Mynd i'r cynnwys
Athrawes yn dysgu gwers

Adroddiad sector: Cymraeg i oedolion 2021-2022

11

Nifer o ddarparwyr Dysgu Cymraeg/Learn Welsh o dan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n ariannu ac yn sicrhau ansawdd eu gwaith


Dysgwyr

14,965

Nifer o ddysgwyr unigol yn ystod 2020-2021

Manylion

D.S. Cafodd cyllid ar gyfer y cynllun Cymraeg Gwaith ei leihau yn Ebrill 2020 a pharhaodd hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021, ac felly effeithiwyd ar ddata o 1 Awst 2020 i 31 Gorffennaf 2021.

17,505

Nifer o ddysgwyr unigol yn ystod 2019-2020


Darpariaeth

Parhaodd bron yr holl ddarpariaeth ar-lein yn ystod 2021-2022. Yn ogystal â darpariaeth Dysgu Cymraeg, fe wnaeth y rhan fwyaf o raglenni Cymraeg Gwaith i gynyddu medrau Cymraeg yn y gweithle ailddechrau eleni. Yn dilyn adolygiad cyflym o’r ddarpariaeth (Awst 2021), bydd y ddarpariaeth yn cael ei hymestyn i ddarparu mynediad rhad ac am ddim i’r rhai 16 i 25 oed i gyrsiau Cymraeg i Oedolion.

Arolygiadau

Cynhaliwyd 3 arolygiad craidd yn ystod 2021-2022.

Mewn Cymraeg i Oedolion, rydym yn rhoi barnau crynodol – gweler y deilliannau isod.

Cafodd bron yr holl wersi yn y darparwyr a arolygwyd eu cynnal ar-lein, a chynhaliwyd yr holl arolygiadau yn rhithiol.


Astudiaethau achos

Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin

Defnyddio ymchwil fel sail i strategaethau addysgu a dysgu:

Ymchwil sydd yn sail i strategaethau dysgu ac addysgu | Estyn

Gweithredu dulliau dysgu ffurfiol ac anffurfiol sy’n galluogi dysgwyr i integreiddio yn y gymuned iaith Gymraeg:

Gweithredu dulliau dysgu ffurfiol ac anffurfiol sy’n galluogi dysgwyr i gymathu â’r gymuned Gymraeg

Dysgu Cymraeg Ceredigion Powys

Gweithio’n bwrpasol gyda sefydliadau eraill i ddarparu hyfforddiant Cymraeg ar gyfer y gweithlu addysg:

Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y gweithlu addysg

Adroddiadau arolygiad

Dysgu Cymraeg y Gogledd Orllewin (Tachwedd 2021)

Adroddiad arolygiad – Dysgu Cymraeg y Gogledd Orllewin

Dysgu Cymraeg Sir Gaerfyrddin (Chwefror 2022)

Adroddiad arolygiad Dysgu Cymraeg Sir Gâr 2022

Dysgu Cymraeg Ceredigion – Powys – Sir Gâr (Mai 2022)

Adroddiad arolygiad – Dysgu Cymraeg Ceredigion – Powys – Sir Gâr 2022

Ystadegau Dysgu Cymraeg 2020-2021 | Dysgu Cymraeg


Gweithgarwch dilynol

Nid oes unrhyw weithgarwch dilynol yn y sector. Caiff cynnydd yn erbyn yr holl argymhellion i ddarparwyr unigol ei drafod gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a chaiff ei ystyried fel rhan o’i harolygiad. Ym mis Ionawr 2021 y gwnaethom arolygu’r Ganolfan ddiwethaf, a byddwn yn ei harolygu eto yn 2024.


Dysgu

Gwnaeth llawer o ddysgwyr gynnydd effeithiol o ran caffael a gwella’u medrau Cymraeg, yn enwedig eu medrau siarad. Mewn ychydig o achosion, fodd bynnag, roedd dysgwyr yn amharod i ymgysylltu â’r ddarpariaeth ar-lein neu roeddent yn cael anhawster gwneud hynny oherwydd materion cysylltedd. Mae’r adnodd hwn yn darparu cwestiynau hunanfyfyrio i gynorthwyo darparwyr Cymraeg i Oedolion i wella medrau siarad dysgwyr.

Un o gryfderau nodedig y sector yw’r modd y mae’n llwyddo i annog llawer o ddysgwyr i ddefnyddio’u medrau iaith y tu allan i’r ystafell ddosbarth ac integreiddio’n gadarnhaol â chymunedau a rhwydweithiau sy’n siarad Cymraeg. Yn yr enghreifftiau gorau, cymerodd dysgwyr gyfrifoldeb am fynd ati’n rhagweithiol i drefnu gweithgareddau i ymarfer eu Cymraeg.

Lles ac agweddau at ddysgu

Dywedodd llawer o ddysgwyr fod y ffaith bod dysgu wedi parhau ar-lein trwy gydol y pandemig yn fuddiol i’w hiechyd meddwl a’u lles. Fe wnaeth hyn eu galluogi i gaffael medrau newydd a rhyngweithio ag eraill pan nad oedd llawer o agweddau ar eu bywydau arferol ar gael iddynt mwyach.

Llwyddodd darparwyr i greu cymunedau clòs, gofalgar o ddysgwyr, gyda bron yr holl ddysgwyr yn ymgymryd â’u dysgu ar-lein yn ystod 2021-2022. Roedd bron bob dysgwr yn mwynhau eu gwersi, ac roedd dysgwyr o bob cwr o Gymru, y DU a ledled y byd yn rhyngweithio’n fuddiol â’i gilydd mewn dysgu o bell a ehangodd eu gorwelion. Roeddent yn trafod materion ynglŷn â’u gwledydd a’u bywydau eu hunain wrth ymarfer a gwella eu medrau Cymraeg.

