Diwygio’r Cwricwlwm
Bu hwn yn gyfnod anodd i ddarparwyr wrth iddynt barhau i wynebu heriau’r pandemig COVID-19 ar yr un pryd â cheisio cynnal eu momentwm wrth ddatblygu addysgu a dysgu i alinio â’r Cwricwlwm i Gymru. Golygai effaith y pandemig, yn ogystal ag effeithiolrwydd gallu darparwyr i sicrhau newid a gwelliant, mai amrywiol oedd y cynnydd. Er enghraifft, fe wnaeth cyfyngiadau COVID-19 gyfyngu ar gyfleoedd i ymarferwyr nodi a rhannu addysgeg effeithiol o fewn darparwyr a rhwng darparwyr. Er gwaetha’r heriau, mewn llawer o achosion, gweithiodd arweinwyr gyda staff i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o barhau i gydweithio i ddatblygu’r cwricwlwm ac addysgeg. Yn y sector cynradd, fe wnaeth profiad o addysgeg y dysgu sylfaen a dull mwy sefydledig o gymhwyso medrau ar draws y cwricwlwm gynorthwyo athrawon i ddechrau addasu eu haddysgeg, er enghraifft darparu profiadau dysgu bywyd go iawn ar gyfer disgyblion.
Yn yr ysgolion uwchradd a oedd yn gwneud cynnydd addas tuag at ddiwygio’r cwricwlwm, roeddent yn canolbwyntio’n fanwl ar wella addysgu, datblygu dealltwriaeth staff o ddylunio’r cwricwlwm a dilyniant mewn dysgu. Roeddent hefyd yn ystyried eu dulliau pontio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd yn ofalus. Yn yr achosion hyn, roedd ysgolion yn defnyddio’u trefniadau pontio i gefnogi cynnydd disgyblion yn ogystal â helpu disgyblion i ymgartrefu ym mywyd ysgol. Yn yr ysgolion uwchradd lle’r oedd cynnydd tuag at ddiwygio’r cwricwlwm yn effeithiol o leiaf, aethant ati’n rhy gyflym i ddechrau dylunio’u cwricwlwm heb feddwl yn ofalus am wella addysgu neu ystyried y wybodaeth, y medrau a’r profiadau y mae eu hangen ar eu disgyblion i lwyddo. Yn ogystal, dywedodd ysgolion fod gofynion cymwysterau penodol i bwnc yn ei gwneud yn anodd iddynt ystyried eu dulliau ar gyfer dylunio a chyflwyno’r cwricwlwm.
Diwygiad cymwysterau galwedigaethol
Yn y sector ôl-16, parhaodd Cymwysterau Cymru i symud ymlaen â chyfres o adolygiadau sector galwedigaethol fel rhan o’i bolisi cymwysterau galwedigaethol yn gysylltiedig â diwygio cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru. Datblygwyd cymwysterau newydd ‘wedi’u creu yng Nghymru’ mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant, adeiladu a gwasanaethau adeiladu o ganlyniad i’r gwaith hwn. Er bod arweinwyr mewn ysgolion, colegau a darparwyr dysgu yn y gwaith yn gadarnhaol yn gyffredinol ynglŷn â datblygu’r cymwysterau galwedigaethol newydd hyn sy’n benodol i Gymru, mynegodd llawer rwystredigaeth â materion cynnar yn ymwneud â dylunio a gweithredu’r cymwysterau hyn. Arweiniodd hyn at adolygiadau a diwygiadau i’r cymwysterau hyn. Roedd dyfodol llawer o gymwysterau presennol, fel BTEC, yn ansicr oherwydd newidiadau arfaethedig i gyllid yn Lloegr yn gysylltiedig â chyflwyno cymwysterau technegol galwedigaethol (lefelau-T) a thynnu arian yn ôl ar gyfer llawer o gymwysterau presennol. Roedd yr effaith ar y cwricwlwm 16-19 yng Nghymru yn ansicr gan nad oedd sefydliadau dyfarnu wedi cyhoeddi eu cynlluniau eto i barhau i gynnig cymwysterau yr effeithiwyd arnynt gan y newidiadau hyn i ddarparwyr yng Nghymru. Roedd darparwyr ôl-16 yng Nghymru yn arbennig o bryderus ynglŷn ag effaith debygol y diwygiadau hyn ar argaeledd cymwysterau galwedigaethol. Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y byddent yn adolygu’r cynnig cymwysterau galwedigaethol presennol yng Nghymru ac yn defnyddio’r canfyddiadau i ddwyn diwygiadau ymlaen.
