Adroddiad sector: Cynradd 2021-2022
Ysgolion
Nifer yr Ysgolion Cynradd
Blynyddoedd blaenorol
2021 = 1,228
2020 = 1,234
Mae nifer yr ysgolion cynradd yng Nghymru wedi aros yn gyson yn bennaf dros y tair blynedd diwethaf.
Disgyblion
Nifer y disgyblion mewn ysgolion cynradd
Blynyddoedd blaenorol
2020 = 272,006
2021 = 273,063
Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim
Blynyddoedd blaenorol
2020 = 19%
2021 = 21%
Canran y disgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol (A-C)
Blynyddoedd blaenorol
2020 = 6%
2021 = 6%
Canran y disgyblion sy’n gallu siarad Cymraeg
Blynyddoedd blaenorol
2020 = 13%
2021 = 13%
Canran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
Blynyddoedd blaenorol
2020 = 22%
2021 = 21%
Gweithgarwch dilynol
-
Nifer mewn categori gweithgarwch dilynol Medi 2021MA7GS6AE23
Nifer a dynnwyd 2021-2022MA7GS6AE22
Nifer a aeth i mewn i gategori gweithgarwch dilynol 2021-2022MA3GS1AE9
Cyfanswm mewn categori gweithgarwch dilynol Awst 2022MA3GS1AE10
Arolygiadau craidd
- Nifer yr arolygiadau 84
- Cyfrwng Cymraeg 23
- Dwyieithog 5
- Cyfrwng Saesneg 56
- Ffydd 15
Oherwydd y pandemig COVID-19, dim ond rhwng diwedd Chwefror a Gorffennaf 2022 y cynhaliwyd arolygiadau craidd
Astudiaeth achos
- Nifer yr astudiaethau achos 28
- Ysgolion ag astudiaethau achos 23
Ymweliadau ymgysylltu
- Nifer yr ymweliadau/galwadau 182
- Cyfrwng Cymraeg 51
- Dwyieithog 5
- Cyfrwng Saesneg 126
- Ffydd 18
Dysgu
Darganfydded arolygwyr fod llawer o ddisgyblion yn dechrau’r ysgol gyda medrau mewn llythrennedd, mathemateg a datblygiad corfforol islaw’r rheiny a ddisgwyliwyd am eu cyfnod datblygiadol. Arweiniodd effaith y pandemig at fwyafrif o ddisgyblion yn mynd i mewn i ddosbarthiadau meithrin a derbyn gyda lefelau isel o fedrau cymdeithasol a medrau annibynnol. Roedd hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd o ddifreintedd economaidd-gymdeithasol uchel. Gwnaeth y rhan fwyaf o ddisgyblion, gan gynnwys disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), gynnydd addas yn eu medrau, gwybodaeth a dealltwriaeth o’u mannau cychwyn amrywiol. Fodd bynnag, roedd disgyblion agored i niwed yn gwneud llai o gynnydd na’u cyfoedion yn aml.
Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn cydnabod yr angen i ganolbwyntio ar ddatblygu medrau cyfathrebu disgyblion ieuengaf yn dilyn cyfnodau clo. Yn yr ysgolion hyn, roedd llawer o ddisgyblion yn gwrando’n astud ac yn datblygu eu medrau cyfathrebu yn dda. Trwy weithgareddau dysgu cyson a difyr, fe wnaethant wella’u geirfa lafar yn gyflym, a siarad gyda hyder cynyddol gyda’i gilydd ac oedolion. Gwnaed cynnydd cryf yn eu medrau llafar Cymraeg gan lawer o ddisgyblion sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd ffocws cynyddol gan ymarferwyr ar ddatblygu medrau iaith disgyblion. Fodd bynnag, roedd diffyg hyder gan fwyafrif o ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i siarad yr iaith gan nad oedd eu geirfa a’u patrymau brawddegol wedi’u datblygu’n ddigonol. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod llai o gyfleoedd iddynt ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod y pandemig, ond mae hefyd yn adlewyrchu ein canfyddiadau o flynyddoedd blaenorol. Yn yr un modd, effeithiodd y pandemig yn negyddol ar fedrau iaith disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg lle nad oedd Cymraeg yn cael ei siarad yn eu cartrefi.
Defnyddiodd Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair yng Nghas-gwent ddysgu proffesiynol yn dda i ddatblygu medrau Cymraeg staff a chodi safonau i ddisgyblion.
