Mynd i'r cynnwys
Pobl yn defnyddio peiriannau yn y gampfa

Adroddiad sector: Dysgu yn y gwaith 2021-2022

Darparwyr

10

Nifer y darparwyr 2022

Details

Mae’r gostyngiad yn nifer y darparwyr dysgu yn y gwaith yn sgil contract newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu rhaglenni prentisiaeth yn dechrau ym mis Awst 2021.

O’r 10 darparwr, mae chwech yn golegau addysg bellach a phedwar yn ddarparwyr hyfforddiant annibynnol. Mae’r darparwyr hyn yn gweithio gydag ystod o ddarparwyr hyfforddiant eraill gan ddefnyddio trefniadau consortia, trefniadau partneriaeth a threfniadau is-gontractio i ddarparu hyfforddiant ar raglenni prentisiaeth ar bob lefel.

17

Nifer y darparwyr 2021


Dysgwyr

46,040

Nifer dysgwyr ar brentisiaethau

9,415

Nifer y dysgwyr ar brentisiaethau uwch

20,220

Nifer y dysgwyr lefel 3

16,405

Nifer y dysgwyr lefel 2 (prentisiaeth sylfaen)

5,695

Nifer y dysgwyr mewn hyfforddeiaethau a rhaglenni eraill DYYG


Darpariaeth

Mae prentisiaid yn cael eu cyflogi ac yn gweithio mewn ystod eang o alwedigaethau. Mae prentisiaethau ar gael ar lefel 2 a 3, a lefelau prentisiaeth uwch (lefel 4 ac uwch). Mae dysgwyr sy’n ymgymryd â phrentisiaethau yn aelodau amser llawn o staff eu cyflogwr. Yn gyffredinol, mae rhaglenni prentisiaeth yn cymryd dwy i dair blynedd i’w cwblhau.

Mae prentisiaid yn mynd i mewn i’w hyfforddiant ar lefelau gwahanol gan ddibynnu ar y swydd, eu profiad blaenorol ac anghenion cyflogwyr. Yn ogystal â datblygu eu medrau’n gysylltiedig â swydd yn y gweithle, mae prentisiaid yn gweithio tuag at gyflawni cyfres o gymwysterau cydnabyddedig.


Ymweliadau â darparwyr prentisiaethau

O fis Tachwedd 2021 hyd fis Gorffennaf 2022, cynhaliom ymweliadau â phob un o’r 10 darparwr prentisiaethau. Arweiniodd pob ymweliad at lythyr cyhoeddedig.

https://www.estyn.llyw.cymru/inspection-process/esbonio-dysgu-yn-y-gwaith


Rhaglenni cyflogadwyedd ar gyfer y rhai 16 i 18 oed

Roedd y contract ar gyfer darparwyr hyfforddiant i gyflwyno rhaglenni hyfforddeiaethau ac ymgysylltu ar gyfer y rhai 16 i 18 yn rhedeg hyd at fis Mawrth 2022. O fis Ebrill 2022, contractiwyd darparwyr hyfforddiant gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen newydd, Twf Swyddi Cymru Plws. Caiff y rhaglenni cyflogadwyedd newydd hyn eu darparu mewn rhanbarthau, gyda phump o ddarparwyr yn ddarparwyr arweiniol. Mae dau yn ddarparwyr hyfforddiant annibynnol, mae un yn ddarparwr arweiniol yn yr holl ranbarthau, ac mae’r llall yn ddarparwr arweiniol mewn tri o’r pedwar rhanbarth. Ceir tri choleg addysg bellach fel darparwyr arweiniol mewn rhanbarthau penodol. Mae gan ddarparwyr addysg bellach, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau trydydd sector drefniadau is-gontractio ar draws y rhanbarthau ar gyfer yr hyfforddiant hwn.

Yn sgil newid y trefniadau contractio, gwaith cyfyngedig a wnaethom yn gysylltiedig â’r ddarpariaeth hon yn ystod 2021-2022.