Gwella addysgu
Ar draws yr holl sectorau a oedd yn paratoi i roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith, bu ymarferwyr yn ystyried ac yn archwilio dulliau addysgu yn briodol i gefnogi gweithredu’r cwricwlwm a gwella’u harfer. Mewn lleiafrif o leoliadau nas cynhelir, roedd symudiad nodedig tuag at ddulliau yn cael eu harwain fwy gan blant, a chefnogwyd llawer o hyn gan gyhoeddi’r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir. Yn y lleoliadau hyn, arweiniodd yn aml at ymarferwyr yn cynllunio profiadau dysgu a oedd yn dilyn diddordebau plant, gan barhau i adeiladu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u medrau yn gynyddol. Felly’r oedd hi hefyd mewn llawer o ysgolion cynradd, lle’r oedd athrawon yn dyfeisio ffyrdd yn gynyddol i gynnwys disgyblion wrth gynllunio beth a sut yr oeddent yn dysgu. Fodd bynnag, amrywiol oedd effeithiolrwydd y dulliau hyn.
Yn y sector uwchradd, dechreuodd athrawon ystyried ffyrdd i ddatblygu eu dulliau addysgu er mwyn cynyddu buddion i’r eithaf ar gyfer dysgu disgyblion. Lle’r oedd hyn yn fwyaf llwyddiannus, nododd athrawon synergeddau naturiol rhwng pynciau a buont yn cydweithio’n effeithiol rhwng adrannau i gynllunio cyfleoedd i ddisgyblion adeiladu ar eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth a chymhwyso’u medrau. Lle’r oedd yn llai llwyddiannus, aeth ysgolion ati i weithio ar draws adrannau heb ystyried y buddion a’r diffygion yn ddigonol. Yn rhy aml, roedd hyn yn golygu gwneud newidiadau graddfa lawn i adrannau a Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDaPh) heb feddwl am eu gweledigaeth ar gyfer y cwricwlwm ac addysgu. Yn aml, arweiniodd hyn at ysgolion yn rhoi thema drosfwaol ar waith ar gyfer adran neu faes cyfan heb feddwl yn gyntaf am ddysgu effeithiol yn y disgyblaethau ar wahân. Arweiniodd hyn at wneud cysylltiadau petrus ac ni chafodd effaith gadarnhaol ar ddysgu na chynnydd disgyblion. Ym mis Medi, cyhoeddom gofweinion i’w defnyddio gyda disgyblion i archwilio y modd y gallan nhw gydweithio’n agosach i gynllunio dysgu.
At ei gilydd, ar draws pob sector, roedd ymarferwyr yn croesawu’r cyfle i addasu eu hymarfer i fodloni anghenion disgyblion yn fwy effeithiol yn eu lleoliadau. Roeddent yn sôn yn aml am fwy o ymdeimlad o ryddid i arbrofi ac archwilio dulliau newydd. Lle’r oedd hyn yn fwyaf effeithiol, roedd arweinwyr yn annog ymarferwyr i fyfyrio’n ofalus ar eu harfer gan gynnal ffocws clir ar yr effaith ar ddeilliannau a chynnydd disgyblion.
Yn ein hadroddiad thematig yn 2018, ‘Gwella Addysgu’, buom yn myfyrio ar beth yw addysgu effeithiol a darparom enghreifftiau defnyddiol o’r modd yr aeth ysgolion ati i wneud newidiadau. Mae’r pecynnau cymorth ‘Addysgu a Dysgu’ a’r ‘Blynyddoedd Cynnar’ gan y Sefydliad Gwaddol Addysgol yn darparu crynodebau gwerthfawr o gost ac effaith dulliau amrywiol o wella cynnydd dysgwyr.
Dylunio a chynllunio’r cwricwlwm
Aeth darparwyr ati i addasu eu cwricwlwm yn gynyddol i adlewyrchu cyd-destun eu lleoliad ac anghenion eu dysgwyr. Yn yr achosion gorau, sicrhaodd arweinwyr ffocws cychwynnol ar bennu gweledigaeth o gydweithio ar gyfer y cwricwlwm yn seiliedig ar ymgysylltu â dysgwyr, rhieni, staff ac, mewn ychydig iawn o achosion, y gymuned, cyn symud ymlaen yn gyflym i’w ddatblygu. Yn aml, roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod y cwricwlwm yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddysgwyr archwilio nodweddion hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol eu cymuned a Chymru. Mewn llawer o achosion, defnyddiodd darparwyr eu hadolygiad o’r cwricwlwm hefyd i wella cyfleoedd i ddysgu am amrywiaeth y gymdeithas yng Nghymru a’r byd ehangach. Fe wnaethom archwilio’r themâu hyn yn fanwl yn ein hadroddiadau.
