Mynd i'r cynnwys
Gwers wyddoniaeth yn yr ysgol

Adroddiad sector: Uwchradd 2021-2022

Ysgolion

182

Nifer yr ysgolion 2022

Manylion

Nifer yr ysgolion 2021: 182
Nifer yr ysgolion 2021: 182

Mae nifer yr ysgolion uwchradd wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf yn sgil y cynnydd yn nifer yr ysgolion pob oed.


Disgyblion

175,957

Holl ddisgyblion

154,953

Nifer y disgyblion mewn addysg orfodol

21,004

Nifer y disgyblion yn y chweched dosbarth

Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim 22

22%

Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim

Canran y disgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol (A-C) 3

3%

Canran y disgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol (A-C)

Canran y disgyblion sy’n gallu siarad Cymraeg 17

17%

Canran y disgyblion sy’n gallu siarad Cymraeg

Canran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol 18

18%

Canran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol


Gweithgarwch dilynol

  • Nifer mewn categori gweithgarwch dilynol Medi 2021
    MA12
    GS9
    AE8

  • Nifer a dynnwyd 2021-22
    MA5
    GS5
    AE7

  • Un wedi’i hisraddio o GS i MA

  • Nifer a aeth i mewn i gategori gweithgarwch dilynol 2021-2022
    MA0
    GS1
    AE2

  • Cyfanswm mewn categori gweithgarwch dilynol Awst 2022
    MA8
    GS3
    AE3

Arolygiadau craidd

  • Nifer yr arolygiadau: 11

  • Nifer heb fod categori gweithgarwch dilynol: 8

  • Cyfrwng Cymraeg: 3

  • Dwyieithog: 1

  • Cyfrwng Saesneg: 7

  • Ffydd: 2

Oherwydd y pandemig COVID-19, dim ond rhwng diwedd mis Chwefror a diwedd mis Mai 2022 y cynhaliwyd arolygiadau craidd

Astudiaethau achos

  • Nifer yr astudiaethau achos 10

Ysgolion ag astudiaethau achos:
Ysgol Stanwell
Ysgol Uwchradd Whitmore
Ysgol Uwchradd Cathays
Ysgol Penglais
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

Ymweliadau ymgysylltu

  • Nifer yr ymweliadau: 39

  • Cyfrwng Cymraeg: 0

  • Dwyieithog: 5

  • Cyfrwng Saesneg: 34

  • Ffydd: 4


Dysgu

Ers iddynt ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth, roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymateb yn dda i gymryd rhan mewn gweithgareddau nad oedden nhw ar gael iddynt oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Roedd y rhain yn cynnwys gweithio mewn parau, trafodaethau ‘byw’ dosbarth cyfan, chwaraeon tîm a gweithgareddau ymarferol fel arbrofion gwyddoniaeth, coginio a defnyddio offerynnau cerdd. Gwnaeth fwyafrif o ddisgyblion gynnydd cyson yn eu gwybodaeth bynciol a dealltwriaeth, a medrau. Roedd lleiafrif yn gweld dychwelyd i’r ystafell ddosbarth yn heriol, ac nid oeddent yn gwneud digon o gynnydd.

Yn gyffredinol, ni wnaeth disgyblion yn y chweched dosbarth weld gymaint o golled yn eu dysgu â disgyblion iau gan yr oeddent yn fwy tebygol o ymgysylltu â gweithgareddau dysgu o bell a roddwyd iddynt. Dangosodd llawer ymwybyddiaeth ddofn o gysyniadau pwnc, ac roeddent yn ddisgyblion huawdl a oedd yn gallu mynegi’u hunain gyda soffistigeiddrwydd. Mewn llawer o achosion, gwnaeth disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol gynnydd da yn erbyn eu targedau o ganlyniad i ddarpariaeth ystyriol a chydlynus.

Yn ystod cyfnodau clo, nid oedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn dysgu gystal ag y byddent wedi’i wneud, pe baent wedi bod yn yr ysgol. Roedd disgyblion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn gwneud cynnydd sylweddol llai na disgyblion eraill. Mae’r canfyddiad hwn yn gyson ag ymchwil yn Lloegr a ganfu fod disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn dioddef colledion dysgu mwy na’u cyfoedion mwy cefnog o ganlyniad i’r pandemig.

Oherwydd y pandemig, roedd disgyblion Blwyddyn 7 yn dechrau mewn addysg uwchradd gyda llawer llai o brofiad pontio. O ganlyniad i ymdrechion sylweddol gan staff ysgol yn ad-drefnu’r profiadau hyn ar-lein, addasodd llawer o ddisgyblion yn dda a pharhau i wneud cynnydd addas yn eu medrau. Mewn lleiafrif o achosion, nid oedd pontio cwricwlaidd wedi sicrhau bod disgyblion yn adeiladu ar y medrau a ddatblygwyd yng Nghyfnod Allweddol 2 yn ddigon da. O ganlyniad, roedd disgyblion yn ailadrodd gwaith a wnaethant yn eu hysgolion cynradd. Roedd hyn yn arbennig o wir mewn Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a TGCh.

Roedd disgyblion ym Mlwyddyn 11, a’r rheiny yn y chweched dosbarth, yn teimlo ansicrwydd sylweddol wrth baratoi ar gyfer eu harholiadau. Mewn llawer o achosion, golygai cymorth defnyddiol gan athrawon fod y disgyblion hyn wedi datblygu eu gallu i baratoi ar gyfer arholiadau a sefyll arholiadau yn addas. Mewn rhai ysgolion, roedd disgyblion yn y grwpiau blwyddyn hyn yn cwblhau profion yn fynych iawn, ac fe wnaeth hynny achosi gorbryder ac nid oedd bob amser yn arwain at gynnydd mewn gwybodaeth bynciol neu fedrau.

