Mynd i'r cynnwys

Themâu allweddol

Y Gymraeg mewn addysg a hyfforddiant

2022-2023


Llyfrau Cymraeg

Yn ystod 2022-2023, roedd canfyddiadau ein harolygon yn darlunio sefyllfa anghyson o ran y Gymraeg. Parhaodd dylanwad cyfnod y pandemig i gael effaith negyddol ar allu dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg. Yn adroddiad blynyddol 2021-2022, nodom effaith y pandemig ar hyder dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, dwyieithog a chyfrwng Saesneg. Yn 2022-2023, gwelsom bod llawer o ddysgwyr yn gwneud cynnydd cyson yn eu medrau Cymraeg, yn enwedig eu medrau gwrando a siarad mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg. Roedd hyn yn ffrwyth gwaith a wnaethpwyd gan ddarparwyr i dargedu medrau llafaredd dysgwyr. Fodd bynnag, nid oedd disgyblion yn aml yn gwneud cymaint o gynnydd yn eu medrau Cymraeg ag y medrant, yn enwedig mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Yn aml, nid oedd arweinwyr yn yr ysgolion hyn yn rhoi digon o flaenoriaeth i ddatblygu medrau Cymraeg eu disgyblion. O ganlyniad, yn yr ysgolion hynny, ac mewn mwyafrif o ddarparwyr ar draws y sectorau, nid oedd medrau Cymraeg dysgwyr yn datblygu’n ddigon cadarn.

Mae datblygiad gallu disgyblion i gyfathrebu yn y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg wedi bod yn destun pryder dros gyfnod hir. Yn 2012-2013, nododd Ann Keane, prif arolygydd y cyfnod, bod arolygwyr wedi gwneud argymhelliad i wella medrau Cymraeg disgyblion yn chwarter yr ysgolion cyfrwng Saesneg a arolygwyd (Estyn, 2013, t.26). Degawd yn ddiweddarach, yr un yw’r darlun. Yn 2022-2023, derbyniodd trideg y cant o’r ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg a deunaw y cant o’r ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a arolygwyd, argymhelliad ar y Gymraeg. Cafodd chwarter o’r ysgolion uwchradd a arolygwyd yn 2022-2023 argymhelliad am y Gymraeg.

Yn Rhagfyr 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru (2022b) ganlyniadau Cyfrifiad 2021 am fedrau Cymraeg pobl tair oed neu hŷn sy’n byw yng Nghymru. Bu gostyngiad o 6 pwynt canran mewn plant rhwng 5 a 15 oed y nodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021(2022b, t. 5). Mae darparwyr addysg a hyfforddiant yn wynebu llawer o heriau wrth ddatblygu medrau Cymraeg eu dysgwyr gan gynnwys:

  • Recriwtio staff i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws y sectorau. Er enghraifft, yn 2021-2022 roedd y niferoedd oedd yn cwblhau rhaglen addysg gychwynnol athrawon trwy gyfrwng y Gymraeg ymhell o’r targedau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru. Gwelir problemau recriwtio yn effeithio ar lawer o sectorau gan gynnwys y sector uwchradd gyda’r niferoedd sydd yn hyfforddi i addysgu mewn ambell bwnc arbenigol yn isel iawn. Yn ogystal, roedd recriwtio ymarferwyr sydd a’r medrau arbenigol angenrheidiol i gefnogi disgyblion anghenion dysgu ychwanegol yn peri pryder.
  • Sicrhau cefnogaeth dysgu proffesiynol addas a hyblyg i gefnogi ymarferwyr i ddatblygu eu medrau Cymraeg personol.
  • Sicrhau cefnogaeth dysgu proffesiynol addas i gefnogi ymarferwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o sut mae dysgwyr yn caffael iaith a beth yw’r addysgeg mwyaf effeithiol i gefnogi dysgwyr.
  • Trefniadau pontio effeithiol o un cyfnod i’r llall, er enghraifft, rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd ac addysg ôl-16.
  • Sicrhau darpariaeth i ddiwallu anghenion dysgwyr ôl-16 gan gynnwys cyfleoedd i gymhwyso eu medrau Cymraeg.
  • Sicrhau bod arweinwyr mewn darparwyr cyfrwng Saesneg yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu medrau Cymraeg eu dysgwyr a deall gwerth y medrau hyn ym myd gwaith.

