Crynodeb sector
Prentisiaethau dysgu yn y gwaith
2022-2023
Addysgu a dysgu
Beth sy'n mynd yn dda
- Mae bron bob dysgwr yn llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig am eu rhaglenni.
- Gwna’r rhan fwyaf o ddysgwyr gynnydd cadarn. Maent yn datblygu eu medrau ymarferol a’u gwybodaeth ddamcaniaethol ac maent yn aelodau gwerthfawr o weithlu eu cyflogwr.
- Mae athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr yn defnyddio ystod eang o ddulliau cyflwyno ac asesu yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith.
- Mae’r rhan fwyaf o aseswyr yn cynllunio asesiadau a sesiynau i ffwrdd o’r gwaith yn dda.
- Mae aseswyr yn defnyddio strategaethau gwahanol yn hyblyg i ennyn diddordeb dysgwyr ac yn cynnal ymweliadau a gweithleoedd, yn ôl y gofyn.
Beth sydd angen ei wella
- Mae deilliannau dysgwyr, gan gynnwys cyfraddau cyflawni amserol, yn enwedig mewn iechyd a gofal cymdeithasol, yn rhy isel.
- Ychydig iawn o ddysgwyr sy’n ymgymryd ag unrhyw waith ysgrifenedig yn y Gymraeg.
- Mae ychydig o gyflogwyr yn amharod i ryddhau dysgwyr i fynychu sesiynau wyneb-yn-wyneb neu ar-lein i ffwrdd o’r gwaith, yn enwedig gweithgareddau Sgiliau Hanfodol Cymru.
- At ei gilydd, nid yw tiwtoriaid ac aseswyr yn cynnwys dysgwyr yn llwyddiannus mewn gweithgareddau i ddatblygu eu dealltwriaeth o radicaleiddio ac eithafiaeth yn ddigon da.
Gofal, cymorth a lles
Beth sy'n mynd yn dda
- Mae gan bob un o’r tri darparwr a arolygwyd ffocws cryf ar gefnogi lles dysgwyr ac maent wedi datblygu rhwydwaith cynhwysfawr o gymorth arbenigol.
- Mae aseswyr a thiwtoriaid yn adnabod eu dysgwyr yn dda ac mae llawer ohonynt yn rhoi lefelau cryf o gymorth personol.
- Mae pob un o’r tri darparwr wedi cryfhau eu trefniadau i gydnabod a chefnogi anghenion dysgu ychwanegol dysgwyr.
- Mae trefniadau ar gyfer nodi problemau yn ymwneud â gorbryder ymhlith dysgwyr yn effeithiol.
Beth sydd angen ei wella
- Nid yw lleiafrif o ddysgwyr lefel 3 yn dwyn perchenogaeth dros eu rhaglenni ac maent yn dibynnu gormod ar gymorth gan aseswyr.
Arwain a gwella
Beth sy'n mynd yn dda
- Ar draws y tri darparwr a arolygwyd, mae gweithio mewn partneriaeth rhwng darparwyr arweiniol, partneriaid ac isgontractwyr yn gryf.
- Mae uwch reolwyr yn ystyried blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn dda.
- Mae gan bob un o’r tri darparwr ffocws clir ar ddysgu proffesiynol.
Beth sydd angen ei wella
- Mae darparwyr yn dibynnu gormod ar eu rhwydwaith sefydledig o gyflogwyr. Nid ydynt yn ymgysylltu’n ddigon da â chyflogwyr nad ydynt wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant prentisiaeth o’r blaen.
- Mae nifer y prentisiaid sy’n cael eu recriwtio, yn enwedig mewn sectorau allweddol fel iechyd a gofal cymdeithasol, yn rhy isel. Mae gostyngiad mewn recriwtio prentisiaid ledled Cymru yn her sy’n wynebu’r sector.
Trosolwg o argymhellion o arolygiadau
3
Arolygwyd tri darparwr prentisiaethau yn 2022-2023.
- Arweiniodd pob un o’r tri arolygiad at argymhelliad i’r darparwyr wella cyfraddau llwyddo a chyfraddau cwblhau amserol dysgwyr mewn rhaglenni a meysydd dysgu sy’n tanberfformio.
- Ar draws y tri arolygiad, rhoddwyd argymhellion i sicrhau bod pob tiwtor ac aseswr yn cefnogi dysgwyr yn effeithiol â’r agweddau ehangach ar eu datblygiad, gan gynnwys medrau llythrennedd a rhifedd, eu gallu o ran y Gymraeg a’u dealltwriaeth o radicaleiddio ac eithafiaeth.
Cwestiynau myfyriol
Cwestiynau i helpu i lywio prosesau cynllunio gwelliant darparwyr:
- Pa mor glir yw nodau ac amcanion unrhyw gynlluniau sy’n ymwneud â mentrau gwella allweddol?
- I ba raddau y mae cynlluniau prosiectau’n pennu amcanion penodol sydd â mesurau effaith priodol, ynghyd ag amserlenni clir ac arweinwyr dynodedig?
- Pa mor effeithiol y mae’r darparwr yn dyrannu adnoddau, gan gynnwys amser aelodau staff, i sicrhau llwyddiant ei waith gwella?
- Pa mor effeithiol y mae arweinwyr yn monitro cynnydd yn erbyn eu cynlluniau gwella ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i nodi camau gweithredu sydd angen sylw pellach?
- Pa mor effeithiol y mae gwerthusiadau cyffredinol yn nodi’r gwersi allweddol sy’n cael eu dysgu pan gaiff prosiectau eu cwblhau?
- Sut caiff gwersi sy’n cael eu dysgu eu defnyddio i fod o fudd wrth gynllunio prosiectau neu fentrau yn y dyfodol?
- Pa mor dda y mae’r darparwr yn defnyddio ystod eang o dystiolaeth i lywio ei waith gwerthuso a gwella?
- I ba raddau y mae’r ystod lawn o randdeiliaid yn cyfrannu at werthuso effaith mentrau gwella allweddol?
Arfer effeithiol
I ddarllen am ddarparwyr unigol sy'n gweithio’n effeithiol mewn agweddau penodol o’u gwaith, ewch i’n tudalen crynodeb o arfer effeithiol ar gyfer 2022-2023