Yn ystod cyfnodau clo pan roedd disgyblion yn dysgu o bell, nid oeddent yn cael digon o gyfleoedd i ddatblygu eu medrau llefaredd. Ers iddynt ddychwelyd i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, roedd mwyafrif yn mwyhau’r cyfleoedd i ymgysylltu â thrafodaethau dosbarth cyfan neu grŵp. Yn ystod y trafodaethau hyn, roedd mwyafrif o ddisgyblion yn gwneud cynnydd addas, ac fe wnaeth ychydig ddatblygu eu gallu i fynegi’u hunain yn huawdl. Mewn lleiafrif o achosion, nid oedd disgyblion yn gwneud digon o gynnydd yn eu gallu i gyfathrebu drwy siarad a gwrando. Roedd y disgyblion hyn wedi colli cymhelliant a hyder wrth ymateb i gwestiynau athrawon neu gyfranogi mewn trafodaethau â disgyblion eraill. Cyfrannodd yr angen i wisgo mygydau wyneb at y dirywiad hwn gan eu bod yn mygu sain ac yn gwneud mynegiant wyneb yn anodd ei ddarllen. Gwnaeth hyn hi’n arbennig o anodd datblygu medrau cyfathrebu yn Gymraeg neu ieithoedd tramor modern. Cynlluniodd lleiafrif o ysgolion yn ofalus i ddatblygu medrau siarad disgyblion.

Fe wnaeth mwyafrif o ddisgyblion gynnal eu medrau darllen yn addas yn ystod cyfnodau clo, er na wnaethant eu datblygu. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o achosion, nid oedd gallu disgyblion i ddarllen ar goedd wedi’i ddatblygu’n ddigonol. Yn yr achosion hyn, mae disgyblion yn darllen gyda rhuglder gwael, gan oedi wrth ddod ar draws geiriau anghyfarwydd. Roeddent yn tueddu darllen heb fynegiant. Yn gyffredinol, nid oedd disgyblion yn darllen ar goedd yn ddigon aml ar draws y cwricwlwm, ac nid oeddent yn derbyn cymorth digonol i ddatblygu’r medr hwn. Ym  mwyafrif yr ysgolion, roedd disgyblion yn datblygu’u medrau darllen yn dda. Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn llithrddarllen a sganio testunau’n dda i gael gwybodaeth berthnasol. Roedd llawer yn gallu dod i gasgliadau sylfaenol o destunau. Roedd mwyafrif y disgyblion yn gallu darllen i gael ystyr yn briodol a defnyddio gwybodaeth i wneud rhagfynegiadau neu gasgliadau addas. Nid oedd mwyafrif y disgyblion yn datblygu’r medrau darllen hyn yn ddigon da.

Fe wnaeth llawer o ddisgyblion wella’u medrau bysellfwrdd yn ystod cyfnodau clo. Fodd bynnag, cafodd y cyfnodau hyn effaith niweidiol nodedig ar lawysgrifen disgyblion a’u gallu i gyflwyno darnau cydlynus o waith ysgrifenedig. Mewn mwyafrif o ysgolion, roedd disgyblion yn ysgrifennu’n estynedig mewn ystod resymol o bynciau. Yn rhy aml, fodd bynnag, roedd disgyblion yn cwblhau tasgau ysgrifenedig nad oeddent yn ddigon heriol, fel copïo neu lenwi bylchau. Roedd mwyafrif o ddisgyblion yn ysgrifennu gyda chywirdeb priodol. Roeddent yn sillafu geiriau a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin yn gywir, ac yn cymhwyso rheolau gramadegol yn briodol. Fodd bynnag, roedd lleiafrif o ddisgyblion yn gwneud gormod o gamgymeriadau sillafu, atalnodi a chamgymeriadau gramadeg sylfaenol.

Mewn mwyafrif o ysgolion, roedd disgyblion yn datblygu’u medrau rhifedd yn briodol ar draws y cwricwlwm. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn gallu gwneud mesuriadau sylfaenol yn gymwys, ac roedd mwyafrif yn gallu trosi rhwng unedau gwahanol. Fodd bynnag, o ganlyniad i gyfnodau clo, bu cyfleoedd i wneud mesuriadau mwy soffistigedig, fel arbrofion gwyddonol, yn gyfyngedig. Roedd mwyafrif o ddisgyblion yn deall sut i gyflwyno data ar ffurf graffiau yn dda. Wrth iddynt symud ymlaen drwy’r ysgol, roeddent yn datblygu’r gallu i ddewis y math priodol o siart neu graff i gyflwyno’u data. Erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 4, roedd mwyafrif yn gallu llunio a phlotio graffiau gwasgariad yn addas. Mewn lleiafrif o achosion, fodd bynnag, nid oedd disgyblion yn dehongli’r graffiau hyn. Datblygodd y rhan fwyaf o ddisgyblion eu hymdeimlad o gyfrannedd yn dda, a gallent amcangyfrif meintiau yn briodol. Yn gyffredinol, roeddent yn gallu cymhwyso fformiwlâu yn addas, a datblygodd fwyafrif y gallu i drin a thrafod y rhain wrth iddynt symud ymlaen drwy Gyfnod Allweddol 4. Yn rhy aml, nid oedd disgyblion yn ystyried y rhesymeg y tu ôl i’r dulliau yr oeddent yn eu defnyddio i ddatrys problemau mathemategol, yn bennaf am nad oeddent yn cael y cyfleoedd i wneud hynny.

Yn ystod cyfnodau clo, roedd yn anodd iawn i ddisgyblion wneud digon o gynnydd mewn pynciau yr oedd angen dysgu ‘ymarferol’ ynddyn nhw, fel cerddoriaeth, dylunio a thechnoleg, chwaraeon, celf a’r agweddau ymarferol ar wyddoniaeth. Nid oedd llawer o ddisgyblion yn cyfranogi mewn digon o weithgarwch corfforol yn ystod cyfnodau clo. O ganlyniad i gynllunio gofalus mewn llawer o ysgolion, fe wnaeth disgyblion ailgyfarwyddo â’r agweddau hyn ar eu dysgu, a gwnaethant gynnydd graddol yn y medrau penodol i bwnc hyn. Pan roddwyd y cyfle iddynt, dangosodd y rhan fwyaf o ddisgyblion fedrau creadigol cryf. Yn ystod tymor yr haf, dychwelodd lleiafrif o ysgolion i’r ystod o weithgareddau allgyrsiol cyn y pandemig.