Yn ystod 2022-2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru sawl cynllun i gefnogi’r Gymraeg gan gynnwys cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg (Llywodraeth Cymru, 2022) a dogfen ymgynghorol ar gynigion am Ddeddf Addysg y Gymraeg mewn Addysg (Llywodraeth Cymru, 2023a). Mae’r dogfennau yn cydnabod bod heriau arwyddocaol i dyfu’r gweithlu addysg sydd â’r sgiliau iaith angenrheidiol i alluogi ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a gwella deilliannau ieithyddol disgyblion ymhob ysgol. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi adnabod yr uchelgais a’r angen i barhau i gynyddu faint o ddisgyblion sy’n derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n cydnabod bod angen gwella’r ddarpariaeth a’r cyswllt gyda’r Gymraeg ym mhob ysgol fel bod digon o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau Cymraeg a gwneud y cynnydd disgwyliedig.

Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, yn Ionawr 2023 roedd 378 o ysgolion cyfrwng Cymraeg, 27 o ysgolion dwy ffrwd, dwy ysgol a oedd yn y broses drawsnewid ac 32 o ysgolion dwyieithog allan o gyfanswm o 1,463 o ysgolion yng Nghymru (Llywodraeth Cymru, 2023b). Yn ogystal roedd 35 ysgol Saesneg ble gwnaed defnydd arwyddocaol o’r Gymraeg. Ers 2018-2019 mae’r cyfran o ysgolion ble darperir addysg trwy gyfrwng y Gymraeg wedi aros yn gyson fel 30% o gyfanswm ysgolion Cymru. Yn ogystal, mae’r cyfran o ddisgyblion sydd mewn ysgolion ble mae o leiaf hanner y pynciau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg wedi aros yn gyson ar 23%. Mae’r canran o ddisgyblion addysgir mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg penodedig wedi cynyddu o 16% yn 2012-2013 i 17% yn 2022-2023 (Llywodraeth Cymru, 2023b).

Ble roedd y gefnogaeth ar brwdfrydedd i ddatblygu medrau Cymraeg dysgwyr yn gadarn, roedd arweinwyr yn blaenoriaethu’r Gymraeg gan osod gweledigaeth glir a chynllun gwella strategol a bwriadus ar gyfer datblygu’r ddarpariaeth. Yn yr arferion effeithiol hyn ym mhob sector, roedd arweinwyr yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol a chefnogaeth i ymarferwyr ddatblygu eu medrau i gefnogi dysgwyr i gaffael y Gymraeg mewn modd adeiladol dros gyfnod. Roedd hyn yn meithrin brwdfrydedd a hyder ymysg ymarferwyr a oedd yn ei dro yn cael effaith cadarnhaol ar ddysgwyr i siarad a defnyddio’r Gymraeg yn gynyddol ddigymell mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. Er enghraifft, chwaraeodd cynlluniau fel y Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg rôl allweddol wrth ddatblygu medrau Cymraeg ymarferwyr a’u gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ambell ysgol a chlwstwr (Llywodraeth Cymru, 2021a). Yn yr enghreifftiau gorau, gwelsom effaith y ddarpariaeth ar athrawon unigol a sut bu iddynt ddefnyddio’r hyn a ddysgont i ddylanwadu ar eraill. Yn bwysicaf oll, cafodd hyn effaith gadarnhaol ar addysgu a safonau’r Gymraeg yn yr ysgolion hyn. Darllenwch am sut datblygodd St David’s R.C. Primary School, Cwmbran y Gymraeg o ganlyniad i ddysgu proffesiynol bwriadus.

