Crynodeb sector
Addysg Gychwynnol Athrawon
2022-2023
Dysgu a lles
Beth sy'n mynd yn dda
- Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn datblygu eu hagweddau a’u hymddygiad proffesiynol yn dda.
- Mae gan lawer o fyfyrwyr ystod dda o fedrau cyffredinol ar gyfer yr ystafell ddosbarth. Maent yn cyfathrebu’n glir, yn datblygu eu medrau holi yn dda ac yn rheoli ymddygiad disgyblion mewn modd sensitif ac yn gynyddol fedrus.
- Mae llawer o fyfyrwyr yn datblygu medrau ymchwil defnyddiol. Maent yn archwilio ystod addas o ddamcaniaethau a thestunau addysgol.
Beth sydd angen ei wella
- Nid yw mwyafrif y myfyrwyr yn cynllunio’n ddigon clir beth maent yn disgwyl i ddisgyblion ei ddysgu. Mae hyn yn llesteirio eu gallu i ddewis yr ymagweddau a’r dulliau addysgu mwyaf effeithiol ac yn golygu nad ydynt yn gallu gwerthuso effeithiolrwydd eu haddysgu’n ddigon da o ran cynnydd disgyblion.
- Yn rhy aml, mae cynnydd myfyrwyr o ran eu dealltwriaeth o addysgu a chynllunio wedi’i gyfyngu gan yr hyn y maent yn cael profiad ohono yn yr ysgol.
- Nid yw mwyafrif y myfyrwyr yn myfyrio ar eu haddysgu yn ddigon dadansoddiadol neu’n feirniadol. Mae gormod ohonynt nad ydynt yn ystyried y cysylltiad rhwng eu dulliau addysgu a chynnydd ddisgyblion yn ddigon da yn eu gwerthusiadau.
- Nid yw lleiafrif o fyfyrwyr yn datblygu eu haddysgegau cyfnod neu bynciol yn ddigon da.
- Nid ydynt yn defnyddio’r hyn y maent wedi’i ddysgu o’u darllen a’u hymchwil yn ddigon da i ystyried sut y gallant wella eu haddysgu o ddydd i ddydd.
- Mae lleiafrif o fyfyrwyr yn cael trafferth ymdopi â gofynion cystadleuol cwblhau aseiniadau, lanlwytho tystiolaeth i’w Pasbort Dysgu Proffesiynol a chynllunio a gwerthuso gwersi.
Addysgu a phrofiadau dysgu
Beth sy'n mynd yn dda
- Diwrnodau hyfforddiant mewn ysgolion lle gall myfyrwyr archwilio agweddau ar addysgu a dysgu yn eu cyd-destun. Yn yr achosion gorau, mae’r cyfleoedd hyn yn helpu myfyrwyr i ddeall theori ar waith.
- Mewn ychydig o achosion, mae addysgu yn y brifysgol yn rhagorol. Mae gan diwtoriaid arbenigedd eithriadol o gryf, nid yn unig yn eu pwnc neu gyfnod, ond o ran datblygu addysgegau pwnc a chyfnod eu myfyrwyr, hefyd. Maent yn datblygu meddwl beirniadol myfyrwyr yn dda iawn ac yn deall anghenion athrawon newydd.
- Mewn lleiafrif o achosion, mae mentoriaid yn hyfedr o ran datblygu eu myfyrwyr. Maent yn helpu myfyrwyr i ystyried eu harfer yn feirniadol, yn cefnogi creadigrwydd yn yr ystafell ddosbarth ac yn tynnu sylw myfyrwyr at gynnydd disgyblion fel ffordd i fesur addysgu effeithiol.
Beth sydd angen ei wella
- Er bod yr holl raglenni wedi’u llunio’n unol â’r meini prawf achredu, mae agweddau ar bob rhaglen nad ydynt wedi’u cynllunio’n dda i gynnig profiad dysgu cydlynus i fyfyrwyr. Lle ceir y diffygion mwyaf difrifol, nid yw’r bartneriaeth wedi ystyried datblygiad cynyddol athrawon dan hyfforddiant yn ddigon da wrth lunio’r rhaglen.
- At ei gilydd, mae addysgu a mentora yn rhy amrywiol.
Arweinyddiaeth
Beth sy'n mynd yn dda
- Ymrwymiad parhaus gan ysgolion a phrifysgolion partner i’r partneriaethau AGA.