Cafodd y pandemig effaith niweidiol ar fedrau Cymraeg disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, ysgolion dwyieithog ac ysgolion Cymraeg. Mewn mwyafrif o ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, cynhaliodd disgyblion eu meistrolaeth ar yr iaith yn addas. Roedd hyn yn ganlyniad i lawer iawn o waith caled a chynllunio gofalus gan staff yn ystod y pandemig. Roedd gan y rhan fwyaf o ddisgyblion eirfa eang a gallent drafod ystod o destunau gyda rhuglder priodol. Roedd llawer yn gallu cynhyrchu darnau o waith wedi’u hysgrifennu’n dda sy’n mynegi’u syniadau yn glir. Fodd bynnag, ym mron yr holl ysgolion hyn, fe wnaeth tueddiad disgyblion i ddefnyddio’r iaith â’u cyfoedion ddirywio’n nodedig yn ystod cyfnodau clo. Sicrhaodd mwyafrif yr ysgolion hyn fod ailadeiladu gallu disgyblion i siarad Cymraeg yn flaenoriaeth. Roedd hyn yn dechrau cael effaith gadarnhaol. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o ysgolion, nid oedd hyn yn wir ac roedd rhai disgyblion yn amharod i ddefnyddio’r iaith ym mhob amgylchiad, gan gynnwys gyda’u hathrawon.

Mewn ychydig o achosion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, roedd disgyblion yn gwneud cynnydd da iawn yn eu gallu i gyfathrebu yn Gymraeg. Yn y gwersi hyn, roedd disgyblion yn ymgysylltu’n frwdfrydig â’r tasgau dysgu a roddwyd iddynt, ac roeddent yn datblygu eu gallu i siarad, deall a dysgu Cymraeg yn dda. Mewn gormod o achosion, dim ond cynnydd bach yr oedd disgyblion yn ei wneud, a pharhaont i wneud camgymeriadau sylfaenol iawn mewn ynganu a chystrawen. Nid oeddent yn defnyddio’u Cymraeg yn ddigon aml ac eithrio yn eu gwersi Cymraeg, ac yn gyffredinol, nid oedd yr hyder ganddynt i siarad Cymraeg. Ym mhob achos bron, nid oedd disgyblion a dderbyniodd eu haddysg yn Gymraeg yn yr ysgol gynradd, ond a fynychodd ysgol cyfrwng Saesneg wedyn, yn gwneud digon o gynnydd yn yr iaith.

Lles ac agweddau at ddysgu

Yn ystod cyfnodau clo, wynebodd llawer o ddisgyblion gyfnodau o unigrwydd, syrffed a gorbryder. Parhaodd rhai disgyblion yn wydn a defnyddiont y cyfleoedd a gynigiwyd iddynt gan yr ysgol i ddysgu ar-lein neu drwy’r pecynnau gwaith a roddwyd iddynt. Fodd bynnag, arweiniodd y diffyg strwythur a ddarperir fel arfer gan yr angen i fynychu’r ysgol yn rheolaidd at batrymau cysgu aflonydd, anawsterau yn cydymffurfio â threfniadau arferol ac ymddygiad gwael ar gyfer rhai disgyblion. Nid oedd mwyafrif o ddisgyblion yn cyfranogi’n ddigon da yn y cyfleoedd dysgu a gynigiwyd iddynt yn ystod y cyfnodau hyn. Canfu Ymchwil gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion dystiolaeth o ddirywiad yn iechyd meddwl a lles disgyblion mewn ysgolion yng Nghymru rhwng 2019 a 2021, yn seiliedig ar gwestiynau arolwg wedi’u cynllunio i fesur lles meddwl, symptomau iselder, ac unigrwydd. Canfu King’s College Llundain fod iechyd meddwl rhai grwpiau pobl ifanc wedi’u heffeithio mwy nag eraill, yn enwedig y rheiny ag anghenion addysgol arbennig, a merched.

Roedd llawer o ddisgyblion yn awchus ynglŷn â’r cyfleoedd a gynigiwyd iddynt o ganlyniad i ddychwelyd i addysgu ‘arferol’, ac fe wnaethant ymgartrefu’n ôl i drefniadau arferol yr ysgol yn dda. Parhaodd ychydig o ddisgyblion yn orbryderus eithriadol ynglŷn â dychwelyd i’r ysgol, neu roeddent wedi mynd i’r arfer o beidio â mynychu. At ei gilydd, roedd presenoldeb yn parhau ymhell islaw lle’r ydoedd cyn y pandemig. Cynyddodd cyfraddau absenoldeb ar gyfer disgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn sylweddol, ac achosodd hynny bryder arbennig gan fod cyfraddau absenoldeb y grŵp hwn o ddisgyblion eisoes yn uchel cyn y pandemig. Gellir gweld canfyddiadau manylach ynglŷn ag effaith y pandemig ar gyfraddau presenoldeb yng Nghymru yn y papur hwn gan y PAEM blaenorol, Meilyr Rowlands.

Mae ymchwil o’r Sefydliad Polisi Addysg yn dangos cyswllt clir rhwng presenoldeb rheolaidd a chynnydd. Fe wnaethant ddarganfod bod disgyblion oedran uwchradd â lefel absenoldeb isel wedi dioddef colled ddysgu o ryw fis mewn darllen erbyn diwedd tymor yr hydref. Mae hyn yn cymharu â rhyw 2.7 a 5.1 mis ar gyfer disgyblion â lefelau absenoldeb canolig ac uchel, yn y drefn honno. Mae hyn yn cefnogi’u damcaniaeth, po fwyaf o amser yr oedd disgyblion yn ei dreulio mewn ysgolion pan ailagorodd ysgolion i’r holl ddisgyblion, y lleiaf oedd graddfa’r golled ddysgu. Roedd disgyblion mewn grwpiau blwyddyn lle maent yn cael arholiadau allanol fel arfer yn teimlo ansicrwydd sylweddol ynglŷn â sut byddent yn cael eu hasesu. Arweiniodd hyn at lefelau gorbryder uwch ar gyfer llawer o’r disgyblion hyn.