Yn yr arferion llai cadarnhaol, nid oedd arweinwyr yn blaenoriaethu’r Gymraeg nac yn hyrwyddo buddion bod yn ddwyieithog ac amlieithog yn ddigonol. Yn aml, nid oeddent yn ystyried yn briodol gynnydd disgyblion na’r ddarpariaeth ar gyfer y Gymraeg wrth hunan-werthuso a chynllunio ar gyfer gwella. Er enghraifft, yn rhy aml, roeddent yn ystyried bod defnyddio ychydig iawn o gyfarchion a geiriau Cymraeg gyda disgyblion yn ddigonol ac nid oedd cynllun i ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg tu hwnt i ychydig o wersi penodol. Yn ogystal, ychydig iawn o ddysgu proffesiynol a roddwyd i helpu staff i ddatblygu eu medrau a’u hyder yn y Gymraeg. Testun pryder yw bod y sefyllfa hon wedi parhau mewn rhai ysgolion dros gyfnod hir.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu adnodd i helpu arweinwyr ddatblygu’r Gymraeg. Fodd bynnag, nid yw’n glir faint o arweinwyr sy’n ymwybodol o’r adnodd hwn ac yn ei ddefnyddio wrth hunanwerthuso eu taith i ddatblygu’r Gymraeg.

Yn unol â Chanllawiau ar Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Llywodraeth Cymru, 2021b), mae pob awdurdod lleol (ALl) wedi cyflwyno cynllun 10 mlynedd a fydd yn anelu at ymdrechu i wneud ‘pob dysgwr yn un o bob miliwn’ er mwyn cefnogi’r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Er bod cynlluniau strategol wedi eu cyflwyno yn yr awdurdodau lleol, mae’n rhy fuan i fesur effaith y cynlluniau hyn ar arweinyddiaeth, a’r effaith ar addysgu a dysgu y Gymraeg mewn darparwyr ar draws y sectorau. Yn Nhachwedd 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £2.2miliwn er mwyn cefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu eu darpariaeth trochi hwyr. Mae hyn wedi galluogi awdurdodau lleol ar draws Cymru i adeiladu ar eu darpariaeth bresennol neu sefydlu canolfannau trochi or newydd (Llywodraeth Cymru, 2021c).

Murlun mewn ysgol

Prif negeseuon o’r sectorau

Mewn lleoliadau nas-gynhelir, roedd mwyafrif y plant a oedd yn newydd i’r iaith mewn darparwyr Cymraeg a Saesneg yn gwneud cynnydd yn unol â’u cam datblygiad. Roedd ymarferwyr yn sicrhau cyfleoedd i wrando a defnyddio’r iaith er enghraifft trwy gyflwyno cyfarwyddiadau syml a chaneuon Cymraeg. Roedd plant yn dangos eu dealltwriaeth trwy ddilyn cyfarwyddiadau yn llwyddiannus. Yn aml, roedd plant yn defnyddio ychydig o eirfa Saesneg wrth ymdrechu i gyfathrebu, er enghraifft wrth ymateb trwy ddweud ‘Dw i’n gallu torri banana by myself’ tra’n paratoi byrbryd. Fodd bynnag, mewn ychydig iawn o ddarparwyr Cymraeg a Saesneg, nid oedd ymarferwyr yn cynllunio’r cam nesaf yn natblygiad Cymraeg disgyblion wrth iddynt gaffael iaith, yn ddigon effeithiol.

Wrth i blant symud i’r sector cynradd, roedd llawer o ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, gan gynnwys disgyblion newydd i’r iaith, yn gwneud cynnydd cadarn. Yn yr arfer orau, roedd ymarferwyr yn cynllunio datblygiad iaith disgyblion yn effeithiol mewn amrywiaeth ddiddorol o gyd-destunau dysgu ar draws y meysydd dysgu a phrofiad. Trwy hyn, roedd disgyblion yn datblygu geirfa a phatrymau iaith a oedd yn cefnogi eu hyder i siarad a defnyddio’r Gymraeg yn gynyddol annibynnol mewn sefyllfaoedd ffurfiol a llai ffurfiol. Cafodd medrau darllen ac ysgrifennu llawer o ddisgyblion eu datblygu’n briodol gan ymarferwyr wrth iddynt ddarparu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion eu cymhwyso mewn amryfal gyd-destunau.