- Dathlu amrywiaeth a hyrwyddo cynhwysiant – Arfer dda o ran cefnogi dysgwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol (LGBT)
- Addysgu hanes Cymru gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
Mae’r rhan fwyaf o ysgolion arbennig mewn sefyllfa dda yn gyffredinol i roi diwygiadau i’r cwricwlwm ar waith. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd y cynnig cwricwlwm eisoes yn cydweddu’n dda ag egwyddorion a dibenion y Cwricwlwm i Gymru. Mae ysgolion arbennig wedi parhau i ddefnyddio’u rhwydweithiau cryf presennol i gydweithio ar ddatblygu eu cynigion cwricwlwm. Mae bron yr holl ysgolion arbennig yn rhoi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith o fis Medi, gan gynnwys ychydig o dan draean o ysgolion arbennig sydd â disgyblion oedran uwchradd.
Asesu a dilyniant
Roedd ysgolion cynradd ac uwchradd yn defnyddio’r 12 egwyddor addysgegol a amlinellwyd yn yr adroddiad Dyfodol Llwyddiannus yn aml i helpu llywio mentrau i wella addysgu. Rhoddodd llawer o ysgolion ffocws gwerthfawr o’r newydd ar strategaethau asesu ffurfiannol i sicrhau rhoi adborth effeithiol i ddisgyblion wrth iddynt gyflawni tasgau ac ymgymryd â’u dysgu.
Roedd ychydig iawn o ysgolion cynradd yn defnyddio canllawiau’r cwricwlwm yn hyderus i ddatblygu darlun o sut olwg sydd ar gynnydd trwy eu cwricwla unigol eu hunain. Yn yr ysgolion hyn, lle’r oedd gweledigaeth ar gyfer cynnydd wedi’i datblygu’n fwy eglur, roedd ysgolion yn defnyddio’r fframweithiau a’r datganiadau o’r ‘hyn sy’n bwysig’ i gynllunio’n ofalus ar gyfer cynnydd ar draws yr ysgol. Roeddent yn ymgorffori cyfleoedd ar gyfer asesu yn yr ystafell ddosbarth a oedd yn galluogi athrawon i addasu eu harfer gwers wrth wers a, thros gyfnod, symud disgyblion tuag at nodau ac amcanion trosfwaol. Roedd yr ysgolion hyn yn deall mai prif ddiben asesiad yw fel offeryn i’w ddefnyddio gan athrawon ar gyfer esblygu arfer effeithiol a chefnogi dysgu.
Er gwaethaf agweddau cadarnhaol yn gyffredinol tuag at y cyfleoedd ar gyfer datblygu a gynigiwyd gan y Cwricwlwm i Gymru, roedd rhwystrau canfyddedig yn parhau i atal cynnydd mewn mwyafrif o ysgolion uwchradd. Roedd y rhain yn cynnwys diffyg sicrwydd ynglŷn â chymwysterau yn y dyfodol a threfniadau atebolrwydd. Er bod trefniadau yn parhau i ddatblygu cymwysterau TGAU a galwedigaethol newydd, rydym yn dal i ymgynghori ar drefniadau arfaethedig felly nid oes manylion pendant eto, er bod tua hanner ysgolion uwchradd eisoes wedi cyflwyno cwricwlwm i Gymru ym Mlwyddyn 7.Hefyd, parhaodd llawer o ysgolion cynradd ac uwchradd i ofyn am ganllawiau ychwanegol ar asesu a chynllunio ar gyfer dilyniant.
Nodwyd pryderon gan lawer o arweinwyr ar draws yr holl ysgolion ac UCDau ynglŷn ag asesu a dilyniant yn y Cwricwlwm i Gymru, yn enwedig o ran nodi a disgrifio sut olwg ddylai fod ar gynnydd trwy’r cwricwlwm.