Addysgu a phrofiadau dysgu

Roedd yr addysgu yn effeithiol iawn mewn dau ddarparwr a arolygwyd ac roeddent yn sicrhau bod dysgwyr yn gwneud cynnydd cryf. Lle’r oedd yr addysgu yn fwyaf effeithiol, roedd tiwtoriaid yn herio dysgwyr yn effeithiol drwy ddefnyddio ystod eang o dechnegau i ymestyn eu medrau iaith, yn enwedig eu gallu i gynnal sgyrsiau estynedig a oedd yn briodol i’w lefel. Yn gyffredinol, roedd y rhan fwyaf o diwtoriaid yn addasu’u dulliau addysgu yn dda i ddysgu ar-lein. Nid oedd ychydig o diwtoriaid ar draws darparwyr, yn enwedig ar y lefelau cwrs is ffurfiannol, yn cymryd camau digon pwrpasol i gywiro camgymeriadau a oedd yn digwydd dro ar ôl tro, ac ynganiad anghywir. Yn yr achosion hyn, nid oedd tiwtoriaid yn sicrhau bod dysgwyr yn defnyddio geirfa a phatrymau iaith newydd gyda chywirdeb a hyder cynyddol. Mewn ychydig iawn o achosion, nid oedd tiwtoriaid yn herio dysgwyr yn ddigon da, ac o ganlyniad, nid oedd dysgwyr yn ymestyn eu hatebion, a gwnaeth hynny, yn ei dro, gyfyngu ar eu cynnydd.

Roedd llawer o diwtoriaid yn cyfoethogi gwybodaeth dysgwyr am hanes a diwylliant Cymru yn ystod gwersi, gan ddarparu cyd-destun gwerthfawr i’w dysgu. Roeddent hefyd yn annog dysgwyr yn llwyddiannus i ddefnyddio’u medrau Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Yn ystod y flwyddyn, ni wnaeth yr holl ddarparwyr ddychwelyd i gynnig dewis o ryw lefel o ddarpariaeth dysgu wyneb yn wyneb i ddysgwyr nad oedden nhw’n gallu, oherwydd cysylltedd gwael yn aml, neu’n anfodlon, parhau â’u cyrsiau ar-lein.

Gofal, cymorth ac arweiniad

Roedd safon gofal, cymorth ac arweiniad yn faes cryfder ac roedd yn dda neu’n well yn yr holl ddarparwyr a arolygwyd. Roedd tiwtoriaid yn creu amgylchedd cefnogol, cadarnhaol a chymhellol lle’r oedd bron pawb yn teimlo’n ddiogel ac yn cyfrannu at wersi heb ofni gwneud camgymeriadau. Mae darparwyr yn cynnig cymorth ac arweiniad effeithiol i ddysgwyr cyn ac ar ôl cofrestru, gan gynnwys darpariaeth briodol i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Roeddent yn gweithredu trefniadau sefydledig ac effeithiol i geisio safbwyntiau dysgwyr a gweithredu arnynt yn fuddiol.

Arweinyddiaeth

Roedd gan arweinwyr yn yr holl ddarparwyr weledigaeth a nodau clir a oedd yn alinio’n dda â rhai’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a pholisi Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg gweithredol. Roedd darparwyr yn chwarae rhan hollbwysig i ddylanwadu ar gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn eu sefydliadau a’u cynorthwyo i gynllunio’n strategol i gyflawni hyn. Rhoddodd dau o’r darparwyr strategaethau arloesol ar waith i wella ac ymestyn darpariaeth ar gyfer dysgwyr. Er enghraifft, roeddent yn defnyddio ymchwil yn sail i strategaethau addysgu a dysgu, yn gweithredu dulliau dysgu ffurfiol ac anffurfiol a oedd yn galluogi dysgwyr i integreiddio â’r gymuned Gymraeg ac yn gweithio’n bwrpasol gyda sefydliadau eraill i ddarparu hyfforddiant Cymraeg ar gyfer y gweithlu addysg. (Astudiaeth achos.) Mae’r gwaith hwn yn cysylltu’n dda â’r cylch gwaith ehangach newydd ar gyfer y Ganolfan Cenedlaethol i gydweithio ag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i gefnogi addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a darparu llwybr dysgu iaith o’r ysgol i addysg ôl-orfodol.

Roedd darparwyr yn cynnig datblygiad proffesiynol parhaus gwerthfawr i’w tiwtoriaid, naill ai eu hunain neu drwy hyfforddiant a ddarparwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Er enghraifft, darparwyd hyfforddiant buddiol i wella gallu tiwtoriaid i addysgu ar-lein. Cafodd y dysgu proffesiynol hwn effaith gadarnhaol ar safonau addysgu a dysgu.

Mewn rhai achosion, roedd gan ddarparwyr gyfrifoldeb gorgyffyrddol am yr un ardal ddaearyddol. Fodd bynnag, nid oedd systemau data cenedlaethol yn caniatáu i ddarparwyr olrhain cynnydd dysgwyr a oedd wedi symud rhwng darparwyr. Roedd hyn yn atal darparwyr rhag defnyddio data’n effeithiol i ddilysu safonau a chynnydd dysgwyr sy’n symud rhyngddynt.

At ei gilydd, roedd darparwyr yn gwerthuso eu gwaith yn onest ac yn effeithiol. Mewn un darparwr, fodd bynnag, nid oedd hunanwerthuso yn nodi cryfderau a meysydd i’w gwella mewn addysgu a dysgu yn ddigon da. Roedd hyn yn effeithio ar effeithiolrwydd yr addysgu a’r safonau yr oedd dysgwyr yn eu cyflawni