Mynd i'r cynnwys
Plentyn yn garddio yn yr ysgol

Darparwyr sydd wedi gwella’n gyflym

Pan fydd arolygwyr yn nodi diffygion difrifol yn ansawdd a chysondeb addysgu, ac effeithiolrwydd arweinyddiaeth yn gyffredinol adeg yr arolygiad craidd, mae darparwyr yn cael eu rhoi mewn categori gweithgarwch dilynol. Ar gyfer ysgolion ac UCDau, mae dau gategori statudol o weithgarwch dilynol, sef angen mesurau arbennig neu welliant sylweddol, yn ogystal â chategori anstatudol, sef adolygu gan Estyn. Mae gan sectorau eraill drefniadau gwahanol, ond mae gan bob un lefelau o weithgarwch dilynol. Yna, mae arolygwyr yn monitro’r gwelliannau y mae’r darparwyr yn eu gwneud dros amser. Rydym yn parhau i fonitro darparwr nes bod y gwelliannau’n ddigon cadarn i gael effaith ar ddeilliannau i ddysgwyr, ac mae arweinwyr yn dangos gallu gwell i sicrhau rhagor o welliannau. Fe wnaeth 27 o ddarparwyr mewn categorïau statudol fodloni’r meini prawf hyn a chawsant eu tynnu o weithgarwch dilynol yn 2021-2022. Ceir manylion y darparwyr hyn yma. Yn ogystal, cafodd 39 o ddarparwyr ar draws yr holl sectorau eu tynnu o gategori gweithgarwch dilynol anstatudol.

Gellir dysgu gwersi gwerthfawr gan ddarparwyr sydd wedi’u tynnu o weithgarwch dilynol. Mae’r rhain yn cynnwys gwersi am sut i wneud cynnydd cyflym a beth sy’n gweithio a ddim yn gweithio o ran cefnogi gwelliant.

Beth oedd y gwelliannau allweddol a nodwyd gan arolygwyr pan oedd darparwyr yn cael eu tynnu o weithgarwch dilynol pellach?

  • Roedd gan arweinwyr weledigaeth gytûn a chlir, a disgwyliadau uchel ar gyfer y ddarpariaeth, yn seiliedig ar gydweithio cryf ymhlith athrawon ac ymarferwyr eraill. Gweler cameo Ysgol Gynradd Plasnewydd.
  • Roedd y gallu i arwain wedi gwella, a thîm arwain gwydn, sefydlog â ffocws da. Roedd arweinwyr wedi canolbwyntio ar feithrin gallu i arwain a chynllunio ar gyfer olyniaeth trwy ddysgu proffesiynol. Gweler cameo Ysgol Bryn Celyn. Mae’r adnodd hwn yn darparu cwestiynau hunanfyfyrio ar sut y gall darparwyr sy’n gwella feithrin eu gallu i arwain.
  • Roedd perthnasoedd proffesiynol gwell a chefnogol, ac ymdeimlad o waith tîm ymhlith staff ar bob lefel. Roedd arweinwyr yn cynorthwyo athrawon i fyfyrio ar arfer ac i ymateb yn gadarnhaol i argymhellion a amlygwyd yn adroddiad yr arolygiad craidd cychwynnol. Gweler cameo Ysgol Bryn Alyn.
  • Roedd staff yn rhannu dealltwriaeth glir o addysgu a dysgu o ansawdd da. Roeddent yn cymryd cyfrifoldeb proffesiynol dros wella ansawdd eu harfer eu hunain o ddifrif. Gweler cameo Ysgol Croesyceiliog. Mae’r adnodd hwn yn darparu cwestiynau hunanfyfyrio ar sut y gall darparwyr sy’n gwella ganolbwyntio ar ddarpariaeth o ansawdd uchel yn yr ystafell ddosbarth.
  • Daeth arweinwyr i ddeall pwysigrwydd sicrhau bod y cwricwlwm yn bodloni anghenion eu dysgwyr a’u cymuned.
  • Roedd monitro cadarn gan arweinwyr ar bob lefel a arweiniodd at werthusiadau cywir o beth oedd yn gweithio’n dda a beth nad oedd yn gweithio cystal, a chyfrannodd hynny’n uniongyrchol at flaenoriaethau gwella a dysgu proffesiynol.
  • Roedd pawb, gan gynnwys y dysgwyr, yn deall pwysigrwydd ymddygiad da ac agweddau da at ddysgu, a phresenoldeb rheolaidd. 
  • Roedd dysgu proffesiynol gwerth chweil yn canolbwyntio ar wella ansawdd addysgu a dysgu.

