Crynodeb sector
Addysg bellach
2022-2023
Addysgu a dysgu
Beth sy'n mynd yn dda
- Mae’r rhan fwyaf o golegau’n addasu datblygu medrau ymarferol ar raglenni galwedigaethol i gyfateb i anghenion y diwydiant.
- Mae llawer o golegau wedi cynnal ychydig o agweddau ar gyflwyno o bell ac arlein sydd wedi’i dargedu’n ofalus.
- Mae llawer o golegau’n datblygu ac yn gwella ymagweddau ymgorfforedig tuag at ddysgu digidol.
- Mae’r rhan fwyaf o golegau wedi ailddechrau teithiau ac ymweliadau addysgol sy’n gyffredinol debyg i’r lefelau cyn y pandemig.
- Mae ychydig o golegau wedi datblygu ymagweddau at brofiad gwaith sydd wedi’u targedu’n dda.
Beth sydd angen ei wella
- At ei gilydd, nid yw medrau rhifedd dysgwyr wedi’u datblygu cystal â charfannau tebyg cyn y pandemig.
- Nid oes darpariaeth ddigonol o weithgareddau dysgu sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd iach ac yn atal agweddau misogynistaidd.
Gofal, cymorth a lles
Beth sy'n mynd yn dda
- Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant tuag at eu cyrsiau.
- Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn ymwybodol o ystod eang o gymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl a’u lles emosiynol.
- Mae gan golegau bolisïau a phrosesau sefydledig ar gyfer disgyblu dysgwyr ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ymdrin yn effeithiol ag achosion difrifol o aflonyddu rhywiol y rhoddir gwybod amdanynt.
- Mae ychydig o golegau’n datblygu arferion sy’n ystyriol o drawma.
Beth sydd angen ei wella
- Nid yw pob dysgwr yn teimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus ar draws pob agwedd ar eu profiadau dysgu.
- Mae aflonyddu rhywiol rhwng cymheiriaid yn cael ei dangofnodi’n gyffredinol.
- Ni all dysgwyr fanteisio’n gyfartal ar deithiau ac ymweliadau addysgol.
Arwain a gwella
Beth sy'n mynd yn dda
- Mae colegau’n rhannu ac yn cydweithio’n dda â’i gilydd ar draws ystod o faterion a mentrau allweddol.
- Mae colegau wedi diweddaru eu trefniadau sicrhau ansawdd i gynnwys arsylwi sesiynau dysgu ar-lein a digidol.
- Mae’r rhan fwyaf o golegau’n defnyddio timau cymorth digidol neu unigolion i ddatblygu adnoddau a chynorthwyo staff i gyflwyno gweithgareddau dysgu ar-lein a digidol.
- At ei gilydd, mae colegau wedi adolygu eu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer teithiau ac ymweliadau addysgol ac wedi’u diwygio’n briodol i fynd i’r afael ag argymhellion adroddiad thematig blaenorol Estyn.
Beth sydd angen ei wella
- Nid yw colegau’n monitro a gwerthuso cynnydd ac effaith eu camau cynllunio gwelliant yn ddigon da bob tro.
- Mae diffyg hyder gan lawer o staff colegau ac maent yn teimlo bod angen mwy o ddatblygu a diweddaru arnynt o ran mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.
- Nid yw colegau’n cofnodi a gwerthuso achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ddigon systematig.
- Nid yw’r rhan fwyaf o golegau’n casglu adborth ffurfiol gan ddysgwyr yn ymwneud â theithiau ac ymweliadau addysgol.
Trosolwg o argymhellion
1
Arolygwyd un coleg addysg bellach yn ystod 2022-2023.
- Roedd yr adroddiad ar yr arolygiad o Goleg Cambria yn cynnwys argymhellion ar gynllunio gwelliant, helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial a mynd i’r afael a bylchau mewn medrau llythrennedd a rhifedd.
- Fe wnaeth ein hadolygiad thematig hefyd wneud cyfres o argymhellion mewn perthynas â gweithio i nodi a mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16 i 18 oed. Roedd y rhain yn cynnwys darparu gweithgareddau dysgu ar berthnasoedd iach, atal agweddau a diwylliannau misogynistaidd, dysgu proffesiynol ychwanegol i staff, a sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus ar draws pob agwedd ar eu profiad yn y coleg. Roedd argymhellion eraill yn canolbwyntio ar wella trefniadau cofnodi a gwerthuso a rhoi arweiniad mwy eglur ar draws y sector.
Cwestiynau myfyriol
Cwestiynau i helpu i lywio prosesau cynllunio gwelliant darparwyr:
- Pa mor glir yw nodau ac amcanion unrhyw gynlluniau sy’n ymwneud â mentrau gwella allweddol?
- I ba raddau y mae cynlluniau prosiectau’n pennu amcanion penodol sydd â mesurau effaith priodol, ynghyd ag amserlenni clir ac arweinwyr dynodedig?
- Pa mor effeithiol y mae’r darparwr yn dyrannu adnoddau, gan gynnwys amser aelodau staff, i sicrhau llwyddiant ei waith gwella?
- Pa mor effeithiol y mae arweinwyr yn monitro cynnydd yn erbyn eu cynlluniau gwella ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i nodi camau gweithredu sydd angen sylw pellach?
- Pa mor effeithiol y mae gwerthusiadau cyffredinol yn nodi’r gwersi allweddol sy’n cael eu dysgu pan gaiff prosiectau eu cwblhau?
- Sut caiff gwersi sy’n cael eu dysgu eu defnyddio i fod o fudd wrth gynllunio prosiectau neu fentrau yn y dyfodol?
- Pa mor dda y mae’r darparwr yn defnyddio ystod eang o dystiolaeth i lywio ei waith gwerthuso a gwella?
- I ba raddau y mae’r ystod lawn o randdeiliaid yn cyfrannu at werthuso effaith mentrau gwella allweddol?
Arfer effeithiol
I ddarllen am ddarparwyr unigol sy'n gweithio’n effeithiol mewn agweddau penodol o’u gwaith, ewch i’n tudalen crynodeb o arfer effeithiol ar gyfer 2022-2023