Mewn ychydig o ysgolion, roedd ymddygiad yn rhagorol, a dangosodd disgyblion lefelau uchel o ofal a pharch at ei gilydd yn gyson. Fodd bynnag, roedd lleiafrif o ddisgyblion yn ei gweld yn heriol dychwelyd i’r ystafell ddosbarth, ac yn ei chael yn anodd rheoli’u hymddygiad. Mewn mwyafrif o ysgolion, roedd achosion o darfu lefel isel yn uwch na chyn y pandemig.

Dywedodd y rhan fwyaf o ddisgyblion nad oeddent wedi dioddef bwlio yn bersonol. Fodd bynnag, adroddodd ychydig iawn o ddisgyblion eu bod yn cael eu bwlio. Mewn llawer o achosion, adroddodd disgyblion fod staff wedi delio’n dda ag unrhyw achosion o fwlio, er nad ymdriniwyd yn foddhaol â’r broblem hon mewn ychydig o achosion. Er gwaethaf ymdrechion gorau llawer o staff, roedd achosion o fwlio neu aflonyddu o ganlyniad i rywioldeb, hil neu rywedd disgyblion yn yr holl ysgolion. Mae rhai disgyblion ym mhob ysgol yn cael profiad o rywfaint o aflonyddwch rhywiol. Teimlai mwyafrif fod staff wedi ymdrin yn briodol â’r mater hwn, ond teimlai rhai eraill fod staff yn ei anwybyddu, ac nid ydynt yn mynd i’r afael â’r mater hwn yn ddigon da.

Roedd llawer o ddisgyblion yn mwynhau’u gwersi ac yn dangos agweddau cadarnhaol at eu dysgu. Dangoswyd gwydnwch gan y disgyblion hyn, ac roeddent yn ysgwyddo cyfrifoldeb cynyddol dros eu dysgu eu hunain. Fodd bynnag, roedd diffyg hyder gan leiafrif o ddisgyblion, ac roedd angen anogaeth arnynt i ddyfalbarhau ac edrych am atebion pan roeddent yn wynebu anawsterau. Mewn ychydig o ysgolion, roedd llawer o ddisgyblion yn gweithio’n ddyfal ac roedd ganddynt ddyheadau uchel ar gyfer y dyfodol. Yn yr ysgolion hyn, roeddent yn cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol ysgogol a’u helpodd i ehangu eu gorwelion. Gweler astudiaeth achos Ysgol Uwchradd Whitmore i gael syniadau ar sut i ddatblygu diwylliant effeithiol ar gyfer dysgu. Mewn ychydig o achosion, roedd disgyblion yn dangos diffyg diddordeb yn eu gwaith, ac roeddent yn ymddwyn yn aflonyddgar, ac effeithiodd hynny ar eu dysgu nhw a dysgu disgyblion eraill.

Mewn llawer o ysgolion, roedd disgyblion yn elwa o ystod eang o gyfleoedd i ddylanwadu ar fywyd ysgol a datblygu eu medrau arwain. Mae astudiaethau achos Ysgol Bro Myrddin ac Ysgol Stanwell yn darparu enghreifftiau defnyddiol. Yn ogystal â’r cyngor ysgol, roedd gan lawer o ysgolion grwpiau disgyblion sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth o faterion sy’n peri pryder iddynt, fel yr amgylchedd, hyrwyddo’r Gymraeg neu faterion LHDTC+. Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn y chweched dosbarth yn cael cyfleoedd buddiol i ddatblygu’u medrau arwain a rhyngbersonol trwy weithgareddau fel arwain grwpiau disgyblion amrywiol, arwain tai, a mentora a chefnogi disgyblion bregus.

Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu eu dealltwriaeth o sut i wneud dewisiadau bwyta ac yfed iach yn briodol, er bod y rhan fwyaf o ysgolion wedi adrodd am fwy o faterion yn ymwneud â defnyddio e-sigaréts ar safle’r ysgol. Mewn lleiafrif o achosion, roedd staff yn cynnig lefelau uchel o anogaeth i ddisgyblion i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, ac roedd yr ysgol yn cynnig llawer o gyfleoedd a oedd yn darparu ar gyfer ystod eang o ddiddordebau.

Addysgu a phrofiadau dysgu

Yn ystod cyfnodau clo, bu’n rhaid i athrawon wneud addasiadau sylweddol i’r ffordd yr oedden nhw’n addysgu. Un deilliant cadarnhaol o hyn oedd bod y rhan fwyaf o athrawon wedi datblygu’u gallu i ddefnyddio ystod eang o gymwysiadau digidol i wella’u haddysgu. Ers i ddisgyblion ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth, roedd athrawon yn wynebu mesurau diogelwch a hylendid llym a oedd yn rhwystro’u haddysgu. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • gwaharddiadau ar symud o amgylch yr ystafell ddosbarth
  • yr angen i ddisgyblion a staff wisgo mygydau wyneb
  • gwaharddiadau ar rai gweithgareddau, fel gwaith grŵp neu waith ymarferol
  • yr angen i osod gwaith disgyblion ‘dan gwarantin’ cyn ei farcio

Roedd y mesurau hyn yn creu rhwystr sylweddol rhag addysgu effeithiol yn yr ystafell ddosbarth.

Ers diddymu’r mesurau hyn, dychwelodd llawer o athrawon i’w methodolegau blaenorol fel trefnu gwaith grŵp, symud o amgylch yr ystafell ddosbarth i wirio dealltwriaeth disgyblion a chynnig cymorth unigol. Fodd bynnag, roedd ychydig yn parhau i deimlo’n orbryderus ac yn tueddu aros ym mhen blaen y dosbarth a chyflwyno’u gwersi oddi yno. Yn yr achosion hyn, roedd diffyg rhyngweithio buddiol rhwng athrawon a disgyblion.