Pan fydd darparwr yn cael ei dynnu o weithgarwch dilynol, mae tystiolaeth glir fod bron yr holl ddysgwyr yn dechrau gwneud y cynnydd y dylent fod yn ei wneud. Mae hyn oherwydd eu bod wedi ymgysylltu â’u dysgu, mae ganddynt agweddau cadarnhaol ac maent yn ymddwyn yn dda. Mae athrawon yn cynllunio gweithgareddau dysgu gwerth chweil sy’n rhoi ystyriaeth dda i fannau cychwyn dysgwyr ac yn herio’r holl ddysgwyr yn briodol.

  • Roedd parodrwydd ymhlith arweinwyr i addasu cynlluniau a chamau gweithredu i wella yn seiliedig ar wybodaeth a thystiolaeth ddiweddar. Yn benodol, roedd arweinwyr yn y darpariaethau hyn yn cyflwyno prosesau hyblyg ac yn ddigon ymatebol i addasu eu cynlluniau o ganlyniad i effaith COVID19 a’u gallu tebygol i weithredu eu camau gweithredu a gynlluniwyd yn wreiddiol. Gweler cameo Ysgol Gymraeg Ffwrnes.
  • Roedd arweinwyr yn blaenoriaethu’n ddoeth. Roeddent yn deall na allen nhw wneud popeth ar unwaith, ac fe wnaethant ganolbwyntio’n gyntaf ar yr hyn yr oedd angen y sylw mwyaf. Gweler cameo Canolfan Addysg Tŷ Gwyn.
  • Nid oedd arweinwyr yn ‘canlyn pob llif’. Daethant i ddeall y gallai cyflwyno gormod o strategaethau a pheidio â theilwra strategaethau i gyd-destun yr ysgol neu’r darparwr orlethu staff a dysgwyr a mynd yn wrthgynhyrchiol. Gweler cameo Addysg Oedolion Cymru.
  • Lle bo’n briodol, defnyddiodd awdurdodau lleol eu pwerau statudol yn llwyddiannus i bennu llywodraethwyr ychwanegol, profiadol i ymuno â’r bwrdd presennol. Roedd y trefniadau hyn yn llwyddiannus yn gyffredinol wrth ddatblygu gallu’r corff llywodraethol. Mewn ychydig iawn o ysgolion yn y categori mesurau arbennig, fe wnaeth byrddau gweithredol interim ddisodli’r corff llywodraethol i ddarparu cyfeiriad strategol a her a chymorth priodol i arweinwyr yr ysgol. Mae byrddau gweithredol interim yn gweithredu am gyfnod amser penodedig cyn trosglwyddo trefniadau llywodraethu’n ôl i gorff llywodraethol.
  • Mewn ysgolion ac UCDau fel ei gilydd, roedd perthnasoedd gweithio cryfach gyda’r awdurdod lleol, gan gynnwys gweithio amlasiantaeth cadarn a ddarparodd ymagwedd gydlynus at fodloni ystod amrywiol o anghenion dysgwyr mewn darpariaethau arbenigol. Mewn lleoliadau nas cynhelir, cafodd gweithio agos gydag athrawon cymorth yr awdurdod lleol a sefydliadau ambarél i ddarparu hyfforddiant i staff effaith gadarnhaol ar hyder ac arbenigedd staff. Gweler cameo Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Powys.

