estyn yn ystod 2022-2023, hefyd.