Dysgu

Ers iddynt ddychwelyd yn llawn i’w gweithleoedd a gweithgarwch wyneb yn wyneb i ffwrdd o’r gwaith ym mis Medi 2021, bu’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn ymgysylltu’n arbennig o dda â’u gweithgareddau ymarferol a theori. O ganlyniad, gwnaeth y rhan fwyaf o ddysgwyr gynnydd priodol o leiaf a gwnaeth ychydig o ddysgwyr gynnydd cryf. Mae nifer uchel o ddysgwyr wedi’u recriwtio ar y rhan fwyaf o raglenni prentisiaeth. O ganlyniad, mae bron yr holl ddarparwyr ar eu capasiti llawn i fodloni’u contract.

Yn ystod y pandemig, parhaodd nifer o sectorau allweddol fel iechyd a gofal, a gofal plant, ar agor. Roedd dysgwyr yn y sector iechyd a gofal dan gryn bwysau yn ystod ac ar ôl y pandemig. Er iddynt aros yn y gweithle ac yn yr amgylchedd mwyaf heriol oherwydd cyfyngiadau, nid oedd hawl gan eu haseswyr i ymweld. O ganlyniad, nid oedd y dysgwyr hyn yn gallu cwblhau eu hasesiadau mewn modd amserol er mwyn cyflawni’u prentisiaethau.

Yn aml, roedd gan ddysgwyr newydd a oedd yn ymuno â rhaglenni prentisiaeth fedrau llythrennedd a rhifedd islaw lefelau’r dysgwyr hynny a ymunodd cyn y pandemig. Roedd hyn yn bennaf oherwydd dysgu a gollwyd o’r ysgol neu goleg. Mewn lleiafrif o achosion, roedd diffyg hyder a gwydnwch gan ddysgwyr, ond gyda chymorth personol gan eu haseswyr a’u cyflogwyr, fe wnaeth hyn wella’n gyflym. At ei gilydd, fe wnaeth llawer o ddysgwyr gryfhau eu medrau digidol oherwydd yr angen i gael mynediad i ddysgu o bell a defnyddio ystod o becynnau cyfrifiadur i gefnogi’u dysgu, a oedd yn ddatblygiad cadarnhaol.

Yn ystod y flwyddyn hon, roedd y rhai newydd a oedd yn ymuno â rhaglenni prentisiaeth yn parhau i gael profiad o weithgareddau cyfyngedig hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith yn aml. Yn yr achosion gorau, roedd dysgwyr yn elwa o gymorth cryf gan eu cyflogwyr a oedd yn gwneud yn siŵr bod dysgwyr yn cael cyfleoedd eang i ymgymryd â thasgau asesu yn y gwaith. Yn gyffredinol, roedd dysgwyr yn gwneud cynnydd rhesymol yn eu gwybodaeth theori, ond cynnydd arafach yn eu hasesiadau ymarferol. Er bod aseswyr yn cael mynediad llawn i weithleoedd erbyn hyn, mae’r sector wedi dioddef o gyfraddau uchel dysgwyr yn gadael, a chynnydd a chyflawniad arbennig o araf gan ddysgwyr. Mewn meysydd dysgu lle’r oedd yn ofynnol i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth glir o wyddoniaeth, mathemateg a thechnolegau, roeddent yn colli gweithgareddau i ffwrdd o’r gwaith a’r cymorth yr oeddent yn ei gael o’r sesiynau hyn. Er i’r ddarpariaeth lletygarwch ac arlwyo wella, parhaodd y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol i wynebu heriau yn ystod y flwyddyn hon. Effeithiwyd ar nyrsio deintyddol hefyd, gyda llawer o ddysgwyr yn gadael rhaglenni’n gynnar ac nid yn dychwelyd i’r diwydiant. Roedd y galw am brentisiaethau adeiladu yn uchel, gyda chyflogwyr yn recriwtio niferoedd cynyddol o brentisiaid i fodloni’u llwyth gwaith trwm.