Yn y sector uwchradd, yn y rhan fwyaf o ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog roedd disgyblion yn mynegi eu hunain yn briodol gan ddefnyddio geirfa eang. Fodd bynnag, roedd lleiafrif o ddisgyblion yn mynegi eu hunain yn fwy chwithig. Yn aml, yn yr achosion hyn, roedd geirfa disgyblion yn fwy cyfyngedig, roeddent yn defnyddio cystrawennau gwallus, bratiaith neu roedd geiriau Saesneg yn britho eu brawddegau. At ei gilydd, roedd llawer o ddisgyblion yn lleoli ffeithiau a chywain gwybodaeth o destunau darllen yn llwyddiannus. Gallai disgyblion gyfuno gwybodaeth o amrywiol destunau yn addas. Roedd mwyafrif y disgyblion yn ysgrifennu’n briodol yn y Gymraeg gydag ychydig yn ysgrifennu’n raenus gan ddefnyddio iaith naturiol a choeth. Fodd bynnag, roedd lleiafrif y disgyblion yn ysgrifennu’n wallus gan sillafu geiriau yn anghywir neu ddefnyddio cystrawen brawddegau chwithig.

Ar draws y sectorau nas-gynhelir, cynradd, uwchradd a phob oed cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, roedd y ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau disgyblion yn Gymraeg yn briodol. Yn yr arferion gorau, roedd cyfleoedd dysgu proffesiynol i helpu ymarferwyr ddwysáu eu dealltwriaeth o ddatblygiad iaith disgyblion dros gyfnod. O ganlyniad roedd ymarferwyr hyn yn cynllunio datblygiad y Gymraeg yn fwriadus ac yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion siarad a defnyddio’r Gymraeg mewn gweithgareddau diddorol ac ystyrlon. Gwnaeth disgyblion gynnydd cryf yn eu medrau Cymraeg oherwydd y ddarpariaeth hon. Darllenwch fwy am sut mae Ysgol Caer Elen yn datblygu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg ar draws yr ysgol.

Yn gyffredinol, o gael y cyfle roedd llawer o ddisgyblion yn dangos agweddau dysgu cadarnhaol i ddysgu Cymraeg ac yn awyddus i ddysgu am eu hardal leol, Cymru a thu hwnt. Darllenwch sut mae arweinwyr ac ymarferwyr yn Ysgol Penclawdd yn canolbwyntio ar ddatblygu ethos a diwylliant Cymru a’r Gymraeg, yn hytrach na dim ond ar yr iaith. Trwy hyn, cafodd disgyblion brofiad cyfannol a chynhwysfawr o ddysgu Cymraeg gan werthfawrogi hanes a threftadaeth Cymru fel rhan allweddol o’u profiad dysgu.

Yn llawer o ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Saesneg, nid oedd yr addysgu yn ffocysu yn ddigon manwl ar sut cefnogir disgyblion i wneud cynnydd yn eu medrau Cymraeg. Nid oedd disgyblion yn adeiladu ar eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth blaenorol ac ni roddwyd digon o gyfleoedd iddynt ymarfer eu medrau, yn arbennig eu medrau llafar. Nid oedd ymarferwyr yn hyderus eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ddulliau addysgu iaith, gan gynnwys dulliau trochi, er mwyn cefnogi disgyblion i gaffael iaith yn systematig. Yn aml, nid oedd cyfleoedd dysgu proffesiynol i gefnogi staff i ddatblygu’r agweddau hyn o’u gwaith. O ganlyniad, nid oeddent yn cynllunio gweithgareddau i adeiladu ar wybodaeth flaenorol disgyblion o’r Gymraeg nac yn caniatáu iddynt ddatblygu a chymhwyso eu medrau yn adeiladol dros gyfnod. Yn ogystal, nid oeddynt yn darparu digon o gyfleoedd i ddisgyblion siarad a defnyddio’r iaith y tu allan i wersi Cymraeg, yn enwedig wrth i’r disgyblion ddatblygu trwy’r ysgol. Roedd hyn yn llesteirio gallu a hyder llawer o ddisgyblion i gyfathrebu’n hyderus a siarad Cymraeg yn ddigymell. Testun pryder ers dros ddegawd yw’r diffyg dealltwriaeth o addysgeg effeithiol, cynllunio ieithyddol pwrpasol a darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddatblygu eu medrau Cymraeg.