Yn fwyaf aml, pan fydd darparwyr yn barod i gael eu tynnu o weithgarwch dilynol, mae arolygwyr yn nodi ffocws diflino ar draws y ddarpariaeth ar wella ansawdd arfer yn yr ystafell ddosbarth. Addysgu a dysgu yw diben craidd ac eglur y darparwr, ac maent yn rhan annatod o’r weledigaeth. Mae gan bawb ddisgwyliadau uchel o’r hyn y gall dysgwyr ei gyflawni, ac mae gan ddysgwyr uchelgeisiau uchel priodol ar gyfer eu dyfodol.

  • Roedd perthnasoedd gwell gyda rhanddeiliaid a cheisiodd darparwyr farnau dysgwyr, staff a rhieni yn benodol, a gweithredu arnynt. Gweler cameo Cymuned Ddysgu Abertyleri.
  • Mewn lleoliadau nas cynhelir yn benodol, roedd ffocws clir ar ddarparu cyfleoedd i blant chwarae’n ddirwystr. Roedd ymarferwyr yn defnyddio mannau ac adnoddau dan do ac awyr agored i annog plant i ddatblygu hunanhyder, gan wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Roedd ymarferwyr yn dod yn fwy ymwybodol o bwysigrwydd cefnogi chwarae, gan ymyrryd lle bo’n briodol i gefnogi medr arbennig. Gweler cameo Cylch Meithrin Llannerch-y-medd.
  • Yn y lleoliadau hyn, roedd arweinwyr yn ymateb yn briodol i faterion diffyg cydymffurfio a godwyd gan arolygwyr AGC yn ystod arolygiadau ar y cyd, i sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llawn â’r safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer gofal plant rheoleiddiedig.

Sut mae darparwyr wedi cyflawni’r gwelliannau hyn?

Mae’r astudiaethau achos isod yn rhoi enghreifftiau o sut gwnaeth y darparwyr hyn sicrhau gwelliannau, i’r graddau eu bod wedi cael eu tynnu o gategori gweithgarwch dilynol pellach.

Darparwr: Cylch Meithrin Llannerch-y-medd

Lefel gweithgarwch dilynol: Monitro gan Estyn

Tynnwyd: Rhagfyr 2021

Mae arweinwyr Cylch Meithrin Llannerch-y-medd wedi sefydlu gweledigaeth glir ar gyfer y lleoliad yn seiliedig ar ddarparu ystod eang a chyfoethog o brofiadau i’r plant. Maent wedi sefydlu prosesau hunanwerthuso, sy’n cynnwys yr holl randdeiliaid, ac yn darparu blaenoriaethau hylaw ar gyfer gwella i’r lleoliad. Wrth iddynt ddatblygu eu dull o gyflwyno’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau nas cynhelir, maent wedi codi disgwyliadau ymarferwyr ac wedi cynnig cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol. Maent yn gweithio’n agos gydag athrawon ymgynghorol yr awdurdod lleol, a gyda sefydliadau ambarél, fel y Mudiad Ysgolion Meithrin, i gyflwyno elfennau o gynllunio ymatebol, ac i ddatblygu hyder ymarferwyr. Erbyn hyn, maent yn gwneud defnydd mwy effeithiol o lawer o’r meysydd dysgu gwahanol, gan greu amgylchedd ysgogol i’r plant chwarae. Maent wedi rhannu’u gwaith gyda lleoliadau eraill ar draws yr awdurdod.