Yn y rhan fwyaf o ysgolion, roedd disgyblion yn datblygu eu medrau darllen drwy amrywiaeth o ddulliau, a gwnaed cynnydd cadarn gan lawer ohonynt. Yn yr ysgolion mwyaf llwyddiannus, roedd athrawon yn annog cariad at lenyddiaeth ac yn datblygu diwylliant o ddarllen trwy gwricwlwm llythrennedd cyfoethog. Mewn ychydig o ysgolion, lle’r oedd ffocws gormodol ar dechnegau darllen, nid oedd disgyblion yn datblygu brwdfrydedd dros ddarllen ac roedd hyn yn rhwystro’u cynnydd.
Mewn llawer o ysgolion, arweiniodd effaith y pandemig at gynnydd gwanach yn natblygiad medrau ysgrifennu disgyblion. Yn benodol, roedd dirywiad yn ansawdd llawysgrifen a chyflwyniad disgyblion. Pan ddychwelodd disgyblion i’r ysgol, fe wnaeth athrawon gydnabod yr angen i ddarparu cyfleoedd gwell i ddisgyblion ddatblygu eu medrau ysgrifennu. Er enghraifft, gwnaeth y disgyblion ieuengaf ymarfer eu medrau gwneud marciau yn yr ardal awyr agored, a dychwelodd y disgyblion hynaf i gynhyrchu darnau o waith ysgrifennu estynedig. Fodd bynnag, parhaodd ychydig o ddisgyblion i weld cynhyrchu darnau ysgrifenedig hirach yn her, ac roedd angen mwy o gymorth arnynt. Mewn lleiafrif o ysgolion, roedd disgyblion o bob gallu yn aml yn gwneud camgymeriadau sylfaenol gyda gramadeg, sillafu ac atalnodi. Yn rhy aml, roeddent yn ailadrodd y camgymeriadau hyn dros gyfnod ac nid oeddent yn golygu nac yn mireinio’u gwaith yn rheolaidd i wneud gwelliannau.
Roedd llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn yn eu datblygiad mathemategol. Yn yr ysgolion mwyaf llwyddiannus, roedd y disgyblion ieuengaf yn defnyddio cyfarpar, fel cownteri, blociau a rhodenni rhif, yn dda i ddatblygu eu dealltwriaeth o gysyniadau mathemategol, ac roedd ganddynt ddealltwriaeth dda o eirfa fathemategol. Roedd y disgyblion hynaf yn datblygu gwydnwch wrth fynd i’r afael â phroblemau mathemategol, ac roeddent yn barod i ddefnyddio ystod o ymagweddau gwahanol a dulliau profi a methu i ganfod ateb. Mewn ysgolion lle’r oedd datblygiad medrau mathemategol disgyblion yn llai effeithiol, roedd lleiafrif o ddisgyblion yn defnyddio’u medrau datrys problemau mathemategol gyda llwyddiant amrywiol gan fod eu dealltwriaeth o ychydig o gysyniadau yn llai datblygedig. Yn unol â blynyddoedd blaenorol, er gwaethaf gwelliannau bach, nid oedd mwyafrif o ddisgyblion yn gallu cymhwyso’u medrau rhifedd yn dda mewn meysydd eraill o’r cwricwlwm.
Mae y rhan fwyaf o ddisgyblion wedi caffael medrau buddiol mewn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) yn ystod y pandemig. Datblygodd y disgyblion ieuengaf eu medrau yn gyflym, a’u cymhwyso’n dda i gefnogi’u dysgu. Roedd y disgyblion hynaf yn defnyddio’u gwybodaeth am apiau a rhaglenni gwahanol i gyflwyno gwybodaeth yn effeithiol mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Yn gyffredinol, defnyddiodd disgyblion eu medrau digidol yn dda i gefnogi ac ymestyn eu dysgu mewn meysydd eraill o’r cwricwlwm. Er i ddisgyblion ddatblygu llawer o agweddau ar gymhwysedd digidol fel cyfathrebu’n effeithiol dros gyfnod, mewn ychydig o ysgolion roedd bylchau yn nysgu’r disgyblion, fel y defnydd o gronfeydd data a thaenlenni.
