Mynd i'r cynnwys

Cyngor ac arweiniad diduedd ar yrfaoedd i bobl ifanc 14-16 oed a ddarperir gan gynghorwyr Gyrfa Cymru

Ym mis Mai 2022, cyhoeddom ein hadroddiad thematig ar gyngor gyrfaoedd a ddarperir gan gynghorwyr Gyrfa Cymru. Mae ein hadroddiad yn defnyddio ymweliadau â sampl o ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig, unedau cyfeirio disgyblion (UCD) ac addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) ledled Cymru i arsylwi sesiynau arweiniad un-i-un rhwng cynghorwyr Gyrfa Cymru a phobl ifanc. Siaradom â phobl ifanc, athrawon, cynghorwyr gyrfaoedd ac arweinwyr a rheolwyr Gyrfa Cymru hefyd.

Ein hargymhellion

Dylai Gyrfa Cymru:

  1. Ddatblygu systemau a meini prawf priodol i werthuso’r effaith a gaiff gwasanaethau ar effeithiolrwydd a gwydnwch pobl ifanc wrth iddynt gynllunio gyrfa a gwneud penderfyniadau
  2. Sicrhau bod gwerthuso effeithiol, wedi’i seilio ar dystiolaeth gywir, gynhwysfawr a pherthnasol, yn llywio cynllunio strategol a gwella ansawdd
  3. Cryfhau cysylltiadau gyda chwmnïau gyrfaoedd eraill i wella cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol a datblygu arfer dda
  4. Parhau i sicrhau bod dadansoddi o weithgareddau sicrhau ansawdd yn cael ei fwydo’n ôl i ysgolion unigol i gryfhau addysg gyrfaoedd ac addysg yn gysylltiedig â gwaith
  5. Sicrhau bod pob un o’r staff yn hyrwyddo ymwybyddiaeth pobl ifanc o werth y Gymraeg fel medr cyflogaeth
  6. Sicrhau bod pob un o’r staff yn deall trefniadau a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer diogelu pobl ifanc

Beth ddywedodd ein hadroddiad thematig?

Canfuom fod y rhan fwyaf o’r bobl ifanc sy’n gymwys i gael sesiwn arweiniad yn yr ysgolion a’r lleoliadau yr ymwelom â nhw yn gwneud cynnydd da o’u gwahanol fannau cychwyn wrth greu eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Maent yn trafod eu syniadau ac yn ymateb yn dda i gwestiynau a heriau a osodir pan allai cynllun ymddangos yn beryglus. Pan fydd pobl ifanc yn dechrau eu sesiwn arweiniad gyda chynlluniau a syniadau afrealistig, mae hyn fel arfer yn deillio o ddiffyg cymorth gan eu hysgol neu leoliad. Ar ôl iddynt gael arweiniad, mae’r bobl ifanc hyn yn gwneud cynnydd da iawn tuag at ddeall y llwybrau ôl-16 sydd ar gael iddynt.

Gwelom fod y rhan fwyaf o gynghorwyr gyrfaoedd wedi paratoi’n dda ar gyfer eu sesiynau arweiniad, yn enwedig ble mae ganddynt berthnasoedd sefydledig â darparwyr, ac maent yn rhannu gwybodaeth allweddol. Mae cynghorwyr yn effeithiol ac yn darparu cyngor clir a phriodol ar gyfer y camau nesaf i bobl ifanc eu cymryd. Mae cynghorwyr anghenion dysgu ychwanegol (ADY) arbenigol yn cynorthwyo pobl ifanc ag ADY wrth iddynt gynllunio pontio, ac mae ganddynt ddealltwriaeth gynhwysfawr o gyfleoedd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant. Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi eto sut bydd Gyrfa Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu’r cymorth hwn o dan y system ADY ddiwygiedig. Er bod cynghorwyr gyrfaoedd yn deall protocolau ysgolion ar gyfer diogelu ac yn gallu enwi unigolyn diogelu dynodedig eu hysgol, mae lleiafrif ohonynt yn llai clir ynglŷn â phrotocolau’r cwmni a’r unigolyn diogelu dynodedig.

Nod gweledigaeth Dyfodol Disglair Gyrfa Cymru (Gyrfa Cymru, 2021) yw targedu’r bobl ifanc sydd fwyaf angen cyngor ac arweiniad annibynnol i wneud dewisiadau gwybodus. Fodd bynnag, canfuom nad yw hi bob amser yn glir sut mae arweinwyr a rheolwyr yn bwriadu mesur effaith ac effeithiolrwydd eu gwasanaethau a’u strategaeth gyffredinol. Er enghraifft, nid ydynt yn dadansoddi cyfran y bobl ifanc sy’n rhoi’r gorau i’w hopsiwn dilyniant ôl-16 cyn cwblhau eu nod, ac nid oes strategaeth glir ychwaith i wella lefelau ymgysylltiad pobl ifanc. At ei gilydd, nid yw prosesau’r cwmni ar gyfer gwerthuso effaith ei wasanaethau wedi eu datblygu’n ddigonol, gyda gormod o ffocws ar foddhad cleientiaid a dim dadansoddi pa effaith a gaiff y gwasanaeth ar wella cynllunio’r ffordd y mae pobl ifanc yn cynllunio gyrfa ac yn gwneud penderfyniadau. Mae hyn yn rhwystro gallu’r cwmni i seilio cynllunio gwelliant ar ddadansoddiad dibynadwy neu drylwyr o gryfderau ei wasanaeth a’r meysydd i’w gwella.