Darparwr: Ysgol Gymraeg Ffwrnes

Lefel gweithgarwch dilynol: Gwelliant sylweddol

Tynnwyd: Tachwedd 2021

Yn unol â llawer o ysgolion eraill yn ystod y flwyddyn academaidd hon, effeithiodd y pandemig COVID-19 ar allu Ysgol Gymraeg Ffwrnes i roi gwelliannau ar waith. Dangosodd arweinwyr crebwyll cadarn wrth addasu eu cynlluniau gwella, fel drwy newid yr amserlen ar gyfer gweithredu rhai gweithgareddau, neu ddefnyddio technoleg i gefnogi nodau gwella yn well. Er bod y pandemig wedi cyfyngu ar y cyfleoedd i fonitro’n uniongyrchol, parhaodd yr arweinwyr, gan gynnwys y llywodraethwyr, i werthuso agweddau pwysig yn rhithiol. Er enghraifft, fe wnaethant graffu ar ansawdd y ddarpariaeth dysgu o bell er mwyn adnabod yr hyn oedd yn dda a beth roedd angen ei wella. Creodd arweinwyr gynllun gwella ysgol pwrpasol sy’n cynnwys argymhellion yr arolygiad craidd yn ogystal â blaenoriaethau eraill. Gwnaeth arweinwyr fonitro’u cynnydd yn erbyn y camau gweithredu yn ofalus, gan nodi’n glir yr hyn a oedd wedi ei gyflawni a beth fyddai’r camau nesaf. O ganlyniad i’r trefniadau hunanwerthuso cadarn, gwnaeth yr ysgol gynnydd da yn erbyn argymhellion yr arolygiad craidd.

Darparwr: Canolfan Addysg Tŷ Gwyn

Lefel gweithgarwch dilynol: Mesurau arbennig

Tynnwyd: Tachwedd 2021

Yng Nghanolfan Addysg Tŷ Gwyn, mae cyflwyno dulliau ac arfer sy’n ystyriol o drawma wedi cyfrannu’n sylweddol at welliannau yn y ddarpariaeth ar draws yr UCD. Cyflawnwyd hyn trwy ddatblygiad proffesiynol ar gyfer yr holl staff, gan gynnwys achrediad fel ymarferwyr sy’n ystyriol o drawma. Mae’r model cymorth ac ymyrraeth therapiwtig ar gyfer disgyblion yn gryfder. Caiff y model ei wella’n fawr gan y seicolegwyr addysg cynorthwyol sy’n gweithio’n amser llawn yn yr UCD. Mae’r dull hwn yn dyfnhau dealltwriaeth staff o ymddygiad disgyblion, ac mae’n effeithio yn ei dro ar lefelau uwch o ymgysylltiad a chynnydd gan ddisgyblion.

Darparwr: Ysgol Croesyceiliog

Lefel gweithgarwch dilynol: Adolygu gan Estyn / Mesurau arbennig

Tynnwyd: Tachwedd 2021

Arolygwyd Ysgol Croesyceiliog yn 2018 ac fe’i rhoddwyd mewn categori gweithgarwch dilynol anstatudol (adolygu gan Estyn). Pan ailymwelodd arolygwyr yn 2020, canfuwyd bod cynnydd yn rhy araf ac ystyriwyd bod angen rhoi mesurau arbennig ar waith yn yr ysgol. Penodwyd pennaeth gweithredol, a aeth ati’n gyflym i ddatblygu gweledigaeth glir ar gyfer gwella’r ysgol. Mireiniwyd rolau a chyfrifoldebau ar lefel uwch arweinwyr ac arweinwyr canol er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r staff presennol, a sicrhaodd yr arweinwyr hyn fod gwaith gwella’r ysgol yn cynnwys ffocws cynaledig ar ddatblygu arfer effeithiol yn yr ystafell ddosbarth. Fe wnaeth gweithgareddau dysgu proffesiynol gwerthfawr helpu arweinwyr i ddatblygu’u gallu i werthuso’u meysydd cyfrifoldeb yn gywir, yn enwedig effeithiolrwydd addysgu. Galluogodd hyn iddynt adnabod yn union yr agweddau penodol yr oedd angen eu datblygu.

Fe wnaeth y cyfeiriad strategol a ddarparwyd gan y pennaeth gweithredol helpu staff i gydweithio, er enghraifft trwy rannu arfer dda yn rheolaidd. O ganlyniad, gwnaeth yr ysgol gynnydd cyflym yn erbyn yr argymhellion o’r arolygiad craidd.