Dysgu proffesiynol
Mewn llawer o achosion, roedd darparwyr yn manteisio ar, ac yn dyfeisio, cyfleoedd dysgu proffesiynol priodol i gynorthwyo staff â pharatoi ar gyfer rhoi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith. Roedd rhannu arfer effeithiol mewn ysgolion yn cael ei ddefnyddio’n gynyddol dda i gynorthwyo athrawon i ddatblygu eu dulliau addysgu a dysgu, yn enwedig ar ôl i gyfyngiadau COVID-19 ddechrau llacio. Yn aml, roedd ysgolion yn dechrau ymgysylltu’n fwy pwrpasol gydag ymchwil genedlaethol a rhyngwladol i lywio’r newidiadau yr oedden nhw’n eu gwneud. Yn yr achosion gorau, roedd athrawon yn myfyrio’n dda ar yr effaith yr oedd eu haddasiadau’n ei chael ar gynnydd disgyblion, ac roeddent yn addasu syniadau a nodwyd mewn ymchwil yn dda i weddu cyd-destun eu hysgol. Fodd bynnag, mewn llawer o achosion, roedd ysgolion yn rhoi blaenoriaeth i ddylunio’r cwricwlwm dros wella effeithiolrwydd addysgu, ac roeddent yn methu cydnabod yn ddigonol yr effaith arwyddocaol a gaiff gwella ansawdd addysgu ar sicrhau cynnydd disgyblion.
Roedd partneriaethau AGA yn sicrhau bod eu rhaglenni’n rhoi ystyriaeth briodol i baratoi athrawon newydd ar gyfer gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru. Fel rhan o hyn, roeddent yn galluogi myfyrwyr i ystyried cynllunio’r cwricwlwm a dulliau addysgu a dysgu sy’n alinio â diwygio’r cwricwlwm. Fe wnaeth y pandemig gyfyngu ar rywfaint o’r gwaith hwn, ac mewn llawer o achosion, ni chafodd myfyrwyr eu hamlygu cyn llawned ag y byddai wedi bod yn ddymunol i ymarferoldeb dylunio’r cwricwlwm.
Gweithio mewn partneriaeth
Fe wnaeth y pedwar consortiwm rhanbarthol a’r tri awdurdod lleol nad ydynt mewn consortiwm mwyach, ddatblygu dulliau addas i gynorthwyol ysgolion i ddatblygueu cwricwlwm. Fel rhan o hyn, dechreuont ddatblygu dulliau cryfach o gefnogi cydweithio effeithiol rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd. Fodd bynnag, fel y dywedom yn ein hadroddiad thematig, ‘Y Cwricwlwm i Gymru – Sut mae consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn cynorthwyo ysgolion?’, yn rhy aml, roedd consortia ac awdurdodau lleol yn methu sicrhau bod cymorth yn ddigon pwrpasol at anghenion darparwyr, ac nid oeddent yn gwerthuso effaith eu gwaith yn ddigon effeithiol. Hefyd, roedd partneriaethau AGA yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i fyfyrwyr cynradd ac uwchradd weithio ar draws cyfnodau er mwyn archwilio gwaith trawsgwricwlaidd a dulliau addysgu a dysgu. Yn y rhan fwyaf o achosion, dechreuodd lleoliadau nas cynhelir weithio gyda’u hysgolion cynradd partner, a’r ysgolion cynradd gyda’u hysgolion uwchradd clwstwr, i ystyried cysondeb a dilyniant ar draws eu cwricwla. Ym mron yr holl achosion, fodd bynnag, roedd y gwaith hwn yn parhau ar gyfnod datblygu cynnar ac yn canolbwyntio ar elfennau penodol o’r Cwricwlwm i Gymru, fel cyflwyno Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb (APRh) o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd.
Dechreuodd cysylltiadau gwerthfawr rhwng ysgolion arbennig a darparwyr allanol i ailsefydlu wrth i gyfyngiadau COVID-19 lacio. Fe wnaeth hyn helpu sicrhau profiadau dysgu buddiol i ddisgyblion, fel ymweliadau â mannau lleol o ddiddordeb, datblygu medrau galwedigaethol a chyfleoedd dysgu’n gysylltiedig â gwaith.
Roedd ysgolion arloesi’n cael cefnogaeth dda gan gonsortia rhanbarthol a Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â chyfnod datblygu cenedlaethol y Cwricwlwm i Gymru. Fodd bynnag, ar draws pob sector, teimlai darparwyr nad oeddent yn rhan o’r rhwydwaith ysgolion arloesi nad oedd digon o gyfleoedd iddyn nhw ddysgu am y gwaith hwn a’i ddefnyddio i ddylanwadu ar ddatblygu eu darpariaeth eu hunain.