Un o egwyddorion y system addysg dysgu ychwanegol (ADY) yw datblygu system ddwyieithog sy’n ‘cynnig darpariaeth ddysgu ychwanegol drwy’r Gymraeg’ (Llywodraeth Cymru, 2021d, p.37). Mae cyfres o ddyletswyddau strategol wedi’u cynllunio hefyd er mwyn symud i gyfeiriad system ADY ddwyieithog (Llywodraeth Cymru, 2020, t.13). Yn 2022-2023 dangosodd gweithgareddau arolygu a threfniadau cyfathrebu gyda rhanddeiliaid mai ychydig iawn o effaith hyd yn hyn mae’r rhaglen drawsnewid wedi ei chael ar wella ansawdd darpariaeth i blant a phobl ifanc sydd angen cefnogaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Her arwyddocaol yn y sector hon yw recriwtio staff sy’n gallu’r Gymraeg er mwyn cynnal y gefnogaeth angenrheidiol.

Mae awdurdodau lleol (ALl) wedi gwella eu darpariaeth arbenigol i ddisgyblion a chanddynt anghenion dysgu yn raddol. Yn gyffredinol, gwnaed hyn trwy ddarparu dosbarthiadau arbenigol sy’n cael eu cynnal gan yr awdurdodau o fewn ysgolion prif ffrwd cyfrwng Cymraeg. Fodd bynnag, her barhaol yw recriwtio ymarferwyr sydd a’r medrau arbenigol angenrheidiol a medrau Cymraeg. Yn ogystal, prin iawn oedd yr adnoddau addysgu ac asesu Cymraeg ar gyfer cefnogi disgyblion sy’n derbyn eu haddysg yn Gymraeg. Darllenwch am waith Cyngor Gwynedd i ddatblygu adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a’u teuluoedd.

Dros y blynyddoedd diwethaf, nododd darparwyr ôl-16 yr angen i gyflwyno neu ehangu’r cyfleoedd sydd ar gael i’w dysgwyr ddatblygu eu medrau Cymraeg. Hefyd bu iddynt adnabod yr angen i ddarparu ar gyfer dysgwyr sydd eisoes yn rhugl yn y Gymraeg allu ymgymryd â rhywfaint o’u dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae darparwyr yn wynebu heriau sylweddol wrth ddarparu ar gyfer dysgwyr sydd â gwahanol lefelau gallu a rhuglder ar draws ystod eang iawn o gyrsiau ôl-16. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae llawer o ddarparwyr addysg bellach a phrentisiaethau wedi cyflwyno gwersi Cymraeg sylfaenol gwerthfawr ar gyfer carfannau dethol o ddysgwyr. Fodd bynnag, mae’r cynnydd cyffredinol o ran sicrhau bod dysgwyr yn datblygu eu medrau Cymraeg o’u mannau cychwyn unigol fel rhan o’u hastudiaethau neu hyfforddiant wedi bod yn araf. Nid yw darparwyr wedi gallu arloesi nac annog cydweithredu effeithiol ar draws gwahanol adrannau, cyfadrannau a darparwyr i fynd i’r afael â’r heriau hyn.

Dechreuodd cynllun i ddarparu cyrsiau am ddim i ddysgwyr 16-25 oed yn ystod y flwyddyn 2022 – 2023 (Llywodraeth Cymru, 2022c). Roedd y cynllun yn darparu cyrsiau rhad ac am ddim gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gyfer pobl ifanc 18 i 25 oed a pheilotwyd adnodd e-ddysgu newydd gyda phobl ifanc 16 i 18 oed sy’n mynychu ysgol, coleg neu gynllun prentisiaeth. Roedd pob athro, pennaeth a chynorthwyydd addysgu hefyd yn gallu cael gwersi Cymraeg am ddim. Rhwng 22 Medi 2022 a 31 Mawrth 2023, ymunodd dros 1,500 o bobl ifanc 16 i 25 oed â gwersi dysgu Cymraeg ynghyd â 450 o athrawon a darpar athrawon (Llywodraeth Cymru, 2023c). Mae’n rhy gynnar i werthuso effaith y dysgu proffesiynol hwn ar sut mae athrawon yn cefnogi ac yn datblygu sgiliau Cymraeg disgyblion.

