Mynd i'r cynnwys

Addysgu hanes Cymru, gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Ym mis Hydref 2021, cyhoeddom ein hadroddiad thematig ar addysg hanes Cymru, gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae ein hadroddiad yn defnyddio canfyddiadau o arolygiadau a gynhaliwyd cyn mis Mawrth 2020, cyfarfodydd rhithwir a nifer fach o ymweliadau ar y safle ag ysgolion cynradd ac uwchradd. Ymgynghorom â rhieni, cynrychiolwyr o sefydliadau addysg uwch, academyddion a staff consortia rhanbarthol hefyd.

Mae ein hargymhellion yn cynnwys:

Dylai ysgolion:

  1. Sicrhau bod disgyblion yn datblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o hanes a diwylliant eu hardal leol a Chymru, wrth ystyried safbwyntiau gwahanol a chreu cysylltiadau â hanes a diwylliant y byd ehangach
  2. Sicrhau bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth o wrth-hiliaeth ac amrywiaeth, a sut y gallant ddod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus Cymru a’r byd
  3. Sicrhau bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth o sut mae unigolion a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cyfrannu at hanes a diwylliant Cymru a’r byd ehangach

Dylai awdurdodau lleol (ALl) a chonsortia rhanbarthol (CRh) gynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol addas i athrawon:

A6. Ddatblygu eu gwybodaeth am hanes lleol a hanes Cymru, ac i rannu arfer orau

A7. Datblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o addysgu amrywiaeth, gwrth-hiliaeth, a hanes a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru a’r byd ehangach

Dylai Llywodraeth Cymru:

A10. Gydweithio ag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i sicrhau bod yr arlwy dysgu proffesiynol genedlaethol yn rhoi blaenoriaeth uchel i ddatblygu hyfforddiant ac adnoddau i gefnogi’r meysydd hyn

Beth ddywedodd ein hadroddiad thematig?

Pan gânt y cyfle i wneud hynny, mae disgyblion yn mwynhau dysgu am hanes, hunaniaeth a diwylliant lleol a Chymru a chreu cysylltiadau â hanes y byd ehangach. Maent hefyd yn mwynhau astudio cyfraniad cymunedau a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Ym mwyafrif yr ysgolion, nid oes gan ddisgyblion lawer o wybodaeth am y digwyddiadau hanesyddol sydd wedi ffurfio eu hardal leol, ac ni allant enwi llawer o Gymry arwyddocaol o hanes.

Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae gan ddisgyblion wybodaeth a dealltwriaeth gyfyngedig o hanes pobl a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Mae mwyafrif o ysgolion cynradd yn cynllunio cyfleoedd priodol i ddisgyblion ddysgu am eu hardal leol a Chymru. Mewn lleiafrif o ysgolion cynradd, caiff hanes lleol a hanes Cymru eu hystyried yn elfen ‘ychwanegol’ o’r cwricwlwm.

Mewn llawer o ysgolion uwchradd, mae gwersi’n cynnwys cyfeiriadau brysiog yn unig at hanes lleol a hanes Cymru.

Mae lleiafrif o ysgolion yn cynnwys hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn eu cwricwlwm. Ychydig iawn o ysgolion sy’n addysgu disgyblion am gyfraniad unigolion a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig at hanes Cymru.

Mae faint o hanes Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n cael ei astudio gan ddisgyblion TGAU a Safon Uwch yn dibynnu ar y pynciau sy’n cael eu dewis gan ddisgyblion, a’r testunau sy’n cael eu dewis o’r ystod sy’n cael eu cynnig gan y bwrdd arholi.

Mae’r rhan fwyaf o arweinwyr mewn ysgolion yn nodi bod y Cwricwlwm i Gymru yn cynnig cyfle sylweddol i gyfoethogi a gwella addysgu hanes lleol a hanes Cymru. Mae llawer ohonynt yn cydnabod pwysigrwydd amrywiaeth a hanes a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Fodd bynnag, ni chaiff hyn ei adlewyrchu yn eu cynllunio strategol ar gyfer y cwricwlwm na’u harlwy dysgu proffesiynol i staff bob tro.

Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae gwybodaeth, dealltwriaeth ac angerdd arweinwyr pwnc tuag at hanes lleol, Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael dylanwad ar yr hyn sy’n cael ei gynnig yn y cwricwlwm hanes.

O’r athrawon hynny a ymgymerodd â’u haddysg gychwynnol athrawon yng Nghymru, ychydig ohonynt yn unig a grybwyllodd eu bod wedi cael hyfforddiant ar hanes Cymru. Ychydig iawn ohonynt a grybwyllodd eu bod wedi cael hyfforddiant mewn hanes a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae partneriaethau AGA presennol yn datblygu eu darpariaeth yn y meysydd hyn.

Yn y rhan fwyaf o ysgolion, ychydig iawn o ddysgu proffesiynol y gall athrawon fanteisio arno yn ymwneud â hanes a diwylliant lleol, Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Ychydig iawn o ddysgu proffesiynol arbenigol y mae awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol yn ei gynnig ar y meysydd penodol hyn.

Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn cyfeirio at ddiffyg adnoddau addas ar gyfer addysgu hanes lleol, Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.