Adroddiad Blynyddol
Ein hymagwedd
2022-2023
Mae canfyddiadau’r adroddiad hwn wedi’u seilio ar ddadansoddiad o ystod eang o dystiolaeth, gan gynnwys:
- Tystiolaeth o arolygiadau craidd a gynhaliwyd rhwng mis Medi 2022 a mis Awst 2023. Mae arolygiadau’n cynnwys gweithgareddau fel arsylwadau o addysgu a dysgu, teithiau dysgu, craffu ar waith dysgwyr, trafodaethau ag arweinwyr, staff a dysgwyr, a chraffu ar ddogfennau.
- Y dystiolaeth a gasglwyd ar ymweliadau dilynol â darparwyr mewn categorïau gweithgarwch dilynol a chyfarfodydd aml-asiantaethol.
- Canlyniadau ein holiaduron, gan gynnwys holiaduron cyn-arolygiad sy’n cael eu hanfon at ddarparwyr cyn arolygiad. Mae’r rhain yn nodweddiadol yn cynnwys holiaduron ar gyfer staff, dysgwyr, llywodraethwyr a rhieni.
- Tystiolaeth werthusol o ymweliadau a chyfarfodydd cyswllt â darparwyr, er enghraifft ymweliadau cyswllt awdurdodau lleol ac ymweliadau ag ysgolion annibynnol.
- Tystiolaeth o ymweliadau ymgysylltu.
- Tystiolaeth o ymweliadau i gasglu tystiolaeth ar gyfer adroddiadau thematig, neu yn gysylltiedig â themâu allweddol mewn addysg a hyfforddiant.
- Ymchwil wrth ddesg pellach, gan gynnwys adolygiad cyflym o lenyddiaeth ymchwil allanol.
- Adborth o gyfarfodydd â rhanddeiliaid.
- Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, dadansoddwyd y dystiolaeth ar gyfer gweithgareddau a gynhaliwyd ym mhob sector i nodi themâu cyffredin. Roedd hyn yn cynnwys dadansoddi’r argymhellion a roddwyd i ddarparwyr mewn sectorau.
- Dadansoddiad o ystadegau swyddogol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.