Mewn ychydig iawn o ysgolion, roedd yr addysgu’n effeithiol eithriadol o ran sicrhau gwelliannau yn nysgu’r disgyblion. Yn yr achosion hyn, roedd bron yr holl athrawon yn adnabod eu disgyblion yn dda ac yn defnyddio gwybodaeth o asesiadau yn fedrus i addasu eu haddysgu. Roedd y rhan fwyaf o athrawon yn cynllunio’u gwersi’n fanwl iawn ac yn darparu adnoddau dysgu ysgogol o ansawdd uchel i ddisgyblion. Roeddent yn uchelgeisiol dros eu disgyblion ac yn cynnig lefelau uchel iawn o her iddynt. Eglurwyd syniadau cymhleth ganddynt drwy eu rhannu’n gamau symlach, ac roeddent yn modelu dulliau datrys problemau soffistigedig fel bod disgyblion yn gallu eu hefelychu a’u cymhwyso. Roeddent yn cefnogi dysgu disgyblion trwy gymorth unigol targedig, ac yn tynnu’r lefel cymorth yn ôl yn fedrus er mwyn datblygu’u hannibyniaeth. Gweler astudiaeth achos Ysgol Uwchradd Whitmore i gael gwybodaeth am sut y datblygwyd dull ysgol gyfan ganddynt i sicrhau safonau uchel mewn addysgu a dysgu.

Yn y rhan fwyaf o ysgolion, roedd athrawon yn meithrin perthnasoedd gweithio cadarnhaol gyda disgyblion ac yn rheoli’u hystafelloedd dosbarth yn effeithiol. Yn gyffredinol, roeddent yn fodelau iaith da ac roedd ganddynt wybodaeth a dealltwriaeth bynciol gryf. Roedd disgwyliadau priodol gan fwyafrif o athrawon o ran yr hyn y gallai disgyblion ei gyflawni ac roeddent yn cynllunio’u gwersi yn effeithiol, gan drefnu gwybodaeth a medrau yn gamau dilynol sy’n adeiladu’n rhesymegol ar ei gilydd. Roeddent yn rhannu nodau dysgu yn glir gyda disgyblion ac yn meithrin amgylchedd dysgu lle nad oedd disgyblion yn ofn gwneud camgymeriadau. F wnaethant addasu eu haddysgu yn fedrus i gydweddu â dealltwriaeth disgyblion.

Roedd diffygion cyffredin yn yr addysgu mewn lleiafrif o wersi. Yn fwyaf aml, roeddent yn cynnwys:

  • disgwyliadau isel o ran beth allai disgyblon ei gyflawni
  • cynllunio gwael, lle rhoddwyd cyfres o dasgau di-her i ddisgyblion a oedd yn eu cadw’n brysur ond nad oeddent yn sicrhau gwelliant
  • diffyg cyfathrebu ynghylch beth yr oedd disgwyl i ddisgyblion ei ddysgu
  • diffyg addasu i gyfateb i lefel gallu neu ddealltwriaeth disgyblion
  • rheolaeth wael ar ymddygiad disgyblion
  • mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, nid oedd anogaeth ddigonol i ddisgyblion ddefnyddio Cymraeg yn aml, ac nid oedd athrawon bob amser yn defnyddio’r iaith yn eu haddysgu neu yn eu rhyngweithiadau â disgyblion

Defnyddiodd mwyafrif o athrawon ystod eang o ddulliau asesu yn briodol. Yn yr achosion mwyaf effeithiol, nid oeddent yn marcio’r holl ddarnau gwaith yn drwyadl. Yn lle hynny, roeddent yn monitro dealltwriaeth disgyblion yn gyson yn ystod gwersi ac yn cynnig adborth a chyngor llafar iddynt ar sut i wella’u gwaith yn y fan a’r lle. Roedd yr athrawon hyn yn targedu darnau gwaith estynedig a oedd yn galluogi disgyblion i dynnu nifer o agweddau at ei gilydd o’u dysgu diweddar. Roedd y darnau gwaith hyn yn cael eu marcio’n ofalus yn erbyn meini prawf cyffredin, a chynigiai athrawon adborth ysgrifenedig defnyddiol i ddisgyblion ar bethau roedden nhw wedi’i wneud yn dda ac agweddau yr oedd angen eu gwella. Roedd athrawon yn sicrhau bod disgyblion yn ymateb i’r rhain ac yn gwneud gwelliannau.

Roedd mwyafrif o athrawon yn defnyddio ystod eang o dechnegau holi i ddatblygu meddwl disgyblion a’u cael nhw i ymhelaethu ar eu hatebion yn dda. Roeddent yn sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael eu cynnwys mewn ateb cwestiynau. Roedd yr athrawon mwyaf effeithiol yn cael disgyblion i wneud sylwadau ar ymatebion disgyblion eraill, ac roedd hyn yn sicrhau bod rhaid iddynt wrando’n ofalus a datblygu’u gallu i feddwl yn feirniadol. Fodd bynnag, roedd lleiafrif o athrawon naill ai ddim yn gofyn cwestiynau i’w disgyblion, neu roeddent yn dibynnu’n gyfan gwbl ar gwestiynau caeedig i wirio’u gallu i alw i gof.

Er bod llawer o arweinwyr yn gadarnhaol ynglŷn â’r posibiliadau ar gyfer arloesi a gynigiwyd gan y Cwricwlwm i Gymru, fe wnaeth llawer o ysgolion oedi eu cynlluniau ar gyfer gwneud newid sylweddol i’w cwricwlwm yn y tymor byr oherwydd y pandemig. Lle’r oedd arweinyddiaeth yn gryf, dychwelodd ysgolion uwchradd i’w cynllunio yn ystod 2021-2022 ac roeddent yn gwneud cynnydd da i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, gyda ffocws penderfynol ar wella addysgu a dysgu proffesiynol o ansawdd uchel.

