Mynd i'r cynnwys
Dau berson yn siarad

Adroddiad sector: Cyfiawnder 2021-2022

Carchardai a sefydliadau troseddwyr ifanc

5

Nifer y carchardai yng Nghymru

Manylion

Y mae un ohonynt hefyd yn rheoli carchar agored

1

Nifer y sefydliadau troseddwyr ifanc

Darpariaeth

Ym mron pob carchar yng Nghymru, darparwyd addysg a hyfforddiant gan y carchardai, yn hytrach nag asiantaethau allanol. Yn CEF Berwyn, mae gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF gontract â Novus Cambria i ddarparu addysg.

Arolygiadau

Caiff arolygiadau eu harwain gan Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi. Eleni, cydweithiodd Estyn â phartneriaid i arolygu darpariaeth i bobl ifanc yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc Y Parc. Fe wnaethom gyfrannu at arolygiadau CEF Berwyn a’r ddarpariaeth i oedolion yn CEF y Parc hefyd.

Mae adroddiadau arolygu a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Carchardai EF i’w gweld yma:

Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi


Gwasanaethau troseddau ieuenctid

17

Nifer y gwasanaethau troseddau ieuenctid yng Nghymru

Darpariaeth

Mae gwasanaethau troseddau ieuenctid yn gweithio â phobl ifanc sy’n mynd i helynt â’r gyfraith a hefyd yn ceisio eu cynorthwyo i gadw draw o droseddu. Mae addysg, hyfforddiant a chymorth cyflogaeth yn un o’r gwasanaethau arbenigol a ddarperir gan wasanaethau troseddau ieuenctid.

Arolygiadau

Caiff arolygiadau eu harwain gan Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi.

Eleni, cynhaliom weithgareddau arolygu yng Ngwasanaeth Troseddau Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych fel rhan o gydadolygiad thematig Arolygiaeth Prawf EF o wasanaethau addysg, cyflogaeth a hyfforddiant mewn timau troseddau ieuenctid yng Nghymru a Lloegr. Ymunom â’r ailarolygiad o Wasanaeth Troseddau Ieuenctied Caerdydd hefyd.

Caiff adroddiadau Arolygiaeth Prawf EF eu cyhoeddi yma:
Arolygiaeth Prawf Ei Fawrhydi


Cartrefi diogel i blant

1

Nifer y cartrefi diogel i blant yng Nghymru

Darpariaeth

Mae cartrefi diogel i blant yn cynnig lleoliadau diogel i bobl ifanc rhwng 10 a 17 oed ac maent yn cynnwys gofal preswyl llawn, cyfleusterau addysgol a darpariaeth gofal iechyd.

Arolygiadau

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn arwain arolygiadau o gartrefi diogel i blant, ond ni chynhaliodd unrhyw arolygiadau eleni.


Dysgu

Yn ystod cyfyngiadau’r pandemig mewn carchardai, roedd y rhan fwyaf o oedolion a oedd yn garcharorion yn gaeth i’w celloedd am hyd at 23 awr y dydd. Galluogodd y gefnogaeth gref a gafodd dysgwyr gan staff y carchardai a mentoriaid cymheiriaid i lawer o’r rhai a oedd wedi ymgysylltu ag addysg i barhau i fanteisio ar ddeunyddiau dysgu o’u hystafelloedd. Yn CEF Berwyn, manteision lleiafrif o ddysgwyr ar ffonau a TG yn eu celloedd i barhau â’u dysgu. Yn CEF y Parc, helpodd staff a mentoriaid cymheiriaid dysgwyr trwy ddod â’r deunyddiau yr oedd eu hangen arnynt ar gyfer eu hastudiaethau. Galluogodd hyn i’r rhai a oedd yn cyfranogi mewn addysg wneud cynnydd da yn eu dysgu, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn cyflawni eu targedau dysgu a’u cymwysterau.

Ers ei arolygiad diwethaf, mae Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Caerdydd wedi gwella gallu pobl ifanc i fanteisio ar addysg. Fodd bynnag, roedd yn rhy gynnar o hyd i weld effaith y newidiadau ar lefel dysgwyr unigol.

Yn ymweliad thematig Arolygiaeth Prawf EF â Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych, fe wnaethom ddarganfod fod llawer o bobl ifanc o oedran ysgol wedi ymgysylltu’n dda â’r gwasanaeth ac wedi gwella eu hymgysylltiad ag addysg. Fodd bynnag, roedd sawl enghraifft o bobl ifanc y bu oedi yn eu dilyniant ôl-16 oherwydd nad oedd eu medrau llythrennedd yn ddigon datblygedig i’w galluogi i ymgymryd â lefelau uwch o hyfforddiant.

Lles

Ym mhob carchar, rhoddwyd pecynnau gweithgareddau ac offer celf i garcharorion, a oedd yn wrthdyniad defnyddiol i lawer ohonynt ac â’u helpodd i ymdopi â’u caethiwed. Yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc, galluogodd cynllunio gofalus i bobl ifanc fanteisio ar weithdai neu sesiynau dosbarth ar hyd cyfnod y cyfyngiadau, wrth leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r haint. Difyrrodd y ddarpariaeth barhaus hon y bobl ifanc mewn modd pwrpasol a chefnogi eu lles.

Pan gafodd cyfyngiadau COVID-19 eu llacio, symudodd carchardai’n gyflym i ailagor darpariaeth addysg a gwaith yn llawn, gan alluogi dysgwyr i ailgydio yn eu dysgu’n gyflym. Er bod y rhan fwyaf o ddysgwyr yn falch o gymryd rhan mewn sesiynau eto, roedd y lleiafrif ohonynt yn CEF Berwyn yn ei chael hi’n anoddach dod i’r arfer â mynychu sesiynau ac roedd eu presenoldeb yn wael.