Darparwr: Ysgol Gynradd Plasnewydd

Lefel gweithgarwch dilynol: Mesurau arbennig

Tynnwyd: Hydref 2021

Rhoddwyd Ysgol Gynradd Plasnewydd yn y categori mesurau arbennig yn dilyn yr arolygiad craidd yn 2018. Tynnwyd yr ysgol o weithgarwch dilynol pellach yn 2021. Yn dilyn cyfnod arwain cythryblus, mae’r holl staff bellach yn deall ac yn derbyn eu rolau a’u cyfrifoldebau, ond maent yn gwybod y byddant yn cael eu dal yn atebol am unrhyw danberfformiad, lle bo’n briodol. Mae athrawon a staff cymorth yn gwerthfawrogi’r cymorth, yr hyfforddiant a’r mentora a dderbyniant gan arweinwyr i’w helpu i wneud eu gorau ar gyfer y disgyblion yn eu dosbarthiadau. Bellach, mae’r hyder gan arweinwyr i fynd i’r afael yn gadarn ag unrhyw danberfformiad. Fodd bynnag, maent yn sicrhau hefyd eu bod yn cydbwyso mynd i’r afael â thanberfformiad â chymorth ar gyfer eu cydweithwyr, er enghraifft pan fydd athrawon yn symud i ddosbarthiadau mewn grwpiau oed anghyfarwydd, neu pan fydd staff dros dro yn cyflenwi dros absenoldeb.

Mae’r cydweithio hwn rhwng staff ac arweinwyr, ynghyd â disgwyliadau uchel, clir gan bawb i wneud eu gorau, wedi cyfrannu at welliannau’r ysgol dros gyfnod. Gyda’i gilydd, mae’r camau gweithredu hyn wedi helpu adeiladu diwylliant lle mae’r holl staff yn awchus ynglŷn â’u cyfrifoldeb craidd dros addysg a chynnydd disgyblion yn eu dosbarth, ac ar draws yr ysgol. Mae’r diwylliant hwn a rennir yn cynorthwyo pawb i fod yn ‘#falch i fod yn Plas’.

Darparwr: Ysgol Gynradd Bryn Celyn

Lefel gweithgarwch dilynol: Gwelliant sylweddol / Mesurau arbennig

Tynnwyd: 2014 ac ailymwelwyd yn 2022

Cafodd Ysgol Gynradd Bryn Celyn yng Nghaerdydd ei rhoi yn y categori gwelliant sylweddol, ac yna mesurau arbennig, yn dilyn ei harolygiad craidd yn 2011. Mae’r ysgol yn gwasanaethu ardal lle ceir difreintedd sylweddol, a rhyw 74% yw cyfran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Tynnwyd yr ysgol o weithgarwch dilynol statudol yn 2014, yn dilyn tair blynedd o fonitro gan Estyn a chymorth dwys ar gyfer yr awdurdod lleol a chonsortiwm rhanbarthol.

Pan ddychwelydd arolygwyr yn 2022 i gwblhau arolygiad craidd, roedd yr ysgol wedi gwella’n nodedig ac nid oedd angen unrhyw weithgarwch dilynol arni. Roedd bron yr holl staff wedi aros yn yr ysgol, gan gynnwys y pennaeth, gan greu diwylliant o gydweithio cydlynus gyda ffocws da. Mae arweinwyr wedi sefydlu partneriaeth gref â rhieni sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus io ran codi dyheadau disgyblion. Canfu arolygwyr ffocws cryfach o lawer ar gyflawniad disgyblion ac, o ganlyniad, gwelliannau sylweddol a oedd wedi’u hymgorffori’n dda yn ansawdd addysgu ac arfer yn yr ystafell ddosbarth.