Un nodwedd nodedig o nifer o arolygiadau uwchradd oedd y ffordd yr oedd ysgolion yn dylunio’u cwricwlwm gyda ffocws cryf ar eu bro, fel y dangosir yn yr astudiaeth achos hon o Ysgol Uwchradd Cathays. Yn yr achosion gorau, roedd ysgolion yn cydnabod yr angen i feithrin cysylltiadau cwricwlwm cryf â’u hysgolion cynradd partner er mwyn cefnogi dylunio’r cwricwlwm.

Roedd cynnydd tuag at y Cwricwlwm i Gymru yn arafach neu’n anghyson ar draws y cwricwlwm mewn rhai ysgolion. Mae hyn oherwydd eu bod yn canolbwyntio gormod ar weledigaeth a dyluniad y cwricwlwm ar draul gwella ansawdd addysgu a darpariaeth er mwyn sicrhau datblygu medrau disgyblion yn gynyddol. Bwriedir i’r gyfres hon o sbardunau hunanfyfyrio gynorthwyo ysgolion uwchradd wrth gynllunio ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

Roedd ysgolion yn gyffredinol yn pryderu ynghylch sut byddent yn asesu ac yn olrhain cynnydd o dan y trefniadau cwricwlaidd newydd, a goblygiadau cymwysterau newydd ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

Mewn llawer o ysgolion, bu staff yn treialu ymagweddau newydd at eu cynllunio. Lle’r oedd y rhain yn fwyaf llwyddiannus:

  • roedd adrannau’n meddwl yn ofalus ynglŷn â’r wybodaeth bynciol, y medrau a’r profiadau y mae angen i ddisgyblion eu datblygu
  • lle bo’n briodol, roedd staff yn rhoi ystyriaeth ofalus i ble fyddai dysgu’n elwa o synergeddau naturiol rhwng pynciau
  • roedd dilyniant ym medrau a gwybodaeth disgyblion wedi’i gynllunio’n ofalus ymlaen llaw (gweler astudiaeth achos Ysgol Penglais)
  • roedd staff yn cynllunio unrhyw waith ar y cyd yn ofalus, ac yn cael amser i feddwl am eu dulliau addysgu a dysgu
  • roedd adrannau wedi gweithio ar ddatblygu eu dulliau addysgu er mwyn manteisio i’r eithaf ar fuddion dysgu disgyblion

Lle’r oedd yr ymagweddau hyn yn llai llwyddiannus, roedd adrannau:

  • wedi cynllunio dulliau thematig neu drawsgwricwlaidd heb ystyried yn ofalus sut y gallai hyn fod yn fuddiol
  • wedi meddwl mwy am beth yr oeddent am i ddisgyblion ei wneud yn hytrach na beth maen nhw eisiau iddynt ddysgu
  • wedi cynhyrchu taflenni ticio ar gyfer disgyblion i nodi pa agwedd benodol ar bedwar diben y Cwricwlwm i Gymru yr oeddent yn ei datblygu
  • heb ystyried yn ddigon gofalus sut byddent yn mynd i’r afael â’u haddysgu

At ei gilydd, nid oedd ysgolion uwchradd yn cynllunio’n ddigon da mewn partneriaeth ag ysgolion cynradd i sicrhau dilyniant cyson mewn gwybodaeth a medrau ar draws y cwricwlwm. Roedd hyn yn arbennig o wir ar gyfer TGCh a Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Yn gyffredinol, roedd ysgolion yn cynnig cyfleoedd dysgu priodol i ddisgyblion yn eu rhaglenni addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh). Fodd bynnag, mewn lleiafrif o achosion, megis dechrau oedd y cynllunio ar gyfer perthnasoedd ac addysg rhyw, yn enwedig mewn perthynas â meysydd fel rhywioldeb, iechyd rhywiol ac agweddau at berthnasoedd. Mewn mwyafrif o ysgolion, roedd adrannau’r dyniaethau yn cynllunio’n briodol i ehangu eu harchwiliad o hanes grwpiau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. I gael mwy o fanylion, gweler ein hadroddiad thematig ar Addysgu hanes Cymru, gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a’n hadnodd i ddisgyblion i archwilio’r mater hwn. Mae crynodeb o’r adroddiad ar gael yma.

Yn gyffredinol, roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn cynnig cwricwlwm rhesymol o eang a chytbwys i’w disgyblion. Fodd bynnag, roedd nifer gynyddol o ysgolion yn caniatáu i ddisgyblion wneud dewisiadau pwnc ar gyfer cymwysterau ym Mlwyddyn 8. Roedd y strategaeth hon yn caniatáu mwy o amser i ddisgyblion astudio a pharatoi ar gyfer arholiadau. Fodd bynnag, roedd yn cyfyngu ar ehangder profiadau dysgu disgyblion. Yn ogystal, nid oedd llawer o ddisgyblion yn barod i wneud y dewisiadau hyn yn ystod Blwyddyn 8, gan mai dim ond ers pedwar tymor yr oeddent wedi bod mewn ysgolion uwchradd. Mewn ychydig iawn o achosion, nid oedd cwricwlwm yr ysgol yn bodloni gofynion statudol.

Eleni, edrychom hefyd ar y cyfleoedd cwricwlwm cyffredinol ar draws ysgolion, colegau a dysgu yn y gwaith ar gyfer dysgwyr 16 i 19 oed ledled Cymru. Fe wnaethant ddarganfod bod gormod o amrywio yn y cyfleoedd i bobl ifanc, gan ddibynnu ar ble maen nhw’n byw. Gallwch ddarllen mwy am ein canfyddiadau yma.

Medrau

Roedd llawer o ysgolion yn cynllunio’n briodol i ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion ar draws y cwricwlwm. Fodd bynnag, roedd cynllunio i ddatblygu medrau TGCh disgyblion ar gam cynnar yn y rhan fwyaf o ysgolion.

Talwyd sylw da gan fwyafrif o ysgolion cyfrwng Cymraeg i ddatblygu meistrolaeth disgyblion ar y Gymraeg a dathlu treftadaeth a diwylliant Cymru, fel y dangoswyd yn astudiaeth achos Ysgol Bro Myrddin. Mewn lleiafrif o achosion, nid oedd yr agwedd hon yn cael digon o flaenoriaeth.