Rhoddodd athrawon bwyslais cryf ar ddatblygu medrau creadigol a chorfforol disgyblion wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol ym mis Medi 2021. Roedd llawer o ddisgyblion yn datblygu eu medrau creadigol yn dda trwy weithgareddau wedi’u cynllunio i gefnogi eu lles. Fe wnaeth defnydd cynyddol o fannau awyr agored gan y rhan fwyaf o ysgolion gynorthwyo disgyblion i ddatblygu eu medrau corfforol. Er enghraifft, roedd y disgyblion ieuengaf yn ymgysylltu’n fwy gyda gweithgareddau i ddatblygu eu medrau cydbwyso, ac roeddent yn fwy parod i gymryd risgiau rheoledig yn eu chwarae.
Lles ac agweddau at ddysgu
Parhaodd lles disgyblion a staff i fod yn flaenoriaeth ar gyfer ysgolion yn ystod tymor yr hydref. Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn mwynhau bod yn ôl yn yr ysgol, yn cymdeithasu â’u cyfoedion ac yn ymgysylltu â dysgu wyneb yn wyneb.
Dangosodd disgyblion lawer iawn o wydnwch ac fe wnaethant addasu’n dda i newidiadau i amserlenni ac arferion ysgol. Mewn ychydig o ysgolion, bu cynnydd mewn atgyfeiriadau at asiantaethau allanol yn sgil pryderon ynglŷn â disgyblion a oedd yn cael anhawster rheoli’u hymddygiad, neu nid oeddent yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd. Roedd hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd o ddifreintedd economaidd-gymdeithasol lle’r effeithiwyd ar deuluoedd fwyaf gan y pandemig. Yn y rhan fwyaf o ysgolion, nid oedd cyfraddau presenoldeb cyffredinol wedi dychwelyd i lefelau cyn-pandemig erbyn diwedd y flwyddyn academaidd.
Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymdopi’n dda wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol ym mis Medi. Roeddent yn teimlo’n ddiogel a bod gofal iddynt. Mewn ychydig o achosion, roedd disgyblion yn dechrau meddwl mwy am eu hiechyd emosiynol ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i gefnogi hyn, fel gwrando ar gerddoriaeth ymdawelu, siarad am eu profiadau a chymryd rhan mewn gweithgareddau mwy corfforol sy’n hybu ymlacio. Parhaodd hyn yn gyffredinol mewn ysgolion a gyflwynodd y gweithgareddau hyn wrth iddynt sylweddoli’r buddion hirdymor i ddisgyblion.
Yn gynyddol, mae disgyblion yn deall hawliau plant ac yn siarad amdanynt. Er enghraifft, roedd disgyblion mewn llawer o ysgolion yn ystyried sut oedd y rhyfel yn yr Wcráin yn effeithio ar hawliau ffoaduriaid. Yn unol â blynyddoedd blaenorol, fe wnaethom ddarganfod fod bron yr holl ddisgyblion yn deall pwysigrwydd bwyta’n iach ac ymarfer corff, ond nid yw’r holl ddisgyblion yn defnyddio’r wybodaeth hon i wneud dewisiadau iach. Roedd y rhan fwyaf yn parhau i wybod am gadw’n ddiogel ar-lein a sut i ddiogelu rhag peryglon posibl.
Cameo: holiaduron lles staff a disgyblion
Yn Ysgol y Llys, Sir Ddinbych, rhoddodd arweinwyr gyfle i ddisgyblion a staff rannu eu teimladau a’u pryderon drwy holiaduron lles. Dadansoddodd arweinwyr y canlyniadau a chwilio am dueddiadau a themâu cyffredin. O ganlyniad, roedd yr ysgol yn gallu targedu anghenion lles penodol y disgyblion a’r staff, a rhoi’r ymyraethau angenrheidiol ar waith. Erbyn hyn, mae swyddog lles parhaol gan yr ysgol sy’n arwain ar strategaethau cefnogi ac yn darparu’r cymorth sydd ei angen ar gyfer disgyblion a staff ar draws yr ysgol.
Yn y rhan fwyaf o ysgolion, wrth iddynt baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, datblygodd disgyblion ymwybyddiaeth o bedwar diben y cwricwlwm. Mewn lleiafrif o ysgolion, nid oedd dealltwriaeth ddigon da gan ddisgyblion i gryfhau’r nodweddion hyn ynddyn nhw eu hunain drwy eu gweithredoedd, fel sut i fod yn fwy uchelgeisiol neu ymddwyn yn fwy moesegol. Mae’r adnodd hwn yn darparu sbardunau hunanfyfyrio i gynorthwyo ysgolion cynradd i gynllunio ar gyfer datblygu’r pedwar diben.
