Crynodeb sector
Colegau arbenigol annibynnol
2022-2023
Addysgu a dysgu
Beth sy'n mynd yn dda
- Gwna llawer o ddysgwyr gynnydd cyson o’u mannau cychwyn unigol yn ystod eu cyfnod yn y coleg.
- Mae cynnydd dysgwyr yn fwyaf nodedig mewn medrau pwysig fel cyfathrebu, medrau cymdeithasol, annibyniaeth, byw’n annibynnol a gweithgareddau creadigol a chorfforol.
- Mae llawer o ddysgwyr yn ennill ystod o unedau achredu perthnasol.
- Mae tri choleg a arolygwyd yn gwneud defnydd da o’u tir i ddarparu gweithgareddau ymarferol ystyrlon i ddysgwyr.
- Mae staff yn meithrin perthnasoedd cryf a gofalgar â dysgwyr, wedi’u seilio ar gydymddiriedaeth a chyd-barch sydd, ochr yn ochr ag arferion sefydledig, yn tanategu dysgu’n llwyddiannus.
Beth sydd angen ei wella
- Mae addysgu’n rhy amrywiol ar draws pedwar o’r pum coleg a arolygwyd.
- Lle mae addysgu’n llai llwyddiannus, nid yw’n cyfateb yn ddigon da i anghenion dysgwyr.
- Mewn tri choleg, mae addysgu a’r cwricwlwm wedi’u cyfyngu gan ofynion achredu neu orddibyniaeth ar daflenni gwaith penodedig.
- Mewn tri choleg, ni chaiff gwybodaeth asesu ei defnyddio’n gyson i lywio cynllunio.
- At ei gilydd, nid yw darpariaeth i wella medrau dysgwyr wedi’i datblygu’n ddigonol.
Gofal, cymorth a lles
Beth sy'n mynd yn dda
- Mae gan bob un o’r pum coleg a arolygwyd ddealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion eu dysgwyr, yn rhannol oherwydd yr arlwy therapiwtig a fabwysiadwyd gan y colegau.
- Mae gan bedwar coleg brosesau pontio priodol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i gynorthwyo dysgwyr pan fyddant yn ymuno â’r coleg.
- Mae llawer o ddysgwyr yn datblygu medrau pwysig, fel annibyniaeth a medrau cymdeithasol, yn ystod eu cyfnod yn y coleg.
- Ym mhob un o’r pum coleg, mae gan staff ddealltwriaeth gref o’u rolau eu hunain o ran cadw dysgwyr yn ddiogel.
Beth sydd angen ei wella
- Mae trefniadau i ddysgwyr ddatblygu medrau a gwybodaeth bwysig i gadw eu hunain yn ddiogel yn anghyson.
- Mewn tri choleg, mae cyfraddau presenoldeb dysgwyr yn rhy isel.
Arwain a gwella
Beth sy'n mynd yn dda
- Mewn tri o’r pum coleg a arolygwyd, mae gan arweinwyr weledigaeth glir sy’n cael ei deall yn dda gan y staff.
- Mae pob un o’r colegau’n elwa ar gymorth gwerthfawr gan eu rhiant-sefydliadau mewn meysydd pwysig fel recriwtio mwy diogel, sicrhau ansawdd a TGCh.
- Mae pob un o’r pum coleg a arolygwyd yn darparu ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol i’w haelodau staff sy’n canolbwyntio ar fodloni anghenion dysgwyr, er enghraifft hyfforddiant ar anhwylderau ar y sbectrwm awtistig neu drawma.
Beth sydd angen ei wella
- Bu ansefydlogrwydd neu newid mewn arweinyddiaeth ym mhob un o’r pum coleg arbenigol annibynnol a arolygwyd eleni o ganlyniad i amgylchiadau penodol unigol.
- O ganlyniadau i’r newidiadau o ran arweinyddiaeth, mae pob un o’r pum coleg wedi gwneud cynnydd anghyson neu araf yn erbyn argymhellion o arolygiadau neu ymweliadau monitro diweddar.
- Yn rhy aml, nid yw arweinwyr yn defnyddio data ar lefel coleg cyfan yn effeithiol i werthuso eu gwaith.
- Nid yw pedwar o’r colegau’n canolbwyntio’n ddigonol ar gyd-destun Cymreig penodol y coleg.
- Yn gyffredinol, gwnânt ddefnydd anghyson o arweiniad Llywodraeth Cymru.
- Mewn pedwar lleoliad, nid yw’r arlwy dysgu proffesiynol yn canolbwyntio’n ddigon cryf ar addysgu a dysgu.
- Mae dau goleg wedi gwneud gwelliannau i adnoddau a’u hamgylcheddau dysgu ers eu harolygiad neu ymweliad blaenorol. Serch hynny, canfu tri o’r pum arolygiad bod angen gwelliannau yn y meysydd hyn o hyd.
Trosolwg o argymhellion o arolygiadau
Arolygwyd pum coleg arbenigol annibynnol yn ystod 2022-2023.
Rhoddwyd o leiaf un argymhelliad i bob un o’r pum coleg yn ymwneud ag addysgu a phrofiadau dysgu, yn ogystal ag o leiaf un argymhelliad ar gyfer arweinyddiaeth.
Cafodd tri o’r colegau a arolygwyd argymhelliad yn ymwneud â gofal, cymorth ac arweiniad.
Cafodd dau goleg argymhelliad yn ymwneud yn benodol â mynd i’r afael â phryderon diogelu neu iechyd a diogelwch ac, o ganlyniad, anfonodd arolygwyr lythyrau lles.
Roedd argymhellion eraill yn ymwneud â gwella presenoldeb, yr arlwy dysgu proffesiynol, cryfhau ymagweddau at addysg bersonol a chymdeithasol, cryfhau strategaethau cyfathrebu i fodloni anghenion dysgwyr, a gwella’r amgylchedd dysgu.
Cwestiynau myfyriol
Cwestiynau i helpu darparwyr i wella ansawdd addysgu a dysgu:
- Pa mor dda y mae prosesau hunanwerthuso’n canolbwyntio ar ansawdd addysgu a dysgu?
- Sut ydych chi’n sicrhau y caiff gwybodaeth asesu ei defnyddio’n effeithiol i lywio cynllunio athrawon?
- Sut ydych chi’n sicrhau bod cynllunio athrawon yn bodloni anghenion pob dysgwr?
- Sut ydych chi’n sicrhau bod athrawon yn cyflwyno ystod o weithgareddau i ddatblygu medrau dysgwyr ar draws y cwricwlwm?
- Sut ydych chi’n gwerthuso effeithiolrwydd addysgu a’r cwricwlwm o ran helpu dysgwyr i ddatblygu’r medrau a’r wybodaeth y bydd eu hangen arnynt yn eu bywydau yn y dyfodol?
- Sut caiff canlyniadau monitro a gwerthuso cynnydd dysgwyr eu defnyddio i wella addysgu a dysgu?
- I ba raddau y mae dysgu proffesiynol yn cynnig cyfleoedd i athrawon a staff cymorth wella ansawdd yr addysgu?
Arfer effeithiol
I ddarllen am ddarparwyr unigol sy'n gweithio’n effeithiol mewn agweddau penodol o’u gwaith, ewch i’n tudalen crynodeb o arfer effeithiol ar gyfer 2022-2023