Darparwr: Cymuned Ddysgu Abertyleri

Lefel gweithgarwch dilynol: Gwelliant sylweddol / Mesurau arbennig

Tynnwyd: Chwefror 2022

Yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri, ar ôl cyfnod o ansefydlogrwydd staffio, mae’r pennaeth a’r uwch dîm arwain yn darparu arweinyddiaeth gref sydd wedi ymrwymo i sicrhau addysgu a darpariaeth o ansawdd uchel ar gyfer disgyblion o bob oed. Fe wnaethant gryfhau’r trefniadau ar gyfer hunanwerthuso a chynllunio gwelliant ar draws yr ysgol. O ganlyniad i fonitro mwy cadarn a dysgu proffesiynol priodol, mae addysgu ar draws yr ysgol wedi gwella, a chafodd hynny effaith gadarnhaol ar gynnydd, ymddygiad ac agweddau disgyblion at ddysgu. Mae dealltwriaeth dda gan y staff o’r hyn a ddisgwylir ganddynt, a’r hyn y gallan nhw ei ddisgwyl gan arweinwyr. Mae hyn wedi helpu gwella morâl staff, creu ymdeimlad o waith tîm ar draws yr ysgol a chodi disgwyliadau o ran beth gall disgyblion ei gyflawni. Hefyd, cryfhaodd arweinwyr eu trefniadau ar gyfer ymgynghori â disgyblion ynglŷn â llawer o agweddau ar waith yr ysgol, a arweiniodd at newidiadau nodedig i ddarpariaeth yr ysgol a gwelliant cyffredinol.

Darparwr: Ysgol Bryn Alyn

Lefel gweithgarwch dilynol: Mesurau arbennig

Tynnwyd: Hydref 2021

Roedd Ysgol Bryn Alyn wedi bod yn y categori mesurau arbennig am ychydig dan flwyddyn pan benodwyd y pennaeth presennol yn 2018. Canolbwyntiodd i gychwyn ar sicrhau bod disgyblion a staff yn teimlo’n falch o fod yn aelodau o gymuned yr ysgol, gan wella ymddygiad disgyblion a chryfhau’r arweinyddiaeth. Dros gyfnod o dair blynedd, ac yn arbennig yn ystod y pandemig, gweithiodd ar feithrin ymdeimlad o waith tîm ar draws yr ysgol. Roedd hyn yn hanfodol i wella’r ysgol a helpodd i newid diwylliant ac ethos yr ysgol. Er mwyn cefnogi ymddygiad cadarnhaol ymhlith disgyblion, diwygiodd yr ysgol ei chwricwlwm fel bod ystod ehangach o ddarpariaeth erbyn hyn i fodloni gwahanol anghenion a diddordebau disgyblion.

Cyflwynodd yr arweinwyr bolisi ymddygiad newydd hefyd, a datblygu’r ddarpariaeth fewnol a strategaethau cymorth i helpu disgyblion a oedd wedi colli diddordeb a dadrithio. Rhoddwyd gwedd gliriach ar rolau a chyfrifoldebau arweinwyr a chawsant eu dosbarthu’n briodol. Mae dysgu proffesiynol yn ymwneud ag agweddau fel hunanwerthuso, cynllunio gwelliant a bod yn arweinydd wedi helpu arweinwyr i ymgymryd â’u rolau yn well ac mae ganddynt ddealltwriaeth gliriach o’r cryfderau a’r meysydd i’w datblygu yn eu meysydd cyfrifoldeb nhw. Mae llywodraethwyr yn cydnabod nad oeddent, yn y gorffennol, wedi bod yn ddigon ymwybodol o’r hyn oedd yn digwydd yn yr ysgol. Erbyn hyn, maent yn sicrhau eu bod yn wybodus ac yn herio’r ysgol yn fwy effeithiol.

Darparwr: Addysg Oedolion Cymru

Lefel gweithgarwch dilynol: Adolygu gan Estyn / Mesurau arbennig

Tynnwyd: Mehefin 2021

Arolygwyd Addysg Oedolion Cymru yn Ionawr 2019 ac fe’i gosodwyd yn y categori adolygu gan Estyn. Tynnwyd y darparwr oddi ar y rhestr darparwyr yr oedd angen eu hadolygu gan Estyn ym Mehefin 2021, yn dilyn adolygiad desg o dystiolaeth ar gynnydd a wnaed ers yr arolygiad.

Yn dilyn yr arolygiad craidd, ymatebodd y darparwr yn gyflym i’r argymhellion a gynhwyswyd yn yr adroddiad arolygu drwy ehangu cyfranogiad staff a phartneriaid allanol mewn prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant. Hefyd, gweithredodd arweinwyr ar ystod o fentrau i wella’r ffyrdd yr oedd tiwtoriaid yn rhannu arfer dda ac adnoddau ar draws y sefydliad. Roedd y rhain yn cynnwys gwelliannau i feysydd adnoddau ar-lein a chyflwyno rolau tiwtoriaid arweiniol.