Parhaodd bron yr holl ddisgyblion i ymddwyn yn dda mewn gwersi yn y rhan fwyaf o ysgolion. Roedd ymddygiad ac agweddau disgyblion at ddysgu ar eu cryfaf mewn ysgolion lle’r oedd disgyblion yn gweld y dysgu’n ddiddorol ac yn ysgogol, a chyflymder y dysgu wedi’i farnu yn dda. Yn yr ysgolion hyn, roedd disgyblion yn ymgysylltu’n dda â thasgau, yn dyfalbarhau â heriau, yn dod o hyd i atebion amgen i broblemau ac yn gwneud cynnydd cadarn. Yn y rhan fwyaf o ysgolion, roedd disgyblion yn cydweithio’n dda â’u cyforedion.
Addysgu a phrofiadau dysgu
Darganfyddodd arolygwyr fod mwyafrif o ysgolion yn parhau i ganolbwyntio ar wella addysgeg, gan ddefnyddio’r egwyddorion addysgegol o Dyfodol Llwyddiannus yn aml fel cyfrwng i drafod dulliau effeithiol o addysgu a dysgu. Yn yr achosion hyn, roedd athrawon yn aml yn defnyddio ymchwil neu gyhoeddiadau Estyn, fel ‘Gwella Addysgu’, i helpu datblygu eu harfer. Fe wnaeth cyfyngiadau COVID-19 gyfyngu ar gyfleoedd i athrawon weithio ar y cyd i wella’u harfer broffesiynol gan yr aeth yn anodd iawn trefnu i arsylwi gwersi, gweithio mewn triawdau, a gwneud arsylwadau ar y cyd.
Lle’r oedd ysgolion yn fwyaf effeithiol o ran datblygu addysgeg, roeddent yn adolygu ac yn cryfhau eu dulliau addysgu ac asesu i gefnogi dysgu cyn dylunio cynnwys a strwythur eu cwricwlwm lleol. Fe wnaeth hyn sicrhau bod sylfaen gref ganddynt i adeiladu cwricwlwm newydd arni, a gwerthuso’i heffaith ar ddysgu a lles disgyblion. Fodd bynnag, mewn ychydig o ysgolion, roedd dylunio’r cwricwlwm yn cael blaenoriaeth dros wella ansawdd addysgu, a chollwyd cyfleoedd i drafod a gwella ansawdd addysgeg.
Dychwelodd llawer o ysgolion yn gyflym at ddysgu sylfaen. Mewn ychydig o achosion, serch hynny, roedd y ddarpariaeth hon yn parhau’n rhy ffurfiol neu wedi’i gor-gyfarwyddo gan ymarferwyr. Cafodd hyn effaith niweidiol ar fedrau ehangach disgyblion, fel annibyniaeth, datrys problemau a gwydnwch. Fe wnaeth bron bob ysgol dreialu dulliau addysgu gyda’r disgyblion hynaf a oedd yn golygu eu bod yn cael profiadau dysgu ‘go iawn’ gyda’r nod o annog disgyblion i gymhwyso a chryfhau’u medrau ar draws y cwricwlwm. Yn yr achosion gorau, roedd hyn yn cynnwys darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion wneud dewisiadau ynglŷn â sut byddan nhw’n cymhwyso’u medrau, er enghraifft trwy ddewis ffyrdd gwahanol o gofnodi’u canfyddiadau neu gynllunio ffyrdd i ddatrys problem. Lle’r oedd addysgu’n llai effeithiol, fodd bynnag, y cyfan yr oedd disgyblion yn ei wneud oedd dewis o ddewislen o dasgau, ac roedd y rhain ar lefel rhy isel yn aml o gymharu â gallu disgyblion. Mewn ychydig o ysgolion, roedd athrawon yn cynllunio profiadau dysgu ar draws y cwricwlwm a oedd yn adeiladu’n dda ar addysgu iaith, llythrennedd a mathemateg yn uniongyrchol. Roedd llawer o ysgolion yn rhoi pwyslais buddiol ar ddysgu awyr agored ar draws yr holl oedrannau.