Yn gyffredinol, gwnaeth llawer o fyfyrwyr oedd yn astudio rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), gynnydd addas yn eu medrau Cymraeg personol. Mewn rhai achosion lle’r oedd myfyrwyr yn gwneud cynnydd cryf iawn, roedd arweinwyr yn blaenoriaethu’r Gymraeg ochr yn ochr â datblygu medrau addysgu’r myfyrwyr. Lle nad oedd cynnydd myfyrwyr mor gryf, ychydig iawn o gyswllt oedd rhwng yr hyn a astudiwyd yn y brifysgol a phrofiadau ysgol y myfyrwyr. O ganlyniad, nid oedd digon o ganolbwyntio ar addysgeg effeithiol, a oedd yn ei dro yn cyfyngu ar gynnydd disgyblion yn eu medrau Cymraeg. Yn ogystal, roedd yr hyn a olygwyd wrth ‘astudio drwy gyfrwng y Gymraeg’ yn amrywio ac nid oedd cysondeb yn y ddarpariaeth ar draws y partneriaethau. Lle roedd myfyrwyr yn cael cyfleoedd i brofi addysg Gymraeg yn gynnar yn eu rhaglen, roedd yn cael effaith gadarnhaol ar eu hyder a’u parodrwydd i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Darllenwch fwy am y gefnogaeth i’r Gymraeg yn Addysg Gychwynnol Athrawon yn ein adroddiad thematig (Estyn, 2023).

Yn ystod 2022 – 2023, nid oedd dau o’r tri darparwr Dysgu Oedolion yn y Gymuned (DOG) a arolygwyd yn cynnig unrhyw ddarpariaeth i ddysgu Cymraeg, ac nid oeddynt yn cynnig cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd gan Bartneriaeth DOG Caerdydd a’r Fro er enghraifft, tra’n cydnabod bod angen gwneud mwy, rywfaint o ddarpariaeth ar gael er mwyn galluogi dysgwyr ‘Saesneg i ddysgwyr sydd ag ieithoedd eraill’ (English for speakers with Other Languages [ESOL]) i ddysgu ymadroddion Cymraeg sylfaenol. Rhoddwyd argymhellion i’r tri darparwr i wella eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Roedd pob un o’r tri darparwr prentisiaethau ynghyd â’r coleg Addysg Bellach (AB) a arolygwyd wedi defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i gyflwyno addysgu Cymraeg ar gyfer grwpiau o ddysgwyr penodol. Roedd y grwpiau wedi’u targedu yn cyd-fynd â meysydd pwnc blaenoriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel y nodwyd yn ei gynllun gweithredu AB a Phrentisiaethau. (Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 2018) Arweiniodd un o’r arolygiadau at argymhelliad i sicrhau bod darpariaeth yn cael ei gweithredu i ddatblygu medrau Cymraeg dysgwyr yn ystyrlon gan ystyried mannau cychwyn unigol myfyrwyr.

Yn gyffredinol, roedd arolygwyr yn nodi mai ychydig o ddysgwyr a gofrestrodd mewn colegau AB, darparwyr prentisiaethau neu ddarparwyr DOG a sydd â lefel gymedrol neu well o allu yn y Gymraeg a ddatblygodd eu medrau Cymraeg fel rhan o’u rhaglenni. Ar wahân i’r rhai sy’n ymgymryd â Safon Uwch Cymraeg neu Fagloriaeth Cymru drwy gyfrwng y Gymraeg, ychydig iawn o ddysgwyr AB galwedigaethol neu brentisiaethau sy’n siarad Cymraeg a gynhyrchodd unrhyw waith ysgrifenedig yn y Gymraeg. Nid oedd darparwyr yn gwneud digon i sicrhau bod dysgwyr yn elwa o gymryd rhan mewn cyfran fach o’u gwaith hyd yn oed drwy gyfrwng y Gymraeg. Canfu arolygwyr fod darparwyr wedi bod yn araf yn cyflwyno cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu Cymraeg ysgrifenedig yng nghyd-destun eu rolau swydd neu bynciau a ddewiswyd.

Yn gyffredinol, yn y sector Cymraeg i Oedolion, roedd gan ddarparwyr weledigaeth glir yn cyd-fynd yn gyson â pholisi’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (GDCG) a Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. O ganlyniad, roeddent yn cyflawni rôl bwysig yng ngweithredoedd eu sefydliadau lletyol wrth hyrwyddo a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Cynyddodd y nifer o oedolion sy’n dysgu yn ystod y cylch arolygu ac mae darparwyr yn cynnig ystod eang o gyrsiau ac opsiynau dysgu. At ei gilydd, roedd deilliannau arolygiadau craidd yn y sector hwn yn gadarnhaol gyda llawer o ddysgwyr yn gwneud cynnydd cadarn yn eu medrau.