Lles ac agweddau at ddysgu

Roedd bron yr holl ddysgwyr yn croesawu dychwelyd i’r gweithle a hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith. Er bod ychydig iawn yn orbryderus ynglŷn â dychwelyd, roedd presenoldeb yn y gweithle ac i ffwrdd o’r gwaith yn uchel.

At ei gilydd, roedd dysgwyr yn mwynhau’u gweithgareddau hyfforddi ac yn dangos agweddau cadarnhaol at eu dysgu. Roeddent yn gweithio’n dda â’u cyflogwr, cyfoedion a chleientiaid. Daeth y dysgwyr hyn yn aelodau gwerthfawr o weithlu eu cyflogwr yn fuan, ac yn yr achosion gorau, yn enwedig gyda phrentisiaethau lefel uwch, roedd dysgwyr yn cymryd cyfrifoldeb am eu dysgu. Roedd dysgwyr a oedd yn parhau â’u prentisiaethau ar ôl y pandemig a’r rhai newydd a oedd yn dod i mewn yn teimlo’n frwdfrydig ynglŷn â’u hyfforddiant ac yn llawn cymhelliant i lwyddo, gyda’r mwyafrif yn awyddus i symud ymlaen i’r lefel nesaf.

Addysgu a phrofiadau dysgu

Yn ystod y cyfnod clo, symudodd athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr at ddysgu o bell yn gyflym. Roedd y gallu hwn i ymateb yn gyflym yn ganlyniad yn rhannol i’r gwaith blaenorol yr oedd darparwyr wedi’i wneud wrth ddefnyddio portffolios dysgwyr ar-lein ac olrhain cynnydd. Hefyd, roedd llawer wedi datblygu hybiau lle’r oedd modd storio deunyddiau addysgu a dysgu, ac roedd athrawon, hyfforddwyr, aseswyr a dysgwyr yn gallu eu defnyddio.

Lle’r oedd canolfannau hyfforddi a cholegau yn cael ailagor, rhoesant flaenoriaeth i ddysgwyr yr oedd angen iddynt gwblhau asesiadau ymarferol oedd ganddynt yn weddill. Creodd cwblhau’r asesiadau hyn lawer o broblemau i ddarparwyr, gan gynnwys:

  • yr addasiadau yr oedd angen eu gwneud, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol
  • y nifer gyfyngedig o ddysgwyr a oedd yn cael bod mewn gofod gweithdy
  • cyfyngiadau ar symud
  • yr angen i wisgo mygydau wyneb
  • adnabod symptomau COVID-19
  • cyfyngu ar fynediad a mynd i mewn
  • datblygu systemau unffordd
  • dim ond ychydig o ddysgwyr yn gallu defnyddio gweithdai mawr ar unrhyw un adeg oherwydd rheolau cadw pellter

Pan ddychwelodd dysgwyr at eu cyflogwyr a hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith, unwaith eto roeddent yn cael cymysgedd cyfoethog o weithgareddau, gan gynnwys sesiynau o bell, lle bo’n briodol. Roedd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn cydnabod y byddai elfennau o ddysgu o bell yn parhau ar ôl y pandemig. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd modd ymgymryd ag adolygiadau o gynnydd dysgwyr yn effeithiol o bell, gyda’r fantais bod aseswyr yn gorfod teithio llai a bod mwy o amser ganddynt i dreulio gyda’r dysgwyr. Mae dysgwyr prentisiaethau uwch yn ymgymryd â’u rhaglenni o bell fel arfer, yn enwedig medrau arweinyddiaeth a rheolaeth, a medrau digidol. Ar y rhan fwyaf o raglenni, fodd bynnag, nid oedd sail resymegol glir gan ddarparwyr ar gyfer cydbwyso gweithgarwch wyneb yn wyneb a dysgu o bell.