Mewn ysgolion dwyieithog ac ysgolion cyfrwng Saesneg, nid oedd digon o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio Cymraeg y tu allan i wersi Cymraeg. Yn aml, nid oedd ysgolion dwyieithog yn cynnig ystod ddigon eang o gyrsiau i ddisgyblion astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gofal, cymorth ac arweiniad

Roedd staff ysgolion yn dra ymwybodol o anghenion disgyblion wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol yn dilyn cyfnodau clo. Gwnaed lles disgyblion yn flaenoriaeth ym mron yr holl ysgolion. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd staff yn cynnig cymorth cryf i ddisgyblion ag anghenion emosiynol, iechyd a chymdeithasol penodol, a gwnaethant ddefnydd da o asiantaethau allanol pan roedd angen. Yn gynyddol, fe wnaeth ysgolion ehangu ac addasu eu darpariaeth eu hunain i gefnogi lles disgyblion oherwydd y galw ac anhawster cynyddol i gael gwasanaethau allanol. O ganlyniad i’w hymdrechion yn y maes hwn, teimlai llawer o ddisgyblion bod gofal da iddynt gan eu hysgol, ac fe wnaethant addasu’n dda i ddychwelyd i addysg ‘arferol’ yn yr ysgol.

Ym mhob ysgol, roedd staff yn ymdrechu i ddatblygu ethos cynhwysol. Roedd y rhan fwyaf yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i ddisgyblion i hyrwyddo’u datblygiad ysbrydol, moesol a diwylliannol. Roeddent yn annog disgyblion i ddathlu gwahaniaeth ac yn hyrwyddo cydraddoldeb yn gryf. Mewn llawer o achosion, fe wnaethant ddarparu cyngor defnyddiol iddynt hefyd ar lwybrau yn y dyfodol, fel y dangosir yn yr astudiaeth achos hon o Ysgol Stanwell.

Roedd gweithdrefnau ystyriol iawn gan y rhan fwyaf o ysgolion ar gyfer delio ag unrhyw ddigwyddiadau o fwlio ac aflonyddu, ac roedd polisi ymddygiad effeithiol gan lawer ohonynt a oedd yn cael ei gymhwyso’n gyson gan y rhan fwyaf o staff. I ymateb i gynnydd mewn tarfu lefel isel ac anawsterau yr oedd lleiafrif o ddisgyblion yn eu cael wrth ailaddasu i arferion ysgol yn dilyn y pandemig, fe wnaeth llawer o ysgolion adolygu eu polisïau ymddygiad a rhoesant ffocws o’r newydd ar hyn. Mewn ychydig o achosion, roedd anghysondeb yn y ffordd yr oedd staff yn cymhwyso sancsiynau a gwobrau. Yn aml, arweiniodd hyn at ddryswch ymhlith disgyblion ac ymdeimlad o annhegwch. Roedd llawer o ysgolion yn datblygu eu darpariaeth ar gyfer atal a mynd i’r afael â digwyddiadau o aflonyddu rhywiol yn briodol. Gweler ein hadroddiad ar Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd i gael mwy o wybodaeth. Hefyd, mae gennym adnoddau i ysgolion eu defnyddio i archwilio’r mater hwn, yn ogystal â fersiwn o’r adroddiad i ddisgyblion a chrynodeb o’r adroddiad yma.

Roedd bron yr holl staff yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau i gadw plant yn ddiogel, ac roedd trefniadau addas ar gyfer hyfforddiant staff mewn materion yn ymwneud â diogelu ac amddiffyn plant ym mron yr holl ysgolion. Mewn ychydig o achosion, fodd bynnag, nid oedd systemau ysgolion ar gyfer cofnodi pryderon disgyblion yn ddigon cadarn na diogel. Mewn ychydig o achosion, nid oedd ysgolion yn sicrhau bod y safle’n ddigon diogel neu eu bod yn cydymffurfio’n ddigonol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch.

Roedd y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn gryfder mewn llawer o ysgolion. Yn gyffredinol, roedd timau cymorth dysgu’n adnabod disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn dda, ac roeddent yn darparu cymorth ystyriol ar gyfer eu dysgu. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd ysgolion yn gwneud cynnydd da wrth baratoi ar gyfer gofynion y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Yn gyffredinol, roedd ‘Proffiliau un dudalen’ a ‘Chynlluniau Addysg Unigol’ yn darparu gwybodaeth fanwl i staff am sut i ddiwallu anghenion disgyblion penodol ac yn cynnwys targedau clir, mesuradwy. Lle’r oedd gan ysgolion ganolfan adnoddau arbenigol, roeddent yn darparu amgylchedd diogel a chroesawgar ac yn sicrhau bod disgyblion yn y canolfannau yn cael eu hintegreiddio i ddosbarthiadau prif ffrwd yn briodol.

Roedd systemau effeithiol gan y rhan fwyaf o ysgolion i olrhain cynnydd a lles disgyblion. Defnyddiwyd gwybodaeth o’r system hon gan staff yn dda i ddarparu ymyriadau ystyriol i gefnogi lles disgyblion a’u cynnydd academaidd.

Ers Medi 2021, bu’r rhan fwyaf o ysgolion yn cadw golwg fanwl ar bresenoldeb disgyblion, ac yn hyrwyddo’n gynyddol bwysigrwydd presenoldeb cyson, er iddynt weld mynd i’r afael ag absenoldeb parhaus yn arbennig o heriol.

Arweinyddiaeth

Yn ystod cyfnodau clo, roedd arweinwyr ysgol yn wynebu problemau newydd, a oedd yn esblygu’n gyflym. Fe wnaethant adweithio gyda chryfder a gwydnwch i gadw eu cymuned ysgol yn ddiogel ac i liniaru effaith mesurau i reoli lledaeniad COVID-19. Roedd gofynion ychwanegol sylweddol gan arweinwyr ar eu llwyth gwaith. Er gwaetha’r heriau aruthrol a wynebwyd ganddynt, bu llawer o arweinwyr yn cadw llygad ar ddatblygiadau’r dyfodol, ac fe wnaethant barhau i wneud penderfyniadau strategol pan oedd y rhain yn bosibl.