Mewn ychydig o ysgolion lle’r oedd yr addysgu gryfaf, roedd athrawon yn defnyddio technegau asesu ar gyfer dysgu yn dda i fesur dysgu’r disgyblion ac addasu gweithgareddau. Roeddent yn defnyddio holi’n effeithiol i brocio dealltwriaeth disgyblion a sbarduno’u meddwl. Yn yr ysgolion hyn, roedd athrawon yn sicrhau bod disgyblion yn deall pam yr oeddent yn dysgu testun neu fedr penodol, a sut i fod yn llwyddiannus â’u dysgu. Yn unol â blynyddoedd blaenorol, fe wnaethom ddarganfod, lle’r oedd yr addysgu’n fwyaf effeithiol a ble roedd perthynas weithio gryf rhwng ymarferwyr a disgyblion, mae gwersi yn hwyl ac yn ddifyr, ac mae athrawon yn cydweddu’r dysgu yn agos â gallu disgyblion.
Datblygodd lleiafrif o ysgolion ddull synhwyrol o asesu, a oedd yn cynnwys arsylwadau, trafodaethau â disgyblion ac adborth a oedd yn llywio’r camau nesaf yn yr addysgu. Fodd bynnag, roedd mwyafrif o ysgolion yn ansicr ynghylch sut i ddatblygu eu prosesau asesu i gyd-fynd gyda’r Cwricwlwm i Gymru.
Parhaodd ysgolion i fod ar gamau amrywiol o ran eu cynllunio ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Mewn llawer o ysgolion, lle’r oedd datblygu’r cwricwlwm yn mynd rhagddo’n dda, roedd arweinwyr a staff yn ystyried ystod o ddulliau yn ofalus. Roeddent yn archwilio’n fanwl sut gallai pob dull gefnogi dilyniant gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion, yn ogystal â datblygu eu medrau. Yn aml, roeddent yn defnyddio ymchwil ynglŷn â dylunio’r cwricwlwm a thystiolaeth o’u hymholiadau eu hunain i lywio’u penderfyniadau. Erbyn mis Gorffennaf 2022, fodd bynnag, roedd ychydig o ysgolion ar gam cynnar o hyd o ran eu paratoadau ar gyfer rhoi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith.
Yn yr ysgolion cryfaf, roedd staff yn neilltuo amser i ddyfnhau eu dealltwriaeth o’r dysgu y mae’n rhaid i ddisgyblion ei ddatblygu dros gyfnod, ac yn ystyried hyn yng nghyd-destun eu hysgol a’u cymuned. Galluogodd hyn iddynt gynllunio themâu a thestunau sy’n berthnasol i anghenion a diddordebau disgyblion. Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn cydnabod pwysigrwydd llais y disgybl wrth ddatblygu eu cwricwlwm lleol. Yn raddol, aeth ysgolion ati i fyfyrio ynghylch pa bryd y mae’n fwyaf priodol i ddisgyblion lywio a dylanwadu ar eu cwricwlwm ysgol yn ystod y cyfnodau cynllunio, treialu ac adolygu. Yn yr ysgolion cryfaf, roedd arweinwyr yn cynnwys yr holl staff, dysgwyr, llywodraethwyr, rhieni a gofalwyr yn feddylgar wrth ddatblygu eu gwybodaeth am y cwricwlwm ac wrth gyfrannu at y broses ddylunio. Mae’r adnodd hwn yn darparu sbardunau hunanfyfyrio i helpu cynghorau ysgol a grwpiau disgyblion ystyried sut y gallant weithio gyda staff i wella’u cyfraniad at beth a sut maen nhw’n dysgu.
At ei gilydd, nid oedd ysgolion cynradd ac uwchradd yn cynllunio’n ddigon da mewn partneriaeth â’i gilydd i sicrhau dilyniant cyson mewn gwybodaeth a medrau ar draws y cwricwlwm. Roedd hyn yn arbennig o wir ar gyfer TGCh a Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Gofal, cymorth ac arweiniad
Nododd staff ysgolion cynradd fod bylchau yn iechyd a lles disgyblion wedi cynyddu, a bod anghydraddoldebau wedi ehangu yn ystod cyfnodau cau ysgolion. Yn y rhan fwyaf o ysgolion, lles disgyblion oedd eu blaenoriaeth ac fe wnaethant barhau i ddarparu cymorth cryf ar gyfer y maes hwn. Mewn llawer o achosion, yn enwedig mewn ardaloedd o ddifreintedd cymdeithasol, roedd hyn yn ymestyn i gefnogi teuluoedd drwy eu cyfeirio at asiantaethau eraill neu elusennau. O ganlyniad i’r pandemig, datblygodd bron yr holl staff ddealltwriaeth well o anghenion ac amgylchiadau’r teuluoedd yn eu cymunedau ysgol. Arweiniodd hyn at gydweithio gwell a pherthnasoedd cadarnach rhwng yr ysgol a’r cartref.