Rhoddodd arweinwyr sylw arbennig i wella ansawdd gwybodaeth ac arweiniad yn ymwneud â chynorthwyo dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac i sicrhau bod yr holl staff yn cael hyfforddiant priodol ar ADY. Er enghraifft, mae staff bellach yn gwneud defnydd da o siartiau llif eglur sy’n darparu offeryn cyfeirio hawdd i diwtoriaid i’w helpu i ddeall sut a pha bryd i ymgeisio am gymorth ar gyfer hunangyfeirio, ac adnabod dysgwyr y mae angen cymorth ADY arnynt. Fe wnaeth hyn helpu i wella mynediad at gymorth dysgu ychwanegol. Yn ogystal, elwodd tiwtoriaid o gael hyfforddiant defnyddiol i’w cefnogi i adnabod dysgwyr ag ADY ac i addasu eu dulliau addysgu i ddarparu cymorth mwy effeithiol.

Darparwr: Gwasanaethau Addysg Cyngor Sir Powys

Lefel gweithgarwch dilynol: Pryder sylweddol

Tynnwyd: Hydref 2021

Yn dilyn ein hymweliad monitro yn nhymor yr hydref, barnom fod gwasanaethau addysg Powys wedi gwneud cynnydd digonol i gael eu tynnu oddi ar ein rhestr o awdurdodau lleol sy’n peri pryder sylweddol. Roedd swyddogion ac aelodau etholedig wedi ymateb yn dda i ganfyddiadau’r arolygiad craidd, wedi cydnabod yr heriau yr oeddent yn eu hwynebu, ac wedi gweithio’n gyflym i ddechrau mynd i’r afael â’r argymhellion a wnaethom.

Penododd y prif weithredwr gyfarwyddwr addysg newydd a gryfhaodd y berthynas rhwng y gwasanaeth addysg ac ysgolion. Er bod y gwaith gwella ar gyfnod cynnar ar ddechrau’r pandemig COVID-19, un nodwedd gadarnhaol oedd bod swyddogion ac aelodau etholedig wedi cynnal ffocws cadarn ar weithredu’r strategaethau gwella ar yr un pryd â mynd i’r afael ag anghenion brys ysgolion a achoswyd gan y pandemig.

Fe wnaethom ganfod fod yr awdurdod lleol wedi gwneud cynnydd cryf mewn agweddau o’i waith a achosodd bryder yn ystod yr arolygiad craidd. Er enghraifft, mae cymorth ar gyfer ysgolion, gan gynnwys y rheiny a oedd yn cyfranogi yn null amlasiantaeth peilot Llywodraeth Cymru, wedi arwain at ysgolion uwchradd yn dangos cynnydd digonol i gael ei thynnu o gategori gweithgarwch dilynol statudol. Hefyd, fe wnaeth swyddogion wella cynllunio a chydlynu darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig a’r rheiny sydd angen cymorth ychwanegol.

Rhoddodd yr awdurdod lleol raglen uchelgeisiol ar waith o gynigion trefniadaeth ysgolion wedi’i seilio ar y Strategaeth Trawsnewid Addysg. Mae’r cynigion hyn wedi cynnwys agor ysgol pob oed newydd, uno nifer o ysgolion cynradd a chau ysgolion bach gwledig, yn ogystal â newidiadau i gategori iaith ysgolion. Bu swyddogion ac aelodau perthnasol o’r Cyngor yn ymgysylltu’n dda â rhieni, disgyblion, staff a llywodraethwyr i drafod y cynigion a lleddfu pryderon.