Fe wnaeth llawer o ysgolion newid amseriadau a strwythur y diwrnod ysgol yn ystod cyfnodau clo. Cadwodd llawer o ysgolion rai o’r agweddau hyn, yn enwedig ‘amseroedd egwyl a chinio rhanedig’ lle’r oedd grwpiau blwyddyn gwahanol yn cael eu hamseroedd egwyl ar adegau gwahanol. Fodd bynnag, roedd y trefniadau hyn yn rhoi gofynion ychwanegol ar staff i oruchwylio disgyblion, ac effeithiodd hynny’n negyddol ar glybiau amser cinio. Mewn ychydig iawn o achosion, roedd amseroedd cinio’n rhy fyr i ddisgyblion gymdeithasu, ymlacio neu ganlyn diddordebau eraill, ond dywedodd rhai disgyblion, yn enwedig y rhai iau, fod y trefniant hwn yn fuddiol gan nad oedden nhw’n teimlo eu bod yn cael eu bygwth gan ddisgyblion hŷn.

Datblygodd y rhan fwyaf o uwch arweinwyr eu cyfathrebu â rhieni a gwarcheidwaid yn sylweddol yn ystod cyfnodau clo. Mewn llawer o achosion, roedd hyn ar ffurf flogiau wythnosol neu negeseuon e-bost i roi diweddariadau ar bolisïau, ac arolygon i ofyn am farnau rhieni ar ddarpariaeth yr ysgol. Yn gyffredinol, roedd rhieni a gwarcheidwaid yn gwerthfawrogi’r cyswllt rheolaidd hwn yn fawr iawn, a daeth perthnasoedd rhwng y cartref ac ysgolion yn agosach.

Yn ystod cyfnodau clo, ac ar ôl dychwelyd i addysgu wyneb yn wyneb, rhoddodd arweinwyr flaenoriaeth i les disgyblion a staff. Cafodd y prosesau sicrhau ansawdd arferol eu hatal dros dro. Ers dychwelyd i fywyd ysgol a phrosesau mwy arferol, rhoddodd arweinwyr ystyriaeth ofalus i’r cydbwysedd rhwng dwyn staff i gyfrif a diogelu eu lles. Mewn mwyafrif o ysgolion, dychwelodd arweinwyr i weithredu eu set lawn o weithgareddau i lywio hunanwerthuso. Fodd bynnag, oherwydd y bwlch yn y gweithgareddau hyn, nid oedd gan arweinwyr ddealltwriaeth gynhwysfawr bob amser o’r cryfderau a meysydd i’w gwella yn eu hysgolion. Diffyg cyffredin ymhlith arweinwyr ar bob lefel oedd eu diffyg dealltwriaeth o sut i werthuso addysgu yn sgil ei effaith ar ddysgu. Mae’r set hon o sbardunau hunanfyfyrio yn cynorthwyo ysgolion i wella’r agwedd hon ar eu gwaith.

Roedd ymdeimlad cryf o gydweithio yn y rhan fwyaf o ysgolion. Roedd rolau a chyfrifoldebau wedi’u dosbarthu’n feddylgar, roedd llinellau atebolrwydd yn glir ac roedd cyfathrebu da. Mewn ychydig o ysgolion, fodd bynnag, nid oedd y dosbarthiad cyfrifoldebau yn deg ac roedd gormod o gyfrifoldebau trwm yn cael eu rhoi i ychydig o uwch arweinwyr.

Mewn llawer o achosion, roedd uwch arweinwyr yn ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol a lleol fel y rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol a datblygu’u cwricwlwm yn dda. Roedd mwyafrif o ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn rhoi blaenoriaeth uchel i sicrhau bod disgyblion yn datblygu eu meistrolaeth o’r iaith. Nid oedd hyn yn wir mewn lleiafrif o achosion, fodd bynnag.

Mewn llawer o ysgolion, roedd llywodraethwyr yn chwarae rhan weithgar a buddiol i gefnogi’r ysgol. Yn yr enghreifftiau gorau, roedd dealltwriaeth gynhwysfawr ganddynt o gryfderau’r ysgol a meysydd i’w gwella, ac roeddent yn cynnig her gadarn i arweinwyr a helpodd i arwain eu penderfyniadau. Mewn ychydig o achosion, nid oedd llywodraethwyr yn deall eu rôl i gynnig her i arweinwyr yn ddigon da.

Derbyniodd pob ysgol gynnydd sylweddol i’w cyllidebau yn sgil grantiau penodol. O ganlyniad, roedd y rhan fwyaf o ysgolion mewn sefyllfa ariannol gadarnhaol. Fodd bynnag, oherwydd yr amodau a’r graddfeydd amser a oedd yn gysylltiedig â gwario grantiau penodol, nid oedd arweinwyr bob amser yn gallu defnyddio’r cyllid ychwanegol hwn i sicrhau’r effaith fwyaf.

Mewn mwyafrif o ysgolion, roedd dysgu proffesiynol wedi’i gynllunio’n dda ac yn cael effaith ar ansawdd addysgu a dysgu. Yn yr achosion mwyaf effeithiol, roedd arweinwyr yn cynllunio ystod o weithgareddau buddiol a oedd yn helpu staff i gael gwybod am ganfyddiadau o ymchwil berthnasol i lywio’u harfer, ac roedd athrawon newydd gymhwyso yn cael eu cefnogi’n effeithiol trwy raglen ymsefydlu gynhwysfawr. Mae’r astudiaethau achos o Ysgol Uwchradd Cathays ac Ysgol Penglais yn egluro sut mae arweinwyr wedi datblygu’r ddarpariaeth dysgu proffesiynol yn eu hysgolion. Mewn ychydig o achosion, nid oedd dysgu proffesiynol yn canolbwyntio’n ddigon cryf ar wella addysgu.