Mynd i'r cynnwys

Ysgolion pob oed yng Nghymru

Adroddiad ar heriau a llwyddiannau sefydlu ysgolion pob oed

Ym mis Ionawr 2022, cyhoeddom ein hadroddiad thematig ar yr heriau a’r llwyddiannau wrth sefydlu ysgolion pob oed yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn defnyddio tystiolaeth a gasglwyd trwy ymweliadau â phob un o’r ysgolion pob oed sydd ar agor yng Nghymru. Cysylltwyd ag awdurdodau lleol am eu safbwyntiau trwy gyfuniad o alwadau ffôn ac ymweliadau. Cyn dechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020, yn ystod ymweliadau â darparwyr, cyfwelodd y tîm ag arweinwyr ac athrawon. Fe wnaethant gyfarfod â llywodraethwyr a chynnal teithiau dysgu. Casglwyd safbwyntiau dysgwyr trwy gyfweliadau yn ystod yr ymweliadau hyn.

Ar ôl i weithgarwch ailddechrau ym mis Ebrill 2021, roedd cyfweliadau â staff a disgyblion yn gyfyngedig oherwydd cyfyngiadau COVID-19. O ganlyniad, yn lle hynny, dadansoddodd arolygwyr wybodaeth bresennol am ysgolion pob oed i sefydlu’r cyd-destun a’r cefndir. Fe wnaethant ystyried y dystiolaeth a oedd ar gael o arolygiadau hefyd.

Mae ein hargymhellion yn cynnwys:

Dylai Llywodraeth Cymru:

  1. Ystyried cyflwyno canllawiau cenedlaethol i ysgolion pob oed i gefnogi ysgolion pob oed, eu harweinwyr, llywodraethwyr ac awdurdodau lleol

Dylai awdurdodau lleol / consortia rhanbarthol:

  1. Sicrhau bod ymgynghori ar sefydlu ysgol bob oed yn ystyrlon, yn dryloyw ac yn fuddiol o ran ymgysylltu â’r gymuned leol i gefnogi newid i wella’r ddarpariaeth ar gyfer eu plant
  2. Penodi arweinwyr ar gyfer ysgolion pob oed newydd yn gynnar i ddarparu digon o amser cynllunio a pharatoi
  3. Darparu hyfforddiant a chymorth â ffocws gwell, sy’n benodol i sector, er enghraifft i wella arfer ystafell ddosbarth ar draws pob sector o’r ysgol

Dylai ysgolion:

  1. Barhau i gynllunio a darparu cwricwlwm cyfoethog sy’n symud ymlaen yn naturiol ar draws yr ystod oedran lawn
  2. Cydweithio ymhellach ag ysgolion eraill i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau pob oed, a rhannu arfer dda

Beth ddywedodd ein harolwg thematig?

Y rhesymeg ar gyfer sefydlu ysgol pob oed

Er bod cefnogaeth ar gyfer sefydlu ysgolion pob oed, nid oes canllawiau cenedlaethol penodol i sector ar gael i awdurdodau lleol ac arweinwyr ysgolion.

Felly, mae gan awdurdodau lleol eu cynlluniau amrywiol eu hunain i weddu i’w hamgylchiadau unigryw. Mae’r rhain bron bob amser yn rhan o gynlluniau trefniadaeth ysgolion ehangach yr awdurdod hwnnw.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru fel arfer ar wahân ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, sy’n ei gwneud yn anodd i ysgolion pob oed ystyried a llywio er mwyn sefydlu eu datganiadau sefyllfa eu hunain. O ganlyniad, ni chaiff y sector ysgolion pob oed ei gydnabod yn sector ar wahân yn ddigon da ar hyn o bryd.

Mae’r rhwydwaith cenedlaethol o ysgolion pob oed yn dod ag ymdeimlad gwerth chweil o berthyn i sector ar wahân sy’n dod i’r amlwg. Oherwydd diffyg canllawiau cenedlaethol, mae’r grŵp hwn wedi darparu cymorth i’w gilydd, wedi brocera grantiau o ffynonellau allanol, ac wedi gweithio i amlygu’r anawsterau ac arfer orau. Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn rhagweld y bydd manteision ysgol bob oed yn gorbwyso’r anfanteision. Dros gyfnod, mae awdurdodau lleol wedi dysgu o brofiadau ei gilydd, yn ogystal â defnyddio’r ymchwil ar fodelau pob oed llwyddiannus.