Cameo: mae disgyblion yn dylanwadu ar fywyd ysgol
Yn Ysgol Gynradd Gymunedol Clwyd, Abertawe, roedd disgyblion yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddylanwadu ar beth a sut maen nhw’n dysgu, er enghraifft drwy eu gwaith mewn nifer sylweddol o grwpiau llais y disgybl. Roedd y grwpiau hyn yn cynnwys Sgwad Diogelwch, a grŵp Parchu Hawliau sy’n helpu disgyblion i gydnabod a hyrwyddo hawliau plant yn unol ag egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Dros gyfnod, datblygodd bron pob un o’r disgyblion ddealltwriaeth gadarn o’u hawliau, er enghraifft drwy greu siarteri dosbarth sy’n amlinellu disgwyliadau cytûn i ddisgyblion.
Roedd llawer o ysgolion yn gweithredu rhaglenni i gefnogi disgyblion a oedd yn teimlo straen emosiynol, a chyflwynodd ychydig o ysgolion weithgareddau fel ymarfer corff dyddiol yn yr amgylchedd awyr agored. Yn gyffredinol, cafodd darparu ymyraethau lles mewn ysgolion effaith gadarnhaol ar leihau gorbryder disgyblion.
Mewn llawer o ysgolion, roedd grwpiau llais y disgybl yn cael cyfleoedd cynyddol i ddylanwadu ar fywyd yr ysgol. Lle’r oedd hyn yn fwyaf effeithiol, roedd enghreifftiau sylweddol o ddisgyblion yn arwain newid, ac roedd arweinwyr yn sicrhau bod disgyblion o bob cefndir a gallu yn cael eu cynrychioli. Mewn ychydig o ysgolion, cyfyngedig o hyd oedd cyfleoedd i ddisgyblion ddylanwadu ar beth a sut maen nhw’n dysgu.
Er bod y rhan fwyaf o ysgolion, dros gyfnod, wedi darparu gweithgareddau allgyrsiol sy’n gwella medrau academaidd a chymdeithasol disgyblion, effeithiwyd ar lawer ohonynt gan gyfyngiadau’r pandemig. Gwelsom y rhain yn dechrau ailsefydlu’n araf, ac erbyn diwedd tymor yr haf, dim ond ychydig o ysgolion a ddychwelodd i gynnig ystod eang o ddarpariaeth fuddiol a difyr.
Roedd y rhan fwyaf o ysgolion wedi paratoi’n dda ar gyfer diwygio ADY. Derbyniodd bron yr holl ysgolion hyfforddiant gan eu hawdurdod lleol a chonsortiwm rhanbarthol i gynllunio a pharatoi ar gyfer y newidiadau. Roedd llawer o gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol yn gweithio gyda chydweithwyr yn eu clystyrau ysgol i rannu gwybodaeth ac arfer orau. Roedd y rhan fwyaf o ysgolion wedi adnabod disgyblion oedd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol (DAP), ac wedi mapio anghenion darpariaeth disgyblion eraill oedd heb ADY. Datblygodd staff mewn llawer o ysgolion ddealltwriaeth o arfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac fe wnaethon nhw siarad am sut mae’r dull hwn yn gwella cyfarfodydd adolygu blynyddol ar gyfer disgyblion ag ADY. Parhaodd llawer o ysgolion cyfrwng Cymraeg i fynegi pryderon ynglŷn ag argaeledd adnoddau Cymraeg i gefnogi gwaith ADY.