Roedd bron yr holl athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr yn datblygu perthnasoedd gweithio cadarnhaol gyda dysgwyr a helpodd i’w cefnogi i symud ymlaen â’u gwaith ymarferol a theori. Yn yr achosion gorau, roedd staff darparwyr yn adnabod eu dysgwyr yn arbennig o dda, ac yn rhoi lefelau cryf o gymorth personol iddynt a helpodd i feithrin hyder a gwydnwch dysgwyr. Roedd aseswyr a staff hyfforddi yn hyblyg yn y ffordd yr oeddent yn ymgysylltu â dysgwyr i addasu dulliau cyflwyno yn ôl anghenion eu dysgwyr, yn enwedig wrth ddarparu ar gyfer patrymau gwaith shifft a phwysau gwaith dysgwyr. Rhoddodd darparwyr flaenoriaeth uchel i ddefnyddio’u hadeiladau a’u hadnoddau staff yn hyblyg er mwyn gwneud yn siŵr bod gan ddysgwyr fynediad i gyfleusterau a gweithdai i gwblhau asesiadau ymarferol a dal i fyny gyda dysgu a gollwyd.

Roedd gan lawer o athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr ddisgwyliadau priodol o ddysgwyr ac roeddent yn gosod targedau realistig, ond heriol, ar gyfer cwblhau gwaith ysgrifenedig ac asesiadau ymarferol. Yn y lleiafrif o achosion lle gellid gwella addysgu, hyfforddi ac asesu:

  • Nid oedd yr holl athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr yn herio dysgwyr i gyflawni gwaith o ansawdd uchel
  • Nid oedd sesiynau theori i ffwrdd o’r gwaith yn ddigon difyr
  • Yn aml, roedd cynlluniau dysgu unigol dysgwyr yn cynnwys dyddiadau targed generig ar gyfer cwblhau gwaith. Nid oedd y cynlluniau hyn yn ystyried mannau cychwyn dysgwyr, eu profiad blaenorol na’r cynnydd yr oedden nhw’n ei wneud

Gofal, cymorth ac arweiniad

Ar draws y rhwydwaith, roedd darparwyr dysgu yn y gwaith yn ymwybodol iawn o’r cymorth y gallai fod ei angen ar ddysgwyr er mwyn eu helpu i lwyddo. Yn ystod y pandemig ac wrth ddychwelyd i weithgarwch wyneb yn wyneb, rhoddodd staff darparwyr y flaenoriaeth uchaf i les dysgwyr. Yn yr holl ddarparwyr, roedd hyfforddwyr, aseswyr a staff cymorth arbenigol yn rhoi help wedi’i dargedu i ddysgwyr i helpu â’u hanghenion lles a chymorth personol. Lle’r oedd yn briodol, roedd staff yn atgyfeirio dysgwyr at asiantaethau arbenigol, fel gwasanaethau cwnsela. O ganlyniad i gymorth cryf gan ddarparwyr ac asiantaethau allanol, parhaodd llawer o ddysgwyr ar raglenni a gwneud cynnydd. Yn sgil y cymorth hwn â ffocws, teimlai llawer o ddysgwyr eu bod yn cael gofal da gan eu darparwr ac fe wnaethant gwblhau eu prentisiaeth neu wneud cynnydd cadarn tuag at gwblhau eu prentisiaeth.

Cryfhaodd llawer o ddarparwyr eu gweithdrefnau ar gyfer olrhain cynnydd a lles dysgwyr yn ystod y pandemig. Yn yr achosion gorau, roedd y prosesau hyn yn cynnwys datblygu cofrestr dysgwyr sydd mewn perygl. Roedd y cofrestrau hyn yn galluogi staff i gadw cyswllt rheolaidd â dysgwyr a oedd yn arbennig o fregus, a darparu lefelau uchel o gymorth personol. Yn sgil y cofrestrau a chyswllt rheolaidd, roedd darparwyr yn cael rhybudd cynnar os oedd dysgwyr yn cael anawsterau ac yn eu galluogi i roi ystod eang o ymyriadau ar waith yn gyflym pan roedd angen yn cael ei nodi. O ganlyniad, roedd y dysgwyr hyn yn parhau ar eu rhaglenni yn gyffredinol, ac roedd cefnogaeth dda i’w hiechyd a’u lles.