Sefydlu ysgolion pob oed

Mae ysgolion pob oed wedi bod yn fwyaf llwyddiannus pan maent yn newydd, ac mae arweinwyr a’r awdurdod lleol wedi ymgysylltu’n dda â’r gymuned leol. Mae arweinwyr wedi treulio amser yn amlinellu’r manteision i ddisgyblion a’r gymuned, lleddfu pryderon a rhoi sicrwydd. Mae rhieni, staff a llywodraethwyr wedi gwerthfawrogi cael gwybodaeth gyson am y broses a’r gweithdrefnau.

At ei gilydd, mae awdurdodau lleol wedi darparu cymorth priodol ar gyfer cyrff llywodraethol yn ystod y broses i sefydlu ysgol bob oed. Yn benodol, mae cymorth gan adrannau adnoddau dynol ac adrannau cyfreithiol wedi sicrhau bod y gweithdrefnau cywir yn cael eu dilyn, gan amlaf. Fodd bynnag, mae cefnogaeth i benaethiaid wedi amrywio ledled Cymru.

Mabwysiadodd y rhan fwyaf o ysgolion strwythur arwain lle mae gan arweinwyr gyfrifoldebau ysgol gyfan sy’n rhychwantu pob sector. Yn yr achosion prin ble na sefydlwyd hyn o’r dechrau, mae ysgolion wedi sylweddoli ei fantais yn gyflym, ac wedi addasu eu cyfrifoldebau arwain yn unol â hynny.

Effaith model ysgol bob oed

Bron ym mhob ysgol bob oed, mae cyfran sylweddol o ddisgyblion yn pontio o ysgolion cynradd partner i Flwyddyn 7. Gallai hyn fod cynifer â 94% o’r garfan i lawr i 20%. Wrth iddynt bontio o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7, dywed ysgolion fod disgyblion oddi mewn i ysgol bob oed yn ymgynefino’n dda ym Mlwyddyn 7, ac yn gwneud cynnydd gwell yn eu blwyddyn gyntaf na’r rhai sy’n trosglwyddo o ysgolion cynradd ar wahân.

Mae gofal a chymorth bugeiliol ar gyfer lles disgyblion yn gryfder yn y rhan fwyaf o ysgolion pob oed, ac wedi bod yn flaenoriaeth ers agor ysgolion. Mae hyn yn golygu bod darpariaeth ac ymyriadau mewn llawer o ysgolion yn aml yn ddi-dor, ac yn ysgogi gwelliannau i ddeilliannau yn ystod cyfnod y plentyn yn yr ysgol.

Mae’r rhan fwyaf o athrawon yn gweithio gyda’i gilydd i gynllunio a gweithredu cwricwlwm sy’n ystyried dilyniant ar draws pob sector. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion wedi datblygu eu gweledigaeth ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, ac wedi dechrau treialu adnoddau a dulliau. Mae hyn yn cynnwys sylweddoli’r angen am gwricwlwm cydlynus sy’n ystyried cynnydd yn briodol.
Mae trefniadau dysgu proffesiynol mewn ysgolion pob oed yn hynod ddefnyddiol, yn cynnwys rhannu arfer dda mewn addysgu yn fewnol neu rhwng ysgolion. Fodd bynnag, yn aml, nid yw dysgu proffesiynol allanol yn ddigon penodol ar gyfer y sector pob oed.

Wrth sefydlu a datblygu timau arweinyddiaeth ar gyfer ysgolion pob oed, mae llywodraethwyr yn sylweddoli bod angen i ysgolion elwa ar fedrau o gefndiroedd y sector cynradd ac uwchradd. At ei gilydd, mae timau arweinyddiaeth pob oed llwyddiannus fel arfer yn cynnwys cyfuniad o arweinwyr â chefndiroedd mewn gwahanol sectorau.

Mae ansawdd yr hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwelliant ar draws y sector yn amrywiol. Fodd bynnag, yn yr enghreifftiau gorau, mae ysgolion yn gwerthuso darpariaeth a safonau ar draws sectorau, a rhyngddynt.