Yn y rhan fwyaf o ysgolion, gwnaeth staff yn siŵr bod disgyblion yn deall materion cydraddoldeb ac amrywiaeth a’u bod yn gweithredu gyda sensitifrwydd ynglŷn â nhw. Parhaodd ysgolion â diwylliant cryf o gynhwysiant i herio ymddygiadau ystrydebol ac archwilio ystod o faterion cysylltiedig gan gynnwys, mewn ychydig iawn o achosion, y rheiny sy’n wynebu pobl sy’n nodi eu bod yn LHDTC+. Mewn ychydig o ysgolion, nid oedd disgyblon yn cael digon o gyfleoedd i ystyried materion cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn monitro presenoldeb yn dda, ac erbyn diwedd tymor yr haf, roeddent wedi adnewyddu eu systemau i herio presenoldeb isel. Ffurfiodd llawer gysylltiadau cryf ag asiantaethau allanol i gefnogi teuluoedd oedd yn parhau i’w chael yn anodd sicrhau bod eu plentyn yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd.
Mewn ychydig o ysgolion, roedd materion yn ymwneud â diogelu disgyblion, gan gynnwys gwybodaeth staff am brosesau atgyfeirio diogelu plant a diogelwch safleoedd, yn destun pryder.
Cameo: disgyblion yn creu ap lles
Yn Ysgol Gynradd Pantysgallog, Merthyr Tudful, mae sesiynau addysg gorfforol rheolaidd ac ystod eang o chwaraeon allgyrsiol yn darparu cyfleoedd gwerth chweil i ddisgyblion fwynhau manteision ymarfer. Mae’r disgyblion hynaf yn cymryd rhan mewn prosiect digidol gyda thîm rygbi rhanbarthol i feithrin dyheadau ar gyfer cael ffyrdd iach o fyw trwy greu ap. Crëwyd hwn gan ddisgyblion i ddangos i’w cyfoedion amrywiaeth o weithgareddau sy’n hyrwyddo iechyd a lles.
Arweinyddiaeth
Mewn ysgolion cynradd ledled Cymru, dangosodd arweinwyr wydnwch a chreadigrwydd parhaus wrth iddyn nhw addasu’u darpariaeth i fodloni heriau’r pandemig. Mewn llawer o achosion, ymatebodd arweinwyr yn gyflym i amgylchiadau a oedd yn newid yn gyflym i gadw’r gymuned ysgol yn ddiogel wrth geisio cynnal ansawdd addysgu a dysgu. Yn aml, roedd y rhain yn flaenoriaethau a oedd yn gwrthdaro. Er enghraifft, roedd arweinwyr yn gweld eu hunain yn aml yn gweithio gyda staff i wneud penderfyniadau anodd ynglŷn â threfnu dosbarthiadau ac hygyrchedd adnoddau er mwyn atal lledaeniad COVID-19, gan wybod bod y mesurau hyn yn creu’r risg o gyfyngu ar gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu medrau dysgu allweddol, fel y gallu i gydweithio ag eraill. Fe wnaeth wynebu’r mathau hyn o heriau greu ethos tîm cryfach mewn llawer o ysgolion, wrth i staff dynnu ynghyd i ddarparu dysgu gartref, delio â materion absenoldeb staff a disgyblion, a chadw disgyblion, staff a’r gymuned yn ddiogel. Wrth i gyfyngiadau COVID-19 lacio, dychwelodd llywodraethwyr mewn llawer o ysgolion i ymgysylltu ar y safle ag arweinwyr, staff a disgyblion.
Mae ymchwil a wnaed yn dilyn y cyfnodau clo cychwynnol yn dangos bod hanner holl weithwyr proffesiynol addysg yn y DU yn teimlo bod eu hiechyd meddwl a’u lles wedi dirywio naill ai’n sylweddol neu ychydig. Nododd arolygwyr fod arweinwyr mewn llawer o ysgolion yng Nghymru wedi ymateb i hyn drwy roi mwy o ffocws ar ystyried a chefnogi lles staff.
Cameo: Helpu staff i ddeall a chefnogi’i gilydd
Treuliodd arweinwyr yn Ysgol Gynradd Glannau Wysg yng Nghasnewydd amser ‘dod i adnabod eu staff eto’ yn dilyn y cyfnod clo cyntaf. Roeddent yn cydnabod bod blaenoriaethau llawer o’r staff wedi newid, ac roedd eu safbwyntiau a’u hagweddau yn wahanol oherwydd eu profiadau yn ystod y pandemig. Gan adeiladu ar eu proffiliau disgyblion oedd wedi’u sefydlu’n dda, gweithiodd arweinwyr gyda chydweithwyr i greu proffiliau staff. Roedd y rhain yn ddewisol ac yn cael eu rhannu gyda staff eraill ac uwch arweinwyr yn unig. Roeddent yn nodi cyfrifoldebau teulu a gofalu, a nodweddion personol, fel sut maen nhw’n hoffi derbyn adborth a beth sy’n eu cymell. Galluogodd hyn arweinwyr i gynnig prosesau rheolaeth llinell mwy teilwredig ac i sicrhau bod arweinwyr a staff yn sensitif i anghenion ei gilydd.