School children reading Welsh language books

Adroddiadau arolygu a thematig Estyn

Yn unol â chais Llywodraeth Cymru, mae Estyn wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau thematig am y Gymraeg er mwyn gwerthuso a chefnogi ymarferwyr ac arweinwyr i ddatblygu gwahanol elfennau o’r iaith. Mae’r adroddiadau hyn yn cynnwys adnoddau i helpu darparwyr ddatblygu eu harferion.


Adnoddau

Pupil resource on a tablet


Cyfeiriadau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol (2018) Tuag at Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr: Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg. Caerdydd: Coleg Cymraeg Cenedlaethol. [Ar-lein]. Ar gael o:  https://colegcymraeg.ac.uk/media/234ixpu1/tuagatcymraeg2050.pdf [Cyrchwyd 16 Tachwedd 2023]

Estyn (2013) Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru 2012-2013. Caerdydd: Estyn. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.estyn.llyw.cymru/system/files/2020-07/Adroddiad_Blynyddol_Prif_Arolygydd_Ei_Mawrhydi_dros_Addysg_a_Hyfforddiant_yng_Nghymru_2012-2013.pdf [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Estyn (2023) Cefnogi’r Gymraeg mewn Addysg Gychwynnol Athrawon. Caerdydd: Estyn. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.estyn.llyw.cymru/system/files/2023-09/Cefnogi%E2%80%99r%20Gymraeg%20yn%20Addysg%20Gychwynnol%20Athrawon.pdf [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2020) Rhaglen trawsnewid y system anghenion dysgu ychwanegol: cwestiynau cyffredin. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/pdf-versions/2023/9/1/1695036377/rhaglen-trawsnewid-y-system-anghenion-dysgu-ychwanegol-cwestiynau-cyffredin.pdf [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2021a) Gwerthusiad o’r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg ar gyfer ymarferwyr addysg: crynodeb. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/pdf-versions/2021/3/2/1615882569/gwerthusiad-or-cynllun-sabothol-iaith-gymraeg-ar-gyfer-ymarferwyr-addysg-crynodeb.pdf [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2021b) Canllawiau ar Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o:  https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-02/canllawiau-gynlluniau-strategol-cymraeg-addysg.pdf [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2021c) Ehangu cymorth trochi yn y Gymraeg i ddysgwyr ledled Cymru. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o:  https://www.llyw.cymru/ehangu-cymorth-trochi-yn-y-gymraeg-i-ddysgwyr-ledled-cymru [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2021d) Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o:  https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2022-06/220622-cod-anghenion-dysgu-ychwanegol-cymru-2021.pdf [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2022a) Y Gymraeg yng Nghymru (Cyfrifiad 2021). Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o:  https://www.llyw.cymru/sites/default/files/pdf-versions/2022/12/3/1671610676/y-gymraeg-yng-nghymru-cyfrifiad-2021.pdf [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2022b) Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o:  https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2022-05/cynllun-y-gweithlu-cymraeg-mewn-addysg.pdf [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2022c) Gwersi Cymraeg am ddim bellach ar gael i bobl 18 i 25 mlwydd oed ac i staff addysgu. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/gwersi-cymraeg-am-ddim-bellach-ar-gael-i-bobl-18-i-25-mlwydd-oed-ac-i-staff-addysgu [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2023a) Addysg Gymraeg: papur gwyn. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/addysg-gymraeg-papur-gwyn [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2023b) Ysgolion yn ôl awdurdod lleol, rhanbarth a math o gyfrwng Cymraeg. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Schools-and-Teachers/Schools-Census/Pupil-Level-Annual-School-Census/Welsh-Language/Schools-by-LocalAuthorityRegion-WelshMediumType [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]

Llywodraeth Cymru (2023c) Gwersi Cymraeg am ddim yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i bobl ddysgu’r iaith. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. [Ar-lein]. Ar gael o: https://www.llyw.cymru/gwersi-cymraeg-am-ddim-yn-ei-gwneud-hin-haws-nag-erioed-i-bobl-ddysgur-iaith [Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023]