- Datblygu diwylliant ymchwil mewn AGA.
Beth sydd angen ei wella
- Nid yw strwythurau arweinyddiaeth yn ddigon effeithiol bob tro i arwain at welliant parhaus ac nid yw ysgolion partner yn ymgymryd â rôl digon strategol.
- Mae olrhain cynnydd myfyrwyr yn cyd-fynd yn rhy agos ag agweddau ar y Safonau SAC i fod yn ddefnyddiol i ddealltwriaeth y bartneriaeth o’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella mewn AGA.
- At ei gilydd, nid yw prosesau hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella yn ddigon effeithiol.
- Nid yw dysgu proffesiynol i diwtoriaid a mentoriaid yn canolbwyntio’n ddigon da ar yr arfer fwyaf effeithiol o ran datblygu athrawon dan hyfforddiant.
Trosolwg o argymhellion o arolygiadau
Mae’n werth nodi bod gan y tair partneriaeth a arolygwyd hyd yn hyn argymhellion mewn agweddau tebyg ar eu gwaith, yn benodol:
- ansawdd yr addysgu a mentora
- parhad, dilyniant a chydlyniaeth wrth ddylunio rhaglenni
- datblygu cydarweinyddiaeth
Ym mhob arolygiad, roedd agweddau ar waith y bartneriaeth nad oeddent wedi’u gwerthuso’n dda trwy brosesau mewnol. Maes allweddol i’w ddatblygu mewn AGA yw sicrhau ansawdd a hunanwerthuso profiadau dysgu myfyrwyr. Roedd gan bob un o’r partneriaethau ddiffygion o ran nodi agweddau clir i’w gwella o ran llunio rhaglenni ac o ran ansawdd addysgu a mentora.
Cwestiynau myfyriol
Cwestiynau i helpu partneriaethau i fyfyrio ar hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella, a darparu addysgu a phrofiadau dysgu:
Hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella:
Pa mor dda y mae eich prosesau hunanwerthuso yn nodi cryfderau a meysydd i’w gwella manwl o ran dysgu, darpariaeth ac arweinyddiaeth?
- A yw eich prosesau’n effeithlon ac yn effeithiol?
- Pa mor dda ydych chi’n defnyddio data i ategu eich canfyddiadau?
- Pa mor effeithiol ydych chi’n triongli gwybodaeth o ystod o dystiolaeth uniongyrchol?
- Pa mor effeithiol yw eich cynlluniau gwella? A ydynt yn rhai CAMPUS?
- A oes gan y bartneriaeth gynlluniau sicr ac amserol i fonitro cynnydd? A yw hyn yn cynnwys cerrig milltir a ffyrdd effeithiol o gasglu tystiolaeth i wybod pa mor dda y mae’r bartneriaeth yn dod yn ei blaen?
- Pa mor dda ydych chi’n defnyddio’r prosesau hyn i wneud gwelliannau yn ystod y flwyddyn?
- Pa mor addas yw’r amserlenni ar gyfer hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella?
Addysgu a phrofiadau dysgu:
A yw’r rhaglen yn cefnogi myfyrwyr yn effeithiol ar eu taith tuag at ddod yn athrawon?
- Pa wybodaeth y mae angen i chi ei chasglu fel eich bod yn gwybod bod dyluniad y rhaglen yn galluogi athrawon dan hyfforddiant i wneud cynnydd da?
- Pa mor dda y mae pob modiwl / elfen o’r rhaglen yn cysylltu i sicrhau bod myfyrwyr yn gwneud cynnydd da?
- Sut gallwch chi wirio bod cyfuniad effeithiol o theori ac arfer?
- Sut gallwch chi gasglu gwybodaeth am ansawdd yr addysgu a’r mentora?
- Sut gallwch chi wirio bod aseiniadau’n helpu myfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth, medrau a dealltwriaeth? A ydynt yn amrywiol eu natur? A ydynt yn rhoi gwybod i fyfyrwyr am y cynnydd y mae angen iddynt ei wneud? A ydynt ar yr adeg gywir o’r rhaglen?
- Sut byddwch chi’n darganfod pa mor dda y mae’r ysgolion a phartneriaid y brifysgol yn gwybod am y rhaglen?