Mynd i'r cynnwys

“Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon”

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru

Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddom ein hadroddiad thematig ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, yn dilyn cais gan y Gweinidog Addysg ym mis Mehefin y flwyddyn honno. Yn ystod hydref 2021, ymwelom â 35 o ysgolion uwchradd ac annibynnol ledled Cymru. Trafodom aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion â thua 1,300 o bobl ifanc a defnyddio’r adborth i ysgrifennu ein hadroddiad.

Ein hargymhellion:

Dylai ysgolion:

  1. Gydnabod bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn fynych iawn ym mywydau disgyblion ifanc a mabwysiadu ymagwedd ysgol gyfan ataliol a rhagweithiol i ddelio â’r mater
  2. Darparu cyfleoedd dysgu digonol, cronnol a buddiol ar gyfer disgyblion ar draws yr ystod oedran gyfan am berthnasoedd iach, addysg rhyw a rhywioldeb
  3. Gwella’r ffordd maen nhw’n cofnodi, categoreiddio a dadansoddi achosion o aflonyddu a bwlio
  4. Sicrhau bod holl staff ysgolion yn cael cyfleoedd dysgu proffesiynol rheolaidd a phwrpasol ar faterion addysg bersonol a chymdeithasol, yn cynnwys perthnasoedd, rhywedd, amrywiaeth a thrawsnewid rhywedd

Dylai awdurdodau lleol (ALl) a chonsortia rhanbarthol (CRh):

  1. Weithio gydag ysgolion i gasglu, categoreiddio a dadansoddi’r holl ddata ar fwlio ac aflonyddu yn gywir ac yn gynhwysfawr
  2. Cynllunio ymyrraeth a chymorth addas ar faterion rhyw ar lefel ysgol ac awdurdod lleol a gwerthuso effaith hyn ar les disgyblion yn rheolaidd
  3. Darparu dysgu proffesiynol angenrheidiol ar gyfer staff ysgol i’w galluogi i fabwysiadu ymagwedd ragweithiol tuag at aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, yn cynnwys bwlio ac aflonyddu homoffobig, deuffobig a thrawsffobig

Dylai Llywodraeth Cymru:

  1. Weithio gydag awdurdodau addysg lleol er mwyn gwella’r ffordd y maent yn casglu gwybodaeth am fwlio ac aflonyddu gan ysgolion a sicrhau bod awdurdodau lleol yn adnabod ac yn ymateb i batrymau a thueddiadau mewn ymddygiad

Beth ddywedodd ein harolwg thematig?

Dywed tua hanner y disgyblion a mwyafrif y merched bod ganddynt brofiad personol o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion a dywed tri chwarter o’r holl ddisgyblion eu bod wedi gweld disgyblion eraill yn cael profiad ohono. Mae hyn yn digwydd mwy ar-lein a’r tu allan i’r ysgol nag yn yr ysgol. Y mathau mwyaf cyffredin o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ystod y diwrnod ysgol yw disgyblion yn heclo a gwneud sylwadau cas, gwneud sylwadau homoffobig (tuag at fechgyn yn bennaf), a sylwadau am ymddangosiad.

Nid yw llawer o ddisgyblion yn dweud wrth athrawon nac oedolion eraill am yr aflonyddu gan eu bod yn teimlo ei fod yn digwydd mor aml a’i fod wedi dod yn ymddygiad ‘normal’. Mae dros hanner yr holl ddisgyblion yn teimlo’n fwy cyfforddus yn dweud wrth ffrind am aflonyddu rhywiol nag yn dweud wrth oedolyn cyfrifol. Dywedodd ychydig ohonynt eu bod yn teimlo’n rhy ofnus i ddweud wrth unrhyw un o gwbl.

Nid yw pob ysgol yng Nghymru yn ymdrin ag aflonyddu rhywiol yn ddigon da. Fel arfer, mae staff mewn ysgolion yn ymateb yn briodol i achosion o aflonyddu rhywiol ymhlith disgyblion y cânt wybod amdanynt, ond nid yw’r rhan fwyaf o ysgolion yn gwneud digon i atal yr achosion hynny rhag digwydd yn y lle cyntaf. 

Mae ysgolion yn gwerthfawrogi siaradwyr allanol, fel yr heddlu a gweithwyr ieuenctid, gan eu bod yn helpu i addysgu llawer o bynciau mewn addysg bersonol a chymdeithasol. Dywed ysgolion bod rhieni’n chwarae rhan bwysig hefyd o ran paratoi pobl ifanc i ymdrin â pherthnasoedd yn llwyddiannus, a theimlant fod angen iddynt weithio’n agosach â rhieni ar hyn. Mae mwy o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn digwydd y tu allan i’r ysgol nag y tu mewn i’r ysgol, ond mae’n aml yn cael ei ddwyn ymlaen i’r ysgol. Dywed ysgolion bod angen i rieni fonitro sut mae eu plant yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Canfuom fod yr ysgolion gorau yn gwneud yn siŵr fod parch yn brif flaenoriaeth ac y caiff y gwahaniaethau rhwng pobl eu dathlu. Pan fydd aflonyddu rhywiol yn digwydd, mae staff yn gwybod sut i ymdrin â’r math hwn o aflonyddu’n gyflym ac yn effeithiol.

Mae angen i’r ffordd y mae pob math o aflonyddu a bwlio yn cael ei gofnodi mewn ysgolion fod yn fwy manwl i alluogi staff i ymateb i ddigwyddiadau’n briodol. Pan fydd ysgolion yn cofnodi achosion o fwlio ac aflonyddu, nid ydynt yn nodi’r math o fwlio neu aflonyddu sydd wedi digwydd bob tro. Mae gwybodaeth fwy manwl a phenodol yn golygu y gallai ysgolion ystyried maint y broblem a pha mor dda maent yn ymdrin ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.

At ei gilydd, nid yw ysgolion yn rhoi digon o amser i bobl ifanc ddysgu am berthnasoedd iach, rhyw a rhywioldeb, a’u trafod, mewn ffordd ddiogel, gyfforddus ac agored.

Yn ogystal â’r adroddiad, rydym hefyd wedi llunio:

  • Pecyn adnoddau i ddarparwyr ei ddefnyddio i ddarganfod am y mater hwn yn eu lleoliad, ynghyd â chanfyddiadau manwl o’n sesiynau gwrando ar ddysgwyr yma
  • Fersiwn o’r adroddiad i ddysgwyr, gan gynnwys cwestiynau i ddisgyblion eu cynnwys yma