Crynodeb sector
Ysgolion arbennig a gynhelir
2022-2023
Addysgu a dysgu
Beth sy'n mynd yn dda
- Roedd pob un o’r ysgolion arbennig a arolygwyd yn darparu cwricwlwm eang a chytbwys sy’n datblygu annibyniaeth a medrau ymholi disgyblion yn dda.
- Yn yr ysgolion mwyaf llwyddiannus, maent yn addasu darpariaeth ac ymagweddau at addysgu i fodloni anghenion cyfnewidiol disgyblion.
- At ei gilydd, mae staff yn adnabod eu disgyblion yn dda ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio’n effeithiol.
- Lle mae arfer yn effeithiol, mae athrawon a staff cymorth yn gweithio’n dda i gynllunio a chyflwyno cwricwlwm sy’n ystyried ystod o wybodaeth asesu bwrpasol. Mae hyn yn cynorthwyo disgyblion yn dda i wneud cynnydd o’u mannau cychwyn.
- At ei gilydd, mae systemau effeithiol ar waith i olrhain y cynnydd y mae disgyblion yn ei wneud dros gyfnod.
Beth sydd angen ei wella
- Mae cysondeb ac ansawdd yr addysgu yn rhy amrywiol ar draws tair o’r ysgolion a arolygwyd.
- Lle mae addysgu’n llai llwyddiannus, nid yw diben adborth yn ddigon clir ac nid yw’n cynorthwyo disgyblion i wneud cynnydd.
- Mewn ychydig o ysgolion, nid yw strategaethau cyfathrebu’n cyfateb yn ddigon da i ddulliau cyfathrebu dewisol disgyblion.
- Nid yw systemau olrhain yn caniatáu i ysgolion fesur y cynnydd y mae disgyblion yn ei wneud bob tro.
Gofal, cymorth a lles
Beth sy'n mynd yn dda
- At ei gilydd, mae ysgolion arbennig a gynhelir yn parhau i gynnig cymorth hynod effeithiol i ddisgyblion.
- Mae ymagweddau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cyfrannu’n effeithiol at les, ymgysylltiad a datblygiad personol disgyblion.
- Mae diwylliannau ac arferion sefydledig gwaith partneriaeth cryf, gan gynnwys cefnogi rhieni, yn sicrhau bod y gofal, cymorth ac arweiniad a ddarperir gan ysgolion yn hynod effeithiol, yn gyffredinol.
Beth sydd angen ei wella
- Yn gyffredinol, roedd gan ysgolion drefniadau cadarn i gefnogi presenoldeb rheolaidd. Fodd bynnag, er gwaethaf eu hymdrechion gorau, roedd presenoldeb cyffredinol islaw’r lefelau cyn y pandemig o hyd.
Arwain a gwella
Beth sy'n mynd yn dda
- Yn yr ysgolion mwyaf llwyddiannus, mae arweinwyr yn fedrus ac yn uchelgeisiol ac yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer disgyblion a staff, fel ei gilydd.
- Lle caiff medrau a galluoedd llywodraethwyr eu defnyddio’n dda, maent yn gweithredu fel cyfeillion beirniadol hynod effeithiol i arweinwyr ysgolion ac yn effeithiol o ran defnyddio’r medrau hynny i gefnogi blaenoriaethau gwella.
Beth sydd angen ei wella
- Mewn ychydig o achosion, nid yw gweithgareddau sicrhau ansawdd a hunanwerthuso yn nodi’n ddigon da sut y gellid gwella addysgu. Lle mae’r gweithgareddau hyn yn llai llwyddiannus, nid ydynt yn canolbwyntio’n ddigon da ar y cynnydd mae disgyblion yn ei wneud.
- Nid yw targedau aelodau staff unigol yn cysylltu’n ddigon da â blaenoriaethau gwella ysgol gyfan bob tro.
- Mae recriwtio a chadw staff â chymwysterau neu brofiad addas yn her o hyd.
Trosolwg o argymhellion o arolygiadau
Arolygwyd saith ysgol arbennig a gynhelir yn ystod 2022-2023:
Cafodd chwech o’r saith ysgol a arolygwyd argymhelliad yn ymwneud â gwella prosesau hunanwerthuso a gwella’r ysgol.
Gofynnwyd i ddwy ysgol sicrhau bod eu prosesau hunanwerthuso yn canolbwyntio ar y cynnydd roedd disgyblion yn ei wneud a safon yr addysgu.
Cafodd tair o’r saith ysgol argymhelliad yn ymwneud â gwella cysondeb o ran ansawdd yr addysgu. Gofynnwyd i un ysgol sicrhau bod adborth yn berthnasol i ddisgyblion ac yn eu helpu i wella, hefyd.
Yn ogystal, cafodd tair ysgol argymhelliad yn ymwneud â chynllunio i ddatblygu medrau, er enghraifft medrau digidol a darllen a medrau Cymraeg.
Cafodd pedair ysgol arall argymhellion yn ymwneud â llythrennedd, gan gynnwys ymagweddau priodol tuag at gyfathrebu.
Hefyd, rhoddwyd argymhellion i ysgolion gryfhau eu systemau olrhain i ddangos yn glir y cynnydd y mae disgyblion yn ei wneud dros gyfnod.
Mewn un ysgol, nodwyd bod angen gwella presenoldeb. Ar draws pob un o’r ysgolion a arolygwyd yn ystod y flwyddyn, nid oedd presenoldeb wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig eto.
Gwnaed argymhellion mewn dwy ysgol yn ymwneud â gwelliannau i’r amgylchedd dysgu, a oedd yn cynnwys sicrhau bod y rhain yn briodol ar gyfer anghenion pob dysgwr.
Cwestiynau myfyriol
Cwestiynau i helpu darparwyr i wella ansawdd yr addysgu a dysgu
- Beth bynnag fo’r dull cyflwyno, pa mor dda y mae cwricwlwm yr ysgol yn adeiladu’n systematig ar wybodaeth, dealltwriaeth a medrau presennol disgyblion wrth iddynt symud drwy’r ysgol?
- Pa mor effeithiol y mae cynllunio ac arfer athrawon yn ystyried anghenion a diddordebau dysgwyr unigol? A oes ganddynt amcanion clir ar gyfer dysgu disgyblion? A ydynt yn defnyddio ystod o ymagweddau ac adnoddau i ennyn diddordeb disgyblion a chynllunio tasgau effeithiol ac ysgogol i ddisgyblion?
- I ba raddau y mae athrawon yn dadansoddi deilliannau asesu i lywio cynllunio gwersi yn y dyfodol a’r camau nesaf yn nysgu disgyblion?
- Pa mor ystyrlon yw’r adborth y mae athrawon yn ei roi i ddisgyblion? A yw’r adborth hwn yn mynd i’r afael ag anghenion datblygu unigol ac yn esbonio eu camau nesaf yn glir?
- Pa mor dda y mae’r ysgol yn olrhain cynnydd disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn erbyn y targedau yn eu cynlluniau unigol, gan ystyried eu mannau cychwyn unigol?
- Pa mor dda y mae arweinwyr a rheolwyr yn casglu a dadansoddi tystiolaeth uniongyrchol o safonau a darpariaeth, gan gynnwys ansawdd yr addysgu, safonau gwaith disgyblion a’r cynnydd y mae disgyblion yn ei wneud?
Arfer effeithiol
I ddarllen am ddarparwyr unigol sy'n gweithio’n effeithiol mewn agweddau penodol o’u gwaith, ewch i’n tudalen crynodeb o arfer effeithiol ar gyfer 2022-2023