Addysgu a phrofiadau dysgu

At ei gilydd, roedd safonau addysgu mewn carchardai yn dda. Roedd bron bob athro yn adnabod eu dysgwyr yn dda ac yn cynllunio addysgu’n effeithiol i sicrhau bod sesiynau’n bodloni anghenion dysgwyr unigol. Gwnaeth y ddau garchar i oedolion ddefnydd effeithiol iawn o fentoriaid cymheiriaid. Cynigiodd y mentoriaid hyn gefnogaeth dda i ddysgwyr a’u galluogi i oresgyn rhwystrau rhag dysgu a gwneud cynnydd gwell yn y sesiynau a fynychwyd ganddynt. Rhoddodd staff addysg a hyfforddiant sylw da i gryfhau medrau llythrennedd a rhifedd carcharorion, a gwellodd bron pob un o’r carcharorion eu medrau gan o leiaf un lefel. Yn y carchardai a arolygwyd gennym, roedd ehangder arlwy’r cwricwlwm yn rhagorol ac roedd ystod y pynciau a oedd ar gael yn rhoi ystyriaeth dda i’r medrau sydd eu hangen ar gyflogwyr. Roedd bron pob un o’r gweithdai galwedigaethol yn cynnig amgylchedd dysgu realistig a oedd yn paratoi dysgwyr ar gyfer y byd gwaith.

Roedd staff prawf ym mhob Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn glir ynghylch pwysigrwydd medrau llythrennedd a rhifedd i alluogi pobl ifanc i wneud cynnydd effeithiol a phontio’n llwyddiannus i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Fodd bynnag, nid oedd gan yr un o’r gwasanaethau a arolygom strategaeth glir i sicrhau cymorth priodol wedi’i dargedu i’r bobl ifanc hynny yr oedd angen iddynt ddatblygu’r medrau hyn fwyaf. Nod bron pob un o weithwyr achos y Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid oedd datblygu medrau ehangach cleientiaid, fel hyder, medrau cymdeithasol a hunan-barch, yr oedd angen i lawer o ddysgwyr wneud cynnydd ynddynt. Fodd bynnag, nid oedd gan wasanaethau systemau clir i olrhain cynnydd pobl ifanc o ran datblygu’r medrau hyn.

Gofal, cymorth ac arweiniad

Mewn carchardai, rhoddodd staff sesiynau ymgynefino defnyddiol i ddysgwyr, lle’r oeddent yn esbonio pa gyfleoedd addysg, dysgu galwedigaethol a gwaith a oedd ar gael iddynt. Gwnaethant asesu eu medrau llythrennedd a rhifedd a chyfeirio dysgwyr at gyrsiau ar lefelau priodol. Helpodd hyn i newydd ddyfodiaid gynllunio’r ffordd orau i dreulio eu hamser yn y carchar. Roedd systemau olrhain priodol i fonitro cynnydd dysgwyr ac, yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc, cyfarfu staff yn wythnosol i drafod sut roedd dysgwyr yn dod yn eu blaenau, gan alluogi staff i sicrhau eu bod yn cynnig cefnogaeth unigol wedi’i theilwra.

Cafodd staff yn y ddau garchar i oedolion hyfforddiant ar wella eu hymwybyddiaeth o anghenion dysgu ychwanegol (ADY) dysgwyr. Fodd bynnag, roedd dealltwriaeth staff o sut gallant sicrhau bod eu strategaethau addysgu wedi’u teilwra orau i ADY mwy cymhleth yn rhy amrywiol o hyd.

Arweinyddiaeth

Ar hyd y pandemig, cydweithiodd arweinwyr mewn carchardai yn effeithiol â thîm o staff ymroddgar i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i garcharorion fanteisio ar adnoddau dysgu a sicrhau y gallai gweithgareddau gwaith barhau, lle bo hynny’n bosibl. Rhoesant flaenoriaeth uchel i adfer mynediad llawn at addysg, medrau a chyflogaeth, gan alluogi carcharorion i ailgydio mewn gweithgareddau cyn gynted â phosibl. Roedd cynllunio strategol yn adlewyrchu parch mawr arweinwyr carchardai tuag at werth addysg o ran lleihau ymddygiad troseddol dysgwyr. Wrth gynllunio i gryfhau darpariaeth, rhoddodd arweinwyr ystyriaeth dda i wybodaeth am y farchnad lafur a meithrin cysylltiadau cryf â chyflogwyr lleol er mwyn gwella rhagolygon cyflogaeth i garcharorion. Fodd bynnag, yn CEF Berwyn, ni wnaeth staff ar draws y carchar ddigon i herio carcharorion a oedd yn dewis peidio â chymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu waith.

Yn y ddau Sefydliad Troseddwyr Ieuenctid yr ymwelom â nhw, roedd staff wedi meithrin cysylltiadau da â’r awdurdodau lleol a darparwyr cyfleoedd i gynorthwyo pobl ifanc i symud ymlaen i ddysgu yn y gwaith a chyflogaeth. Fodd bynnag, ni wnaed digon ar lefel strategol i werthuso effaith ymyriadau neu ddatblygu strategaethau a oedd yn sicrhau bod pob dysgwr yn datblygu’r medrau sydd eu hangen arnynt i wneud y cynnydd gorau y gallant.