I ymateb i’r pandemig a heriau’r cwricwlwm a diwygio anghenion dysgu ychwanegol, ceisiodd arweinwyr mewn llawer o ysgolion gryfhau partneriaethau ag ysgolion eraill, rhieni, ac asiantaethau allanol. Yn yr enghreifftiau cryfaf, datblygodd arweinwyr bartneriaethau cryf iawn â rhieni i feithrin cryn hyder a chred gyffredin bod y staff yn gwneud y peth iawn i’r disgyblion ac yn gweithredu er eu lles pennaf. Yn yr un modd, canolbwyntiodd arweinwyr ar ddatblygu cysylltiadau cryfach ag ysgolion eraill i gefnogi dylunio’r Cwricwlwm i Gymru ac i fynd i’r afael â gofynion diwygio ADY. Yn gynyddol, roedd arweinwyr yn canolbwyntio dysgu proffesiynol ar baratoadau ar gyfer y mentrau hyn.
Mae ymgysylltu ag ymchwil i gefnogi datblygu addysgeg a’r cwricwlwm yn nodwedd mewn llawer o ysgolion cynradd yng Nghymru erbyn hyn. Cynhaliodd staff mewn dros hanner o ysgolion ymholiadau mewnol, yn seiliedig yn aml ar archwilio’r 12 egwyddor addysgeg neu sut i wella dyfnder dealltwriaeth disgyblion o fewn y meysydd dysgu ac arbenigedd yn y Cwricwlwm i Gymru. Gweithiodd rhai eraill gyda sefydliadau addysg uwch, er enghraifft fel rhan o’r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (PYPC). Yn Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd ar gyfer 2018-2019, fe wnaethom nodi pryderon nad oedd ymarferwyr yn canolbwyntio’n ddigonol ar yr effaith a gaiff newidiadau a ysgogir gan ymchwil mewn addysgeg ar ddeilliannau ar gyfer disgyblion. Mae’n parhau’n bwysig fod arweinwyr yn glir ynghylch diben cymryd rhan mewn ac ymgysylltu gydag ymchwil, a bod prosesau clir ganddynt ar gyfer mesur effaith newidiadau i addysgeg a ph’un a yw’n werth dilyn eu trywydd. Erbyn mis Gorffennaf 2022, dim ond megis dechrau meddwl am eu gweledigaeth ar gyfer addysgu a’r cwricwlwm yr oedd ychydig o ysgolion wrth baratoi ar gyfer gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2022.
Ym mhob ysgol, effeithiodd y pandemig i raddau amrywiol ar ansawdd darpariaeth a chynnydd disgyblion. Mewn ychydig o ysgolion, roedd arweinwyr yn cael anhawster ailsefydlu prosesau hunanwerthuso. Golygai hyn nad oeddent bob amser yn adnabod yr angen i ganolbwyntio ar nodweddion allweddol darpariaeth, fel elfennau o addysgu a dysgu ac, yn benodol, effeithiolrwydd dysgu sylfaen. Lle’r oedd hunanwerthuso ar ei gryfaf, roedd arweinwyr wedi datblygu diwylliant cryf o ymddiriedaeth ymhlith y tîm arwain a staff eraill a greodd hinsawdd o fod yn agored a gonestrwydd. Yn yr ysgolion hyn, roedd gan y rhan fwyaf o aelodau staff rôl mewn hunanwerthuso a gweithgareddau gwella ysgol, ac roedd hunanwerthuso yn rhan annatod o ddiwylliant yr ysgol. Mae hon yn nodwedd ysgolion effeithiol, a lle mae’r diwylliant hwn yn bodoli, mae staff yn gweithio ar y cyd i fyfyrio ar eu harfer broffesiynol a’i gwella. Caiff hyn effaith hynod gadarnhaol ar ansawdd addysgu a dysgu.
Ein hadnodd dysgwyr ar gyfer Ysgolion Cynradd
Adnoddau Cynradd