Mynd i'r cynnwys

Addysg Drochi Cymraeg

Strategaethau a dulliau i gefnogi dysgwyr 3-11 mlwydd oed

Ym mis Chwefror 2022, cyhoeddom ein hadroddiad thematig ar addysg drochi Cymraeg. Mae ein hadroddiad yn defnyddio ymweliadau â sampl o leoliadau nas cynhelir, ysgolion cynradd a chanolfannau trochi. Siaradom â disgyblion, athrawon, swyddogion awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol hefyd, a cheisio barn rhieni trwy holiadur. Ystyriom ddau fath o addysg drochi: sef trochi cynnar a throchi hwyr.

Mae trochi cynnar yn golygu cyflwyno a defnyddio’r Gymraeg fel unig iaith yr addysgu (heblaw am ychydig iawn o eithriadau) yn y cyfnod sylfaen mewn lleoliadau nas cynhelir ac ysgolion Cymraeg a dwyieithog. Yn yr arfer orau, mae hyn yn golygu bod y Gymraeg yn cael ei chyflwyno’n fwriadus i ddysgwyr mewn sesiynau iaith penodol, ynghyd â darparu cyfleoedd cyson iddynt gaffael a chymhwyso’u medrau Cymraeg trwy brofiadau cyfoethog o fewn a thu hwnt i’r dosbarth.

Mae trochi hwyr yn golygu darpariaeth ar gyfer dysgwyr sydd yn ymuno ag ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ffrydiau Cymraeg mewn ysgolion dwyieithog sydd heb brofi cyfnod cyfan o drochi cynnar yn y Gymraeg. Gall y dysgwyr hyn fod yn gwbl newydd i’r Gymraeg neu’n ailymgysylltu â darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Yn yr achosion cryfaf, mae darpariaeth trochi hwyr yn rhaglen ddwys a strwythuredig.

Ein hargymhellion

Dylai lleoliadau nas cynhelir ac ysgolion:

  1. Adeiladu ar arfer effeithiol a chynllunio ystod o weithgareddau cyson sy’n darparu cyfleoedd i ddysgwyr gaffael geirfa a phatrymau cystrawennol yn fwriadus a chydlynus

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  1. A2 Gynllunio’n fwriadus i sicrhau cyfle cyfartal i bob dysgwr gael mynediad at ddarpariaeth drochi cynnar a throchi hwyr
  2. A3 Gwerthuso darpariaeth drochi yn drwyadl, gan gynnwys olrhain cynnydd hwyrddyfodiaid yn gyson dros amser
  3. A4 Cryfhau a chysoni’r arlwy ddysgu broffesiynol am athroniaeth a dulliau addysg drochi ar gyfer pob ymarferydd

Dylai Llywodraeth Cymru:

  1. A5 Ddatblygu canllawiau cenedlaethol ar drochi cynnar a throchi hwyr, a chomisiynu ystod o adnoddau addas ar gyfer dysgwyr o bob oed i gefnogi addysg drochi sy’n dathlu amrywiaeth Cymru
  2. A6 Sefydlu fforwm cenedlaethol i hyrwyddo arferion mwyaf effeithiol addysg drochi, gan gynnwys hyrwyddo trefniadau lleol i gyflwyno geirfa a phatrymau cystrawennol

Beth ddywedodd ein hadroddiad thematig?

Addysg drochi yw prif ddull bron bob awdurdod lleol ar gyfer creu siaradwyr Cymraeg newydd a datblygu medrau Cymraeg dysgwyr. Canfuom fod arweinwyr mewn lleoliadau nas cynhelir, ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, ysgolion dwyieithog, a chanolfannau trochi iaith yn blaenoriaethu addysg drochi yn effeithiol. Maent yn darparu profiadau cyfoethog i ddysgwyr mewn amgylchedd dysgu gynhwysol a Chymreig.

Canfuom fod y rhan fwyaf o arweinwyr mewn awdurdodau lleol yn cynllunio strategaethau addas er mwyn galluogi ymarferwyr i ddefnyddio dulliau trochi cynnar fel rhan annatod o ddarpariaeth y cyfnod sylfaen. Mae tua hanner yr awdurdodau lleol yn cefnogi hwyrddyfodiaid i addysg cyfrwng Gymraeg mewn canolfannau trochi sy’n cynnig darpariaeth trochi hwyr. Mae’r ddarpariaeth drochi hwyr fwyaf effeithiol yn cael ei chynnig trwy gyfrwng rhaglenni dwys. Mae hyn yn golygu bod ymarferwyr yn meithrin medrau Cymraeg dysgwyr mewn grwpiau bach y rhan fwyaf o’r amser am gyfnod estynedig. Mae’r rhan fwyaf o ymarferwyr mewn canolfannau trochi iaith yn darparu rhaglenni trochi hynod lwyddiannus sy’n ysgogi dysgwyr yn effeithiol. Gan fod darpariaeth i hwyrddyfodiaid mor anghyson ledled Cymru, nid yw pob dysgwr yn cael yr un cyfle i fanteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg yn ddigon cynnar.

Yn yr arfer orau, mae awdurdodau a chonsortia rhanbarthol yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ymarferwyr ddatblygu eu dealltwriaeth o athroniaeth a dulliau trochi, a rhannu arfer effeithiol. Fodd bynnag, nid yw’r cyfleoedd dysgu proffesiynol yn cael effaith ddigon cyson ar wella darpariaeth er mwyn cefnogi dysgwyr i gaffael medrau Cymraeg trwy’r broses drochi.

Mae bron bob un o’r ymarferwyr yn cefnogi dysgwyr yn effeithiol trwy greu amgylchedd dysgu cynhaliol. Mae ymarferwyr yn cefnogi dysgwyr i deimlo’n gynyddol hyderus i roi cynnig ar siarad Cymraeg heb ofn methu. Yn yr achosion cryfaf, maent yn darparu amrywiaeth o brofiadau sy’n cofleidio’r dysgwyr yn y Gymraeg. Fodd bynnag, nid yw lleiafrif yr ymarferwyr yn cyflwyno geirfa a phatrymau cystrawennol yn ddigon bwriadus er mwyn sicrhau dilyniant a pharhad wrth gefnogi dysgwyr i ddatblygu eu medrau siarad.

Mae bron bob dysgwr yn dangos agweddau cadarnhaol at ddysgu’r Gymraeg yn ystod y broses addysg drochi. O ganlyniad i drochi cynnar yn y cyfnod sylfaen, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn datblygu eu medrau Cymraeg yn dda ac mae hyn yn eu cefnogi i wneud cynnydd pellach ar draws y meysydd dysgu yng Nghyfnod Allweddol 2. Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr sy’n cwblhau rhaglenni trochi hwyr dwys yn cyrraedd lefel hyfedredd addas er mwyn llwyddo mewn addysg cyfrwng Cymraeg.