Mynd i'r cynnwys
Athrawes yn defnyddio cluniadur

Adroddiad sector: Addysg gychwynnol i athrawon 2021-2022

Partneriaethau

Mae saith partneriaeth (sy’n cynnwys prifysgolion a’u hysgolion partner) yn darparu addysg gychwynnol i athrawon (AGA) yng Nghymru. Mae’r partneriaethau’n darparu llwybrau israddedig ac ôl-raddedig i addysgu. Mae TAR rhan-amser a llwybr wedi’i seilio ar gyflogaeth yn cael eu darparu gan Bartneriaeth y Brifysgol Agored.


Arolygu

Eleni, cynhaliom yr arolygiad cyntaf o’r cylch newydd mewn AGA hefyd. Arolygiad peilot oedd hwn, a’n galluogodd ni i roi ein canllawiau a dulliau arolygu newydd ar brawf.

Mewn cydweithrediad â’r sector, fe wnaethom gynnal dau weithgaredd ‘arbrofi’, i gynnal prawf ar fethodolegau arolygu gwahanol. Ym mis Hydref, cyhoeddom adroddiad a oedd yn crynhoi’r prif negeseuon o’r arbrofion.


Recriwtio

Ym mis Medi 2021, cafodd 1,402 o fyfyrwyr eu recriwtio ar raglenni AGA amser llawn.

Fe wnaeth 785 ymuno â rhaglenni cynradd, a dechreuodd 617 ar raglenni uwchradd. Yn ogystal, cafodd 162 o fyfyrwyr (48 uwchradd a 114 cynradd) eu recriwtio i lwybrau’r Brifysgol Agored.

Ar ôl sawl blwyddyn o recriwtio gwael, bu cynnydd cyffredinol yn nifer y myfyrwyr a recriwtiwyd i raglenni AGA yn 2019-2020. Eleni, fodd bynnag, bu gostyngiad bach yn y nifer a recriwtiwyd. Fe wnaeth niferoedd cynradd ostwng bron i 3%, a niferoedd uwchradd gan bron i 11%. Fodd bynnag, roedd y duedd hon yn amrywio o bartneriaeth i bartneriaeth. Mae nifer y myfyrwyr sy’n hyfforddi mewn pynciau y ceir prinder ohonynt mewn ysgolion uwchradd, yn parhau’n bryder. Mae recriwtio myfyrwyr i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn parhau i fod yn broblem sylweddol, yn enwedig ar raglenni uwchradd.


Dysgu a lles

Roedd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn arddangos agweddau cadarnhaol tuag at ymuno â’r proffesiwn addysgu. Yn benodol, roeddent yn mwynhau eu profiadau ysgol ac yn meithrin perthnasoedd gwaith da â disgyblion a staff ysgolion. Teimlai staff partneriaethau bod myfyrwyr wedi datblygu priodweddau penodol fel gwydnwch a hyblygrwydd trwy fod wedi gweithio o fewn cyfyngiadau COVID-19.

Wrth i gyfyngiadau COVID-19 lacio, ac wrth i ddisgyblion ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth, fe wnaeth myfyrwyr elwa o bwyslais o’r newydd ar les ac ymddygiad yn eu hysgolion lleoliad. Dysgont arferion buddiol i drefnu disgyblion, gofodau, a deunyddiau, a datblygu’u hyder i reoli’r ystafell ddosbarth.

Trwy gydol y flwyddyn, cynhaliodd partneriaethau strategaethau gwerthfawr i gefnogi lles disgyblion yr oeddent wedi’u gwella yn ystod y pandemig. Fe wnaeth ‘cysylltu’ â thiwtoriaid prifysgol a chymheiriaid yn rheolaidd helpu myfyrwyr i drafod unrhyw faterion a chanolbwyntio ar eu cynnydd. Wrth i gyfyngiadau COVID-19 gael eu lleihau, roedd myfyrwyr yn gwerthfawrogi’r cyfle i gyfarfod â thiwtoriaid a’u cymheiriaid wyneb yn wyneb. Helpodd hyn iddynt feithrin perthnasoedd proffesiynol cadarnhaol.

At ei gilydd, fe wnaeth partneriaethau ddefnyddio’u systemau olrhain yn ddefnyddiol i gynorthwyo myfyrwyr a oedd yn cwympo ar ei hôl hi o ran eu cynnydd. Rhoesant weithdrefnau cadarn ar waith i gefnogi’r myfyrwyr hyn. Fodd bynnag, roedd lleiafrif o fyfyrwyr yn cael trafferth rheoli eu llwyth gwaith o bryd i’w gilydd, yn enwedig wrth gydbwyso gorchmynion aseiniadau a pharatoi ar gyfer addysgu.

Roedd myfyrwyr yn gweithio’n dda â’i gilydd ac yn cydweithio’n gynhyrchiol ar ddatblygu’u haddysgu. Roeddent yn ymgysylltu’n dda ag aseiniadau a oedd wedi’u cysylltu’n bwrpasol â’u profiadau ysgol. Fodd bynnag, roedd rhai myfyrwyr yn ystyried bod eu haseiniadau academaidd yn angenrheidiol i lwyddo yn y rhaglen, yn hytrach nag yn ffordd i wella eu medrau, gwybodaeth a dealltwriaeth o addysgu. Roedd amrywioldeb sylweddol o ran ansawdd ac effeithiolrwydd cynlluniau gwersi myfyrwyr.