Darparwyr sydd wedi gwneud digon o gynnydd i gael eu tynnu o ddilyniant statudol (ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol) neu welliant â ffocws (ar gyfer lleoliadau nas cynhelir) yn ystod blwyddyn academaidd 2021-2022

Darparwr Sector Awdurdod lleol Lefel gweithgarwch dilynol Dyddiad y tynnwyd o ddilyniant Dyddiad dechrau arolygiad craidd
Ysgol Awel y Mynydd Cynradd Conwy MA 04/07/2022 09/12/2019
Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Pentip Cynradd Sir Gaerfyrddin MA 04/07/2022 11/03/2019
Ysgol Gymraeg Gilfach Fargoed Cynradd Caerffili GS 20/06/2022 21/10/2019
Ysgol Bro Sannan Cynradd Caerffili GS 28/03/2022 07/10/2019
Ysgol Gynradd Sirol Abermorddu Cynradd Sir y Fflint MA 08/02/2022 25/11/2019
Ysgol Gynradd Craig-Yr-Hesg Cynradd Rhondda Cynon Taf GS 15/11/2021 24/09/2018
Ysgol Gynradd Cefn Cynradd Rhondda Cynon Taf GS 15/11/2021 24/09/2018
Ysgol Gynradd Gatholig Sant Alban Cynradd Caerdydd GS 15/11/2021 13/05/2019
Ysgol Gymraeg Ffwrnes Cynradd Sir Gaerfyrddin GS 10/11/2021 16/05/2017
Ysgol Gynradd Cwm Ogwr Cynradd Pen-y-bont 
ar Ogwr MA 03/11/2021 02/10/2017
Ysgol Y Castell Cynradd Sir Gaerfyrddin MA 02/11/2021 08/07/2019
Ysgol Gynradd Plasnewydd Cynradd Pen-y-bont 
ar Ogwr MA 19/10/2021 29/01/2018
Ysgol Gynradd Sirol Bryn Cynradd Sir Gaerfyrddin MA 12/10/2021 19/11/2018
Ysgol Gymunedol Porth Ysgolion Pob Oed Rhondda Cynon Taf GS 27/06/2022 25/11/2019
Cymuned Ddysgu Abertyleri Ysgolion Pob Oed Blaenau Gwent GS 14/02/2022 05/02/2018
Ysgol Ardudwy Uwchradd Gwynedd MA 14/02/2022 03/12/2018
Ysgol Dyffryn Ogwen Uwchradd Gwynedd GS 31/01/2022 23/09/2019
Ysgol Harri Tudur Uwchradd Sir Benfro GS 25/01/2022 19/11/2018
Ysgol Sant Julian Uwchradd Casnewydd MA 16/11/2021 02/12/2014
Ysgol Croesyceiliog Uwchradd Torfaen MA 08/11/2021 22/01/2018
Ysgol Bryn Alyn Uwchradd Wrecsam MA 19/10/2021 11/12/2017
Ysgol Aberdaugleddau Uwchradd Sir Benfro GS 18/10/2021 27/11/2017
Ysgol Uwchradd y Drenewydd Uwchradd Powys MA 12/10/2021 19/05/2015
Ysgol Gymunedol Aberdâr Uwchradd Rhondda Cynon Taf GS 12/10/2021 05/03/2018
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni Uwchradd Caerffili GS 22/09/2021 26/04/2016
Canolfan Gyflawni’r Bont Uned Cyfeirio Disgyblion Casnewydd MA 28/03/2022 12/03/2018
Canolfan Addysg Tŷ Gwyn Uned Cyfeirio Disgyblion Rhondda Cynon Taf MA 02/11/2021 07/10/2019

MA – Mesurau arbennig
GS – Gwelliant sylweddol

Yn ychwanegol at y darparwyr hyn nad oes angen eu monitro mwyach, mae 16 o ysgolion pellach yn parhau mewn categori gweithgarwch dilynol statudol o ganlyniad i arolygiadau craidd a gynhaliwyd cyn y pandemig. Mae arolygwyr yn parhau i fonitro ac adrodd ar eu cynnydd yn rheolaidd. Adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr ac awdurdodau lleol:

Cynlluniau gweithredu ôl-arolygiad (llyw.cymru)

Ysgolion sy’n achosi pryder: Canllawiau statudol ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol

Canllawiau ar gyfer ysgolion sydd mewn mesurau arbennig a’r cyfnod ymsefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso (llyw.cymru)