Ar draws y rhwydwaith dysgu yn y gwaith, roedd athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau yn dda mewn perthynas â diogelu plant. Mewn llawer o achosion, datblygodd athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr ddealltwriaeth dysgwyr o radicaleiddio yn briodol.

Arweinyddiaeth

Yn ystod blwyddyn gychwynnol y contract prentisiaethau newydd, mae perthnasoedd gweithio gydag isgontractwyr a phartneriaid wedi’u datblygu’n dda, ac mae perthnasoedd, prosesau ac arferion gydag isgontractwyr newydd yn cael eu datblygu. Mae’r holl ddarparwyr wedi derbyn dysgwyr sydd wedi’u dadleoli o ddarparwyr hyfforddiant na ddyfarnwyd grant prentisiaethau iddynt. Mae arweinwyr a staff yn cynorthwyo’r dysgwyr hyn yn dda i wneud cynnydd wrth gwblhau’u rhaglenni prentisiaeth.

Gan adeiladu ar waith yn ystod y pandemig, cryfhaodd uwch arweinwyr eu cyfathrebu â phartneriaid allweddol, gan gynnwys aelodau consortia, isgontractwyr newydd, cyflogwyr a staff. Roedd y cyfathrebu hwn yn eang ac amrywiol, ac yn cynnwys cyfarfodydd o bell, negeseuon e-bost, a flogiau i ddarparu diweddariadau a gwybodaeth am ddatblygiadau allweddol fel galw gan gyflogwyr, perfformiad dysgwyr, a diweddariadau gan Lywodraeth Cymru a chyrff dyfarnu. Roedd hyn yn arbennig o fuddiol i bartneriaid allweddol a staff, a oedd yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a oedd yn cael ei rhoi iddynt. Mae’r adnodd hwn yn darparu cwestiynau hunanfyfyrio i gynorthwyo darparwyr dysgu yn y gwaith i wella gweithio mewn partneriaeth ymhellach.

Roedd dysgu proffesiynol yn flaenoriaeth uchel ar draws darparwyr, gyda chyflwyno o bell a medrau digidol yn feysydd datblygu allweddol. Rhoddodd arweinwyr ffocws cryf ar gynorthwyo’u staff i ddatblygu eu medrau digidol er mwyn helpu dysgwyr gynnal eu hymgysylltiad a gwneud cynnydd. Wrth ddod allan o’r pandemig, manteisiodd arweinwyr ar y cyfle i fyfyrio ar ddysgu o bell a chynllunio gweithgarwch dysgu o bell yn y dyfodol lle’r oedd yn darparu’r budd mwyaf i ddysgwyr. Yn yr achosion gorau, roedd darparwyr yn cydnabod bod dysgu o bell yn fwy addas na dysgu wyneb yn wyneb ar gyfer ychydig o grwpiau dysgwyr.

Yn ystod cyfnodau clo a dychwelyd i addysgu wyneb yn wyneb, rhoddodd rheolwyr ffocws clir ar gefnogi lles dysgwyr ac athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr. Er bod darparwyr wedi cadw llawer o agweddau ar eu prosesau sicrhau ansawdd, roedd yn arbennig o anodd adolygu effeithiolrwydd addysgu, hyfforddi ac asesu. Roedd hyn yn arbennig o wir yn gynnar yn ystod y pandemig lle’r oedd uwch arweinwyr yn ystyriol o’r cydbwysedd rhwng dwyn staff i gyfrif a chefnogi’u hiechyd a’u lles. Wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi, yn yr achosion gorau, datblygodd rheolwyr strategaethau i adolygu effeithiolrwydd addysgu, asesu a dysgu. Fodd bynnag, mae heriau’n parhau o hyd yn sgil yr anawsterau’n ymwneud â chymhlethdod y trefniadau asesu a hyfforddi ar gyfer cymwysterau galwedigaethol a thechnegol.