Addysgu a phrofiadau dysgu

Mae pob partneriaeth wedi llunio rhaglenni AGA sydd â sail resymegol glir yn seiliedig ar ddiwygio addysg yng Nghymru. O ganlyniad, mae myfyrwyr wedi datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o nodweddion allweddol y Cwricwlwm i Gymru yn dda. Roedd cyfleoedd gwerthfawr i fyfyrwyr cynradd ac uwchradd weithio ar draws y cyfnodau i archwilio gwaith trawsgwricwlaidd ac archwilio dulliau addysgu a dysgu. Mewn ychydig o bartneriaethau, nid oedd gan fyfyrwyr, yn enwedig y rhai ar raglenni uwchradd, ddealltwriaeth ddigon da o sut i gynllunio’n effeithiol i ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion ar draws y cwricwlwm.

Yn gyffredinol, roedd profiad myfyrwyr o weld dylunio a chyflwyno’r cwricwlwm yn effeithiol yn rhy amrywiol. Roedd hyn yn rhannol oherwydd y pandemig. Mae profiadau ysgol myfyrwyr wedi bod yn gyfyngedig, ac mae cynnydd ysgolion o ran datblygu’r cwricwlwm yn wahanol o ysgol i ysgol o ran cyflymder a dealltwriaeth. At hynny, effeithiwyd yn negyddol ar weithdrefnau partneriaethau i sicrhau ansawdd profiadau myfyrwyr gan y cyfyngiadau hefyd, gan arwain at ddiffyg undod mewn profiadau dysgu.

Yn yr enghreifftiau gorau, roedd cydlyniaeth rhwng y rhaglen a addysgir mewn ysgolion a phrifysgolion. Roedd cyfathrebu clir ar draws y bartneriaeth ac roedd cydrannau gwahanol y rhaglen wedi’u halinio’n dda i greu cysylltiadau effeithiol rhwng theori ac arfer.

Dangosodd mentoriaid ymrwymiad cryf i gynorthwyo eu myfyrwyr a’u helpu i ddatblygu strategaethau addysgu. Roeddent yn defnyddio’u profiad yn dda i gynorthwyo myfyrwyr, yn enwedig gyda’u rheolaeth yn yr ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, nid oedd digon o fentoriaid yn annog myfyrwyr yn rheolaidd i gysylltu theori ag arfer na’u helpu i feddwl yn greadigol am eu haddysgu.

Mae pob partneriaeth wedi datblygu systemau electronig defnyddiol i olrhain cynnydd myfyrwyr a’u helpu i gymryd perchenogaeth dros eu datblygiad eu hunain. Dim ond megis dechrau cael ei ddatblygu yr oedd gwaith i sicrhau bod tiwtoriaid mentoriaid yn gwerthuso cynnydd myfyrwyr mewn ysgolion yn gywir, yn gyson ac yn holistaidd. Mae’r adnodd hwn yn darparu cwestiynau hunanfyfyrio i gefnogi gwerthuso ansawdd profiadau dysgu mewn addysg gychwynnol i athrawon.

Arweinyddiaeth

Dangosodd pob partneriaeth ymrwymiad i gydweithio a dymuniad gwirioneddol i gynorthwyo i ddiwygio AGA yng Nghymru. Roedd gan bob partneriaeth strwythurau arweinyddiaeth clir ac roeddent yn sicrhau bod cynrychiolaeth o’r bartneriaeth ar ei hyd ar bob lefel arweinyddiaeth. Roedd y rhan fwyaf o bartneriaethau wedi datblygu is-grwpiau arweinyddiaeth buddiol i ysgogi datblygiad meysydd pwysig o waith y bartneriaeth, fel ymagweddau at ymchwil neu ddatblygu’r Gymraeg. Roedd partneriaethau wedi dechrau datblygu llinellau atebolrwydd drwy eu strwythurau arweinyddiaeth, ond, mewn ychydig o achosion, nid oedd rolau a chyfrifoldebau yn ddigon eglur.

Roedd yr holl bartneriaethau’n cynllunio cyfleoedd rheolaidd i fyfyrio ar ansawdd y rhaglenni a deilliannau myfyrwyr ar sail data a thystiolaeth uniongyrchol, gan gynnwys safbwyntiau myfyrwyr. Fodd bynnag, golygai cyfyngiadau’r pandemig nad oedd partneriaethau wedi ymgymryd â gweithdrefnau sicrhau ansawdd a datblygu mentoriaid unigol yn unol â’r bwriad. O ganlyniad, roedd myfyrwyr wedi cael profiadau amrywiol iawn yn eu profiadau ysgol. Mae’r adnodd hwn yn darparu cwestiynau hunanfyfyrio i gynorthwyo â gwerthuso ansawdd mentora mewn addysg gychwynnol i athrawon.

Er bod yr holl bartneriaethau wedi casglu cyfoeth o wybodaeth am safbwyntiau myfyrwyr, nid oeddent yn triongli hyn yn ddigon da â ffynonellau eraill o dystiolaeth. Yn gyffredinol, nid oedd prosesau hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwelliant yn ddigon miniog, yn enwedig o ran nodi’r hyn y mae angen ei wella mewn addysgu a phrofiadau dysgu.

Roedd strategaeth glir gan bob partneriaeth i ddatblygu ymchwil ac ymholi ar draws y bartneriaeth. Roeddent yn ymwneud yn gynyddol ag ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol. Yn yr achosion mwyaf effeithiol, roedd tiwtoriaid a mentoriaid yn defnyddio eu hymchwil eu hunain i gefnogi dysgu myfyrwyr. Mae’r ffocws clir hwn ar ddatblygu ymchwil ac ymholi yn ‘newid diwylliant’ mewn AGA yng Nghymru, ac mae eisoes yn cael effaith gadarnhaol yn ymarferol mewn prifysgolion ac ysgolion.